Mae canolfan i brofi am coronafeirws yn cael ei sefydlu yn Stadiwm Dinas Caerdydd gan gwmni preifat, medd Iechyd Cyhoeddus Cymru.
Dywedodd ICC mewn datganiad: "Mae Deloitte yn gweithio gyda llywodraeth y DU i ddarparu profion coronafeirws i weithwyr allweddol, ac mae Stadiwm Dinas Caerdydd yn rhan o'r prosiect yna.
"Rydym yn gweithio gyda nhw i weld sut y gallwn ddefnyddio'r adnodd yna.
"Mae hyn yn ychwanegol i'n rhaglen o brofi gweithwyr iechyd yng Nghymru, sydd wedi bod yn rhedeg ers 18 Mawrth ac sydd eisoes wedi gweld 1,500 o brofion ar ein gweithwyr iechyd.
"Fel rhan o'n strategaeth rydym yn ceisio adnabod safleodd i gefnogi profion ar draws Cymru er mwyn sicrhau nad oes rhaid i unigolion deithio'n bell."
Dileu dyled byrddau iechyd Lloegr?
Yn y gynhadledd newyddion ddyddiol gan lywodraeth y DU, mae Gweinidog Iechyd Lloegr, Matt Hancock wedi cyhoeddi y bydd yn dileu dyledion nifer o fyrddau ac ymddiriedolaethau iechyd yn Lloegr.
Mae'r dyledion yna werth cyfanswm o £13.4bn.
Bydd hynny, meddai, yn eu cynorthwyo i frwydro yn erbyn y pandemig coronafeirws.
Dangos cefnogaeth
Fe fydd adeiladau Neuadd y Ddinas Caerdydd, Canolfan Ddinesig Abertawe a Stadiwm Principality ymhlith yr adeiladau yng Nghymru fydd yn cael eu goleuo yn las heno am 20:00 er mwyn dangos cefngoaeth a gwerthfawrogiad i weithwyr y gwasanaeth iechyd.
BBCCopyright: BBC
Mae'r diolch ar y bin!
Cyngor Bro Morgannwg
Mae trigolion Bro Morgannwg wedi bod yn diolch i staff casglu sbwriel y cyngor drwy adael negeseuon ar fagiau ailgylchu ar ddiwrnod casglu.
Dywedodd y cyngor bod gweithwyr eraill, megis athrawon a gweithwyr gofal cymdeithasol, hefyd wedi derbyn negeseuon o ddiolch, ond bod y dull o ddiolch i'r criw sbwriel wedi codi calon.
Canolfan Hamdden Glannau Dyfrdwy fydd y trydydd lleoliad
ar gyfer ysbyty dros dro i drin preswylwyr Gogledd Cymru gyda symptomau
COVID-19.
Bydd oddeutu 250 gwely ychwanegol ar gael i’r GIG fel
rhan o’r bartneriaeth aml-asiantaeth rhwng Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi
Cadwaladr, Cyngor Sir y Fflint, Hamdden a Llyfrgelloedd Aura a Chyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.
Mae’r trydydd ysbyty dros dro hwn yn dod â chyfanswm y gwelyau
ar gael mewn lleoliadau ysbytai dros dro yng Ngogledd Cymru i oddeutu
850.
Bydd Venue Cymru yn Llandudno yn cael ei drawsnewid i
ddal 350 gwely ychwanegol dros dro, a bydd Canolfan Brailsford Prifysgol Bangor
yn darparu 250 gwely pellach.
Mae Cadeirydd Pwyllgor Iechyd y Cynulliad, Dr Dai Lloyd, wedi gwrifoddoli i ddychwelyd i weithio yn y gwasanaeth iechyd er mwyn helpu'r ymateb i Covid-19.
Yn ôl yr AC Plaid Cymru, fe dderbyniodd ebost gan Fwrdd Iechyd Bae Abertawe ddeuddydd yn ôl, gyda chais am wirfoddolwyr i ddychwelyd i reng flaen y gwasanaeth iechyd.
Roedd Dr Dai Lloyd yn feddyg teulu llawn amser yn Abertawe cyn mynd i'r byd gwleidyddol, ac fe fu'n parhau i weithio fel meddyg am ddiwrnod yr wythnos tan fis Tachwedd y llynedd.
Mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn galw am weithwyr iechyd a gofal cymdeithasol sydd wedi ymddeol neu adael eu gwaith yn ddiweddar i ddychwelyd er mwyn helpu i daclo pandemig coronafeirws.
BBCCopyright: BBC
Ydach chi'n siŵr bod chi'n mynd i'r gwaith, Syr?!
Prif Gwnstabl Heddlu'r Gogledd yn cael syrpreis ar ei ffordd i'r gwaith y bore 'ma.
Y diweddaraf yn fyw
Mae pob amser yn lleol i'r DU
Cyfrannu
Hwyl fawr am heddiw
BBC Cymru Fyw
Dyna ddiwedd ein llif byw arbennig am ddydd Iau, 2 Ebrill.
Fe fyddwn ni'n dychwelyd bore fory wrth gwrs, gyda llif byw newydd yn dechrau oddeutu 08:15. Ymunwch gyda ni bryd hynny.
Diolch am ddarllen, a hwyl fawr am y tro.
5,000 prawf y dydd... erbyn diwedd Ebrill
Fe wnaeth Matt Hancock addo y byddai 100,000 o brofion coronafeirws y dydd ar gyfer y DU - ac felly 5,000 y dydd i Gymru - erbyn diwedd y mis.
Dyna oedd y ffigwr y credir oedd yn y cytundeb rhwng Llywodraeth Cymru a chwmni fferyllol cyn i'r cytundeb yna chwalu.
Rhybudd yr heddlu am sgamiau
Twitter
Canolfan brofion yn stadiwm bêl-droed Caerdydd
Mae canolfan i brofi am coronafeirws yn cael ei sefydlu yn Stadiwm Dinas Caerdydd gan gwmni preifat, medd Iechyd Cyhoeddus Cymru.
Dywedodd ICC mewn datganiad: "Mae Deloitte yn gweithio gyda llywodraeth y DU i ddarparu profion coronafeirws i weithwyr allweddol, ac mae Stadiwm Dinas Caerdydd yn rhan o'r prosiect yna.
"Rydym yn gweithio gyda nhw i weld sut y gallwn ddefnyddio'r adnodd yna.
"Mae hyn yn ychwanegol i'n rhaglen o brofi gweithwyr iechyd yng Nghymru, sydd wedi bod yn rhedeg ers 18 Mawrth ac sydd eisoes wedi gweld 1,500 o brofion ar ein gweithwyr iechyd.
"Fel rhan o'n strategaeth rydym yn ceisio adnabod safleodd i gefnogi profion ar draws Cymru er mwyn sicrhau nad oes rhaid i unigolion deithio'n bell."
Dileu dyled byrddau iechyd Lloegr?
Yn y gynhadledd newyddion ddyddiol gan lywodraeth y DU, mae Gweinidog Iechyd Lloegr, Matt Hancock wedi cyhoeddi y bydd yn dileu dyledion nifer o fyrddau ac ymddiriedolaethau iechyd yn Lloegr.
Mae'r dyledion yna werth cyfanswm o £13.4bn.
Bydd hynny, meddai, yn eu cynorthwyo i frwydro yn erbyn y pandemig coronafeirws.
Dangos cefnogaeth
Fe fydd adeiladau Neuadd y Ddinas Caerdydd, Canolfan Ddinesig Abertawe a Stadiwm Principality ymhlith yr adeiladau yng Nghymru fydd yn cael eu goleuo yn las heno am 20:00 er mwyn dangos cefngoaeth a gwerthfawrogiad i weithwyr y gwasanaeth iechyd.
Mae'r diolch ar y bin!
Cyngor Bro Morgannwg
Mae trigolion Bro Morgannwg wedi bod yn diolch i staff casglu sbwriel y cyngor drwy adael negeseuon ar fagiau ailgylchu ar ddiwrnod casglu.
Dywedodd y cyngor bod gweithwyr eraill, megis athrawon a gweithwyr gofal cymdeithasol, hefyd wedi derbyn negeseuon o ddiolch, ond bod y dull o ddiolch i'r criw sbwriel wedi codi calon.
Datganiad gan y Gweinidog Iechyd, Vaughan Gething
Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Fe ddaw'r datganiad wrth i ganllawiau defnyddio offer diogelwch personol i weithwyr iechyd newid heddiw.
Mae llawer wedi mynegi pryder nad oes digon o gyfarpar ar gael i weithwyr iechyd, a hynny cyn i'r drefn newydd ddod i rym.
Bydd mwy am hyn ar hafan Cymru Fyw yn ddiweddarach.
Trydydd ysbyty dros dro y gogledd
Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
Canolfan Hamdden Glannau Dyfrdwy fydd y trydydd lleoliad ar gyfer ysbyty dros dro i drin preswylwyr Gogledd Cymru gyda symptomau COVID-19.
Bydd oddeutu 250 gwely ychwanegol ar gael i’r GIG fel rhan o’r bartneriaeth aml-asiantaeth rhwng Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, Cyngor Sir y Fflint, Hamdden a Llyfrgelloedd Aura a Chyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.
Mae’r trydydd ysbyty dros dro hwn yn dod â chyfanswm y gwelyau ar gael mewn lleoliadau ysbytai dros dro yng Ngogledd Cymru i oddeutu 850.
Bydd Venue Cymru yn Llandudno yn cael ei drawsnewid i ddal 350 gwely ychwanegol dros dro, a bydd Canolfan Brailsford Prifysgol Bangor yn darparu 250 gwely pellach.
Dros y bont am y Post Prynhawn heddiw....
BBC Radio Cymru
Beth fyddwch chi'n neud am wyth heno?
Twitter
Dangos symptomau ar ôl ei harestio
Heddlu De Cymru
Dywed Heddlu'r De fod dynes oedd wedi ei harestio ar amheuaeth o yfed a gyrru wedi gwrthod gwisgo mwgwd ar ôl dangos symptomau coronafeirws.
Cafodd y ddynes 20 oed o Rydfelin ei arestio yn Nhon-teg.
Yn ôl yr heddlu roedd hi wedi rhoi staff ac eraill mewn peryg.
Cafodd fan yr heddlu a rhan o orsaf yr heddlu eu diheintio wedi'r digwyddiad.
Cafodd y ddynes ei chyhuddo o yfed a gyrru ac o dorri rheolau teithio yn ystod yr argyfwng presennol
Y gwyddoniaeth tu ôl i COVID-19
Mae coronafeirws yn llenwi'r penawdau ar hyn o bryd. Ond faint ydych chi'n ei ddeall am y salwch, beth sy'n ei achosi a sut i'w drechu?
Mewn erthygl arbennig mae Dr Glyn Morris, Darlithydd Gwyddoniaeth Biolegol yn Queen Margaret University, Caeredin, yn ceisio egluro'r gwyddoniaeth tu ôl i'r pwnc nad oes dianc rhagddo.
'Ysbyty newydd' yn Abercyonon
Cyngor Rhondda Cynon Taf
Mae Cyngor Rhondda Cynon Taf wedi cyhoeddi y bydd rhai o adeiladau'r awdurdod yn cael eu haddasu'n ysbyty dros dro ar gyfer cleifion COVID-19.
Bydd adeilad Tŷ Trevithick, Abercynon, yn darparu 150 o wlâu ar gyfer Bwrdd Iechyd Taf Morgannwg.
Gair o ddiolch i'r Gwasanaeth Tân
Twitter
AC yn dychwelyd i fyd gofal iechyd
Mae Cadeirydd Pwyllgor Iechyd y Cynulliad, Dr Dai Lloyd, wedi gwrifoddoli i ddychwelyd i weithio yn y gwasanaeth iechyd er mwyn helpu'r ymateb i Covid-19.
Yn ôl yr AC Plaid Cymru, fe dderbyniodd ebost gan Fwrdd Iechyd Bae Abertawe ddeuddydd yn ôl, gyda chais am wirfoddolwyr i ddychwelyd i reng flaen y gwasanaeth iechyd.
Roedd Dr Dai Lloyd yn feddyg teulu llawn amser yn Abertawe cyn mynd i'r byd gwleidyddol, ac fe fu'n parhau i weithio fel meddyg am ddiwrnod yr wythnos tan fis Tachwedd y llynedd.
Mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn galw am weithwyr iechyd a gofal cymdeithasol sydd wedi ymddeol neu adael eu gwaith yn ddiweddar i ddychwelyd er mwyn helpu i daclo pandemig coronafeirws.
Ydach chi'n siŵr bod chi'n mynd i'r gwaith, Syr?!
Prif Gwnstabl Heddlu'r Gogledd yn cael syrpreis ar ei ffordd i'r gwaith y bore 'ma.
2,921 o farwolaethau Covid-19 yn y DU
Twitter
Dyma'r diweddaraf am ffigyrau'r marwolaethau o achos coronafeirws drwy Brydain:
Geifr ar garlam
Twitter
Mae hanes geifr Y Gogarth wedi teithio'n bell yr wythnos hon, ers i'r anifeiliaid ymlwybro i lawr i dref Llandudno tra fod pawb yno'n ynysu.
Gwlâu ychwanegol ar gyfer cleifion
Iechyd Cyhoeddus Cymru
gig
Dywed y gwasanaeth iechyd y bydd 6,000 o wlâu ychwanegol ar gael led led Cymru i ddelio gyda chleifion coronafeirws.
Yn ôl y gwasanaeth bydd y rhain yn cynnwys yr ysbytai 'dros dro' canlynol:
• hyd at 2,000 o wlâu yn Stadiwm Principality
• 1,300 yn Academi Chwaraeon Llandarcy yn ardal Bae Abertawe
•300 ym Mharc y Scarlets, Llanelli
•350 yn Venue Cymru, Llandudno
•350 mewn ysbyty newydd yn ardal Cwmbran