Newydd dorriYmestyn cyfnod camau ymbellhau cymdeithasol
Mae Prif Weinidog Cymru wedi cyhoeddi y bydd y camau sydd mewn grym i sicrhau fod pobl yn ymbellhau'n gymdeithasol yng ngwyneb haint coronafeirws yn para am dair wythnos arall.
Bydd y rheolau yn parhau mewn grym ymhob un o wledydd y DU.
Dywedodd Mr Drakeford yn dilyn cyfarfod COBRA: "Mae na arwyddion cadarnhaol yn y data ond mae'n rhy gynnar i newid trywydd".
Ychwanegodd fod llawer o fywydau "yn parhau i fod yn y fantol."
Gweddnewid stiwdio i ysbyty maes
Cyngor Abertawe
Mae Cyngor Abertawe wedi cyhoeddi lluniau o'r gwaith o weddnewid Stiwdios Bae Abertawe i ysbyty maes ar Heol Fabian yn y ddinas.
Y gobaith yw y bydd 500 o welyau ychwanegol ar gael ar y safle o fewn pythefnos.
Bu farw dros ddwywaith yn fwy o bobl mewn cartrefi gofal yng Nghymru yn y pythefnos diwethaf o gymharu gyda'r un cyfnod y llynedd, yn ôl gwybodaeth sydd wedi dod i law Plaid Cymru
Mae'r ffigyrau o adroddiad gan Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru'n dangos fod 532 cofnod o farwolaethau ymysg defnyddwyr gwasanaethau mewn cartrefi gofal i oedolion rhwng 1-14 Ebrill.
Roedd y ffigyrau am yr un cyfnod y llynedd yn cofnodi 227 marwolaeth. Ddwy flynedd yn ôl y ffigwr oedd 284 marwolaeth.
Nid yw'n eglur faint o'r marwolaethau hyn oedd yn gysylltiedig â choronafeirws.
Mae BBC Cymru wedi gofyn am ymateb gan Lywodraeth Cymru.
Y diweddaraf am docynnau Euro 2020
Mae UEFA wedi ysgrifennu at gefnogwyr oedd wedi prynu tocynnau ar gyfer gemau Euro 2020.
Y bwriad yw bod y tocynnau presennol yn ddilys ar gyfer gemau 2021.
Mae 'na ddyfalu y bydd rhai cefnogwyr am gael yr arian a dalwyd am y tocynnau yn ôl yn sgil yr argyfwng.
Dywed UEFA y byddant yn gwneud trefniadau ar gyfer hynny fis nesaf.
Mae'r Gweinidog Addysg Kirsty Williams wedi cadarnhau'r dyddiad pan fydd canlyniadau arholiadau AS, A & TGAU myfyrwyr yn cael eu cyhoeddi eleni.
Fe fydd Cymru, Gogledd Iwerddon a Lloegr i gyd yn cyhoeddi'r canlyniadau Lefel A ag AS ar 13 Awst, a chanlyniadau TGAU yn dilyn ar 20 Awst.
Dywedodd y gweinidog ei bod yn falch fod y dyddiadau gwreiddiol ar gyfer rhyddhau canlyniadau'n cael eu cadw, yn hytrach na chyhoeddi ar wahanol ddyddiadau mewn gwahanol wledydd.
Y diweddaraf yn fyw
Mae pob amser yn lleol i'r DU
Cyfrannu
Hwyl am y tro
BBC Cymru Fyw
Dyna'r cyfan o'r llif byw am ddiwrnod arall - diolch am ddarllen.
Fe fyddwn ni'n dychwelyd bore fory, ac yn y cyfamser fe gewch chi unrhyw ddatblygiadau mawr ar ein hafan.
Arhoswch yn ddiogel - arhoswch adre.
Hwyl fawr am heddiw.
Dyma'r neges am dair wythnos arall
Twitter
Dim newid i ddyddiadau canlyniadau arholiadau 2020
Bydd canlyniadau Safon Uwch ac AS yn cael eu cyhoeddi ar 13 Awst a chanlyniadau TGAU ar 20 Awst.
Darllen mwyCyhoeddiad y prif weinidog
Llywodraeth Cymru
Fe wnaeth Mr Drakeford ei sylwadau am barhau gyda'r cyfyngiadau coronafeirws ar fideo arbennig y prynhawn yma.
Dyma'r fideo yn llawn i chi.
Manylion ar y Post Prynhawn...
BBC Radio Cymru
Datgelu pwy ydy 'arwr yr ystadegau'
Pam fod Lloyd Warburton yn cael gymaint o sylw ar Twitter?
Darllen mwyNewydd dorriYmestyn cyfnod camau ymbellhau cymdeithasol
Mae Prif Weinidog Cymru wedi cyhoeddi y bydd y camau sydd mewn grym i sicrhau fod pobl yn ymbellhau'n gymdeithasol yng ngwyneb haint coronafeirws yn para am dair wythnos arall.
Bydd y rheolau yn parhau mewn grym ymhob un o wledydd y DU.
Dywedodd Mr Drakeford yn dilyn cyfarfod COBRA: "Mae na arwyddion cadarnhaol yn y data ond mae'n rhy gynnar i newid trywydd".
Ychwanegodd fod llawer o fywydau "yn parhau i fod yn y fantol."
Gweddnewid stiwdio i ysbyty maes
Cyngor Abertawe
Mae Cyngor Abertawe wedi cyhoeddi lluniau o'r gwaith o weddnewid Stiwdios Bae Abertawe i ysbyty maes ar Heol Fabian yn y ddinas.
Y gobaith yw y bydd 500 o welyau ychwanegol ar gael ar y safle o fewn pythefnos.
Yr un yw'r neges o hyd:
Twitter
Cynnydd mewn nifer marwolaethau cartrefi gofal
Bu farw dros ddwywaith yn fwy o bobl mewn cartrefi gofal yng Nghymru yn y pythefnos diwethaf o gymharu gyda'r un cyfnod y llynedd, yn ôl gwybodaeth sydd wedi dod i law Plaid Cymru
Mae'r ffigyrau o adroddiad gan Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru'n dangos fod 532 cofnod o farwolaethau ymysg defnyddwyr gwasanaethau mewn cartrefi gofal i oedolion rhwng 1-14 Ebrill.
Roedd y ffigyrau am yr un cyfnod y llynedd yn cofnodi 227 marwolaeth. Ddwy flynedd yn ôl y ffigwr oedd 284 marwolaeth.
Nid yw'n eglur faint o'r marwolaethau hyn oedd yn gysylltiedig â choronafeirws.
Mae BBC Cymru wedi gofyn am ymateb gan Lywodraeth Cymru.
Y diweddaraf am docynnau Euro 2020
Mae UEFA wedi ysgrifennu at gefnogwyr oedd wedi prynu tocynnau ar gyfer gemau Euro 2020.
Y bwriad yw bod y tocynnau presennol yn ddilys ar gyfer gemau 2021.
Mae 'na ddyfalu y bydd rhai cefnogwyr am gael yr arian a dalwyd am y tocynnau yn ôl yn sgil yr argyfwng.
Dywed UEFA y byddant yn gwneud trefniadau ar gyfer hynny fis nesaf.
Annog dioddefwyr trais yn y cartref i gysylltu
Cadarnhau dyddiad canlyniadau arholiadau
Llywodraeth Cymru
Mae'r Gweinidog Addysg Kirsty Williams wedi cadarnhau'r dyddiad pan fydd canlyniadau arholiadau AS, A & TGAU myfyrwyr yn cael eu cyhoeddi eleni.
Fe fydd Cymru, Gogledd Iwerddon a Lloegr i gyd yn cyhoeddi'r canlyniadau Lefel A ag AS ar 13 Awst, a chanlyniadau TGAU yn dilyn ar 20 Awst.
Dywedodd y gweinidog ei bod yn falch fod y dyddiadau gwreiddiol ar gyfer rhyddhau canlyniadau'n cael eu cadw, yn hytrach na chyhoeddi ar wahanol ddyddiadau mewn gwahanol wledydd.
Ci'n cyfarth-rebu gwerthfawrogiad
Twitter
740 yn rhagor wedi marw yn Lloegr
Yn Lloegr, mae 740 yn rhagor o'r rhai gafodd brawf positif am Covid-19 wedi marw.
Mae nifer y rhai sydd wedi marw mewn ysbytai yn Lloegr bellach yn 12,396.
Galw am beidio talu chwaraewyr rygbi
Chwaraeon BBC Cymru
Mae cadeirydd Undeb Rygbi Cymru wedi galw ar glybiau i beidio talu chwaraewyr rygbi.
Llythyr gan Heddlu Gwent
Heddlu Gwent
Adroddiad gan Heddlu Gwent am benwythnos y Pasg a'r cyngor yw 'Arhoswch Adref'.
Llygedyn o oleuni....
Ymysg yr holl newyddion drwg am yr haint, dyma lygedyn o oleuni ar ffurf fideo gan Fwrdd Iechyd Cwm Taf Morgannwg:
Covid-19 - Ymchwil o'r Senedd
Twitter
Manylion am niferoedd y profion Covid-19
Iechyd Cyhoeddus Cymru
Dywed Iechyd Cyhoeddus Cymru fod 22,627 prawf Covid-19 wedi eu cynnal yng Nghymru hyd yn hyn.
Mae 19,447 unigolyn wedi derbyn prawf, gyda 13,046 yn ganlyniadau negyddol.
Ddoe fe gafodd 755 o brofion Covid-19 eu cynnal yng Nghymru.