a gafodd drwydded deledu?

You need one to watch live TV on any channel or device, and BBC programmes on iPlayer. It’s the law.

darganfyddwch fwy
Nid oes gennyf drwydded deledu

Y diweddaraf yn fyw

Mae pob amser yn lleol i'r DU

Cyfrannu

  1. Hwyl fawr

    BBC Cymru Fyw

    A dyna ni am heddiw ar ddiwrnod y cafwyd rhybudd y gallai theatrau golli £1.4m yr wythnos yn sgil y pandemig.

    Cofnodwyd pedair marwolaeth arall yng Nghymru ac ar draws y DU mae nifer y marwolaethau bellach wedi croesi 40,000.

    Bydd Tafwyl yn cael ei chynal yn ddigidol o Gastell Caerdydd a bydd mwy o staff gofal yn cael bonws o £500.

    Bydd y straeon newyddion diweddaraf i'w gweld ar wefan Cymru Fyw.

    Diolch am ddarllen a hwyl fawr.

  2. 'Angen glynu at reolau ymbellhau cymdeithasol'

    Yr Ysgrifennydd Iechyd, Matt Hancock, sy'n siarad yng nghynadledd y wasg San Steffan heddiw.

    Mae e'n cyfeirio at y tristwch bod marwolaethau y DU wedi croesi 40,000 ond yn dweud bod nifer yr achosion o'r haint wedi gostwng yn sylweddol erbyn hyn.

    Dywed ei fod ef, fel nifer, wedi'i arswydo gan farwolaeth George Floyd ond ei bod yn allweddol fod pawb, sy'n mynd i brotest dros y penwythnos, yn glynu at reolau ymbellhau cymdeithasol.

  3. Meysydd parcio i aros ynghau i atal ymwelwyr

    Cyngor Sir Penfro

    Mae Cyngor Sir Penfro wedi egluro pam ei fod yn cadw rhai o feysydd parcio'r sir ynghau am y tro.

    Mae rheiny'n cynnwys meysydd parcio yn Niwgwl, Aberllydan a Thraeth y De yn Ninbych-y-pysgod.

    Dywedodd yr awdurdod bod rheiny wedi'u hadnabod fel llefydd allai ddenu gormod o bobl, gan ei gwneud yn anodd cadw pellter cymdeithasol.

    "Mae'r penderfyniad yn cyd-fynd â chanllawiau presennol Llywodraeth Cymru, ac yn adlewyrchu blaenoriaeth y cyngor i chwarae ei ran yn sicrhau bod pobl yn cael eu cadw'n ddiogel ac atal lledaeniad Covid-19," meddai llefarydd.

    Niwgwl
    Image caption: Mae'r meysydd parcio ger traeth Niwgwl yn parhau ynghau
  4. Addasiadau i brif lwybrau canol Caerdydd

    Mae Cyngor Caerdydd wedi datgelu manylion cynllun a fydd yn caniatáu i bobl symud o amgylch canol y ddinas unwaith bydd y cyfyngiadau'n cael eu codi.

    Mae'r cynllun yn cynnwys systemau cerdded unffordd, mannau croesawu i esbonio sut bydd symud o amgylch canol y ddinas yn gweithio, ac fe fydd tiroedd Castell Caerdydd yn cael eu hagor i greu sgwâr cyhoeddus ‘newydd’ i fusnesau lleol ei ddefnyddio.

    Bydd y cynllun yn cael ei ddangos i drigolion, busnesau a chynghorwyr fel rhan o ymgynghoriad.

    Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Fuddsoddi a Datblygu, y Cynghorydd Russell Goodway: "Mae canol y ddinas yn gartref i nifer fawr o'r busnesau sydd eisoes wedi dioddef fwyaf ac a fydd yn parhau i ddioddef yn sgil y pandemig, oherwydd eu dibyniaeth ar niferoedd defnyddwyr."

    "Mae angen i Gaerdydd adennill hyder pobl leol, ymwelwyr, myfyrwyr a buddsoddwyr."

    Dyluniad o ganol Caerdydd gydag addasiadau i'r cyhoedd
    Image caption: Dyluniad o ganol Caerdydd gydag addasiadau i'r cyhoedd
  5. 'Balch dros ben' am fonws i holl staff cartrefi gofal

    Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru

    Yn ymateb i gadarnhad y Prif Weinidog y bydd holl staff sy’n gweithio mewn cartrefi gofal yn derbyn taliad ychwanegol o £500, dywedodd y Cynghorydd Huw David, Llefarydd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru dros ofal cymdeithasol ac iechyd eu bod yn "falch dros ben".

    “Dros y misoedd diwethaf, mae staff mewn cartrefi gofal wedi dangos ymroddiad o’r radd flaenaf i weithio gyda’i gilydd fel tîm i roi’r gofal gorau posib i’r rheiny sydd fwyaf ei angen," meddai.

    "Yn ogystal â gweithwyr gofal personol, mae’n gwbl gywir y bydd y taliad ychwanegol hefyd yn cael ei estyn i holl weithwyr cartrefi gofal, yn ogystal â chynorthwywyr personol a gweithwyr gofal cartref.

    "Mewn cyfnod mor anodd, ac o dan amodau heriol tu hwnt, maen nhw’n gwneud popeth o fewn eu gallu i lapio blanced gysur o gefnogaeth a diogelwch o gwmpas y rhai mwyaf bregus yn ein cymdeithas.

    "Bydd eu rôl yn parhau i fod yn hollbwysig wrth i’r ymdrechion barhau i ymateb i’r feirws.”

  6. AS yn galw am agor eglwysi

    Mae AS Gorllewin Clwyd, Darren Millar, sy'n cadeirio y grŵp trawsbleidiol ar ffydd yn Senedd Cymru wedi galw am agwedd hyblyg gan Lywodraeth Cymru ar agor addoldai yng Nghymru.

    Dywed Mr Millar bod y rhan fwyaf o eglwysi a chapeli yn adeiladau mawr a gan nad yw'r gynulleidfa yn niferus, mae'n hawdd rheoli ymbellhau cymdeithasol.

    "Mae'n rhyfedd," meddai, "atal pobl rhag addoli yn yr adeiladau hyn pan mae hawl ganddynt fynd i'r archfarchnad neu'r ganolfan arddio leol."

  7. Prifysgol Bangor yn paratoi i agor y campws fis Medi

    Prifysgol Bangor

    Mae Prifysgol Bangor yn dweud bod ei staff yn paratoi ar gyfer y flwyddyn academaidd newydd ym mis Medi er gwaethaf yr ansicrwydd sy’n bodoli oherwydd y pandemig.

    Mae'r brifysgol bellach wedi cadarnhau i'w holl fyfyrwyr - rhai newydd a’r rhai sy’n dychwelyd - ei bod yn paratoi ar gyfer agor y campws ym mis Medi.

    Oherwydd ei bod yn debygol y bydd angen rhoi mesurau ymbellhau cymdeithasol mewn lle, bwriad y brifysgol ar hyn o bryd ydy cyfuno addysgu wyneb-yn-wyneb gydag addysgu ar-lein.

    Bydd llety myfyrwyr ar agor hefyd, meddai'r brifysgol.

    Prifysgol Bangor
  8. 40,000 wedi marw yn y DU ar ôl cael prawf positif

    Mae dros 40,000 o bobl wedi marw yn y DU bellach ar ôl cael prawf positif am coronafeirws.

    Dim ond yr Unol Daleithiau sydd wedi cofnodi mwy o farwolaethau Covid-19.

    Covid-19
  9. Iwerddon yn codi rhagor o'r cyfyngiadau

    Bydd pobl yng Ngweriniaeth Iwerddon yn gallu teithio i unrhyw le y tu mewn i'w sir eu hunain o ddydd Llun - yn hytrach na chael eu cyfyngu i ddim ond 20km o'u cartref.

    Os ydyn nhw'n byw mewn ardal ar y ffin, byddan nhw hefyd yn gallu teithio hyd at 20km i sir arall.

    Daw'r cyhoeddiad wrth i gabinet Iwerddon benderfynu lleddfu mwy o'r cyfyngiadau yn gyflymach nag a gafodd eu nodi o'r blaen.

    Cytunodd y cabinet y bydd y sector lletygarwch, gan gynnwys gwestai a gwely a brecwast, yn ailagor o ddechrau mis Gorffennaf.

    Bydd canolfannau siopa yn gallu ailagor o 15 Mehefin. Fodd bynnag, efallai y bydd manwerthwyr mawr yn gorfod addasu eu horiau agor .

    Taoiseach Leo Varadkar
    Image caption: Bu'r Taoiseach Leo Varadkar yn cyfarfod gydag aelodau ei gabinet i drafod y camau nesaf yn Iwerddon
  10. Ailagor ysgolion: Beth yw barn rhieni a'r sector addysg?

    Cylchgrawn, Cymru Fyw

    Mae ysgolion Cymru'n ailagor i bob plentyn ar ddydd Llun, 29 Mehefin.

    Ymateb cymysg sydd wedi bod i'r penderfyniad ac mae'r pryder i rieni ac athrawon am y risg i iechyd yn sgil y pandemig coronafeirws yn parhau.

    Mae'r sawl sydd o blaid ailagor yn dadlau byddai aros nes mis Medi yn niweidio lles, addysg ac iechyd meddwl disgyblion.

    Beth yw barn rhai o'r rhieni, athrawon a'r sector addysg yng Nghymru? Cylchgrawn Cymru Fyw sydd wedi bod yn casglu'r ymateb.

    Ysgol
  11. 'Angen cefnu ar Trident i baratoi am bandemig arall'

    Aled Scourfield

    Gohebydd BBC Cymru

    Mae cyn-aelod o Lywodraeth Cymru wedi dweud wrth BBC Cymru y dylai Llywodraeth y DU gael gwared ar gynllun arfau niwclear Prydain er mwyn gwario mwy ar atal ymosodiadau seibr a pharatoi ar gyfer pandemig arall.

    Yn ôl Rhodri Glyn Thomas mae'n bryd cael gwared â Trident, ond mae'r Weinyddiaeth Amddiffyn wedi wfftio'r syniad.

    Mae pedair llong danfor yn gwasanaethu fel rhan o gynllun Trident, gydag un wastad ar alwad yn y môr i danio arfau.

    Yn 2016, fe bleidleisiodd Senedd y DU o blaid adnewyddu Trident ar gost o £31bn, gyda chronfa ariannol wrth gefn o £10bn.

    Y gred yw bod hi'n costio o leiaf £2.3bn i gynnal a chadw rhaglen Trident bob blwyddyn.

    Rhodri Glyn Thomas
  12. Annog teithiwyr i 'ystyried' gorchuddio eu hwynebau

    BBC Wales News

    Mae teithwyr ar drenau a bysiau yng Nghymru wedi cael cais i "ystyried" gorchuddio eu hwynebau pan yn teithio ar drafnidiaeth gyhoeddus.

    Daeth cyhoeddiad ddoe y byddai'n rhaid gorchuddio eich wyneb ar fysiau, trenau, awyrennau a fferïau yn Lloegr o 15 Mehefin.

    Dydy Llywodraeth Cymru ddim wedi gosod yr un rheol yng Nghymru, ond dywedodd Trafnidiaeth Cymru y dylai pobl "ystyried" gwisgo gorchudd i helpu atal lledaeniad coronafeirws.

    Dywedodd y cwmni fod hyn oherwydd "natur draws-ffiniol" rhwydwaith trafnidiaeth gyhoeddus Cymru.

    Teithiwr
  13. Newydd dorriPedwar arall wedi marw ar ôl cael prawf positif

    Iechyd Cyhoeddus Cymru

    Mae pedwar yn rhagor o bobl wedi marw yng Nghymru ar ôl cael prawf positif am coronafeirws.

    Mae hynny'n golygu bod cyfanswm o 1,383 wedi marw bellach ar ôl profi'n bositif.

    Dywedodd Iechyd Cyhoeddus Cymru bod 76 o achosion newydd wedi'u cadarnhau hefyd, gan ddod â'r cyfanswm i 14,314.

  14. Meysydd parcio Sir Gâr i ailagor

    Cyngor Sir Gaerfyrddin

    Mae’r holl feysydd parcio Cyngor Sir Gâr ar hyd Parc Arfordirol y Mileniwm, Llanelli ac ar lan y môr yn Llansteffan yn ailagor heddiw.

    Cafodd y meysydd eu cau o ganlyniad i'r cyfyngiadau a gafodd eu cyflwyno er mwyn rhwystro coronafeirws rhag lledu.

    Ni fydd y maes parcio ger y fynedfa i Barc Gwledig Pen-bre, ar agor hyd nes rhoddir gwybod fel arall.

    Mae'r cyngor yn parhau i annog trigolion i gadw pellter cymdeithasol wrth ddefnyddio meysydd parcio ac i beidio â theithio mwy na phum milltir o'u cartrefi.

  15. Taliad bonws yn 'gydnabyddiaeth am waith caled'

    Mae undeb gweithwyr y GMB wedi croesawu penderfyniad y Prif Weinidog i ymestyn cynllun bonws Llywodraeth Cymru a fydd yn cynnwys staff ategol a nyrsio yn sector gofal Cymru.

    Dywedon nhw y bydd y taliad bonws o £500 yn "gydnabyddiaeth am eu holl waith caled yn ymladd Covid-19."

    “Mae hyn yn newyddion gwych", meddai Kelly Andrews o'r GMB. "Mae'n golygu bod yr holl staff yn cael eu cydnabod am y rhan bwysig maen nhw'n ei chwarae wrth ddarparu gofal cymdeithasol yn ystod y pandemig hwn."

    Maen nhw hefyd yn galw ar Lywodraeth Cymru i bwyso ar Lywodraeth y DU i sicrhau na fydd rhaid i'r gweithwyr dalu treth ar y taliad bonws.

  16. Dirwy i griw oedd wedi teithio o Gaerdydd i Sir Benfro

    Heddlu Dyfed Powys

    Mae Heddlu Dyfed-Powys wedi dirwyo naw o bobl ar ôl iddyn nhw deithio o Gaerdydd mewn tri cherbyd i wersylla ar y traeth yn Abereiddi, Sir Benfro.

    Dywedodd y llu bod y criw wedi teithio dros nos a symud rhwystrau sy'n atal pobl rhag defnyddio'r maes parcio.

    View more on twitter
  17. 'Dim gwahaniaeth' i ysgolion ddychwelyd ym mis Mehefin yn lle Awst

    Llywodraeth Cymru

    Yr wythnos hon cyhoeddodd y Gweinidog Addysg y byddai plant yn dychwelyd i'r ysgol yng Nghymru ar 29 Mehefin.

    Dywedodd y Prif Weinidog yn ystod y gynhadledd prynhawn yma nad oes gwahaniaeth o ran diogelwch os fyddai ysgolion yn dychwelyd ym mis Mehefin neu ym mis Awst.

    Ddoe, dywedodd y Prif Swyddog Meddygol, Dr Frank Atherton mai dyna oedd yr "ail opsiwn orau" ac y byddai wedi ffafrio'r opsiwn o gael ysgolion yn dychwelyd ym mis Awst.

    Ond yn ystod y gynhadledd dywedodd Mr Drakeford nad oedd “yn ddewis rhwng gwneud peth diogel a pheth anniogel”.

    Ychwanegodd: "Mae'n ddewis ynglŷn â sut rydyn ni'n ailagor ein hysgolion a gwneud hynny'n y modd mwyaf diogel. Nid oes gwahaniaeth o ran diogelwch rhwng ysgolion sy'n mynd yn ôl ym mis Gorffennaf ac ysgolion yn mynd yn ôl ym mis Awst".

    Cadarnhaodd Mr Drakeford fod "cynnig radical" wedi'i roi i undebau addysgu "a fyddai wedi dirwyn tymor yr haf i ben". Ond cafodd y cynllun hwnnw ei wrthod.

    Dywedodd hefyd fod y cynllun y cytunwyd arno i ysgolion ddychwelyd yn ddiweddarach y mis hwn hefyd wedi'i "gymeradwyo a'i lofnodi gan y Prif Swyddog Meddygol".