Dyma ddiwedd y llif byw am heddiw - diolch yn fawr am ddilyn ein diweddariadau drwy gydol y dydd.
Fe fydd y llif byw yn dychwelyd gyda'r diweddaraf am sefyllfa'r pandemig bore yfory, ond am y tro - mwynhewch weddill ddydd Llun y Pasg.
Hwyl am y tro.
Dominic Raab: Yr argyfwng 'ar ei anterth'
Yn ystod diweddariad dyddiol Llywodraeth y DU yn 10 Downing Street, dywedodd y Gweinidog Tramor Dominic Raab fod yr argyfwng coronafeirws ar hyn o bryd "ar ei anterth".
Ychwanegodd fod y nifer sydd wedi marw yn y DU bellach yn 11,329.
Er yn "niferoedd erchyll", dywedodd fod rhywfaint o obaith ymysg yr ystadegau diweddaraf, gan fod y camau ymbellhau yn arafu ymlediad yr haint.
ReutersCopyright: Reuters
£350m ychwanegol: Llywodraeth Cymru'n ymateb
Mae Llywodraeth Cymru wedi ymateb 'r newyddion fod Llywodraeth y DU wedi clustnodi £350m yn ychwanegol i Gymru yn yr ymdrech i ymladd ymlediad coronafeirws.
Mae hyn yn ychwanegol i'r £250m gafodd ei glustnodi'n wreiddiol, medd y Canghellor Rishi Sunak.
Fe fydd yr arian, o gronfa frys £5bn Llywodraeth y DU ar gyfer y gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru.
Mewn datganiad, dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru:
"Rydym yn gweithio'n galed i sicrhau fod gwasanaethau cyhoeddus Cymru'n derbyn yr adnoddau sydd ei angen i ymateb i bandemig coronafeirws.
"Rydym wedi bod yn gweithio o amgylch y cloc i ail-flaenoriaethu ein cyllidebau i ryddhau cymaint o arian ag sydd yn bosib ac rydym wedi creu cronfa i ateb y costau cychwynnol.
"Mae'r arian yma i'w groesawu ond wrth i'r pandemig ddatblygu fe fydd angen rhagor o arian gan Lywodraeth y DU i dalu am y costau sydd yn gysylltiedig ag ymateb i'r feirws a chefnogaeth hir dymor i ail-adeiladu'r economi i'r lefelau cyn y pandemig."
Prif Weinidog Cymru'n diolch i bawb am ddilyn y rheolau, ac yn awgrymu bod y weithred o ymbellhau cymdeithasol a hunan-ynysu yn gweithio wrth geisio dod â'r sefyllfa o dan reolaeth.
Mewn ymateb dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Rydym yn gweithio'n galed iawn i sicrhau fod ein holl staff rheng flaen GIG a staff gofal cymdeithasol yn derbyn yr amddiffyniad a'r gefnogaeth orau sydd ei angen iddyn nhw gwblhau eu dyletswyddau hanfodol - yn cynnwys gweithio gydag undebau llafur, cyrff iechyd, rheoleiddwyr a llywodraeth leol.
"Hyd yn hyn rydym wedi dosbarthu 10.4m eitem o PPE o'n stoc pandemig, sy'n uwch na'r cyflenwad cyffredin.
"Rydym yn gweithio gyda gweddill y DU i sicrhau fod cyflenwad digonol o PPE ac rydym yn gweithio gyda busnesau Cymreig i gynhyrchu PPE yng Nghymru."
Ychwanegodd: "Rydym yn gwneud popeth o fewn ein gallu i sicrhau fod cyfarpar PPE ar gael i staff iechyd a gofal cymdeithasol."
Mae Llywodraeth y DU wedi clustnodi £350m yn ychwanegol i Lywodraeth Cymru yn yr ymdrech i ymladd ymlediad coronafeirws.

Dywedodd y Canghellor: "Mae ein gwasanaethau cyhoeddus a'u staff anhygoel yn gweithio'n fedrus, dewr a phenderfynol i'n cadw'n ddiogel.
“Rydym yn dibynnu arnyn nhw, a dyna pam yr ydym yn clustnodi'r arian, arfau ac adnoddau ychwanegol yma sydd ei angen arnyn nhw i daclo'r feirws yma.
"O'r dechrau rwyf wedi bod yn eglur y bydd ein gwasanaethau cyhoeddus hanfodol yn derbyn unrhyw beth sydd ei angen i amddiffyn y wlad a'i phobl rhag coronafeirws. Rydym yn gweithredu ar ein haddewid."
"Helpu gwlad sydd mewn gofid"
Geiriau o un o ganeuon Ivor Novello.
Tybed beth fyddai'r cerddor o Gaerdydd wedi ei feddwl o'r holl sefyllfa? Mae rhywun wedi gosod mwgwd ar gerflun ohono yn y brifddinas.
Wales News ServiceCopyright: Wales News Service
Apêl i bobl ifanc
Twitter
Mae pawb yn gweld eisiau eu ffrindiau, ond mae'r heddlu'n apelio ar bobl ifanc yn enwedig i beidio â chyfarfod a'i gilydd yn ystod y cyfnod anodd yma.
Ond mae rhai wedi mynd ati i gynnig hyfforddiant rhithiol er mwyn codi ysbryd a chadw'n heini.
Rhian HalfordCopyright: Rhian Halford
Dweud 'diolch' tra'n dathlu
Mae'n benblwydd ar Lowri o Aberystwyth heddiw, sy'n dathlu adre gyda'i theulu. Ac mae hi wedi defnyddio ei balwnau i greu enfys i ddiolch i weithwyr y GIG am eu gwaith - gan gynnwys ei Mam, sy'n nyrs gofal dwys yn Ysbyty Bronglais.
Kelly BishopCopyright: Kelly Bishop
Beth sy'n rhaid i bawb ei wneud eto?
Facebook
Well i ni adael i rai o sêr rygbi Cymru ein hatgoffa ni:
Y diweddaraf yn fyw
Mae pob amser yn lleol i'r DU
Cyfrannu
Diwedd y llif byw am heddiw
Dyma ddiwedd y llif byw am heddiw - diolch yn fawr am ddilyn ein diweddariadau drwy gydol y dydd.
Fe fydd y llif byw yn dychwelyd gyda'r diweddaraf am sefyllfa'r pandemig bore yfory, ond am y tro - mwynhewch weddill ddydd Llun y Pasg.
Hwyl am y tro.
Dominic Raab: Yr argyfwng 'ar ei anterth'
Yn ystod diweddariad dyddiol Llywodraeth y DU yn 10 Downing Street, dywedodd y Gweinidog Tramor Dominic Raab fod yr argyfwng coronafeirws ar hyn o bryd "ar ei anterth".
Ychwanegodd fod y nifer sydd wedi marw yn y DU bellach yn 11,329.
Er yn "niferoedd erchyll", dywedodd fod rhywfaint o obaith ymysg yr ystadegau diweddaraf, gan fod y camau ymbellhau yn arafu ymlediad yr haint.
£350m ychwanegol: Llywodraeth Cymru'n ymateb
Mae Llywodraeth Cymru wedi ymateb 'r newyddion fod Llywodraeth y DU wedi clustnodi £350m yn ychwanegol i Gymru yn yr ymdrech i ymladd ymlediad coronafeirws.
Mae hyn yn ychwanegol i'r £250m gafodd ei glustnodi'n wreiddiol, medd y Canghellor Rishi Sunak.
Fe fydd yr arian, o gronfa frys £5bn Llywodraeth y DU ar gyfer y gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru.
Mewn datganiad, dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru:
"Rydym yn gweithio'n galed i sicrhau fod gwasanaethau cyhoeddus Cymru'n derbyn yr adnoddau sydd ei angen i ymateb i bandemig coronafeirws.
"Rydym wedi bod yn gweithio o amgylch y cloc i ail-flaenoriaethu ein cyllidebau i ryddhau cymaint o arian ag sydd yn bosib ac rydym wedi creu cronfa i ateb y costau cychwynnol.
"Mae'r arian yma i'w groesawu ond wrth i'r pandemig ddatblygu fe fydd angen rhagor o arian gan Lywodraeth y DU i dalu am y costau sydd yn gysylltiedig ag ymateb i'r feirws a chefnogaeth hir dymor i ail-adeiladu'r economi i'r lefelau cyn y pandemig."
Fyddwch chi'n canu'r anthem am 8?
Arwyddion bod ymbellhau "yn gweithio"
Twitter
Prif Weinidog Cymru'n diolch i bawb am ddilyn y rheolau, ac yn awgrymu bod y weithred o ymbellhau cymdeithasol a hunan-ynysu yn gweithio wrth geisio dod â'r sefyllfa o dan reolaeth.
Cau canolfan brofi am y dydd
Mae canolfan brofi Covid-19 yn Stadiwm Dinas Caerdydd wedi ei chau am heddiw medd Iechyd Cyhoeddus Cymru.
Mae hyn achos fod llai o weithwyr hanfodol yn gweithio shifftiau nag arfer, o achos fod heddiw'n wyliau cyhoeddus.
Dywedodd llefarydd ar ran Iechyd Cyhoeddus Cymru y byddai'r ganolfan ar agor fel arfer unwaith eto yfory.
Roedd pawb oedd i fod i gael prawf heddiw wedi cael cais i fynd i'r ganolfan ddiwrnod yn gynt.
Ymateb Llywodraeth Cymru i bryderon am ddiffyg PPE
Mae Llywodraeth Cymru wedi ymateb i bryderon TUC Cymru am ddiffyg cyfarpar diogelwch PPE i weithwyr rheng flaen y Gwasanaeth Iechyd.
Mewn ymateb dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Rydym yn gweithio'n galed iawn i sicrhau fod ein holl staff rheng flaen GIG a staff gofal cymdeithasol yn derbyn yr amddiffyniad a'r gefnogaeth orau sydd ei angen iddyn nhw gwblhau eu dyletswyddau hanfodol - yn cynnwys gweithio gydag undebau llafur, cyrff iechyd, rheoleiddwyr a llywodraeth leol.
"Hyd yn hyn rydym wedi dosbarthu 10.4m eitem o PPE o'n stoc pandemig, sy'n uwch na'r cyflenwad cyffredin.
"Rydym yn gweithio gyda gweddill y DU i sicrhau fod cyflenwad digonol o PPE ac rydym yn gweithio gyda busnesau Cymreig i gynhyrchu PPE yng Nghymru."
Ychwanegodd: "Rydym yn gwneud popeth o fewn ein gallu i sicrhau fod cyfarpar PPE ar gael i staff iechyd a gofal cymdeithasol."
Cymeradwyo peiriant anadlu newydd
Twitter
Covid-19: £350m ychwanegol i Lywodraeth Cymru
Mae Llywodraeth y DU wedi clustnodi £350m yn ychwanegol i Lywodraeth Cymru yn yr ymdrech i ymladd ymlediad coronafeirws.
Mae hyn yn ychwanegol i'r £250m gafodd ei glustnodi'n wreiddiol, medd y Canghellor Rishi Sunak.
Fe fydd yr arian, o gronfa frys £5bn Llywodraeth y DU ar gyfer y gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru.
Dywedodd y Canghellor: "Mae ein gwasanaethau cyhoeddus a'u staff anhygoel yn gweithio'n fedrus, dewr a phenderfynol i'n cadw'n ddiogel.
“Rydym yn dibynnu arnyn nhw, a dyna pam yr ydym yn clustnodi'r arian, arfau ac adnoddau ychwanegol yma sydd ei angen arnyn nhw i daclo'r feirws yma.
"O'r dechrau rwyf wedi bod yn eglur y bydd ein gwasanaethau cyhoeddus hanfodol yn derbyn unrhyw beth sydd ei angen i amddiffyn y wlad a'i phobl rhag coronafeirws. Rydym yn gweithredu ar ein haddewid."
"Helpu gwlad sydd mewn gofid"
Geiriau o un o ganeuon Ivor Novello.
Tybed beth fyddai'r cerddor o Gaerdydd wedi ei feddwl o'r holl sefyllfa? Mae rhywun wedi gosod mwgwd ar gerflun ohono yn y brifddinas.
Apêl i bobl ifanc
Twitter
Mae pawb yn gweld eisiau eu ffrindiau, ond mae'r heddlu'n apelio ar bobl ifanc yn enwedig i beidio â chyfarfod a'i gilydd yn ystod y cyfnod anodd yma.
Parcio am ddim i weithwyr GIG
Twitter
O Gaerdydd i Gaergybi... ac yn ôl i Bontshan
Twitter
Mae CFfI Pontshan yn mynd fel y gwynt yn eu hymdrech i godi arian i ysbytai Bronglais a Glangwili
Mwy a mwy o'n bywydau'n digwydd arlein
Gyda disgwyl i gyfyngiadau cymdeithasol fod yn rhan o fywyd bob dydd am gyfnod eto, mae'r sialens o barhau gyda gweithgareddau arferol ein bywydau yn fwy-fwy heriol.
Ond mae rhai wedi mynd ati i gynnig hyfforddiant rhithiol er mwyn codi ysbryd a chadw'n heini.
Dweud 'diolch' tra'n dathlu
Mae'n benblwydd ar Lowri o Aberystwyth heddiw, sy'n dathlu adre gyda'i theulu. Ac mae hi wedi defnyddio ei balwnau i greu enfys i ddiolch i weithwyr y GIG am eu gwaith - gan gynnwys ei Mam, sy'n nyrs gofal dwys yn Ysbyty Bronglais.
Beth sy'n rhaid i bawb ei wneud eto?
Facebook
Well i ni adael i rai o sêr rygbi Cymru ein hatgoffa ni:
Niferoedd yr achosion ar draws Cymru
Leanne Wood wedi hunan-ynysu
Facebook
Mae cyn-arweinydd Plaid Cymru, Leanne Wood AC, yn gwella ar ôl iddi hi a'i phartner ddangos symtomau o'r feirws.
Mae'n galw am system i gofnodi manylion pobl sydd wedi gwella o'r salwch er mwyn codi ysbryd eraill.
Daw eto haul ar fryn...
313 achos newydd yng Nghymru
Iechyd Cyhoeddus Cymru
Yn ôl Iechyd Cyhoeddus Cymru mae 15 person wedi marw o achos COVID-19 yng Nghymru yn y 24 awr diwethaf, gan ddod a chyfanswm y marwolaethau i 384.
Daeth cadarnhad hefyd bod 313 person yn ychwanegol wedi profi'n bositif i COVID-19 yng Nghymru dros yr un cyfnod.
Daw hynny a chyfanswm yr achosion positif i 5,610, ond mae meddygon yn tybio hefyd bod y nifer go iawn y uwch na hynny mewn gwirionedd.