...a pha ffordd well i gau ein llif byw am heddiw na'r anthem?
Dyna'r cyfan am heddiw, ond fe fyddwn ni'n dychwelyd bore fory gyda'r newyddion diweddaraf am coronafeirws yng Nghymru a thu hwnt.
Yn y cyfamser bydd y prif straeon yn al i ymddangos ar hafan Cymru Fyw.
Diolch am aros gyda ni, a hwyl fawr tan y bore.
Dweud 'diolch' drwy ganu Hen Wlad fy Nhadau
Beth gwell na chanu'r anthem i godi calon?
Ar wefan Facebook dyna'n union mae trigolion canolfan ofal 'Swn y Môr' ym Mhort Talbot wedi ei wneud, er mwyn dweud 'diolch' i bawb sy'n gofalu amdanyn nhw.
Mae menywod beichiog sydd wedi gweld dosbarthiadau 'antenatal' yn cael eu canslo oherwydd coronafeirws nawr yn cymryd mantais o gyngor ar-lein am ddim gan arbenigwr o Brifysgol Abertawe.
Mae Dr Alys Einion-Waller - Athro Cynorthwyol Bydwreigiaeth a Iechyd Menywod - yn cynnig cyrsiau tair wythnos ar-lein, ac maen nhw eisoes yn profi'n boblogaidd.
Fe wnaeth 12 cwpwl ymuno gyda'r sesiwn gyntaf, ond mae'r ffigwr yna wedi codi i 33 cwpwl erbyn heddiw.
Prifysgol AbertaweCopyright: Prifysgol Abertawe
Ymosodiadau '5G' yn niweidio cymunedau
Twitter
Daw'r trydariad yma gan Ofcom yn dilyn ymosodiadau ar fastiau gan rai sy'n credu - yn gwbl anghywir - bod cysylltiad rhwng technoleg 5G a coronafeirws.
Mae pobl yn colli llinellau eu ffonau a chysylltiad wifi oherwydd yr ymosodiadau!
Mae rhai o staff y Gwasanaeth Iechyd yn ardal Gwent wedi cael canlyniadau anghywir i brofion Covid-19.
Cafodd 8-10 o weithwyr brofion coronafeirws yn ardal Bwrdd Iechyd Aneurin Bevan.
Cadarnhaodd Iechyd Cyhoeddus Cymru fod 10 allan o 96 o staff wedi bod yn destun "gwall cofnodi", ond dywed y bwrdd iechyd mai wyth gafodd eu heffeithio.
Dywedodd llefarydd: "Cafodd nifer bach o ganlyniadau positif eu hadrodd fel rhai negyddol, a rhai fel arall."
Grym i daclo'r feirws 'yn nwylo'r cyhoedd'
Mae Dr Matt Morgan, ymgynghorydd gofal dwys yn Ysbyty Athrofaol Cymru yng Nghaerdydd, wedi bod yn siarad gyda'r BBC am ei brofiad o'r frwyr yn erbyn coronafeirws.
"Fedrwch chi byth baratoi am rhywbeth mor anferth a hyn," meddai.
"Ry'n ni'n siarad gyda chydweithwyr ar draws y wlad a'r byd, ac yn ceisio brwydro hyn fel cymuned.
"Ond cofiwch mai'r ffordd orau o gael trwy gofal dwys yw peidio mynd yno yn y lle cyntaf, felly mae'r grym i drin coronafeirws yn nwylo'r cyhoedd a'r pethau maen nhw'n gwneud.
"Mae cadw pellter ac aros adre yn bethau felly, a diolch i'r cyhoedd am wneud hynny."
BBCCopyright: BBC
Staff ysgol yn creu offer diogelwch
Mae Ysgol Uwchradd Caerdydd wedi bod yn gwneud visors yn dilyn apêl gan gymdeithas rhieni'r ysgol.
Bu staff yr adran Dylunio a Thechnoleg yn gwneud 150 o'r visors ar gyfer gweithwyr iechyd.
Sefydlwyd tudalen ar wefan GoFundMe ac o fewn tair awr fe godwyd dros £2,000 i brynu mwy o ddeunyddiau crai er mwyn gwneud mwy.
Non Stanford mewn cwarantîn
Cylchgrawn, Cymru Fyw
Mae'r Bencampwraig triathalon o Gymru, Non Stanford, bellach mewn cwarantîn yn Awstralia ar ol iddi hi a'i phartner hedfan yno yng nghanol y cyfnod ynysu.
BBCCopyright: BBC
Jamie Roberts yn helpu'r GIG
Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro
Daeth cadarnhad fod canolwr Cymru a'r Llewod, Jamie Roberts, wedi gwirfoddoli ei wasanaeth i Fwrdd Iechyd Caerdydd a'r Fro.
Fe raddiodd Jamie fel meddyg o Brifysgol Caerdydd yn 2013, ac er na fydd yn trin cleifion sydd â Covid-19 fe fydd yn cynorthwyo gydag agweddau eraill yn Ysbyty Athrofaol Cymru, Caerdydd.
Mae'r dyn sydd yng ngofal ymateb y lluoedd arfog i coronafeirws yng Nghymru yn dweud fod oddeutu 1,500 o filwyr wrth law yn barod i gynorthwyo.
Dywedodd Brigadier Andrew Davies: "Mae llawer o waith wedi'i neud y tu ol i'r llenni... pobl sy'n gymwys i adeiladu ysbytai yn gyflym.
"Roedd nifer o ymgynghorwyr gyda'r tîm a wnaeth job ardderchog yn Stadiwm Principality, ond mae gennym hefyd nifer o unigolion gyda phrofiad peirianyddol."
Y Weinyddiaeth AmddiffynCopyright: Y Weinyddiaeth Amddiffyn
Rhybudd Cyngor Ceredigion i breswylwyr
Cyngor Ceredigion
Ar hyn o bryd 24 achos o Coronafeirws sydd wedi cael eu cadarnhau yng Ngheredigion, sydd yn dipyn llai nac mewn ardaloedd eraill yng Nghymru.
Ond mae'r Cyngor yn rhybuddio preswylwyr y sir y gallai 600 farw o Covid-19 os nad yw pobl yn cadw at y rheolau, am nad yw "effaith llawn y feriws wedi cyrraedd Ceredigion eto".
Mae sawl sefydliad wedi cymryd cyfle i ddiolch i weithwyr iechyd am eu hymdrechion yn ystod y cyfnod heriol yma. A hithau'n Ddiwrnod Iechyd y Byd, Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr yw'r diweddaraf i ddiolch iddyn nhw:
I’r
rheiny sydd yn gyfarwydd â’r ffotomarathon flynyddol gaiff ei chynnal yn
Aberystwyth byddwch yn ymwybodol o’r drefn – y nod yw cymryd chwe llun mewn
chwe awr ar chwe thema wahanol.
Wel mae’r criw sydd yn gyfrifol am y digwyddiad
ffotograffig hynny am drio gwneud rhywbeth ychydig yn wahanol yn wyneb y
sefyllfa bresennol.
Y nod yw cynnal ffotomarathon dros benwythnos y Pasg – pedwar diwrnod,
pedwar llun, pedwar thema – ond wrth gwrs fydd dim cyfle i grwydro o gwmpas y
dref y tro hwn.
Caiff gwobr ei rhoi am y llun gorau bob dydd o dan y thema benodol a
chaiff un wobr ei rhoi am y set orau o bedwar llun ar ddiwedd y pedwar diwrnod.
Caiff y themâu eu rhyddhau am 10:00 ar gyfrif facebook, Twitter ac
Instagram FfotoAber a bydd angen i gystadleuwyr uwchlwytho eu lluniau rhwng 17:00 a 19:00.
FfotoaberCopyright: Ffotoaber
Nifer y marwolaethau unigol yng Nghymru hyd yn hyn:
Y diweddaraf yn fyw
Mae pob amser yn lleol i'r DU
Cyfrannu
Hwyl am y tro!
BBC Cymru Fyw
...a pha ffordd well i gau ein llif byw am heddiw na'r anthem?
Dyna'r cyfan am heddiw, ond fe fyddwn ni'n dychwelyd bore fory gyda'r newyddion diweddaraf am coronafeirws yng Nghymru a thu hwnt.
Yn y cyfamser bydd y prif straeon yn al i ymddangos ar hafan Cymru Fyw.
Diolch am aros gyda ni, a hwyl fawr tan y bore.
Dweud 'diolch' drwy ganu Hen Wlad fy Nhadau
Beth gwell na chanu'r anthem i godi calon?
Ar wefan Facebook dyna'n union mae trigolion canolfan ofal 'Swn y Môr' ym Mhort Talbot wedi ei wneud, er mwyn dweud 'diolch' i bawb sy'n gofalu amdanyn nhw.
Cyrsiau ar-lein i fenywod beichiog
Prifysgol Abertawe
Mae menywod beichiog sydd wedi gweld dosbarthiadau 'antenatal' yn cael eu canslo oherwydd coronafeirws nawr yn cymryd mantais o gyngor ar-lein am ddim gan arbenigwr o Brifysgol Abertawe.
Mae Dr Alys Einion-Waller - Athro Cynorthwyol Bydwreigiaeth a Iechyd Menywod - yn cynnig cyrsiau tair wythnos ar-lein, ac maen nhw eisoes yn profi'n boblogaidd.
Fe wnaeth 12 cwpwl ymuno gyda'r sesiwn gyntaf, ond mae'r ffigwr yna wedi codi i 33 cwpwl erbyn heddiw.
Ymosodiadau '5G' yn niweidio cymunedau
Twitter
Daw'r trydariad yma gan Ofcom yn dilyn ymosodiadau ar fastiau gan rai sy'n credu - yn gwbl anghywir - bod cysylltiad rhwng technoleg 5G a coronafeirws.
Mae pobl yn colli llinellau eu ffonau a chysylltiad wifi oherwydd yr ymosodiadau!
Canlyniadau anghywir i brofion Covid-19
Bwrdd Iechyd Aneurin Bevan
Mae rhai o staff y Gwasanaeth Iechyd yn ardal Gwent wedi cael canlyniadau anghywir i brofion Covid-19.
Cafodd 8-10 o weithwyr brofion coronafeirws yn ardal Bwrdd Iechyd Aneurin Bevan.
Cadarnhaodd Iechyd Cyhoeddus Cymru fod 10 allan o 96 o staff wedi bod yn destun "gwall cofnodi", ond dywed y bwrdd iechyd mai wyth gafodd eu heffeithio.
Dywedodd llefarydd: "Cafodd nifer bach o ganlyniadau positif eu hadrodd fel rhai negyddol, a rhai fel arall."
Grym i daclo'r feirws 'yn nwylo'r cyhoedd'
Mae Dr Matt Morgan, ymgynghorydd gofal dwys yn Ysbyty Athrofaol Cymru yng Nghaerdydd, wedi bod yn siarad gyda'r BBC am ei brofiad o'r frwyr yn erbyn coronafeirws.
"Fedrwch chi byth baratoi am rhywbeth mor anferth a hyn," meddai.
"Ry'n ni'n siarad gyda chydweithwyr ar draws y wlad a'r byd, ac yn ceisio brwydro hyn fel cymuned.
"Ond cofiwch mai'r ffordd orau o gael trwy gofal dwys yw peidio mynd yno yn y lle cyntaf, felly mae'r grym i drin coronafeirws yn nwylo'r cyhoedd a'r pethau maen nhw'n gwneud.
"Mae cadw pellter ac aros adre yn bethau felly, a diolch i'r cyhoedd am wneud hynny."
Staff ysgol yn creu offer diogelwch
Mae Ysgol Uwchradd Caerdydd wedi bod yn gwneud visors yn dilyn apêl gan gymdeithas rhieni'r ysgol.
Bu staff yr adran Dylunio a Thechnoleg yn gwneud 150 o'r visors ar gyfer gweithwyr iechyd.
Sefydlwyd tudalen ar wefan GoFundMe ac o fewn tair awr fe godwyd dros £2,000 i brynu mwy o ddeunyddiau crai er mwyn gwneud mwy.
Non Stanford mewn cwarantîn
Cylchgrawn, Cymru Fyw
Mae'r Bencampwraig triathalon o Gymru, Non Stanford, bellach mewn cwarantîn yn Awstralia ar ol iddi hi a'i phartner hedfan yno yng nghanol y cyfnod ynysu.
Jamie Roberts yn helpu'r GIG
Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro
Daeth cadarnhad fod canolwr Cymru a'r Llewod, Jamie Roberts, wedi gwirfoddoli ei wasanaeth i Fwrdd Iechyd Caerdydd a'r Fro.
Fe raddiodd Jamie fel meddyg o Brifysgol Caerdydd yn 2013, ac er na fydd yn trin cleifion sydd â Covid-19 fe fydd yn cynorthwyo gydag agweddau eraill yn Ysbyty Athrofaol Cymru, Caerdydd.
Oes gyda chi gwestiwn i'r Prif Weinidog?
Llywodraeth Cymru
Fe fydd Mark Drakeford AC yn ateb cwestiynnau gan y cyhoedd mewn darllediad arbennig nos Fercher.
Mae modd ysgrifennu eich cwestiwn neu ei anfon ar ffurf fideo.
1,500 o filwyr yn barod i gynorthwyo
Mae'r dyn sydd yng ngofal ymateb y lluoedd arfog i coronafeirws yng Nghymru yn dweud fod oddeutu 1,500 o filwyr wrth law yn barod i gynorthwyo.
Dywedodd Brigadier Andrew Davies: "Mae llawer o waith wedi'i neud y tu ol i'r llenni... pobl sy'n gymwys i adeiladu ysbytai yn gyflym.
"Roedd nifer o ymgynghorwyr gyda'r tîm a wnaeth job ardderchog yn Stadiwm Principality, ond mae gennym hefyd nifer o unigolion gyda phrofiad peirianyddol."
Rhybudd Cyngor Ceredigion i breswylwyr
Cyngor Ceredigion
Ar hyn o bryd 24 achos o Coronafeirws sydd wedi cael eu cadarnhau yng Ngheredigion, sydd yn dipyn llai nac mewn ardaloedd eraill yng Nghymru.
Ond mae'r Cyngor yn rhybuddio preswylwyr y sir y gallai 600 farw o Covid-19 os nad yw pobl yn cadw at y rheolau, am nad yw "effaith llawn y feriws wedi cyrraedd Ceredigion eto".
Diffoddwr bellach yn rhan o brawf am gyffur
Daily Post
Ar wefan North Wales Live mae stori gwraig i ddiffoddwr tân sy'n cael triniaeth ysbyty am coronafeirws.
Dywedodd Becky Landon fod ei gŵr Steve bellach allan o'r uned gofal dwys ond yn dal i dderbyn ocsigen.
Ychwanegodd ei fod wedi cytuno i fod yn rhan o gynllun i brofi cyffur newydd allai fod o gymorth yn y frwydr yn erbyn Covid-19.
Gwybodaeth yn ddyddiol am y sefyllfa
Mae Ymchwil y Senedd yn cynhyrchu blog dyddiol sy'n casglu'r wybodaeth ddiweddaraf am y sefyllfa gyda coronafeirws yng Nghymru mewn un man.
Dyma'r rhifyn diweddaraf.....
Canolfan brofi Covid-19 yn barod
Mae'r ganolfan i brofi gweithwyr iechyd am goronafeirws yn Stadiwm Dinas Caerdydd yn barod.
Y gobaith yw profi hyd at 200 o weithwyr iechyd a gweithwyr gofal y dydd yn y ganolfan medd y gweinidog iechyd Vaughan Gething.
Neges amserol ym Mhenygroes
Twitter
Bwrdd iechyd yn rhannu gair o ddiolch
Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
Mae sawl sefydliad wedi cymryd cyfle i ddiolch i weithwyr iechyd am eu hymdrechion yn ystod y cyfnod heriol yma. A hithau'n Ddiwrnod Iechyd y Byd, Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr yw'r diweddaraf i ddiolch iddyn nhw:
Cystadleuaeth wahanol iawn eleni yn Aber
I’r rheiny sydd yn gyfarwydd â’r ffotomarathon flynyddol gaiff ei chynnal yn Aberystwyth byddwch yn ymwybodol o’r drefn – y nod yw cymryd chwe llun mewn chwe awr ar chwe thema wahanol.
Wel mae’r criw sydd yn gyfrifol am y digwyddiad ffotograffig hynny am drio gwneud rhywbeth ychydig yn wahanol yn wyneb y sefyllfa bresennol.
Y nod yw cynnal ffotomarathon dros benwythnos y Pasg – pedwar diwrnod, pedwar llun, pedwar thema – ond wrth gwrs fydd dim cyfle i grwydro o gwmpas y dref y tro hwn.
Caiff gwobr ei rhoi am y llun gorau bob dydd o dan y thema benodol a chaiff un wobr ei rhoi am y set orau o bedwar llun ar ddiwedd y pedwar diwrnod. Caiff y themâu eu rhyddhau am 10:00 ar gyfrif facebook, Twitter ac Instagram FfotoAber a bydd angen i gystadleuwyr uwchlwytho eu lluniau rhwng 17:00 a 19:00.
Nifer y marwolaethau unigol yng Nghymru hyd yn hyn:
Map lleoliadau achosion Covid-19 fesul sir