a gafodd drwydded deledu?

You need one to watch live TV on any channel or device, and BBC programmes on iPlayer. It’s the law.

darganfyddwch fwy
Nid oes gennyf drwydded deledu

Y diweddaraf yn fyw

Mae pob amser yn lleol i'r DU

Cyfrannu

  1. Dyna ni am heddiw

    A dyna'r cyfan oddi wrth y llif byw am y tro.

    Byddwn yn dychwelyd bore fory gyda'r newyddion diweddaraf am coronafeirws yng Nghymru a thu hwnt.

    Yn y cyfamser, cofiwch barhau i ddilyn y newyddion ar ein prif hafan.

    Hwyl fawr a diolch am ddarllen.

  2. Cwmni EasyJet yn torri nôl

    Mae cwmni EasyJet wedi dechrau ymgynghori gyda'r undebau ynglŷn â chau tri o'u canolfannau - ym meysydd awyr Stansted, Newcastle a Southend.

    Dywed BALPA - undeb eu peilotiaid eu bod wedi cael sioc o glywed am y niferoedd fydd yn colli eu swyddi.

    Yn ôl yr undeb mae'n cyfateb i daeran o'r 727 o beilotiaid sy'n cael eu cyflogi gan y cwmni.

    Fis diwethaf fe gyhoeddodd EasyJet y byddant yn torri tua 30% o'u gweithlu - tua 4,500 o swyddi.

    awyren
  3. Adferiad 'gwyrthiol' i glaf Covid-19

    BBC Wales News

    Mal

    Ym mis Ebrill dywedodd Sue Martin wrth BBC Cymru bod ei gŵr, Mal, wedi cael coronafeirws a bod meddygon yn credu na fyddai'n goroesi.

    Bron i dri mis yn ddiweddarach, mae'n bosib y bydd Mal yn cael dychwelyd adref yr wythnos hon.

    "Mae'r staff meddygol i gyd yn dweud bod Mal wedi bod mor agos at farw, mae ei adferiad yn cael ei ddisgrifio fel gwyrthiol," meddai Sue, 49 o'r Bont-faen, Bro Morgannwg.

  4. Cyplau wedi gorfod gohirio priodi

    Cyngor Ceredigion

    Mae Cyngor Ceredigion wedi datgelu y bu'n rhaid i 91 o gyplau ohirio eu cynlluniau priodasol yn ystod y cyfnod clo.

    Roedd yna 91 o seremonïau wedi eu trefnu rhwng 24 Mawrth a 21 Mehefin.

    Mae'r mwyafrif wedi cael eu haildrefnu.

    "Fe fydd y seremonïau sydd yn weddill yn cael eu hadrefnu mor fuan ag sy'n bosib, unwaith bod y gwasanaeth cofrestru mewn lle i allu ailddechrau seremonïau," meddai llefarydd ar ran y cyngor.

  5. Mortiwari dros dro i aros rhag ofn bydd ail don

    Bydd mortiwari dros dro sydd wedi ei agor ar gyfer y gogledd yn parhau i fod ar gael rhag ofn y bydd yna ail don o Covid-19.

    Cafodd y safle ei agor ar Barc Masnachol Mochdre yn Sir Conwy 'nôl ym mis Ebrill er mwyn lleihau'r pwysau ar ysbytai yn wyneb marwolaethau coronafeirws.

    Mae'r mortiwari wedi bod ar statws wrth gefn wrth i'r haint grebachu.

    Parc Masnachu Mochdre
  6. Ble yng Nghymru oedd y marwolaethau?

    Gyda nifer y marwolaethau sydd wedi'u cyhoeddi gan Iechyd Cyhoeddus Cymru bellach wedi cyrraedd 1,510, dyma ble ddigwyddodd y marwolaethau hynny.

    Y bwrdd iechyd sydd â'r nifer fwyaf o farwolaethau ydy Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr, ond dyna'r bwrdd iechyd mwyaf o ran maint hefyd.

    Map
  7. Marwolaethau'n parhau i ostwng

    Mae'r tueddiad hirdymor yn dangos nifer y marwolaethau dyddiol yn gostwng o'i lefel uchaf yng nghanol Ebrill.

    Mae'r graff isod yn dangos y diwrnod y bu farw'r cleifion, yn hytrach na'r dyddiad y cafon nhw eu cyhoeddi.

    Graff
  8. Ysgolion Môn i ailagor am wythnos yn unig

    Cyngor Ynys Môn

    Bydd dosbarthiadau ysgolion yn Ynys Môn yn ailagor ddydd Llun, 13 Gorffennaf.

    Daw’r penderfyniad ar ôl i Iechyd Cyhoeddus Cymru gadarnhau nad oes unrhyw dystiolaeth bod yr achosion o'r coronafeirws ymysg staff ffatri 2 Sisters yn Llangefni wedi arwain at unrhyw drosglwyddiad sylweddol o’r feirws o fewn y gymuned.

    Dywedodd Rhys Howard Hughes, cyfarwyddwr addysg y sir: “Mae ein penaethiaid, athrawon a staff ategol wedi gweithio’n ofnadwy o galed yn y cefndir er mwyn sicrhau bod modd i blant a staff ddychwelyd i amgylchedd dysgu diogel.

    "Credwn mai’r penderfyniad cywir erbyn hyn yw agor yr ystafelloedd dosbarth ar 13 Gorffennaf a'i bod yn bwysig bod modd i blant, os ydynt yn dewis gwneud hynny, ddychwelyd ar gyfer wythnos olaf tymor yr haf.”

    Ychwanegodd: “Yn y pen draw, bydd yn rhaid i rieni wneud y penderfyniad i anfon eu plant yn ôl i’r ysgol ai peidio - ond, hoffwn dawelu eu meddyliau ein bod yn cydweithio â phartneriaid er mwyn gwneud ysgolion mor ddiogel â phosibl.”

  9. Tair yn rhagor o farwolaethau

    Iechyd Cyhoeddus Cymru

    Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi cadarnhau bod tri yn rhagor wedi marw ar ôl cael prawf Covid-19 positif yn y 24 awr ddiwethaf.

    Mae hyn yn golygu bod y cyfanswm o farwolaethau yng Nghymru erbyn hyn yn 1,510.

    Mae 26 o achosion positif newydd o'r feirws wedi eu cofnodi medd Iechyd Cyhoeddus Cymru.

    15,743 yw cyfanswm yr achosion o coronafeirws yng Nghymru hyd yma, ac fe gafodd 3,339 o brofion eu cynnal ddydd Llun.

    Bellach mae 182,303 o brofion wedi eu cynnal ar 137,853 o unigolion.

    Roedd 122,110 prawf yn negyddol.

  10. Galw am fwy o gefnogaeth i'r rheiny sy'n hunan-ynysu

    Llywodraeth Cymru

    Mae'r gweinidog iechyd wedi galw ar Lywodraeth y DU i sicrhau bod cefnogaeth ariannol ar gael i weithwyr sy'n cael cais i hunan-ynysu.

    Mae pryder bod rhai yn penderfynu peidio hunan-ynysu ar ôl cael cais i wneud hynny am y byddai'n cael effaith ariannol arnyn nhw, fel pobl sydd ddim yn derbyn tâl salwch.

    Pan ofynnwyd iddo a fyddai Llywodraeth Cymru'n cosbi pobl sy'n penderfynu peidio hunan-ynysu ar ôl cael cais i wneud hynny, dywedodd Mr Gething nad oes ganddyn nhw'r pŵer i wneud hynny ond na fyddan nhw eisiau gwneud hynny beth bynnag.

    "Mae'n rhaid i bobl gymryd hyn o ddifrif. Os ydych chi wedi cael cyngor i hunan-ynysu dyw hi ddim yn gall i fynd allan i'r siop os ydych chi'n sydyn ac yn gwisgo mwgwd - rydych chi'n risg i'ch hunan a phawb arall," meddai.

    Dywedodd ei fod yn deall y "dilema" i weithwyr fyddai'n cael eu taro'n ariannol, ond "fe allai gweithredu'n anghywir fod â chost llawer mwy i ni oll".

  11. Ysgolion Wrecsam i barhau ar agor

    Llywodraeth Cymru

    Ni fydd ysgolion yn ardal Wrecsam yn gorfod cau o ganlyniad i'r achosion o Covid-19 sy'n gysylltiedig gyda ffatri prosesu Rowan Foods yn y dref.

    "Does dim tystiolaeth o ymlediad yn y gymuned," meddai Mr Gething.

    Mae ysgolion yn Sir Fôn wedi parhau ar gau ar ôl achosion o'r haint ar safle ffatri bwyd 2 Sisters yn Llangefni.

    Mae 237 o weithwyr Rowan Foods wedi profi'n bositif, gyda dros 1,100 wedi cael eu profi.

    rowan
  12. Galw am gael gwared ar y feirws yn 'haws dweud na gwneud'

    Llywodraeth Cymru

    Yn ymateb i alwad gan Plaid Cymru i gael gwared ar y feirws yn llwyr, yn hytrach na'i reoli, dywedodd Vaughan Gething ei fod "wedi bod yn glir fy mod eisiau cael gwared ar coronafeirws yn llwyr os yw hynny'n bosib".

    Ond dywedodd bod galwadau o'r fath yn "haws eu gwneud mewn pennawd nag ydyn nhw i'w gweithredu mewn gwirionedd".

    "Fy swydd i ydy delio gyda'r realiti o'r bywydau sydd wedi'u cymryd gan coronafeirws a'r camau ry'n ni'n eu cymryd fel llywodraeth i gadw Cymru'n ddiogel," meddai.

    "Mae'n rhaid i ni ystyried be allai hynny olygu os ydyn ni'n cyrraedd man ble mae Cymru, i bob pwrpas, yn rhydd o Covid-19 a'r mesurau y bydd yn rhaid i ni eu cymryd gyda gwledydd eraill y DU."

  13. Llywodraeth Cymru'n 'parhau i ddysgu'

    Llywodraeth Cymru

    Dywedodd Vaughan Gething ei bod yn bwysig "parhau i ddysgu" o'r penderfyniadau mae'r llywodraeth wedi'u gwneud yng ngham cyntaf yr ymateb i'r pandemig.

    Dywedodd ei fod wedi gwneud cais am adolygiad o farwolaethau Covid-19 yng Nghymrh i asesu gwasgariad yr haint a gweld be allai ddysgu am ymateb y llywodraeth hyd yn hyn.

    "Bydd digonedd o bobl â chyfle i edrych 'nôl a deall sut ry'n ni wedi ymdopi, ond nawr mae'n fater o ddysgu fel ry'n ni'n mynd yn ein blaenau," meddai.

  14. Cyfle i agor ysbyty newydd yn gynt na'r disgwyl

    Llywodraeth Cymru

    Dywedodd y gweinidog iechyd ei fod yn "edrych ar y cyfle" i agor ysbyty newydd ar gyrion Cwmbrân yn gynt na'r disgwyl.

    Mae'r arian sydd ei angen ar gyfer codi Ysbyty Prifysgol Grange wedi cael ei ryddhau yn gynnar er mwyn datblygu'r safle fel ysbyty maes posib yn ystod y pandemig.

    Dywedodd Mr Gething wrth y gynhadledd fod yna ddewis nawr i weld a allai fod yn barod ar gyfer y gaeaf.

    Ond ychwanegodd nad oedd hyn o "angenrheidrwydd" rhag ofn bod ail don o'r feirws.

    Yn wreiddiol, roedd disgwyl i'r ysbyty agor yng ngwanwyn 2021.

    "Rydym wedi rhyddhau'r arian yn gynt fel bod y safle ar gael fel ysbyty maes pe bai angen, yn ystod y cam cyntaf," meddai.

    "Nawr fod y gwaith wedi ei gwblhau, mae yna ddewis a allwn ni gael yr ysbyty ar gyfer y gaeaf.

    "Dyw hynny ddim o anghenraid ar gyfer ail don, ond o ran deall a allwn ni gael yr ysbyty yn gweithio yn ystod y gaeaf yn gyffredinol - heb ystyried coronafeirws - fe fyddai hynny yn dod a budd posib."

    Grange
  15. 'Dim ceiniog i Gymru' yng nghyhoeddiad Boris Johnson

    Llywodraeth Cymru

    Yn gynharach cyhoeddodd Boris Johnson gynlluniau i roi £5bn tuag at brosiectau isadeiledd mewn ymateb i'r feirws.

    Yn ymateb i'r cyhoeddiad dywedodd Vaughan Gething ei bod yn "her unwaith eto i ddewis beth sy'n rhethreg a beth sy'n realiti".

    Dywedodd Mr Gething bod "dim ceiniog o fuddsoddiad newydd yng Nghymru" a bod y cynlluniau wedi'u cyhoeddi eisoes ac felly nad yw'r arian yn newydd.

    "Fydd yna ddim arian trwy fformiwla Barnett, oherwydd does dim arian newydd yn cael ei fuddsoddi yn Lloegr, heb sôn am Gymru," meddai.

    Ychwanegodd y gweinidog iechyd y byddai'n croesawu rhagor o fuddsoddiad "ond nid dyma yw'r hyn mae araith y prif weinidog yn ei gynrychioli".

    Boris
  16. Dros 16,000 wedi cael triniaeth deintyddol

    Llywodraeth Cymru

    Dywedodd Vaughan Gething bod y llywodraeth yn "symud cyn gynted â'i bod yn ddiogel i wneud hynny" wrth ailagor deintyddfeydd ac optegwyr.

    Ychwanegodd wrth y gynhadledd bod modd cael triniaeth os yw'n angenrheidiol ond "nad ydyn ni mewn sefyllfa i gynnig apwyntiadau arferol".

    Yn ôl ffigyrau Llywodraeth Cymru mae dros 16,500 o gleifion wedi gallu ymweld â'r ddeintyddfa yn ystod y pandemig ers canol mis Mawrth.

    Cafodd 180,000 o gleifion eraill eu hasesu dros y ffôn neu drwy gyswllt fideo.

    Fe wnaeth 87 o'r 400 o ganolfannau optegwyr yng Nghymru aros ar agor yn ystod yr un cyfnod, gan roi gofal i dros 19,000 o gleifion.

    Ond dywed Llywodraeth Cymru na ddylai cleifion ddisgwyl i'r drefn arferol gael ei hadfer yn syth er bod rhagor o wasanaethau wedi bod ar gael ers 22 Mehefin.

    dentist