a gafodd drwydded deledu?

You need one to watch live TV on any channel or device, and BBC programmes on iPlayer. It’s the law.

darganfyddwch fwy
Nid oes gennyf drwydded deledu

Y diweddaraf yn fyw

Mae pob amser yn lleol i'r DU

Cyfrannu

  1. Hwyl am y tro

    BBC Cymru Fyw

    A dyna ni ar y llif byw am heddiw - gallwch chi barhau i ddarllen prif straeon y dydd ar coronafeirws a mwy wefan BBC Cymru Fyw.

    Fe fyddwn ni yn ôl unwaith efo 'fory gyda'r diweddaraf i chi ar y pandemig yng Nghymru a thu hwnt.

    Am y tro, mwynhewch eich prynhawn.

  2. Cerdd am aros adref

    Twitter

    Diolch i Ysgol Plasmawr am drydar y gerdd hon am aros adref - ydych chi wedi gweld cynigion eraill ar yr un thema?

    View more on twitter
  3. Cefnogaeth yn sgil pryderon am drais yn y cartref

    Twitter

    Mae Swyddfa Cymru wedi trydar am gymorth i'r rheiny sydd yn poeni ynghylch trais yn y cartref yn ystod y cyfnod yma.

    Cafodd pryderon eu codi ddechrau'r wythnos ynglŷn â chynnydd yn nifer yr achosion o gam-drin domestig wrth i bobl orfod aros yn eu cartrefi yn sgil y cyfyngiadau coronafeirws.

    Yng nghynhadledd ddyddiol Llywodraeth y DU mae'r Ysgrifennydd Cartref, Priti Patel wedi dweud y bydd "rhywle saff" yn cael ei ddarparu i bobl sydd yn ceisio dianc o drais o'r fath er gwaetha'r cyfyngiadau.

    View more on twitter
  4. Nyrs wedi marw o Covid-19

    Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro

    Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro wedi dweud bod un o'u nyrsys, Gareth Roberts, wedi marw o coronafeirws.

    Yn eu teyrnged maen nhw'n ei ddisgrifio fel dyn "poblogaidd ac hoffus" ac y bydd "colled fawr ar ei ôl".

    View more on twitter
  5. 'Cwm bach later'

    Twitter

    Mae llawer o bobl ar y cyfryngau cymdeithasol wedi bod yn hwyl gydag addasu hen bosteri twristaidd o Gymru - ond y tro yma, annog pobl i beidio dod yma.

    Mae 'na sawl esiampl dyfeisgar ar yr hashnod #dontvisitwaleschallenge - o 'Gower Way' i 'LandudNO'.

    Allwch chi feddwl am rai sy'n gweithio yn y Gymraeg?

    View more on twitter
  6. Y neges yn glir ym Mhen Llŷn

    Mae'r ddwy neges yma wedi bod ymhlith y rhai mwyaf amlwg dros y dyddiau a'r wythnosau diwethaf - a dyma nhw i'w gweld eto ym Mhen Llŷn heddiw.

    Llangwnnadl
    Penllech
  7. Ble mae'r achosion yng Nghymru?

    Mae 'na achosion o coronafeirws ym mhob rhan o Gymru bellach, ond mae rhai ardaloedd yn parhau i'w chael hi'n waeth na'i gilydd.

    Yn naturiol mae nifer yr achosion yn parhau ar eu huchaf o gwmpas ardaloedd poblog yn y de.

    Ond mae'r lliwiau ar y map hefyd yn dangos fod cyfradd yr achosion hefyd yn uwch yn yr ardaloedd hynny, gyda Chasnewydd yn ei chael hi waethaf o hyd ac ardaloedd o gwmpas Caerdydd ddim yn bell ar ei hôl hi.

    map yn dangos achosion Covid-19
  8. Nifer y marwolaethau ar ei uchaf ond un

    Fel y gwelwch chi o'r graff, y ffigwr dyddiol heddiw o 36 marwolaeth yw'r ail uchaf 'dyn ni wedi gweld yng Nghymru ers i'r pandemig ddechrau.

    nifer y marwolaethau
  9. Nifer yr achosion yng Nghymru

    Dyma'r graff yn dangos nifer yr achosion newydd o coronafeirws yng Nghymru heddiw o'i gymharu â'r dyddiau diwethaf.

    nifer achosion coronafeirws
  10. Her seiclo 36 awr i Geraint Thomas

    Facebook

    Mae Geraint Thomas wedi dweud ei fod yn gobeithio codi arian i'r gwasanaeth iechyd wrth seiclo 36 awr dros gyfnod o dridiau.

    Mewn neges ar Facebook dywedodd y byddai'n beicio am 12 awr y dydd o 07:30 ar ddydd Mercher, Iau a Gwener ar ei feic o adref, gan herio pobl eraill i ymuno ag ef.

    "Fel pawb arall ar draws y wlad, rydw i wedi fy syfrdanu gan waith caled y GIG ar hyn o bryd," meddai.

    "Felly i ddangos fy nghefnogaeth a cheisio codi 'chydig o arian, dwi'n gwneud yr unig beth dwi'n gwybod sut i wneud a neidio ar fy meic."

    Geraint Thomas
  11. 917 o farwolaethau ar draws y DU

    Mae'r ffigyrau diweddaraf heddiw ar gyfer y DU gyfan yn dangos 917 yn rhagor o farwolaethau coronafeirws, gan ddod â'r cyfanswm i 9,875.

    Mae hynny ychydig yn is na'r ffigwr cyfatebol ddoe o 980, sef yr uchaf hyd yn hyn.

    Ar draws y DU mae 78,991 o bobl wedi profi'n bositif ar gyfer Covid-19.

    staff iechyd gyda masgiau
  12. 'Rhaid cadw i'r rheolau pellter cymdeithasol'

    Iechyd Cyhoeddus Cymru

    Wrth gyhoeddi'r ffigyrau diweddaraf, dywedodd Dr Chris Williams o Iechyd Cyhoeddus Cymru: "Mae Coronafeirws Newydd (COVID-19) ym mhob rhan o Gymru yn awr.

    "Y cam gweithredu unigol pwysicaf y gallwn ni i gyd ei gymryd er mwyn brwydro yn erbyn coronafeirws yw aros gartref er mwyn gwarchod y GIG ac achub bywydau.

    "Rydyn ni eisiau diolch i bob un person ledled Cymru am wneud eu rhan i helpu i arafu lledaeniad y feirws.

    "Rydyn ni’n gwybod bod aros gartref yn gallu bod yn anodd, yn enwedig pan mae’r tywydd mor braf, ond rhaid i aelodau’r cyhoedd gadw at y rheolau cadw pellter cymdeithasol ar gyfer aros gartref, ac oddi wrth bobl eraill, sydd wedi’u cyflwyno gan Lywodraeth y DU a Chymru."

  13. Newydd dorri36 yn rhagor o farwolaethau Covid-19

    Iechyd Cyhoeddus Cymru

    Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi cyhoeddi bod 36 o bobl yn rhagor wedi marw o coronafeirws, gan ddod â'r cyfanswm yng Nghymru i 351.

    Maen nhw hefyd wedi cadarnhau 340 achos newydd, gan olygu bod y cyfanswm swyddogol bellach fyny i 4,930.

    Ond mae nifer yr achosion mewn gwirionedd yn debygol o fod llawer yn uwch, gan nad ydy pawb yn cael eu profi am yr haint ar hyn o bryd.

  14. Llety graffiti 'yn cael ei ddefnyddio gan weithwyr allweddol'

    Heddlu Gogledd Cymru

    Mae Heddlu'r Gogledd wedi dweud fod y llety gwyliau gafodd ei fandaleiddio ym Mhwllheli yn cael eu defnyddio gan "weithwyr allweddol" yn hytrach na thwristiaid.

    Cafodd adeilad yn y dref ei baentio gyda'r geiriau 'Go Home' cyn cael ei sgwrio ffwrdd gan bobl leol.

    Mewn datganiad dywedodd yr heddlu fod y gweithwyr yn gwneud "cyfraniad allweddol" i'r pandemig coronafeirws, gan alw eto ar bobl i beidio cymryd y gyfraith i'w dwylo'u hunain.

    "O'n patrolau ni gallwn ddweud bod mwyafrif helaeth y llety gwyliau ddim yn cael eu defnyddio gan dwristiaid, ond yn hytrach gan bobl leol," meddai'r llu.

    Ychwanegodd y datganiad: "Gofynnwch i'ch hunain sut fyddech chi'n teimlo petaech chi'n dychwelyd i hyn ar ôl shifft hir o gadw'r gymuned yn saff."

    graffiti Pwllheli
    Image caption: Y graffiti sydd bellach wedi ei lanhau
  15. Gostyngiad cyflog o 25% i staff y Gweilch

    Gweilch

    Mae'r pandemig coronafeirws yn parhau i effeithio ar y byd chwaraeon, gyda'r Gweilch ymhlith y diweddaraf i gyhoeddi y bydd staff y rhanbarth yn gorfod cymryd gostyngiad cyflog o 25%.

    View more on twitter
  16. Llonyddwch ym Mae Trearddur

    Twitter

    Dyma'r olygfa ym Mae Trearddur yn gynharach heddiw - mae'n ymddangos fod y bobl yno wedi bod yn dilyn y canllawiau.

    View more on twitter
  17. 'Gwerthfawrogi' ymarfer corff unwaith y dydd

    Capital FM

    Capital FM

    Er bod y cyfyngiadau coronafeirws yn gallu teimlo'n rhwystredig i rai, mae un o sêr rygbi Cymru yn dweud y dylen ni fod yn ddiolchgar am beth 'dyn ni'n dal i gael gwneud.

    Mae Jamie Roberts, sydd wedi astudio i fod yn feddyg, bellach wedi dychwelyd o Dde Affrica er mwyn helpu'r gwasanaeth iechyd yma yng Nghymru yn ystod y pandemig.

    Ac mae'n dweud y dylen ni deimlo'n lwcus ein bod ni dal yn cael mynd allan i wneud ymarfer corff unwaith y dydd - gan fod ei gyd-chwaraewyr gyda'r Stormers ddim yn cael gwneud hynny bellach.

    View more on twitter
  18. Yr heddlu allan ger Bangor

    Heddlu Gogledd Cymru

    Mae lluoedd heddlu ar draws Cymru allan unwaith eto'r penwythnos yma i sicrhau bod pobl yn dilyn y cyfyngiadau teithio yn ystod y pandemig coronafeirws.

    Dyma swyddogion y gogledd allan ger Bangor yn stopio ceir er mwyn sicrhau eu bod nhw ond yn teithio os ydy o'n angenrheidiol.

    heddlu allan ger Bangor
  19. Graffiti ar ail dai ym Mhwllheli

    Mae cynghorydd o Bwllheli wedi dweud bod ganddo "gywilydd i ddod o'r dref" ar ôl deffro i weld y geiriau "Go Home" wedi eu peintio dros ail dai ym Mhwllheli.

    Yn ôl y cynghorydd Hefin Underwood, roedd y weithred yn "fandaliaeth" ac mae o a thrigolion eraill bellach wedi paentio dros y graffiti.

    Dywedodd Mr Underwood fod yr ardal "angen twristiaid" ond ddim "ar hyn o bryd".

    "Mae 'na fusnesau mawr a bach sy'n ddibynnol ar y gwaith sy'n dod yn sgil ail dai a thwristiaid," meddai.

    "Pe bai hyn yn digwydd i Gymry yn Lloegr, be fasa ni'n deud? Nid dyma'r ffordd ymlaen."

    Mae BBC Cymru yn deall bod yr heddlu wedi ymweld â'r safle, ac wedi cael cais am ymateb.

    fandaliaeth ail dai