Dyna'r cyfan o'r llif byw am heddiw - diolch am ddarllen.
Gallwch weld beth fydd gan Boris Johnson i'w ddweud yn nes ymlaen heno ar hafan Cymru Fyw, ac mae diswyl cyhoeddiad wedi hynny gan brif weinidog Cymru, Mark Drakeford.
Fe fyddwn ni'n dychwelyd gyda llif byw arall bore fory gan ddechrau tua 08:15. Ymunwch gyda ni bryd hynny, ond hwyl fawr am y tro.
Boris Johnson i annerch y DU
Bydd prif weinidog y DU, Boris Johnson yn gwneud anerchiad ar y teledu heno am 20:30.
Fe fydd yn cyhoeddi mesurau pellach i ddelio gyda coronafeirws.
Bydd ei ddatganiad yn cael ei ddarledu ar BBC1 a rhwydweithiau eraill.
Post Cyntaf yfory
Post Cyntaf
BBC Radio Cymru
Gallwch ffonio'r Post Cyntaf bore fory rhwng 08:30 a 9 gyda'ch cwestiynau am coronafeirws.
Y cyfrifydd Huw Roberts fydd yn ateb
cwestiynnau gan bobl busnes a phobl hunan gyflogerdig, gyda'r Dr Dai Lloyd yn
dychwelyd eto i ateb cwestiynau meddygol.
Bydd manylion llawn ar ein llif byw ni bore fory.
Anhygoel!
Twitter
Adroddiadau bod ymwelwyr wedi bod yn dwyn nwyddau hylendid a thermometrau o ysbyty yn ardal Castell-nedd.
Cwpl wedi'u 'gadael yn y wlad waethaf am Covid-19'
BBC Wales News
Mae cwpl o Gymru wedi cyhuddo cwmni mordeithiau o'u gadael yn "y wlad waethaf yn y byd o ran coronafeirws".
Doedd teithwyr ar y Costa Pacifica ddim yn gallu gadael y llong yr wythnos ddiwethaf ar ôl i Ffrainc wahardd mynediad i'r wlad i unrhyw deithiwr sydd ddim yn Ffrancwyr.
Mae'r Eidal wedi cael mwy o farwolaethau nac unrhyw wlad arall yn sgil coronafeirws, gyda 4,827 wedi marw yno hyd yn hyn.
BBCCopyright: BBC
Cau meysydd chwarae Ceredigion
Cyngor Ceredigion
Ceredigion yw'r sir diweddaraf i gau ei holl gaeau chwarae. Daeth datganiad sy'n dweud:
"Nid yw hyn wedi bod yn benderfyniad hawdd gan eu
bod yn lefydd i bawb eu mwynhau. Er hyn, mae’n debyg eich bod wedi sylwi bod
pobl yn parhau i ymgynnull mewn parciau chwarae ac ardaloedd cymunedol.
"Mae’n
rhaid i ni ddiogelu ein cymunedau ag ymdrechu i sicrhau bod pobl yn cadw draw o
leoedd lle gallant ddod at ei gilydd, yn enwedig plant a phobl ifanc sydd ddim
yn mynychu’r ysgol ar hyn o bryd.
"Mae’r cyngor yn ei gwneud hi’n ofynnol i bob
perchennog/rheolwr maes chwarae yng Ngheredigion sicrhau bod y gymuned yn cadw
o’r lle chwarae."
Prif weithredwr URC yn aros
Undeb Rygbi Cymru
Mae prif weithredwr Undeb Rygbi Cymru wedi cytuno i aros yn ei swydd am y dyfodol rhagweladwy.
Roedd Martyn Phillips wedi cyhoeddi ei fwriad i adael y swydd yn yr haf wedi pum mlynedd wrth y llyw, ond mae'r pandemig coronafeirws wedi arwain at ailfeddwl am y tro.
Mae'r Prif Weinidog, Mark Drakeford wedi cyhoeddi mesurau newydd i arafu gwasgariad coronafeirws yng Nghymru.
Bydd parciau carafan, meysydd gwersylla a lleoliadau eraill i dwristiaid yn cael eu cau o heddiw ymlaen.
Roedd nifer o gwynion dros y penwythnos wrth i dorfeydd mawr o ymwelwyr gael eu gweld mewn nifer o leoliadau ar draws y wlad, er y cyngor i deithio pan fo'n angenrheidiol yn unig.
Ychwanegodd Mr Drakeford bod awdurdodau lleol yn sicrhau bod tafarndai ynghau ledled Cymru yn dilyn adroddiadau bod rhai yn parhau ar agor er y canllawiau i beidio â gwneud hynny.
Dywedodd Mr Drakeford bod unrhyw dafarndai sydd ar agor yn wynebu colli eu trwydded.
Getty ImagesCopyright: Getty Images
Yr Urdd yn gofyn i'r llywodraeth am gymorth ariannol
Mae cadeirydd Urdd Gobaith Cymru wedi cadarnhau bod y mudiad mewn trafodaethau gyda Llywodraeth Cymru er mwyn cael cymorth ariannol.
Daw hyn wedi i'r Urdd orfod cau eu gwersylloedd a chanslo'r Eisteddfod Genedlaethol yn sgil argyfwng coronafeirws
Yn ôl Dyfrig Davies, sydd hefyd yn un o ymddiriedolwyr yr Urdd ,"amddiffyn a diogelu'r mudiad yw'r pwyslais ar gyfer y dyfodol a hefyd ein gweithlu".
Aeth Mr Davies yn ei flaen i fynnu "y bydd yr Urdd yn para" ac y bydd yma i ddathlu'r canmlwydiant yn 2022.
Ychwanegodd bod "gan y mudiad adnoddau wrth gefn am gyfnod byr - ond y bydd angen cymorth".
BBCCopyright: BBC
Mae Dyfrig Davies wedi bod yn gadeirydd ar yr Urdd ers 2017Image caption: Mae Dyfrig Davies wedi bod yn gadeirydd ar yr Urdd ers 2017
Parciau a meysydd chwarae Powys i gau
Cyngor Powys
Bydd meysydd chwarae a pharciau Cyngor Powys yn cau heddiw er mwyn "atgyfnerthu rheolau cadw pellter cymdeithasol ac i osgoi
lledaenu Covid-19".
"Mae Powys, a chynghorau eraill ar draws Cymru
wedi cymryd y penderfyniad – er budd iechyd y cyhoedd – i gau’r meysydd chwarae
caeedig i blant a pharciau gwledig o dan ei reolaeth, o ddydd Llun 23 Mawrth
tan i chi glywed ymhellach," meddai'r cyngor mewn datganiad.
"Mae’n annog cynghorau tref a chymuned y sir i
wneud yr un fath.
"Bydd y 58 o feysydd chwarae a pharciau dan
reolaeth y cyngor yn cael eu cloi a’u diogelu o heddiw ymlaen – gan godi arwyddion – tan fydd y sefyllfa’n newid."
Mae pobl yn dal i gyrraedd
Twitter
Er fod Parc Cenedlaethol Eryri wrthi'n cau meysydd parcio ger llawer o safleoedd pwysig heddiw, mae Tîm Achub Mynydd Dyffryn Ogwen wedi cael eu galw allan i gynorthwyo person oedd wedi dod i fynydd Tryfan o Birmingham.
Mae Aelod Seneddol Dyffryn Clwyd, James Davies wedi cyhoeddi y bydd yn dychwelyd i'w hen swydd fel doctor yn ystod argyfwng coronafeirws.
Mae Dr Davies wedi bod yn feddyg cymwys ers 16 mlynedd, a bydd yn ailymuno â'r gwasanaeth iechyd dros doriad y Pasg.
"Mae staff ein GIG yn gwneud gwaith anhygoel yn ystod y cyfnodau heriol yma ac rwy'n cymeradwyo pob un ohonyn nhw," meddai'r AS Ceidwadol.
"Er hynny, mae'r system am gael ei ymestyn fwyfwy ac rwy'n teimlo dyletswydd i helpu. Fe fydda i felly yn dychwelyd i roi cymorth ble'n bosib."
Getty ImagesCopyright: Getty Images
Logo newydd S4C yn annog ymbellhau
S4C
Mae S4C - neu S 4 C bellach - wedi dylunio logo newydd gyda bylchau mwy rhwng y llythrennau er mwyn annog y cyhoedd i ymbellhau eu hunain yn gymdeithasol a chadw o leiaf dau fetr i ffwrdd o'i gilydd!
Parc Cenedlaethol Eryri yn cymryd camau i atal ymwelwyr
Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri
Mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri wedi cadarnhau eu bod yn cymryd camau er mwyn atal ymwelwyr i'r ardal "yn dilyn y penwythnos prysuraf ers cyn cof o ran ymwelwyr".
Dywedon nhw y bydd eu prif feysydd parcio yn cau a'u bod yn "ymchwilio i bwerau i gau’r mynyddoedd a’r safleoedd mwyaf poblogaidd os bydd y sefyllfa‘n parhau".
"Rydym yn annog ymwelwyr sy’n bwriadu dod i ddringo’r Wyddfa neu unrhyw gopa poblogaidd arall i aros adref ac ymarfer yn eu hardal leol," meddai'r awdurdod mewn datganiad.
Dywedodd prif weithredwr yr awdurdod, Emyr Williams: "Roedd y tyrfaoedd a welsom ar Yr Wyddfa ac mewn safleoedd penodol yn Eryri dros y penwythnos yn ddychrynllyd, a daeth yn amlwg nad oedd pobl yn derbyn cyngor y llywodraeth i osgoi teithio yn ddiangen na chynnal pellter cymdeithasol diogel.
"Mae’n rhaid i ni felly ymateb yn gyflym er mwyn bod y mater yn cael ei ddatrys."
BBCCopyright: BBC
Newydd dorriDim Sioe Fawr eleni
Sioe Frenhinol Cymru
Mewn datganiad, mae Cymdeithas Sioe Frenhinol Cymru wedi cyhoeddi na fydd y sioe'n cael ei chynnal eleni.
"Gyda gofid mawr, oherwydd y
sefyllfa sy’n gwaethygu mewn perthynas â Coronafeirws (Covid-19), y mae
Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru wedi cyhoeddi heddiw, ar ôl ystyried
canllawiau diweddaraf y Llywodraeth ac Iechyd Cyhoeddus yn ofalus, fod Sioe Frenhinol
Cymru 2020 wedi’i chanslo."
Pen y Pass nawr ar gau
Maes parcio Pen y Pass yw'r diweddaraf i gael ei gau er mwyn atal ymwelwyr.
BBCCopyright: BBC
Prif Gwnstabl yn galw am newid ymddygiad
Twitter
Mae Prif Gwnstabl Heddlu Gogledd Cymru wedi ymuno yn y galwadau ar bobl i aros adre.
Dywedodd fod llawer gormod o bobl mewn lleoliadau ar draws y gogledd dros y penwythnos, a bod angen gwneud mwy i warchod y gwasanaeth iechyd a phobl eraill.
Mae dynes wedi cwyno wrth Glwb Pêl-droed Bangor wedi iddi weld chwaraewyr y clwb yn ymarfer ar gae yn Y Felinheli.
Dywedodd Elenid Ifans fod y chwaraewyr wedi chwerthin ar ei phen ar ôl iddi esbonio eu bod yn anwybyddu cyngor ar ymbellhau cymdeithasol.
Mae hi o’r farn fod y chwaraewyr yn ymarfer yn y pentre’ ar ôl iddyn nhw gael eu hatal rhag chwarae ar gaeau hyfforddi 3G y clwb ychydig filltiroedd i ffwrdd.
Dywedodd fod y chwaraewyr, oedd yn cerdded o amgylch y pentref fel un criw, yn gosod esiampl wael i blant yn wyneb y cyngor presennol.
Mae BBC Cymru wedi gofyn i Glwb Pêl-droed Bangor am ymateb.
Elenid IfansCopyright: Elenid Ifans
Gohirio pêl-droed yn Sbaen
Bydd y newyddion wrth gwrs yn effeithio ar brif sgoriwr Cymru, Gareth Bale - sy'n chwarae i Real Madrid.
Y diweddaraf yn fyw
Mae pob amser yn lleol i'r DU
Cyfrannu
Hwyl am y tro
BBC Cymru Fyw
Dyna'r cyfan o'r llif byw am heddiw - diolch am ddarllen.
Gallwch weld beth fydd gan Boris Johnson i'w ddweud yn nes ymlaen heno ar hafan Cymru Fyw, ac mae diswyl cyhoeddiad wedi hynny gan brif weinidog Cymru, Mark Drakeford.
Fe fyddwn ni'n dychwelyd gyda llif byw arall bore fory gan ddechrau tua 08:15. Ymunwch gyda ni bryd hynny, ond hwyl fawr am y tro.
Boris Johnson i annerch y DU
Bydd prif weinidog y DU, Boris Johnson yn gwneud anerchiad ar y teledu heno am 20:30.
Fe fydd yn cyhoeddi mesurau pellach i ddelio gyda coronafeirws.
Bydd ei ddatganiad yn cael ei ddarledu ar BBC1 a rhwydweithiau eraill.
Post Cyntaf yfory
Post Cyntaf
BBC Radio Cymru
Gallwch ffonio'r Post Cyntaf bore fory rhwng 08:30 a 9 gyda'ch cwestiynau am coronafeirws.
Y cyfrifydd Huw Roberts fydd yn ateb cwestiynnau gan bobl busnes a phobl hunan gyflogerdig, gyda'r Dr Dai Lloyd yn dychwelyd eto i ateb cwestiynau meddygol.
Bydd manylion llawn ar ein llif byw ni bore fory.
Anhygoel!
Twitter
Adroddiadau bod ymwelwyr wedi bod yn dwyn nwyddau hylendid a thermometrau o ysbyty yn ardal Castell-nedd.
Cwpl wedi'u 'gadael yn y wlad waethaf am Covid-19'
BBC Wales News
Mae cwpl o Gymru wedi cyhuddo cwmni mordeithiau o'u gadael yn "y wlad waethaf yn y byd o ran coronafeirws".
Doedd teithwyr ar y Costa Pacifica ddim yn gallu gadael y llong yr wythnos ddiwethaf ar ôl i Ffrainc wahardd mynediad i'r wlad i unrhyw deithiwr sydd ddim yn Ffrancwyr.
Llwyddodd Julia a David Hann o Gaerdydd i adael y llong yn y diwedd, ond yna fe gafon nhw eu gadael ym maes awyr Rhufain am 11 awr yn disgwyl am awyren gartref.
Mae'r Eidal wedi cael mwy o farwolaethau nac unrhyw wlad arall yn sgil coronafeirws, gyda 4,827 wedi marw yno hyd yn hyn.
Cau meysydd chwarae Ceredigion
Cyngor Ceredigion
Ceredigion yw'r sir diweddaraf i gau ei holl gaeau chwarae. Daeth datganiad sy'n dweud:
"Nid yw hyn wedi bod yn benderfyniad hawdd gan eu bod yn lefydd i bawb eu mwynhau. Er hyn, mae’n debyg eich bod wedi sylwi bod pobl yn parhau i ymgynnull mewn parciau chwarae ac ardaloedd cymunedol.
"Mae’n rhaid i ni ddiogelu ein cymunedau ag ymdrechu i sicrhau bod pobl yn cadw draw o leoedd lle gallant ddod at ei gilydd, yn enwedig plant a phobl ifanc sydd ddim yn mynychu’r ysgol ar hyn o bryd.
"Mae’r cyngor yn ei gwneud hi’n ofynnol i bob perchennog/rheolwr maes chwarae yng Ngheredigion sicrhau bod y gymuned yn cadw o’r lle chwarae."
Prif weithredwr URC yn aros
Undeb Rygbi Cymru
Mae prif weithredwr Undeb Rygbi Cymru wedi cytuno i aros yn ei swydd am y dyfodol rhagweladwy.
Roedd Martyn Phillips wedi cyhoeddi ei fwriad i adael y swydd yn yr haf wedi pum mlynedd wrth y llyw, ond mae'r pandemig coronafeirws wedi arwain at ailfeddwl am y tro.
Dim cynhadledd gan Boris Johnson am 17:00
Twitter
Llywodraeth Cymru yn cau parciau carafan
Llywodraeth Cymru
Mae'r Prif Weinidog, Mark Drakeford wedi cyhoeddi mesurau newydd i arafu gwasgariad coronafeirws yng Nghymru.
Bydd parciau carafan, meysydd gwersylla a lleoliadau eraill i dwristiaid yn cael eu cau o heddiw ymlaen.
Roedd nifer o gwynion dros y penwythnos wrth i dorfeydd mawr o ymwelwyr gael eu gweld mewn nifer o leoliadau ar draws y wlad, er y cyngor i deithio pan fo'n angenrheidiol yn unig.
Ychwanegodd Mr Drakeford bod awdurdodau lleol yn sicrhau bod tafarndai ynghau ledled Cymru yn dilyn adroddiadau bod rhai yn parhau ar agor er y canllawiau i beidio â gwneud hynny.
Dywedodd Mr Drakeford bod unrhyw dafarndai sydd ar agor yn wynebu colli eu trwydded.
Yr Urdd yn gofyn i'r llywodraeth am gymorth ariannol
Mae cadeirydd Urdd Gobaith Cymru wedi cadarnhau bod y mudiad mewn trafodaethau gyda Llywodraeth Cymru er mwyn cael cymorth ariannol.
Daw hyn wedi i'r Urdd orfod cau eu gwersylloedd a chanslo'r Eisteddfod Genedlaethol yn sgil argyfwng coronafeirws
Yn ôl Dyfrig Davies, sydd hefyd yn un o ymddiriedolwyr yr Urdd ,"amddiffyn a diogelu'r mudiad yw'r pwyslais ar gyfer y dyfodol a hefyd ein gweithlu".
Aeth Mr Davies yn ei flaen i fynnu "y bydd yr Urdd yn para" ac y bydd yma i ddathlu'r canmlwydiant yn 2022.
Ychwanegodd bod "gan y mudiad adnoddau wrth gefn am gyfnod byr - ond y bydd angen cymorth".
Parciau a meysydd chwarae Powys i gau
Cyngor Powys
Bydd meysydd chwarae a pharciau Cyngor Powys yn cau heddiw er mwyn "atgyfnerthu rheolau cadw pellter cymdeithasol ac i osgoi lledaenu Covid-19".
"Mae Powys, a chynghorau eraill ar draws Cymru wedi cymryd y penderfyniad – er budd iechyd y cyhoedd – i gau’r meysydd chwarae caeedig i blant a pharciau gwledig o dan ei reolaeth, o ddydd Llun 23 Mawrth tan i chi glywed ymhellach," meddai'r cyngor mewn datganiad.
"Mae’n annog cynghorau tref a chymuned y sir i wneud yr un fath.
"Bydd y 58 o feysydd chwarae a pharciau dan reolaeth y cyngor yn cael eu cloi a’u diogelu o heddiw ymlaen – gan godi arwyddion – tan fydd y sefyllfa’n newid."
Mae pobl yn dal i gyrraedd
Twitter
Er fod Parc Cenedlaethol Eryri wrthi'n cau meysydd parcio ger llawer o safleoedd pwysig heddiw, mae Tîm Achub Mynydd Dyffryn Ogwen wedi cael eu galw allan i gynorthwyo person oedd wedi dod i fynydd Tryfan o Birmingham.
AS i ddychwelyd i'w swydd fel meddyg
Mae Aelod Seneddol Dyffryn Clwyd, James Davies wedi cyhoeddi y bydd yn dychwelyd i'w hen swydd fel doctor yn ystod argyfwng coronafeirws.
Mae Dr Davies wedi bod yn feddyg cymwys ers 16 mlynedd, a bydd yn ailymuno â'r gwasanaeth iechyd dros doriad y Pasg.
"Mae staff ein GIG yn gwneud gwaith anhygoel yn ystod y cyfnodau heriol yma ac rwy'n cymeradwyo pob un ohonyn nhw," meddai'r AS Ceidwadol.
"Er hynny, mae'r system am gael ei ymestyn fwyfwy ac rwy'n teimlo dyletswydd i helpu. Fe fydda i felly yn dychwelyd i roi cymorth ble'n bosib."
Logo newydd S4C yn annog ymbellhau
S4C
Mae S4C - neu S 4 C bellach - wedi dylunio logo newydd gyda bylchau mwy rhwng y llythrennau er mwyn annog y cyhoedd i ymbellhau eu hunain yn gymdeithasol a chadw o leiaf dau fetr i ffwrdd o'i gilydd!
Parc Cenedlaethol Eryri yn cymryd camau i atal ymwelwyr
Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri
Mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri wedi cadarnhau eu bod yn cymryd camau er mwyn atal ymwelwyr i'r ardal "yn dilyn y penwythnos prysuraf ers cyn cof o ran ymwelwyr".
Dywedon nhw y bydd eu prif feysydd parcio yn cau a'u bod yn "ymchwilio i bwerau i gau’r mynyddoedd a’r safleoedd mwyaf poblogaidd os bydd y sefyllfa‘n parhau".
"Rydym yn annog ymwelwyr sy’n bwriadu dod i ddringo’r Wyddfa neu unrhyw gopa poblogaidd arall i aros adref ac ymarfer yn eu hardal leol," meddai'r awdurdod mewn datganiad.
Dywedodd prif weithredwr yr awdurdod, Emyr Williams: "Roedd y tyrfaoedd a welsom ar Yr Wyddfa ac mewn safleoedd penodol yn Eryri dros y penwythnos yn ddychrynllyd, a daeth yn amlwg nad oedd pobl yn derbyn cyngor y llywodraeth i osgoi teithio yn ddiangen na chynnal pellter cymdeithasol diogel.
"Mae’n rhaid i ni felly ymateb yn gyflym er mwyn bod y mater yn cael ei ddatrys."
Newydd dorriDim Sioe Fawr eleni
Sioe Frenhinol Cymru
Mewn datganiad, mae Cymdeithas Sioe Frenhinol Cymru wedi cyhoeddi na fydd y sioe'n cael ei chynnal eleni.
"Gyda gofid mawr, oherwydd y sefyllfa sy’n gwaethygu mewn perthynas â Coronafeirws (Covid-19), y mae Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru wedi cyhoeddi heddiw, ar ôl ystyried canllawiau diweddaraf y Llywodraeth ac Iechyd Cyhoeddus yn ofalus, fod Sioe Frenhinol Cymru 2020 wedi’i chanslo."
Pen y Pass nawr ar gau
Maes parcio Pen y Pass yw'r diweddaraf i gael ei gau er mwyn atal ymwelwyr.
Prif Gwnstabl yn galw am newid ymddygiad
Twitter
Mae Prif Gwnstabl Heddlu Gogledd Cymru wedi ymuno yn y galwadau ar bobl i aros adre.
Dywedodd fod llawer gormod o bobl mewn lleoliadau ar draws y gogledd dros y penwythnos, a bod angen gwneud mwy i warchod y gwasanaeth iechyd a phobl eraill.
Bangor yn codi gwrychyn wrth ymarfer