A dyna'r ni'r diweddaraf am haint coronafeirws ar ddydd Iau, 26 Mawrth, ar ddiwrnod y bu chwech marwolaeth arall yng Nghymru a 113 o achosion newydd.
Yn hwyr prynhawn yma fe wnaeth y Canghellor Rishi Sunak, ddweud y gall pobl hunangyflogedig sy'n wynebu problemau ariannol gael hyd at 80% o'u cyflog misol gan y llywodraeth.
Bydd y swm yn cael ei gyfrifo drwy ddefnyddio cyfartaledd elw misol yn ystod y tair blynedd ddiwethaf.
Fydd dim modd cael mwy na £2,500 y mis ac i ddechrau fe fydd y cymorth ar gael am dri mis.
Hefyd heddiw pwerau newydd wedi'u cyflwyno yng Nghymru.
Tan bore fory gan dîm llif newyddion Cymru Fyw - nos da.
Cofiwch bydd y straeon diweddara i'w gweld ar wefan Cymru Fyw.
Pwerau newydd yn dod i rym yng Nghymru
Llywodraeth Cymru
Mae'r Prif Weinidog,
Mark Drakeford, wedi cadarnhau bod pwerau newydd i helpu i leihau lledaeniad
y coronafeirws, diogelu'r GIG ac achub bywydau wedi dod i rym.
Mae'r Prif
Weinidog wedi gwneud rheoliadau newydd ym maes iechyd y cyhoedd yn rhan o’r
gyfraith i gryfhau pwerau gorfodi'r heddlu yng Nghymru.
Dim ond at y
dibenion cyfyngedig iawn canlynol y caniateir i unigolion adael eu cartref:
Siopa
am nwydau angenrheidiol a chyflenwadau sylfaenol, a hynny mor anaml â
phosibl;
Un
ffurf o ymarfer bob dydd - er enghraifft, rhedeg, cerdded neu feicio -
ar ei ben ei hun neu gydag aelodau o'u haelwyd;
Unrhyw
angen meddygol, i ddarparu gofal neu i helpu person sy'n agored i niwed;
Teithio
i'r gwaith ac oddi yno, ond dim ond pan nad yw’n rhesymol ymarferol
iddynt weithio gartref.
Dylai pobl
aros o leiaf 2m oddi wrth ei gilydd bob amser.
Hefyd, ni
chaniateir cymryd rhan mewn cynulliadau o fwy na dau o bobl mewn mannau
cyhoeddus ac eithrio mewn amgylchiadau prin iawn, er enghraifft, at ddibenion
gwaith hanfodol. Bydd gan yr heddlu bwerau i orfodi hyn.
Os na fydd
pobl yn cydymffurfio â'r cyfreithiau newydd hyn:
Gellir
eu cyfarwyddo i ddychwelyd adref neu eu symud o le y maent a'u dychwelyd
adref
Efallai
y bydd yn rhaid iddynt dalu hysbysiad cosb benodedig o £30. Os na chaiff
hwn ei dalu o fewn 14 diwrnod, bydd yn dyblu i £60, ac os cânt ail hysbysiad
neu rybudd dilynol, bydd y tâl yn £120
Gallai
unigolion nad ydynt yn talu hysbysiad cosb benodedig o dan y rheoliadau orfod
mynd i’r llys, gydag ynadon yn gallu gorfodi dirwyon diderfyn.
Os bydd
unigolyn yn parhau i wrthod cydymffurfio, bydd yn gweithredu'n
anghyfreithlon, a gall yr heddlu eu harestio. Er hynny, yn y lle cyntaf bydd
yr heddlu bob amser yn defnyddio eu synnwyr cyffredin a'u disgresiwn.
Ffigyrau diweddaraf y DU
Mae nifer y marwolaethau ym Mhrydain bellach yn 578, yn ôl Adran Iechyd Llywodraeth y DU.
Mae nifer y rhai sydd wedi cael prawf positif yn 11,658.
Am 20:00 heno mae yna anogaeth ar i bobl ar draws Prydain glapio fel arwydd o gymeradwyaeth i staff y GIG am eu gwaith - gall hynny fod ar drothwyr'r drws, yn yr ardd neu'r stafell ffrynt.
Mae'r ffigyrau diweddaraf yn dangos bod gan yr ardal yr nifer uchaf o achosion yng Nghymru - 358.
Plaid CymruCopyright: Plaid Cymru
Diolch i'r gwirfoddolwyr
Heddiw,
fe wnaeth y Dirprwy Weinidog a’r Prif Chwip, Jane Hutt ddiolch i’r bobl wych
a charedig o bob cefndir ac ym mhob cwr o Gymru sy’n gwirfoddoli i helpu
cymunedau i wynebu’r coronavfeirws gyda’i gilydd.
“Mae gan Gymru draddodiad cadarn o weld pobl yn helpu ei
gilydd, ac rydyn ni wedi gweld hyn ar waith dros yr ychydig wythnosau
diwethaf.
"O godi’r ffôn i siopa dros bobl sy’n hunanynysu, neu helpu ein
gwasanaethau cyhoeddus, mae llawer o bethau y gellir eu gwneud.
“Rwy’ am ddweud diolch – rydych chi’n anhygoel.
“Os ydych chi am wirfoddoli, mae’n bwysig gofalu eich bod yn
ddiogel eich hun. Dilynwch y cyngor isod, a byddwch yn ofalus.”
Gwirfoddolwyr yn Llangefni yn gweithio'n galed i ateb y galw cynyddolImage caption: Gwirfoddolwyr yn Llangefni yn gweithio'n galed i ateb y galw cynyddol
Cymorth i bobl hunangyflogedig
Mae'r Canghellor Rishi Sunak, wedi dweud y gall pobl hunangyflogedig sy'n wynebu problemau ariannol gael hyd at 80% o'u cyflog misol gan y llywodraeth.
Bydd y swm yn cael ei gyfrifo drwy ddefnyddio cyfartaledd elw misol yn ystod y tair blynedd ddiwethaf.
Fydd dim modd cael mwy na £2,500 y mis ac i ddechrau fe fydd y cymorth ar gael am dri mis.
Mwy am grantiau'r Llywodraeth
Prynhawn Iau, fe gyhoeddodd Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru, Ken Skates, y bydd busnesau’n dechrau derbyn eu grantiau coronafeirws argyfwng ganol wythnos nesaf.
"Bydd
busnesau’n dechrau derbyn eu grantiau coronafeirws argyfwng ganol wythnos
nesaf," medd Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru, Ken Skates.
Mae
Llywodraeth Cymru’n datblygu pecyn arall o gymorth i helpu busnesau i ddelio
ag effaith y feirws - caiff y manylion hynny eu cyhoeddi ddydd Llun.
Yr wythnos
ddiwethaf, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru becyn o £1.4bn o gymorth i fusnesau
Cymru.
Bydd pob
busnes adwerthu, hamdden a lletygarwch yng Nghymru sydd ag eiddo â gwerth
ardrethol o rhwng £12,001 a £51,000 yn cael grant o £25,000.
Mae hyn yn
golygu y bydd rhyw 8,500 o siopau, bwytai, caffis, barau, tafarndai, sinemâu,
mannau cynnal cerddoriaeth fyw, gwestai, tai llety a phreswyl a llety
hunanddarpar yn cael grant.
Bydd grant o
£10,000 ar gael i’r 63,500 o fusnesau eraill yng Nghymru sy’n gymwys am y
rhyddhad ardrethi i fusnesau bach ac sydd â gwerth ardrethol o £12,000 neu
lai.
Yr awdurdodau
lleol fydd yn dosbarthu’r grantiau hyn i fusnesau ar ran Llywodraeth Cymru.
Plismyn ar batrôl
Heddlu Gogledd Cymru
Mae nifer o swyddogion yr heddlu allan mewn cymunedau ac maent yn pwysleisio mai'r neges yw aros adref.
Y diweddaraf yn fyw
Mae pob amser yn lleol i'r DU
Cyfrannu
Nos da
BBC Cymru Fyw
A dyna'r ni'r diweddaraf am haint coronafeirws ar ddydd Iau, 26 Mawrth, ar ddiwrnod y bu chwech marwolaeth arall yng Nghymru a 113 o achosion newydd.
Yn hwyr prynhawn yma fe wnaeth y Canghellor Rishi Sunak, ddweud y gall pobl hunangyflogedig sy'n wynebu problemau ariannol gael hyd at 80% o'u cyflog misol gan y llywodraeth.
Bydd y swm yn cael ei gyfrifo drwy ddefnyddio cyfartaledd elw misol yn ystod y tair blynedd ddiwethaf.
Fydd dim modd cael mwy na £2,500 y mis ac i ddechrau fe fydd y cymorth ar gael am dri mis.
Hefyd heddiw pwerau newydd wedi'u cyflwyno yng Nghymru.
Tan bore fory gan dîm llif newyddion Cymru Fyw - nos da.
Cofiwch bydd y straeon diweddara i'w gweld ar wefan Cymru Fyw.
Pwerau newydd yn dod i rym yng Nghymru
Llywodraeth Cymru
Mae'r Prif Weinidog, Mark Drakeford, wedi cadarnhau bod pwerau newydd i helpu i leihau lledaeniad y coronafeirws, diogelu'r GIG ac achub bywydau wedi dod i rym.
Mae'r Prif Weinidog wedi gwneud rheoliadau newydd ym maes iechyd y cyhoedd yn rhan o’r gyfraith i gryfhau pwerau gorfodi'r heddlu yng Nghymru.
Dim ond at y dibenion cyfyngedig iawn canlynol y caniateir i unigolion adael eu cartref:
Dylai pobl aros o leiaf 2m oddi wrth ei gilydd bob amser.
Hefyd, ni chaniateir cymryd rhan mewn cynulliadau o fwy na dau o bobl mewn mannau cyhoeddus ac eithrio mewn amgylchiadau prin iawn, er enghraifft, at ddibenion gwaith hanfodol. Bydd gan yr heddlu bwerau i orfodi hyn.
Os na fydd pobl yn cydymffurfio â'r cyfreithiau newydd hyn:
Gallai unigolion nad ydynt yn talu hysbysiad cosb benodedig o dan y rheoliadau orfod mynd i’r llys, gydag ynadon yn gallu gorfodi dirwyon diderfyn.
Os bydd unigolyn yn parhau i wrthod cydymffurfio, bydd yn gweithredu'n anghyfreithlon, a gall yr heddlu eu harestio. Er hynny, yn y lle cyntaf bydd yr heddlu bob amser yn defnyddio eu synnwyr cyffredin a'u disgresiwn.
Ffigyrau diweddaraf y DU
Mae nifer y marwolaethau ym Mhrydain bellach yn 578, yn ôl Adran Iechyd Llywodraeth y DU.
Mae nifer y rhai sydd wedi cael prawf positif yn 11,658.
Trafnidiaeth Cymru'n apelio ar bawb...
Twitter
662 arall wedi marw yn Yr Eidal
Mae'r ffigyrau diweddaraf yn Yr Eidal yn dangos fod 662 wedi marw yn ystod y 24 awr ddiwethaf.
Mae nifer y meirw bellach yn 8,165 ac mae 80,539 o achosion o Covid-19 wedi'u cadarnhau yn y wlad.
Cyngor i athrawon newydd
Llywodraeth Cymru
Clap i staff y GIG
Twitter
Am 20:00 heno mae yna anogaeth ar i bobl ar draws Prydain glapio fel arwydd o gymeradwyaeth i staff y GIG am eu gwaith - gall hynny fod ar drothwyr'r drws, yn yr ardd neu'r stafell ffrynt.
AC yn erfyn ar etholwyr i aros adre
Mae AC Dwyrain De Cymru, Delyth Jewell, wedi erfyn ar etholwyr i wrando ar y cyngor swyddogol i aros adre a "phellhau yn gymdeithasol".
Daw ei sylwadau wedi i gyfarwyddwr iechyd y cyhoedd ym Mwrdd Iechyd Aneurin Bevan rybuddio bod "yr ardal yn gweld yr un patrwm ag a welwyd yn Yr Eidal".
Mae'r ffigyrau diweddaraf yn dangos bod gan yr ardal yr nifer uchaf o achosion yng Nghymru - 358.
Diolch i'r gwirfoddolwyr
Heddiw, fe wnaeth y Dirprwy Weinidog a’r Prif Chwip, Jane Hutt ddiolch i’r bobl wych a charedig o bob cefndir ac ym mhob cwr o Gymru sy’n gwirfoddoli i helpu cymunedau i wynebu’r coronavfeirws gyda’i gilydd.
“Mae gan Gymru draddodiad cadarn o weld pobl yn helpu ei gilydd, ac rydyn ni wedi gweld hyn ar waith dros yr ychydig wythnosau diwethaf.
"O godi’r ffôn i siopa dros bobl sy’n hunanynysu, neu helpu ein gwasanaethau cyhoeddus, mae llawer o bethau y gellir eu gwneud.
“Rwy’ am ddweud diolch – rydych chi’n anhygoel.
“Os ydych chi am wirfoddoli, mae’n bwysig gofalu eich bod yn ddiogel eich hun. Dilynwch y cyngor isod, a byddwch yn ofalus.”
Ceir rhagor o gymorth a chyngor ar http://llyw.cymru/iachadiogel
Cymorth i bobl hunangyflogedig
Mae'r Canghellor Rishi Sunak, wedi dweud y gall pobl hunangyflogedig sy'n wynebu problemau ariannol gael hyd at 80% o'u cyflog misol gan y llywodraeth.
Bydd y swm yn cael ei gyfrifo drwy ddefnyddio cyfartaledd elw misol yn ystod y tair blynedd ddiwethaf.
Fydd dim modd cael mwy na £2,500 y mis ac i ddechrau fe fydd y cymorth ar gael am dri mis.
Mwy am grantiau'r Llywodraeth
Prynhawn Iau, fe gyhoeddodd Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru, Ken Skates, y bydd busnesau’n dechrau derbyn eu grantiau coronafeirws argyfwng ganol wythnos nesaf.
Mae mwy o fanylion isod.
Y Tour heb gefnogwyr?
BBC Radio Cymru
Mae Adran Chwaraeon Radio Cymru wedi cael ar ddeall fod yna ystyriaethau i gynnal y Tour de France heb gefnogwyr.
Y diweddaraf am arholiadau'r haf
Cyngor pellach i ddisgyblion oedd fod i wneud arholiadau allanol yn ystod yr haf.
Yr wythnos ddiwethaf cyhoeddodd y Gweinidog Addysg, Kirsty Williams, na fyddai'r arholiadau yn cael eu cynnal yn ystod haf 2020.
Grantiau ar eu ffordd
Llywodraeth Cymru
"Bydd busnesau’n dechrau derbyn eu grantiau coronafeirws argyfwng ganol wythnos nesaf," medd Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru, Ken Skates.
Mae Llywodraeth Cymru’n datblygu pecyn arall o gymorth i helpu busnesau i ddelio ag effaith y feirws - caiff y manylion hynny eu cyhoeddi ddydd Llun.
Yr wythnos ddiwethaf, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru becyn o £1.4bn o gymorth i fusnesau Cymru.
Bydd pob busnes adwerthu, hamdden a lletygarwch yng Nghymru sydd ag eiddo â gwerth ardrethol o rhwng £12,001 a £51,000 yn cael grant o £25,000.
Mae hyn yn golygu y bydd rhyw 8,500 o siopau, bwytai, caffis, barau, tafarndai, sinemâu, mannau cynnal cerddoriaeth fyw, gwestai, tai llety a phreswyl a llety hunanddarpar yn cael grant.
Bydd grant o £10,000 ar gael i’r 63,500 o fusnesau eraill yng Nghymru sy’n gymwys am y rhyddhad ardrethi i fusnesau bach ac sydd â gwerth ardrethol o £12,000 neu lai.
Yr awdurdodau lleol fydd yn dosbarthu’r grantiau hyn i fusnesau ar ran Llywodraeth Cymru.
Plismyn ar batrôl
Heddlu Gogledd Cymru
Mae nifer o swyddogion yr heddlu allan mewn cymunedau ac maent yn pwysleisio mai'r neges yw aros adref.
Cau mynwentydd
Mae mynwentydd yng Nghasnewydd a Chaerffili wedi cau oherwydd haint coronafeirws.
Dyw gofalu am feddau a chofebau ddim yn cael ei ystyried yn waith hanfodol, dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Casnewydd mewn datganiad.
Bydd staff y cyngor yn parhau i wneud gwaith cynnal a chadw yn y mynwentydd.
Syniadau i Eglwysi ar gyfer dydd Sul
Yr wythnos ddiwethaf fe wnaeth nifer o gapeli ddarlledu gwasanaethau ar y we am y tro cyntaf - dyma rai syniadau ar gyfer yr wythnosau sydd i ddod.
Angen talu treth y cyngor?
Cyngor Ynys Môn
Dyma ganllaw un cyngor sir ar sut mae talu treth y cyngor yn ystod y misoedd nesaf.
Profion coronafeirws ar goll
Mae teulu wedi bod yn siarad am eu pryder a siom wedi iddi ddod i'r amlwg fod profion coronafeirws wedi mynd ar goll.
Dywedodd Jocelyn Fleet fod ei chwaer-yng-nghyfraith o'r Coed Duon wedi bod yn teimlo'n sâl a bod ganddi gyflwr COPD ar ei hysgyfaint.
Cafodd brawf 'swab' yn Ysbyty Brenhinol Gwent bythefnos yn ôl, ond cafodd alwad ffôn heddiw i ddweud fod y prawf wedi mynd ar goll.
Dywedodd Ms Fleet fod y teulu'n bryderus iawn ac yn teimlo wedi eu gadael i lawr.
Cau maes parcio...go iawn
Er gwaethaf ymdrechion i gau maes parcio Llyn Tegid yn gynharach yn yr wythnos, mae'n ymddangos bod rhai yn dal wedi ceisio mynd i mewn.
Mae contractwyr felly wedi bod yno heddiw yn gosod rhwystrau cadarnach ar fynediad y safle!