A dyna ni gan griw llif byw Cymru Fyw am heddiw ar ddiwrnod y cyhoeddwyd y bydd Eisteddfod Genedlaethol Ceredigion yn cael ei gohirio tan 2021.
Cofnodwyd 210 achos newydd o'r haint yng Nghymru a nodwyd bod 14 arall wedi marw.
Mae'r awdurdodau yn hyderus bod y cyfyngiadau yn gweithio a'r cyngor yw i aros adref.
Bydd y newyddion diweddaraf ar wefan Cymru Fyw a'r llif newyddion yn ôl bore fory.
Oes rhaid i chi adael eich cartref?
Traffig Cymru
I bawb sy'n hunan ynysu, neu ymbellhau'n gymdeithasol ac yn ansicr am yr amgylchiadau pan fydd yn dderbyniol i adael eich cartref, mae'r neges gan Traffig Cymru yn un glir:
'Angen gwarchod pobl sydd â chyflyrau iechyd difrifol'
Llywodraeth Cymru
Mae Llywodraeth Cymru yn rhybuddio bod angen diogelu pobl sydd â chyflyrau iechyd difrifol ac yn dweud mai nhw sy'n fwyaf tebygol o orfod mynd i ysbyty petaent yn cael yr haint.
Dywed Prif Ymgynghorydd Gwyddonol y DU, Syr Patrick Vallance, bod gostyngiad sylweddol wedi bod yn nifer y bobl sy'n defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus.
"Mae hyn yn dangos, meddai, "bod y mesurau newydd yn gwneud gwahaniaeth."
BBCCopyright: BBC
Marwolaethau COVID-19: Y diweddaraf mewn graff
BBCCopyright: BBC
Trefnu i Brydeinwyr ddod adre
Mae Dominic Raab yn dweud bod y Swyddfa Dramor yn gweithio bob awr i gefnogi Prydeinwyr sydd mewn gwlad dramor a bod swyddogion eisoes wedi helpu miloedd o Brydeinwyr i ddod adre.
Mae e hefyd yn cyhoeddi trefniant newydd rhwng y llywodraeth a chwmnïau awyrennau er mwyn galluogi miloedd o Brydeinwyr i ddychwelyd.
Cynhadledd llywodraeth San Steffan newydd ddechrau
Yn Llundain mae cynhadledd ddiweddaraf y llywodraeth newydd ddechrau.
Yn siarad heddiw mae'r Ysgrifennydd Tramor, Dominic Raab a phrif ymgynghorydd gwyddonol y DU Syr Patrick Vallance.
BBCCopyright: BBC
Bwrdd iechyd y gogledd yn paratoi i gynyddu capasiti
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr wedi cyhoeddi ei fod yn paratoi cynlluniau i wella capasiti i ofalu am gleifion sydd â
COVID-19.
Mae nifer y gwelyau wedi cynyddu ym mhob un o’u tri phrif ysbyty, ac fe fydd hyn "yn ein helpu i gynnig gofal dros yr wythnosau a’r
misoedd sydd i ddod ar gyfer y rheiny sydd â’r angen mwyaf" medd y bwrdd iechyd.
Mae gwaith ar y gweill hefyd i ddatblygu
ysbytai maes i ffwrdd o’n safleoedd ysbyty er mwyn cynyddu nifer y
gwelyau sydd ar gael, ac mae tri safle wedi’u nodi fel y rhai cyntaf i
gael eu datblygu’n ysbytai maes dros dro - er nad oes manylion am eu lleoliadau eto.
Dywed y bwrdd iechyd fod gwaith
adeiladu eisoes wedi dechrau er mwyn gosod 80 o welyau ychwanegol yn Ysbyty
Glan Clwyd, gan ddefnyddio mannau gwag o ganlyniad i waith ailddatblygu’r
ysbyty yn ddiweddar.
BBCCopyright: BBC
Neges gan drigolion pentref
Dyma'r arwydd sydd wedi ymddangos tu allan i bentref Angle ym Mhenfro. Fel nifer o gymunedau eraill dros y dyddiau diwethaf, mae'r bobl yno yn gofyn i ymwelwyr gadw draw am y tro o achos y pandemig coronafeirws.
BBCCopyright: BBC
Pryderon am ddiogelwch swyddfa didoli llythyron
Mae gweithwyr post yn honni bod swyddfeydd didoli llythyron yn "le a all fagu haint coronafeirws".
Mae AC Plaid Cymru, Llyr Gruffydd, wedi ysgrifennu at benaethiaid y Post Brenhinol wedi pryderon gan rai staff yng ngogledd Cymru am bobl ddim yn pellhau yn gymdeithasol.
Dywedodd Mr Gruffydd ei fod yn derbyn bod rhai swyddi yn hanfodol ond ei bod yn bwysig cadw y safonau iechyd gorau ar gyfer gweithwyr a'r cyhoedd yn gyffredinol.
Getty ImagesCopyright: Getty Images
Post Prynhawn Prysur
BBC Radio Cymru
Digon i'w drafod ar y Post Prynhawn mewn dau funud....
Mae Cymdeithas y Cyflogwyr, y CBI, wedi ymateb i gynllun Llywodraeth Cymru i gynnig cymorth i fusnesau yn ystod pandemig coronafeirws.
Daw hyn wedi i'r prif weinidog Mark Drakeford gyhoeddi yn gynharach fod ei lywodraeth wedi sefydlu cronfa argyfwng werth £500m o ganlyniad i ailflaenoriaethu cyllidebau.
Mewn datganiad, dywedodd Ian Price, Cyfarwyddwr Cymru y CBI:
"Fe fydd y gronfa argyfwng yn newyddion da i fusnesau Cymru. Yn ystod y cyfnod digynsail yma mae'n hanfodol fod busnesau - bach a mawr - yn derbyn cefnogaeth, a'i fod yn cyrraedd lle mae ei angen fwyaf, a hynny ar frys.
“Yn y cyfamser mae busnesau yn gwenud eu gorau ar ran eu gweithwyr, gan addasu yn sydyn i ganllawiau newydd a bod o gymorth i'r ymdrech genedlaethol drwy ddarparu nwyddau hanfodol a gwasanaethau.
"Yn y tymor hir, bydd cydweithio a chyfathrebu agosach rhwng busnesau, undebau, llywodraethau datganoledig a chenedlaethol yn hanfodol i sicrhau fod cymaint o fusnesau'n dod allan ar y pen arall mewn un darn unwaith fydd y pandemig wedi pasio."
Y diweddaraf ar y Post Prynhawn
BBC Radio Cymru
Cofiwch am y Post Prynhawn am 5 - bydd Garry Owen yn sôn am dafarn yng Ngheredigion a anwybyddodd fesurau coronafeirws dros y penwythnos.
Chwilio am ffyrdd o ddiddanu eich plant wrth huan ynysu neu ymbellhau? Mae'r cartwnydd ac arlunydd Huw Aaron wedi creu fideos ar Youtube sydd yn llawn syniadau ag awgrymiadau i blant eu dilyn yn ystod y cyfnod hwn.
Y diweddaraf yn fyw
Mae pob amser yn lleol i'r DU
Cyfrannu
Nos da
BBC Cymru Fyw
A dyna ni gan griw llif byw Cymru Fyw am heddiw ar ddiwrnod y cyhoeddwyd y bydd Eisteddfod Genedlaethol Ceredigion yn cael ei gohirio tan 2021.
Cofnodwyd 210 achos newydd o'r haint yng Nghymru a nodwyd bod 14 arall wedi marw.
Mae'r awdurdodau yn hyderus bod y cyfyngiadau yn gweithio a'r cyngor yw i aros adref.
Bydd y newyddion diweddaraf ar wefan Cymru Fyw a'r llif newyddion yn ôl bore fory.
Oes rhaid i chi adael eich cartref?
Traffig Cymru
I bawb sy'n hunan ynysu, neu ymbellhau'n gymdeithasol ac yn ansicr am yr amgylchiadau pan fydd yn dderbyniol i adael eich cartref, mae'r neges gan Traffig Cymru yn un glir:
Mwy o farwolaethau yn Yr Eidal
Mae nifer y rhai sydd wedi marw yn Yr Eidal bellach yn 11,591 wedi i 812 marwolaeth bellach gael eu cofnodi heddiw.
Ond roedd nifer yr achosion newydd yn is na'r hyn y mae wedi bod yn ystod y dyddiau diwethaf - y nifer heddiw oedd 1,648.
Cynghorau'n ceisio parhau gyda gwasanaethau
Twitter
'Angen gwarchod pobl sydd â chyflyrau iechyd difrifol'
Llywodraeth Cymru
Mae Llywodraeth Cymru yn rhybuddio bod angen diogelu pobl sydd â chyflyrau iechyd difrifol ac yn dweud mai nhw sy'n fwyaf tebygol o orfod mynd i ysbyty petaent yn cael yr haint.
Galwad am gymorth o Fôn
Twitter
Mae Menter Môn wedi galw am nwyddau penodol iawn yn yr ymdrech i frwydro'r pandemig coronafeirws - yn cynnwys bocsys wyau....
'Pobl ddim yn teithio'
Dywed Prif Ymgynghorydd Gwyddonol y DU, Syr Patrick Vallance, bod gostyngiad sylweddol wedi bod yn nifer y bobl sy'n defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus.
"Mae hyn yn dangos, meddai, "bod y mesurau newydd yn gwneud gwahaniaeth."
Marwolaethau COVID-19: Y diweddaraf mewn graff
Trefnu i Brydeinwyr ddod adre
Mae Dominic Raab yn dweud bod y Swyddfa Dramor yn gweithio bob awr i gefnogi Prydeinwyr sydd mewn gwlad dramor a bod swyddogion eisoes wedi helpu miloedd o Brydeinwyr i ddod adre.
Mae e hefyd yn cyhoeddi trefniant newydd rhwng y llywodraeth a chwmnïau awyrennau er mwyn galluogi miloedd o Brydeinwyr i ddychwelyd.
Cynhadledd llywodraeth San Steffan newydd ddechrau
Yn Llundain mae cynhadledd ddiweddaraf y llywodraeth newydd ddechrau.
Yn siarad heddiw mae'r Ysgrifennydd Tramor, Dominic Raab a phrif ymgynghorydd gwyddonol y DU Syr Patrick Vallance.
Bwrdd iechyd y gogledd yn paratoi i gynyddu capasiti
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr wedi cyhoeddi ei fod yn paratoi cynlluniau i wella capasiti i ofalu am gleifion sydd â COVID-19.
Mae nifer y gwelyau wedi cynyddu ym mhob un o’u tri phrif ysbyty, ac fe fydd hyn "yn ein helpu i gynnig gofal dros yr wythnosau a’r misoedd sydd i ddod ar gyfer y rheiny sydd â’r angen mwyaf" medd y bwrdd iechyd.
Mae gwaith ar y gweill hefyd i ddatblygu ysbytai maes i ffwrdd o’n safleoedd ysbyty er mwyn cynyddu nifer y gwelyau sydd ar gael, ac mae tri safle wedi’u nodi fel y rhai cyntaf i gael eu datblygu’n ysbytai maes dros dro - er nad oes manylion am eu lleoliadau eto.
Dywed y bwrdd iechyd fod gwaith adeiladu eisoes wedi dechrau er mwyn gosod 80 o welyau ychwanegol yn Ysbyty Glan Clwyd, gan ddefnyddio mannau gwag o ganlyniad i waith ailddatblygu’r ysbyty yn ddiweddar.
Neges gan drigolion pentref
Dyma'r arwydd sydd wedi ymddangos tu allan i bentref Angle ym Mhenfro. Fel nifer o gymunedau eraill dros y dyddiau diwethaf, mae'r bobl yno yn gofyn i ymwelwyr gadw draw am y tro o achos y pandemig coronafeirws.
Pryderon am ddiogelwch swyddfa didoli llythyron
Mae gweithwyr post yn honni bod swyddfeydd didoli llythyron yn "le a all fagu haint coronafeirws".
Mae AC Plaid Cymru, Llyr Gruffydd, wedi ysgrifennu at benaethiaid y Post Brenhinol wedi pryderon gan rai staff yng ngogledd Cymru am bobl ddim yn pellhau yn gymdeithasol.
Dywedodd Mr Gruffydd ei fod yn derbyn bod rhai swyddi yn hanfodol ond ei bod yn bwysig cadw y safonau iechyd gorau ar gyfer gweithwyr a'r cyhoedd yn gyffredinol.
Post Prynhawn Prysur
BBC Radio Cymru
Digon i'w drafod ar y Post Prynhawn mewn dau funud....
Y CBI yn ymateb i gronfa argyfwng y llywodraeth
Mae Cymdeithas y Cyflogwyr, y CBI, wedi ymateb i gynllun Llywodraeth Cymru i gynnig cymorth i fusnesau yn ystod pandemig coronafeirws.
Daw hyn wedi i'r prif weinidog Mark Drakeford gyhoeddi yn gynharach fod ei lywodraeth wedi sefydlu cronfa argyfwng werth £500m o ganlyniad i ailflaenoriaethu cyllidebau.
Mewn datganiad, dywedodd Ian Price, Cyfarwyddwr Cymru y CBI:
"Fe fydd y gronfa argyfwng yn newyddion da i fusnesau Cymru. Yn ystod y cyfnod digynsail yma mae'n hanfodol fod busnesau - bach a mawr - yn derbyn cefnogaeth, a'i fod yn cyrraedd lle mae ei angen fwyaf, a hynny ar frys.
“Yn y cyfamser mae busnesau yn gwenud eu gorau ar ran eu gweithwyr, gan addasu yn sydyn i ganllawiau newydd a bod o gymorth i'r ymdrech genedlaethol drwy ddarparu nwyddau hanfodol a gwasanaethau.
"Yn y tymor hir, bydd cydweithio a chyfathrebu agosach rhwng busnesau, undebau, llywodraethau datganoledig a chenedlaethol yn hanfodol i sicrhau fod cymaint o fusnesau'n dod allan ar y pen arall mewn un darn unwaith fydd y pandemig wedi pasio."
Y diweddaraf ar y Post Prynhawn
BBC Radio Cymru
Cofiwch am y Post Prynhawn am 5 - bydd Garry Owen yn sôn am dafarn yng Ngheredigion a anwybyddodd fesurau coronafeirws dros y penwythnos.
Cerydd i Aelod Seneddol
Mae AS Llafur Aberafan, Stephen Kinnock, wedi ei geryddu'n gyhoeddus gan yr heddlu am ymweld â'i dad ddoe ar ddiwrnod ei ben-blwydd.
Fe wnaeth Mr Kinnock drydar llun ohono fe'i hun yn eistedd y tu allan i gartref ei rieni yn Llundain.
Yn ôl yr heddlu doedd y daith ddim yn un angenrheidiol.
Celf i ddiddanu plant
Chwilio am ffyrdd o ddiddanu eich plant wrth huan ynysu neu ymbellhau? Mae'r cartwnydd ac arlunydd Huw Aaron wedi creu fideos ar Youtube sydd yn llawn syniadau ag awgrymiadau i blant eu dilyn yn ystod y cyfnod hwn.
'Dim blodau ar feddau ar Sul y Blodau'
Twitter
Mae dydd Sul nesaf yn Sul y Blodau ond y cyfarwyddyd yw peidio mynd â blodau ar fedd anwyliaid.
Achosion newydd COVID-19: Y darlun diweddaraf