Mae'r heddlu wedi apelio ar bobl i gymryd gofal ar y ffyrdd yn dilyn adroddiadau bod gyrwyr yn mynd yn rhy gyflym ar y lonydd cymharol wag.
Fe wnaeth Heddlu'r Gogledd ddal rhywun yn mynd 113mya ar yr A55 ger Llaneurgain yn ddiweddar, a gyrrwr arall yn mynd 101mya ar yr A5 ger Corwen.
Yn y cyfamser mae nifer o ddoctoriaid wedi datgan eu cefnogaeth i ymgyrch i leihau'r terfyn cyflymder i 20mya mewn ardaloedd trefol.
Y gobaith gyda hynny yw y byddai'n lleihau nifer y gwrthdrawiadau ffordd, ac felly lleihau'r baich ar y gwasanaeth iechyd yn ystod yr argyfwng coronafeirws.
Cyfle i holi'r Prif Weinidog
Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Yn ystod y prynhawn mae'r Prif Weinidog, Mark Drakeford, wedi bod yn ateb cwestiynau am argyfwng coronafeirws mewn cyfarfod llawn rhithwir - heno mae cyfle i chi ei holi.
Mae Llywodraeth y DU hefyd wedi cyhoeddi "pecyn cymorth" o £750m ar gyfer elusennau er mwyn iddyn nhw allu parhau â'u gwaith "hanfodol".
Gyda digwyddiadau codi arian ar stop mae'r sector wedi'i chael hi'n anodd i gynnal eu lefelau arferol o gyllid.
Dywedodd y Canghellor Rishi Sunak y byddai £60m o'r gronfa yn cael ei rannu rhwng Cymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon.
Mae BBC Cymru wedi gofyn am gadarnhad o faint o'r arian hwnnw fydd yn mynd i elusennau yng Nghymru.
'Dim penderfyniad' gan San Steffan
Mae Canghellor Llywodraeth y DU, Rishi Sunak wedi gwrthod dweud a fyddan nhw'n dilyn esiampl Llywodraeth Cymru a chyhoeddi estyniad i'r cyfnod o gyfyngiadau coronafeirws.
Y prynhawn 'ma dywedodd y gweinidog Julie James y byddai'r mesurau yn parhau yng Nghymru y tu hwnt i Ddydd Llun y Pasg.
Ond mynnodd Mr Sunak y byddai Llywodraeth y DU yn aros am gyngor pellach "wythnos nesaf" cyn penderfynu ar y camau nesaf.
Ychwanegodd y bydd cyfarfod yn cael ei gynnal gyda'r llywodraethau datganoledig ddydd Iau yn trafod sut i adolygu'r mesurau.
Getty ImagesCopyright: Getty Images
Ysbyty Calon y Ddraig
Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro
Mae prif weithredwr Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro wedi cadarnhau mai enw'r ysbyty dros dro yn Stadiwm Principality fydd Ysbyty Calon y Ddraig.
Staff iechyd yn 'ysbrydoliaeth' i Jamie Roberts
BBC Sport Wales
Dyma chwaraewr rygbi Cymru, Jamie Roberts, yn esbonio pam ei fod wedi gwirfoddoli i helpu'r gwasanaeth iechyd yn y frwydr yn erbyn coronafeirws.
Video content
Video caption: Jamie Roberts: 'Ysbrydoliaeth i weld' gwaith staff iechydJamie Roberts: 'Ysbrydoliaeth i weld' gwaith staff iechyd
Ehangu darpariaeth mortiwari
Cyngor Powys
Mae Cyngor Powys yn dweud eu bod yn y broses o ehangu darpariaeth mortiwari yn y sir.
Dywedodd llefarydd: "Fel y gwnaeth Prif Weinidog Cymru ei wneud yn glir yn ei gynhadledd i'r wasg ar 3 Ebrill, ni fydd capasiti mortiwariau yng Nghymru yn gallu cwrdd ag anghenion cymunedau yn y cyfnod eithriadol y gwyddom sy'n dod.
"Ym Mhowys rydym yn cefnogi'r gwaith hwn drwy ddatblygu cyfleuster dros dro ar Ystâd Ddiwydiannol Wyeside yn Llanelwedd, ac mae'r gwaith hwn yn parhau i gael ei arwain gan benderfyniad parhaus i barchu urddas pobl yn ystod y cyfnod heriol hwn."
GoogleCopyright: Google
Gostyngiad cyflog o 25% i chwaraewyr rygbi
Undeb Rygbi Cymru
Bydd rhai o sêr rygbi Cymru yn cymryd gostyngiad cyflog o 25% wrth i'r gamp geisio dod i'r afael â heriau'r argyfwng coronafeirws.
Dywedodd y Bwrdd Rygbi Proffesiynol - sy'n cynrychioli Undeb Rygbi Cymru a'r pedwar rhanbarth proffesiynol - eu bod wedi dod i gytundeb gyda'r gymdeithas sy'n cynrychioli'r chwaraewyr.
Bydd y gostyngiad cyflog yn para tri mis o 1 Ebrill, ond ddim yn weithredol ar gyfer chwaraewyr sy'n ennill llai na £25,000 y flwyddyn.
Dros 900 o farwolaethau
Mae Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi fod 938 yn fwy o gleifion oedd â coronafeirws wedi marw yn y 24 awr ddiwethaf.
Mae'n golygu fod cyfanswm swyddogol o 7,097 wedi marw ar draws y DU, gyda 60,733 wedi profi'n bositif ar gyfer yr haint.
Bydd tri chyn-gartref gofal ym Mhen-y-bont ar Ogwr yn cael eu haddasu er mwyn darparu gwlâu ychwanegol i'r ysbyty lleol yn ystod y pandemig coronafeirws.
Y bwriad fydd darparu 150 o wlâu ychwanegol ar gyfer cleifion sy'n adfer, er mwyn i Ysbyty Tywysoges Cymru allu canolbwyntio ar gleifion sydd angen gofal meddygol penodol.
Y tri chyn-gartref sy'n cael eu haddasu yw Abergarw Manor ym Mrynmenyn, a chartrefi gofal Tŷ Llynfi a Hyfrydol ym Maesteg.
'Cyfraniad hael' Joe Allen
Mae
chwaraewr ganol cae Cymru a Stoke City, Joe Allen, wedi gwneud “cyfraniad hael”
i hosbis Donna Louise yn y ddinas.
Dywedodd Justine
Trumper o ymddiredolaeth Donna Louise yn y Stoke Sentinel bod
cyfraniadau’r Cymro a’i gyd chwaraewr James McClean wedi helpu i achub yr
hosbis. sydd yn darparu gofal ar gyfer plant.
Wrth
siarad yn y cyfarfod llawn mae Leslie Griffiths, Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig yn dweud ein bod yn wynebu
pandemig na welwyd ei debyg a’i bod yn gyfnod pryderus i deuluoedd ar draws
Cymru
Mae’n
cadarnhau nad oes yn rhaid i ffermwyr anfon ffurflenni Cais Sengl i mewn tan 15
Mehefin.
Mae’n
dweud bod ffermwyr yn allweddol i’n cadwyni bwyd - yn fwy felly ar hyn o bryd - a’i
bod yn holl bwysig eu bod yn cael cefnogaeth Llywodraeth Cymru.
Y diweddaraf yn fyw
Mae pob amser yn lleol i'r DU
Cyfrannu
Hwyl am y tro
BBC Cymru Fyw
Dyna ni ar y llif byw am heddiw - mi fyddwn ni yn ôl unwaith eto 'fory gyda'r diweddaraf i chi ar coronafeirws yng Nghymru a thu hwnt.
Ond am y tro, noswaith dda i chi.
Ar Newyddion heno....
Apêl ar yrwyr i fod yn ofalus
Heddlu Gogledd Cymru
Mae'r heddlu wedi apelio ar bobl i gymryd gofal ar y ffyrdd yn dilyn adroddiadau bod gyrwyr yn mynd yn rhy gyflym ar y lonydd cymharol wag.
Fe wnaeth Heddlu'r Gogledd ddal rhywun yn mynd 113mya ar yr A55 ger Llaneurgain yn ddiweddar, a gyrrwr arall yn mynd 101mya ar yr A5 ger Corwen.
Yn y cyfamser mae nifer o ddoctoriaid wedi datgan eu cefnogaeth i ymgyrch i leihau'r terfyn cyflymder i 20mya mewn ardaloedd trefol.
Y gobaith gyda hynny yw y byddai'n lleihau nifer y gwrthdrawiadau ffordd, ac felly lleihau'r baich ar y gwasanaeth iechyd yn ystod yr argyfwng coronafeirws.
Cyfle i holi'r Prif Weinidog
Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Yn ystod y prynhawn mae'r Prif Weinidog, Mark Drakeford, wedi bod yn ateb cwestiynau am argyfwng coronafeirws mewn cyfarfod llawn rhithwir - heno mae cyfle i chi ei holi.
Arian ychwanegol i elusennau
Mae Llywodraeth y DU hefyd wedi cyhoeddi "pecyn cymorth" o £750m ar gyfer elusennau er mwyn iddyn nhw allu parhau â'u gwaith "hanfodol".
Gyda digwyddiadau codi arian ar stop mae'r sector wedi'i chael hi'n anodd i gynnal eu lefelau arferol o gyllid.
Dywedodd y Canghellor Rishi Sunak y byddai £60m o'r gronfa yn cael ei rannu rhwng Cymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon.
Mae BBC Cymru wedi gofyn am gadarnhad o faint o'r arian hwnnw fydd yn mynd i elusennau yng Nghymru.
'Dim penderfyniad' gan San Steffan
Mae Canghellor Llywodraeth y DU, Rishi Sunak wedi gwrthod dweud a fyddan nhw'n dilyn esiampl Llywodraeth Cymru a chyhoeddi estyniad i'r cyfnod o gyfyngiadau coronafeirws.
Y prynhawn 'ma dywedodd y gweinidog Julie James y byddai'r mesurau yn parhau yng Nghymru y tu hwnt i Ddydd Llun y Pasg.
Ond mynnodd Mr Sunak y byddai Llywodraeth y DU yn aros am gyngor pellach "wythnos nesaf" cyn penderfynu ar y camau nesaf.
Ychwanegodd y bydd cyfarfod yn cael ei gynnal gyda'r llywodraethau datganoledig ddydd Iau yn trafod sut i adolygu'r mesurau.
Ysbyty Calon y Ddraig
Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro
Mae prif weithredwr Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro wedi cadarnhau mai enw'r ysbyty dros dro yn Stadiwm Principality fydd Ysbyty Calon y Ddraig.
Staff iechyd yn 'ysbrydoliaeth' i Jamie Roberts
BBC Sport Wales
Dyma chwaraewr rygbi Cymru, Jamie Roberts, yn esbonio pam ei fod wedi gwirfoddoli i helpu'r gwasanaeth iechyd yn y frwydr yn erbyn coronafeirws.
Video content
Ehangu darpariaeth mortiwari
Cyngor Powys
Mae Cyngor Powys yn dweud eu bod yn y broses o ehangu darpariaeth mortiwari yn y sir.
Dywedodd llefarydd: "Fel y gwnaeth Prif Weinidog Cymru ei wneud yn glir yn ei gynhadledd i'r wasg ar 3 Ebrill, ni fydd capasiti mortiwariau yng Nghymru yn gallu cwrdd ag anghenion cymunedau yn y cyfnod eithriadol y gwyddom sy'n dod.
"Ym Mhowys rydym yn cefnogi'r gwaith hwn drwy ddatblygu cyfleuster dros dro ar Ystâd Ddiwydiannol Wyeside yn Llanelwedd, ac mae'r gwaith hwn yn parhau i gael ei arwain gan benderfyniad parhaus i barchu urddas pobl yn ystod y cyfnod heriol hwn."
Gostyngiad cyflog o 25% i chwaraewyr rygbi
Undeb Rygbi Cymru
Bydd rhai o sêr rygbi Cymru yn cymryd gostyngiad cyflog o 25% wrth i'r gamp geisio dod i'r afael â heriau'r argyfwng coronafeirws.
Dywedodd y Bwrdd Rygbi Proffesiynol - sy'n cynrychioli Undeb Rygbi Cymru a'r pedwar rhanbarth proffesiynol - eu bod wedi dod i gytundeb gyda'r gymdeithas sy'n cynrychioli'r chwaraewyr.
Bydd y gostyngiad cyflog yn para tri mis o 1 Ebrill, ond ddim yn weithredol ar gyfer chwaraewyr sy'n ennill llai na £25,000 y flwyddyn.
Dros 900 o farwolaethau
Mae Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi fod 938 yn fwy o gleifion oedd â coronafeirws wedi marw yn y 24 awr ddiwethaf.
Mae'n golygu fod cyfanswm swyddogol o 7,097 wedi marw ar draws y DU, gyda 60,733 wedi profi'n bositif ar gyfer yr haint.
'Ffyrdd yn brysurach'
Heddlu Gogledd Cymru
Diolch eto
Iechyd Cyhoeddus Cymru
Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn cyhoeddi cyfres o fideos gan bobl sy'n diolch i bawb sy'n aros adref yn ystod y pandemig.
Dyma'r un Cymraeg diweddaraf...
Pleidleisio am y tro cyntaf mewn sesiwn cyfarfod llawn rithwir
Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Cyfarfod drwy'r we mae'r cyfarfod llawn heddiw a chyn hir fe fyddant yn pleidlesio am y tro cyntaf yn y dull hwn.
Addasu cartrefi gofal yn wlâu ysbytai
Cyngor Pen-y-bont ar Ogwr
Bydd tri chyn-gartref gofal ym Mhen-y-bont ar Ogwr yn cael eu haddasu er mwyn darparu gwlâu ychwanegol i'r ysbyty lleol yn ystod y pandemig coronafeirws.
Y bwriad fydd darparu 150 o wlâu ychwanegol ar gyfer cleifion sy'n adfer, er mwyn i Ysbyty Tywysoges Cymru allu canolbwyntio ar gleifion sydd angen gofal meddygol penodol.
Y tri chyn-gartref sy'n cael eu haddasu yw Abergarw Manor ym Mrynmenyn, a chartrefi gofal Tŷ Llynfi a Hyfrydol ym Maesteg.
'Cyfraniad hael' Joe Allen
Mae chwaraewr ganol cae Cymru a Stoke City, Joe Allen, wedi gwneud “cyfraniad hael” i hosbis Donna Louise yn y ddinas.
Dywedodd Justine Trumper o ymddiredolaeth Donna Louise yn y Stoke Sentinel bod cyfraniadau’r Cymro a’i gyd chwaraewr James McClean wedi helpu i achub yr hosbis. sydd yn darparu gofal ar gyfer plant.
Mwy am stori'r Stoke Sentinel fan hyn.
Dyma'r neges yn blwmp ac yn blaen!
Twitter
'Rhaid cefnogi ffermwyr'
Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Wrth siarad yn y cyfarfod llawn mae Leslie Griffiths, Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig yn dweud ein bod yn wynebu pandemig na welwyd ei debyg a’i bod yn gyfnod pryderus i deuluoedd ar draws Cymru
Mae’n cadarnhau nad oes yn rhaid i ffermwyr anfon ffurflenni Cais Sengl i mewn tan 15 Mehefin.
Mae’n dweud bod ffermwyr yn allweddol i’n cadwyni bwyd - yn fwy felly ar hyn o bryd - a’i bod yn holl bwysig eu bod yn cael cefnogaeth Llywodraeth Cymru.
Rhai'n herio'r gorchymyn i aros adre
Nifer yr achosion fesul awdurdod lleol
Wrth i nifer swyddogol yr achosion o Covid-19 yng Nghymru basio 4,000, dyma nifer yr achosion ymhob ardal awdurdod lleol.