Dyna ddiwedd y llif byw am heddiw, ond fe gewch chi'r diweddara' am weddill y noson ar ein gwefan.
Hwyl am y tro.
Cydnabod cyfraniad gweithwyr iechyd
Cyngor CaerdyddCopyright: Cyngor Caerdydd
Fel rhan o'r ymgyrch gyhoeddus i ddangos cefnogaeth i weithwyr iechyd am 20:00 bob nos Iau, fe fydd purfa olew Valero yn Sir Benfro yn seinio ei larwm heno.
Mae Cyngor Caerffili hefyd wedi cyhoeddi y bydd castell enwog y dref yn cael ei oleuo yn las, a bydd rhan o Ysbyty Athrofaol Cymru yng Nghaerdydd hefyd yn rhoi goleuadau arbennig.
Ry' ni'n gwybod
sut fydd Safon Uwch a TGAU yn cael eu graddio haf 'ma ond beth am gymwysterau
galwedigaethol fel BTEC?
Mae'r corff sy'n
gyfrifol am wneud y trefniadau, Cymwysterau Cymru, wedi dweud bydd myfyrwyr Safon
Uwch, AS, TGAU a'r Fagloriaeth yn derbyn gradd ar sail gwaith mae nhw eisoes
wedi ei wneud a barn athrawon.
Ond mae cymwysterau galwedigaethol fel arfer
yn cael eu hasesu mewn ffyrdd mwy ymarferol.
Dydy'r wybodaeth
ddiweddaraf gan Cymwysterau Cymru ddim yn cynnig yr atebion i gyd, ond mae'n
dweud y bydd disgyblion BTEC yn
cael canlyniad wedi ei gyfrifo ar sail gwahanol dystiolaeth, gan gynnwys
mewnbwn athrawon pan mae hynny'n addas.
Fe allai
canlyniadau cymwysterau eraill sy'n cael eu gwneud gyda, neu yn lle, TGAU a
Safon Uwch, a sy'n bwysig ar gyfer symud mlaen i addysg bellach neu uwch,
dderbyn canlyniad tebyg hefyd.
Ond yn ôl
Cymwysterau Cymru mae "cymhlethdod y tirwedd cymwysterau
galwedigaethol" yn golygu nad yw un dull yn bosib ac felly bydd myfyrwyr
sy'n astudio rhai pynciau technegol neu alwedigaethol yn gorfod aros yn hirach
i gael gwybod beth sy'n digwydd i'w cyrsiau a'u tystysgrifau.
Raab: 'Arwyddion bod cyfyngiadau'n gweithio'
Ychwanegodd Mr Raab bod Llywodraeth y DU yn dal i gasglu data er mwyn asesu effaith y mesurau ynysu.
"Mae'r arwyddion cynnar yn awgrymu eu bod yn cael effaith," meddai, ond dywedodd ei fod yn rhy gynnar i fod yn sicr.
Mae'n dweud y bydd y mesurau'n aros mewn grym tan fod tystiolaeth i ddangos ein bod wedi mynd heibio'r gwaethaf.
Mae Ysgrifennydd Tramor y DU wedi dweud bod y Prif Weinidog, Boris Johnson, yn gwneud "camau positif" wrth iddo dderbyn triniaeth am y coronafeirws.
Ar ddechrau'r gynhadledd ddyddiol yn San Steffan, dywedodd Dominic Raab bod Mr Johnson yn parhau i dderbyn gofal dwys, ond ei fod yn gwella ac mewn "hwyliau da".
BBCCopyright: BBC
Troi gwesty'r Fro yn ysbyty dro dro
Mae gweithwyr wrthi yn trawsnewid Gwesty'r Fro ym Mro Morgannwg yn ysbyty dros dro.
Y nod yw cwblhau'r gwaith erbyn 27 Ebrill, ac aeth Huw Thomas i weld yr adeiladwyr oedd ar y safle yn gynharach heddiw.
Mae'r gwesty yn fwy enwog fel lleoliad ar gyfer sesiynau hyfforddi carfan rygbi Cymru.
Video content
Video caption: Ysbyty dros dro ger Gwesty'r Fro ym Mro MorgannwgYsbyty dros dro ger Gwesty'r Fro ym Mro Morgannwg
Uned sgrinio yn dweud diolch
Twitter
Staff tîm sgrinio ar gyfer Covid-19 yn y gorllewin yn dweud diolch wrth Ysgol Bro Myrddin, Caerfyrddin am offer diogelwch.
Mae bwrdd iechyd mwyaf Cymru, Betsi Cadwaladr, wedi cyhoeddi na fyddan nhw'n darparu meddyginiaethau presgripsiwn rheolaidd i breswylwyr dros dro.
Yn ôl y bwrdd iechyd fe fydd ceisiadau presgripsiwn gan bobl sydd wedi adleoli i ail gartrefi neu gartrefi gwyliau yn cael eu gwrthod a'r unigolion yn cael eu cyfeirio at ei meddygfa arferol.
Daw'r cyhoeddiad wedi i densiynau godi mewn sawl rhan o Gymru sydd â niferoedd uwch o ail gartrefi a chartrefi gwyliau.
Neges prif gwnstabl i gadw draw
Mae prif gwnstabl ynghyd â phennaeth un o gynghorau sir Cymru wedi anfon neges glir i ymwelwyr a pherchnogion tai haf i gadw draw yn ystod gwyliau'r Pasg.
Dywedodd Mark Collins, Prif Gwnstabl Heddlu Dyfed-Powys, y byddant y stopio ceir a'u hanfon yn ôl gartref.
"Rydym yn cadw llygad. Rwy'n ymwybodol fod yna bobl yn teithio liw nos ac ar hewlydd bach. Ond byddwn ni yno hefyd."
Dywedodd Ian Westley, Prif Weithredwr Cyngor Sir Penfro, fod yna bobl yn anwybyddu negeseuon y llywodraeth.
Roedd yna rybudd ganddo i'r rhai sydd am roi llety.
"Rydym yn gwybod fod rhai yn teithio fin nos i geisio curo'r system. Ond rydym yn rhannu’r wybodaeth yma' gyda'r heddlu."
"Fe fyddwn yn gweithredu."
BBCCopyright: BBC
Mark Collins ac Ian WestleyImage caption: Mark Collins ac Ian Westley
Rhybudd diogelu yn erbyn sgamiau
Cyngor Sir Conwy
Mae Cyngor Conwy'n rhybuddio pobl i fod ar eu gwyliadwraeth ar hyn o bryd wedi adroddiadau o bobl yn manteisio ar y pandemig i weithredu sgamiau.
Gan fod Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi newid yr amser y maen nhw'n casglu ffiygrau achosion newydd o coronafeirws, mae nifer yr achosion newydd ddydd Iau yn llawer is na'r ffigwr arferol.
Bydd ffigwr dydd Gwener yn adlewyrchiad fwy cywir, ond dyma'r map cyfredol o nifer yr achosion ymhob awdurdod lleol trwy Gymru.
Y diweddaraf yn fyw
Mae pob amser yn lleol i'r DU
Cyfrannu
Hwyl am y tro
Dyna ddiwedd y llif byw am heddiw, ond fe gewch chi'r diweddara' am weddill y noson ar ein gwefan.
Hwyl am y tro.
Cydnabod cyfraniad gweithwyr iechyd
Fel rhan o'r ymgyrch gyhoeddus i ddangos cefnogaeth i weithwyr iechyd am 20:00 bob nos Iau, fe fydd purfa olew Valero yn Sir Benfro yn seinio ei larwm heno.
Mae Cyngor Caerffili hefyd wedi cyhoeddi y bydd castell enwog y dref yn cael ei oleuo yn las, a bydd rhan o Ysbyty Athrofaol Cymru yng Nghaerdydd hefyd yn rhoi goleuadau arbennig.
Tawel ar y ffyrdd yn y de
Meddygon eisiau helpu, ond yn methu dros reolau iaith
Y DU'n cadarnhau na fydd cyfyngiadau'n cael eu codi
Cyhoeddiad Cymru i barhau â'r cyfyngiadau wedi synnu Llundain, ond y mesurau i barhau mewn grym.
Darllen mwyBeth fydd y drefn i fyfyrwyr BTEC?
Bethan Lewis
Gohebydd Addysg a Theulu BBC Cymru
Ry' ni'n gwybod sut fydd Safon Uwch a TGAU yn cael eu graddio haf 'ma ond beth am gymwysterau galwedigaethol fel BTEC?
Mae'r corff sy'n gyfrifol am wneud y trefniadau, Cymwysterau Cymru, wedi dweud bydd myfyrwyr Safon Uwch, AS, TGAU a'r Fagloriaeth yn derbyn gradd ar sail gwaith mae nhw eisoes wedi ei wneud a barn athrawon.
Ond mae cymwysterau galwedigaethol fel arfer yn cael eu hasesu mewn ffyrdd mwy ymarferol.
Dydy'r wybodaeth ddiweddaraf gan Cymwysterau Cymru ddim yn cynnig yr atebion i gyd, ond mae'n dweud y bydd disgyblion BTEC yn cael canlyniad wedi ei gyfrifo ar sail gwahanol dystiolaeth, gan gynnwys mewnbwn athrawon pan mae hynny'n addas.
Fe allai canlyniadau cymwysterau eraill sy'n cael eu gwneud gyda, neu yn lle, TGAU a Safon Uwch, a sy'n bwysig ar gyfer symud mlaen i addysg bellach neu uwch, dderbyn canlyniad tebyg hefyd.
Ond yn ôl Cymwysterau Cymru mae "cymhlethdod y tirwedd cymwysterau galwedigaethol" yn golygu nad yw un dull yn bosib ac felly bydd myfyrwyr sy'n astudio rhai pynciau technegol neu alwedigaethol yn gorfod aros yn hirach i gael gwybod beth sy'n digwydd i'w cyrsiau a'u tystysgrifau.
Raab: 'Arwyddion bod cyfyngiadau'n gweithio'
Ychwanegodd Mr Raab bod Llywodraeth y DU yn dal i gasglu data er mwyn asesu effaith y mesurau ynysu.
"Mae'r arwyddion cynnar yn awgrymu eu bod yn cael effaith," meddai, ond dywedodd ei fod yn rhy gynnar i fod yn sicr.
Mae'n dweud y bydd y mesurau'n aros mewn grym tan fod tystiolaeth i ddangos ein bod wedi mynd heibio'r gwaethaf.
Mae Llywodraeth Cymru eisoes wedi dweud y bydd y cyfyngiadau'n cael eu hymestyn yma.
Raab: Johnson mewn 'hwyliau da'
Mae Ysgrifennydd Tramor y DU wedi dweud bod y Prif Weinidog, Boris Johnson, yn gwneud "camau positif" wrth iddo dderbyn triniaeth am y coronafeirws.
Ar ddechrau'r gynhadledd ddyddiol yn San Steffan, dywedodd Dominic Raab bod Mr Johnson yn parhau i dderbyn gofal dwys, ond ei fod yn gwella ac mewn "hwyliau da".
Troi gwesty'r Fro yn ysbyty dro dro
Mae gweithwyr wrthi yn trawsnewid Gwesty'r Fro ym Mro Morgannwg yn ysbyty dros dro.
Y nod yw cwblhau'r gwaith erbyn 27 Ebrill, ac aeth Huw Thomas i weld yr adeiladwyr oedd ar y safle yn gynharach heddiw.
Mae'r gwesty yn fwy enwog fel lleoliad ar gyfer sesiynau hyfforddi carfan rygbi Cymru.
Video content
Uned sgrinio yn dweud diolch
Twitter
Staff tîm sgrinio ar gyfer Covid-19 yn y gorllewin yn dweud diolch wrth Ysgol Bro Myrddin, Caerfyrddin am offer diogelwch.
'Mae'n anodd i'r plant ac i Steve'
Mae dyn tân o Wrecsam sydd wedi dal covid-19 yn edrych ymlaen am "gael cwtsh gyda'i deulu", yn ôl ei wraig.
Mae Stephen Landon, 39, wedi bod yn derbyn gofal dwys yn Ysbyty Maelor Wrecsam ers cael ei daro'n wael gyda symptomau'r feirws bythefnos yn ôl.
Dywedodd ei wraig Becky: "Dyma'r trydydd tro iddo fynd yn ôl i'r uned gofal dwys.
"Dyna'r ffordd mae'r feirws yn mynd, maen nhw'n gwella, ac wedyn yn gwaethygu eto."
Mae gan y cwpl bedwar o blant, a dywedodd Mrs Landon ei fod yn anodd iawn arnyn nhw.
"Mae'r 'fengaf yn gofyn bob bore - ydy Dad yn dod adref heddiw?
"Mae'n anodd i'r plant ac i Steve."
Dim presgripsiwn i breswylwyr ail gartrefi
Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
Mae bwrdd iechyd mwyaf Cymru, Betsi Cadwaladr, wedi cyhoeddi na fyddan nhw'n darparu meddyginiaethau presgripsiwn rheolaidd i breswylwyr dros dro.
Yn ôl y bwrdd iechyd fe fydd ceisiadau presgripsiwn gan bobl sydd wedi adleoli i ail gartrefi neu gartrefi gwyliau yn cael eu gwrthod a'r unigolion yn cael eu cyfeirio at ei meddygfa arferol.
Daw'r cyhoeddiad wedi i densiynau godi mewn sawl rhan o Gymru sydd â niferoedd uwch o ail gartrefi a chartrefi gwyliau.
Neges prif gwnstabl i gadw draw
Mae prif gwnstabl ynghyd â phennaeth un o gynghorau sir Cymru wedi anfon neges glir i ymwelwyr a pherchnogion tai haf i gadw draw yn ystod gwyliau'r Pasg.
Dywedodd Mark Collins, Prif Gwnstabl Heddlu Dyfed-Powys, y byddant y stopio ceir a'u hanfon yn ôl gartref.
"Rydym yn cadw llygad. Rwy'n ymwybodol fod yna bobl yn teithio liw nos ac ar hewlydd bach. Ond byddwn ni yno hefyd."
Dywedodd Ian Westley, Prif Weithredwr Cyngor Sir Penfro, fod yna bobl yn anwybyddu negeseuon y llywodraeth. Roedd yna rybudd ganddo i'r rhai sydd am roi llety.
"Rydym yn gwybod fod rhai yn teithio fin nos i geisio curo'r system. Ond rydym yn rhannu’r wybodaeth yma' gyda'r heddlu."
"Fe fyddwn yn gweithredu."
Rhybudd diogelu yn erbyn sgamiau
Cyngor Sir Conwy
Mae Cyngor Conwy'n rhybuddio pobl i fod ar eu gwyliadwraeth ar hyn o bryd wedi adroddiadau o bobl yn manteisio ar y pandemig i weithredu sgamiau.
Canolfan brofi Clwb Pêl-droed Caerdydd wedi agor
Mae'r ganolfan gyntaf lle gellir gael prawf drwy ffenest y car wedi agor a hynny yn Stadiwm Dinas Caerdydd - cartref Clwb Pêl-droed Dinas Caerdydd.
Y map diweddaraf
Gan fod Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi newid yr amser y maen nhw'n casglu ffiygrau achosion newydd o coronafeirws, mae nifer yr achosion newydd ddydd Iau yn llawer is na'r ffigwr arferol.
Bydd ffigwr dydd Gwener yn adlewyrchiad fwy cywir, ond dyma'r map cyfredol o nifer yr achosion ymhob awdurdod lleol trwy Gymru.
Bywyd ar 'lockdown' yn Fietnam
Wythnosau ar ôl cyrraedd Fietnam mae Cadi Mai o Ben Llŷn yn gaeth i'w fflat yn Hanoi
Darllen mwyFfigyrau Lloegr
Mae NHS Lloegr wedi cofnodi 765 o farwolaethau newydd o haint coronafeirws ond mae'n debyg mai 140 ohonynt ddigwyddodd ddoe.
Nodir bod 568 wedi digwydd rhwng 1 Ebrill a 7 Ebrill a bod y 57 arall wedi digwydd ym mis Mawrth.
Gostyngiad cyflog Bale
Chwaraeon BBC Cymru
Gareth Bale yw un o'r chwaraewyr diweddaraf i ddweud ei fod yn fodlon gymryd gostyngiad yn ei gyflog.
Nifer uchaf o farwolaethau mewn diwrnod
Bu farw 41 o bobl yng Nghymru gyda'r coronafeirws yn ôl ffigyrau Iechyd Cyhoeddus Cymru ddydd Iau.
Dyna'r ffigwr dyddiol uchaf ers i'r pandemig ddod i Gymru, fel mae'r graff isod yn dangos.