a gafodd drwydded deledu?

You need one to watch live TV on any channel or device, and BBC programmes on iPlayer. It’s the law.

darganfyddwch fwy
Nid oes gennyf drwydded deledu

Y diweddaraf yn fyw

Mae pob amser yn lleol i'r DU

Cyfrannu

  1. Hwyl fawr

    A dyna ni ar ddiwrnod lle cyhoeddwyd y bydd tafarndai, tai bwyta a bariau a chanolfannau cyhoeddus eraill yn cau heno er mwyn diogelu'r cyhoedd rhag haint coronafeirws.

    Ymunwch â llif byw Cymru Fyw bore fory ar gyfer y newyddion diweddaraf.

    Rhwng nawr a hynny mae mwy am effaith haint coronafeirws a straeon eraill y dydd ar ein gwefan.

    Nos da.

  2. Cyngor ariannol i fyfyrwyr

    Twitter

    Cyngor amserol yma i fyfyrwyr yma ar sut i reoli arian yn sgil haint coronafeirws.

    View more on twitter
  3. 'Mae'n amser anodd'

    Wrth ymateb i'r newyddion y bydd tafarndai yn cau heno dywedodd Adrian Emmett sy'n rhedeg tafarn yn Nhreorci nad oedd wedi dychmygu y byddai'n clywed newyddion o'r fath yn ystod ei fywyd.

    "Ond mae'n rhaid i ni weithredu," meddai, "ry'n ni i gyd yn yr un cwch.

    "Mae gen i £20,000 o stoc - bwyd a diod - a bydd yn rhaid i hwnna fynd.

    "Mae rhan fwyaf o dafarndai yn gwneud eu harian yn ystod y penwythnos ac yn mynd â'r arian i'r banc ddydd Mawrth - ond fydd dim arian yn mynd i'r banc ddydd Mawrth nesaf.

    "Mae'n amser anodd."

    tafarn Treorci
    Image caption: "Mae'n amser anodd," medd un o dafarnwyr Treorci
  4. Rhybudd amserol Heddlu'r De

    Twitter

    Heddlu'r De yn rhybuddio pawb i fod yn wyliadwrus rhag twyllwyr.

    View more on twitter
  5. Gweithredu Deddf Iechyd y Cyhoedd 1984

    Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi y bydd tafarndai, tai bwyta a bariau Cymru yn cau heno.

    Hefyd bydd canolfannau hamdden, campfeydd, sinemâu, theatrau a siopau betio yn cau.

    Mae iechyd wedi'i ddatganoli yng Nghymru ond fe fydd gweinidogion Llywodraeth Cymru yn gweithredu pwerau Deddf Iechyd y Cyhoedd 1984.

    Nid yn ysgafn y penderfynwyd hyn, medd y Llywodraeth - "ond mae e'r peth iawn i'w wneud er mwyn diogelu y mwyaf bregus yn ein cymdeithas".

  6. Ras Pen Cerrig Calch yn cael ei chynnal

    BBC Cymru Fyw

    Er bod nifer o ddigwyddiadau wedi'u canslo neu wedi cael eu gohirio mae disgwyl i ras Pen Cerrig Calch gael ei chynnal ddydd Sadwrn.

    Mae'r trefnwyr wedi newid y ffordd y mae hi'n cael ei rhedeg - bydd cystadleuwyr yn dechrau ar wahân ac mae'r trefnwyr wedi diheintio'r tlysau.

  7. Yr M4 heno

    Fel arfer mae traffig trwm ar yr M4 o gwmpas Caerdydd - ond fel hyn oedd hi heno.

    M4 nos Wener
    Image caption: M4 nos Wener
  8. Galw am sefydlu labordy coronafeirws yn y gogledd

    Plaid Cymru

    Mae Aelodau Cynulliad Plaid Cymru wedi galw am sefydlu labordy profi am coronafeirws yng ngogledd Cymru ar frys, gan ddweud bod pryderon fod canlyniadau yn cymryd hir i gyrraedd o Gaerdydd.

    Yn ôl AC Arfon, Sian Gwenllian, mae gweithwyr iechyd wedi dweud wrthi ei bod yn cymryd hyd at dridiau i ganlyniadau cleifion Ysbyty Gwynedd gael eu prosesu.

    "Mae hynny'n rhy hir pan fod gennym bandemig sy'n datblygu'n gyflym, ac fe all cleifion sy'n cyrraedd fod yn gwasgaru'r feirws heb wybod," meddai.

    "Mae 'na drafod wedi bod am sefydlu labordy yn Ysbyty Glan Clwyd ond rydyn ni wedi clywed y gallai hynny gymryd mis."

    Sian Gwenllian
  9. Dim TAW am 12 mis i gwmnïau

    Ychwanegodd y Canghellor na fydd yn rhaid i gwmnïau talu TAW tan ddiwedd Mehefin ac na fydd rhaid talu llog ar fenthyciadau cynllun busnes am 12 mis.

    Dywedodd Boris Johnson na fydd y prif rhwydweithiau trafnidiaeth yn cau am "eu bod yn rhy bwysig i sicrhau gwasanaethau cyhoeddus hanfodol".

  10. A all plant fynd i'r parc?

    Yn yr un gynhadledd newyddion â'r Prif Weinidog Boris Johnson, mae Dirprwy Brif Swyddog Meddygol Lloegr, Dr Jenny Harries, yn dweud bod cael y balans rhwng "lles corfforol a meddyliol" yn bwysig.

    "Ry'n am i blant wneud ymarfer corff," meddai, "ond nid mewn grŵp.

    "Byddai mynd ar y beic yn ymarfer da."

  11. Llywodraeth i dalu 80% o gyflog rheiny sydd ddim yn gweithio

    Bydd Llywodraeth y DU yn talu 80% o gyflog y rheiny sydd ddim yn gweithio, hyd at £2,500 y mis, yn ôl y Canghellor Rishi Sunak.

    Dywedodd bod y mesurau "digynsail" yn rhan o gynlluniau'r llywodraeth i ddiogelu swyddi.

    Mae nifer o gwmnïau wedi rhybuddio y byddan nhw'n mynd i'r wal yn sgil coronafeirws, gan beryglu miloedd o swyddi.

    Sunak
  12. Ymestyn y gohiriad ar bêl-droed domestig

    Cymdeithas Bêl-droed Cymru

    Mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru wedi penderfynu ymestyn y gohiriad presennol ar bêl-droed domestig yng Nghymru ar bob lefel, tan o leiaf 30 Ebrill 2020 oherwydd pandemig Covid-19.

    Dywedodd y gymdeithas ei bod "yn llwyr ymroddedig i edrych ar bob opsiwn posib ar gyfer pob Cynghrair Cenedlaethol i orffen tymor 2019/20 drwy sicrhau bydd gemau’n cael eu chwarae cyn gynted ag y bydd yn ddiogel gwneud hynny".

    "Yn fwy ‘na dim, y brif flaenoriaeth i CBDC yw iechyd a lle pawb," meddai eu datganiad.

    "Mae CBDC yn annog pawb i ddilyn cyngor Llywodraethau’r DU a Chymru ac Iechyd Cyhoeddus Cymru.

    "Mae ein meddyliau gyda phawb sy’n cael eu heffeithio gan y pandemig hwn."

  13. Boris Johnson: 'Tafarndai a bwytai i gau'

    Yn ei gynhadledd ddyddiol mae Prif Weinidog y DU yn dweud eu bod yn cryfhau'r mesurau gafodd eu cyhoeddi yn gynharach yr wythnos hon.

    Dywedodd Boris Johnson: "Rydyn ni'n dweud wrth gaffis, tafarndai a bwytai i gau heno cyn gynted ag y bo' modd, ac i beidio ailagor yfory."

    Bydd llefydd fel clybiau nos, sinemâu a champfeydd yn gwneud hynny hefyd.

    Ond dywedodd y byddai sefydliadau tecawê yn parhau ar agor.

    Boris Johnson
  14. Canslo Pencampwriaeth Rygbi dan-20 y Byd

    Twitter

    Ni fydd tîm dan-20 Cymru yn teithio i'r Eidal yn yr haf, wedi i gorff World Rugby ganslo'r bencampwriaeth!

    View more on twitter
  15. Meddyg yn rhannu ei brofiad ef o gael Covid-19

    Mae un o feddygon gofal dwys mwyaf blaenllaw Cymru wedi disgrifio sut y cafodd ei heintio gyda coronafeirws yn nyddiau cynnar gwasgariad yr haint yng Nghymru.

    Dywedodd Dr Jack Parry-Jones y cafodd ei heintio bythefnos yn ôl gan glaf roedd meddygon yn credu oedd ddim â'r haint ar y pryd.

    Roedd hyn tua'r cyfnod ble roedd yr achosion cyntaf yn cael eu cadarnhau yng Nghymru.

    Dim ond yn ddiweddarach, pan wnaeth Dr Parry-Jones ddatblygu symptomau, y cafodd brawf am Covid-19.

    Mae'n credu bod ei brofiad ef yn dangos pa mor hawdd y gall coronafeirws gael ei drosglwyddo gan bobl sydd ddim yn credu eu bod wedi'u heintio.

    Dr Jack Parry-Jones
  16. Aelod o staff Carchar Brynguba â'r feirws

    Mae'r BBC wedi cael gwybod bod aelod o staff yng Ngharchar Brynbuga, Sir Fynwy, yn yr ysbyty ar ôl cael coronafeirws.

    Dywedodd Gohebydd Materion Cartref y BBC, Danny Shaw bod yr aelod o staff mewn uned gofal dwys yn cael ei drin.

    Doedd y Weinyddiaeth Gyfiawnder ddim am wneud sylw i gadarnhau'r adroddiadau.

  17. Manylion y Post Prynhawn am 5

    BBC Radio Cymru

    Bydd rhaglen y Post Prynhawn yn dod â'r newyddion diweddaraf i chi am 5 ar BBC Radio Cymru.

    View more on twitter