a gafodd drwydded deledu?

You need one to watch live TV on any channel or device, and BBC programmes on iPlayer. It’s the law.

darganfyddwch fwy
Nid oes gennyf drwydded deledu

Y diweddaraf yn fyw

Gan Alun Jones a Sarah Down-Roberts

Mae pob amser yn lleol i'r DU

  1. Hwyl fawr

    Doedd yna ddim cynnig ar gyfer y Ddadl Fer ac felly mae trafodaethau y Siambr am heddiw wedi dod i ben.

    Bydd Senedd Fyw yn dychwelyd ddydd Mawrth, 10 Rhagfyr.

    Senedd
  2. Pasio cynnig wedi ei ddiwygio

    Mae cynnig Plaid Cymru, wedi'r gwelliant gan Lywodraeth Cymru, yn cael ei basio.

    Roedd yna 26 o blaid, fe wnaeth saith ymatal ac roedd 11 yn erbyn.

  3. 'Angen i’r sefydliadau datganoledig gael rôl ffurfiol'

    Mae Llywodraeth Cymru am ddileu pwynt 3 yng nghynnig Plaid Cymru ac yn galw ar

    a) i’r sefydliadau datganoledig gael rôl ffurfiol mewn negodiadau ar gytundebau rhyngwladol pan fyddant yn effeithio ar gymwyseddau datganoledig, a hynny i ddigwydd ar bob cam o’r negodiadau a chyda chefnogaeth statudol.

    b) confensiwn cyfansoddiadol i’r DU gyfan i sicrhau bod y trefniadau cyfansoddiadol yn y dyfodol yn adlewyrchu hyn ac i atal Llywodraeth y DU rhag diystyru’r Cynulliad Cenedlaethol lle bo’n gweithredu o fewn cymhwysedd datganoledig.

    Yn edrych ymlaen at ethol Llywodraeth yn y DU sydd wedi ymrwymo’n llawn i ddiogelu’r GIG yng Nghymru ac ar draws y DU.

  4. Sinigaidd?

    Dywed arweinydd Plaid Brexit, Mark Reckless, ei fod yn ansicr a yw cynnig Plaid Cymru yn “ymdrech sinigaidd i ecsbloetio’r GIG ac yn ceisio dychryn pobl am fargen fasnach gyda'r Unol Daleithiau cyn yr etholiad, neu a yw oherwydd pryder dilys, er ei fod wedi ei gamdybio, ynglŷn â sut mae’r farchnad iechyd yn cael ei rheoleiddio yn yr Unol Daleithiau ".

    Mark Reckless
  5. 'Croesawu'r cyfleoedd i Gymru o ganlyniad i gytundebau masnach'

    Mae gwelliant y Ceidwadwyr, a gyflwynwyd gan Mark Isherwood, am ddileu popeth yng nghynnig Plaid Cymru ac yn cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

    1. Yn nodi bod Cymru wedi pleidleisio i adael yr Undeb Ewropeaidd ym mis Mehefin 2016.

    2. Yn credu y dylid rhoi canlyniad refferenda ar waith bob amser.

    3. Yn croesawu'r cyfleoedd i Gymru a fydd yn codi o ganlyniad i gytundebau masnach rydd newydd ar ôl ymadawiad y Deyrnas Unedig o'r UE.

    4. Yn cydnabod, o dan y setliad datganoledig, mai mater i Lywodraeth y DU yw'r cyfrifoldeb dros gytuniadau rhyngwladol.

    5. Yn cydnabod y sicrwydd a roddwyd gan Lywodraeth y DU mewn perthynas â mynediad i'r farchnad i'r GIG mewn cytundebau masnach yn y dyfodol.

    Mark Isherwood
  6. Brexit a Chytundebau Masnach yn y Dyfodol

    Y pwnc sydd wedi cael ei ddewis gan Blaid Cymru ar gyfer eu dadl yw 'Brexit a Chytundebau Masnach yn y Dyfodol'.

    Mae'r Blaid yn cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

    1. Yn nodi:

    a) bod y DU ar fin gadael yr UE ar 31 Ionawr 2020;

    b) bod trafodaethau masnach anffurfiol rhwng y DU a'r Unol Daleithiau ynghylch bargen fasnach yn y dyfodol wedi dechrau, ac mae hynny, yn ôl y sôn, yn cyfeirio at farchnadeiddio patentau/prisio cyffuriau'r GIG;

    c) bod cytuniadau rhyngwladol y tu allan i gwmpas pwerau Cynulliad Cenedlaethol Cymru;

    d) bod adran 82 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 yn caniatáu i'r Ysgrifennydd Gwladol gyfarwyddo Gweinidogion Cymru i gymryd unrhyw gamau sy'n ofynnol at ddibenion gweithredu unrhyw rwymedigaeth ryngwladol.

    2. Yn credu:

    a) mai'r ffordd orau o wasanaethu dyfodol Cymru fyddai drwy barhau i fod yn aelod o'r UE ac y dylid cynnal refferendwm rhwng aros ac opsiwn credadwy ar gyfer gadael;

    b) na ddylai GIG Cymru gael ei orfodi gan Lywodraeth y DU i agor ei farchnad ar gyfer mwy o ddarpariaeth breifat, neu orfod derbyn cynydd mewn costau cyffuriau a osodir arno o ganlyniad i unrhyw gytundeb rhyngwladol sy'n ymestyn patentau ac yn cyfyngu ar y defnydd o gyffuriau generig;

    c) byddai cytundeb masnach yn y dyfodol rhwng y DU a'r Unol Daleithiau a fyddai'n cynnwys darpariaethau'n ymwneud â'r GIG yn drychineb i GIG Cymru;

    d) bod y system gofal iechyd yn yr Unol Daleithiau wedi methu â rheoleiddio'n briodol y modd y caiff opioidau eu marchnata a'u rhagnodi, ac mae'n nodi bod yr amgylchedd rheoleiddiol annigonol hwn wedi cyfrannu at dros 70,000 o farwolaethau yn yr Unol Daleithiau oherwydd gorddos o opioid yn 2018, a dim ond un enghraifft yw hyn o beryglon dadreoleiddio a allai ddilyn cytundeb masnach a ysgrifennwyd er budd cwmnïau fferyllol yr Unol Daleithiau

    e) na ddylai Llywodraeth y DU allu cyfarwyddo Gweinidogion Cymru i gymryd camau mewn meysydd sydd wedi'u datganoli sydd â'r potensial i gael effaith andwyol ar wasanaethau cyhoeddus Cymru.

    3. Yn galw am:

    a) i seneddau datganoledig y DU gael feto ar faterion masnach sydd â'r potensial i effeithio ar feysydd datganoledig;

    b) i Aelodau Seneddol o Gymru gefnogi Bil diogelu'r GIG sydd i'w gyflwyno yn San Steffan yn y tymor newydd;

    c) ddiddymu adran 82 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006.

    UE
  7. Gwrthod pedwar argymhelliad

    Mae Ken Skates AC, Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth, yn gwrthod pedwar o'r argymhellion.

    Mae'n gwrthod cael un Bwrdd Cynghori i gynrychioli a gweithredu fel un pwynt cyswllt ar gyfer cyrff cenedlaethol mawr gan ddweud:

    "Nid ydym yn derbyn y dylai un Bartneriaeth weithredu fel pwynt cyswllt ar gyfer cyrff cenedlaethol mawr. Dylai pob un o'r tair Partneriaeth fod yn ymgysylltu â chyrff cenedlaethol mwy fel rhan o'u strategaethau i ymgysylltu â chyflogwyr."

    Mae'n nodi hefyd y dylai'r iaith Gymraeg gael sylw teilwng yn y trafodaethau ac mae'n awgrymu cydweithio â'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol.

    Mae'r ateb i'w weld yn llawn yma.

  8. Ail-frandio partneriaethau

    Mae argymhelliad 1 yn nodi y "dylai Llywodraeth Cymru gychwyn proses ddiwygio drylwyr o Bartneriaethau Sgiliau Rhanbarthol trwy fabwysiadu’r pecyn o gamau gweithredu a nodir isod, ac ailystyried eu hadnoddau pan fo’n ofynnol.

    "Mae’r pecyn hwn yn cynnwys ail-frandio’r partneriaethau fel Byrddau Cynghori ar Sgiliau Rhanbarthol i wneud eu swyddogaeth yn y system sgiliau ehangach yn eglur, a phwyslais newydd ar ymyriadau ar ochr y galw."

  9. 'Trapiau sgiliau isel'

    Nesaf dadl ar adroddiad Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau - Partneriaethau Sgiliau Rhanbarthol.

    Mae Cadeirydd y pwyllgor, Russell George AC Ceidwadwyr Cymreig Sir Drefaldwyn yn dweud:

    "Er bod lefelau cyfartalog cymwysterau yn cynyddu ac enghreifftiau o newid ac arloesi proffil uchel, clywsom fod rhannau o’r economi yng Nghymru yn parhau i fod mewn “trapiau sgiliau isel” lle nad oes angen y sgiliau lefel uwch hyn ar gyflogwyr neu nad ydynt yn eu gwerthfawrogi; mae hyn yn ei dro yn gwanychu arloesi ac nid yw’n creu’r ysgogiadau y mae eu hangen ar gyflogwyr i fuddsoddi mewn gweithlu â sgiliau uchel.

    Yn sgil hyn ceir cylch dieflig sy’n gysylltiedig â chanlyniadau economaidd a phersonol gwael."

    View more on twitter
  10. Gwrthod un argymhelliad

    Gwrthodir un argymhelliad sef: "Rydym yn argymell bod Llywodraeth Cymru yn ymchwilio i’r posibilrwydd o neilltuo refeniw a gesglir gan awdurdodau lleol drwy bremiwm y dreth gyngor ar gartrefi gwag, i’w ddefnyddio’n benodol at ddibenion tai. Dylai Llywodraeth Cymru adrodd yn ôl i’r Cynulliad ar ei chanfyddiadau."

    Mae'r Dirprwy Weinidog Hannah Blythyn yn dweud: "Ystyriwyd y cwestiwn hwn yn llawn cyn cyflwyno'r pwerau i gyflwyno premiymau. Un o nodweddion allweddol y fframwaith deddfwriaethol ar gyfer cyllid Llywodraeth Leol yw bod holl incwm y dreth gyngor, ynghyd â'r cyllid a ddarperir drwy'r setliad llywodraeth leol blynyddol, yn rhan o'r adnoddau heb eu neilltuo sydd ar gael i awdurdodau.

    "Mae’r awdurdodau lleol yn gyfrifol am bennu eu cyllidebau refeniw eu hunain ac, yn eu tro, lefelau'r dreth gyngor, a hefyd am benderfynu sut i 6 ddefnyddio’r adnoddau hyn i fodloni anghenion a blaenoriaethau lleol.

    Maent wedi pwysleisio’n gyson eu dymuniad i gael yr hyblygrwydd mwyaf posibl wrth ddefnyddio'r adnoddau hyn.

    "Fodd bynnag, anogwyd awdurdodau i ddefnyddio'r incwm ychwanegol a gânt o bremiymau'r dreth gyngor i fynd i'r afael â materion yn ymwneud â’r cyflenwad tai lleol."

    Hannah Blythyn
  11. 'Angen manteisio ar arbenigedd yn y farchnad'

    Ar ran y Llywodraeth mae Hannah Blythyn, Y Dirprwy Weinidog Tai a Llywodraeth Leol, yn nodi bod eiddo gwag yn bryder sylweddol i Lywodraeth Cymru.

    Mae'n dweud bod yr "adroddiad hwn yn rhoi darlun cynhwysfawr i ni o’r sefyllfa mewn perthynas ag eiddo gwag.

    "Bydd yn caniatáu i Lywodraeth Cymru fanteisio ar arbenigedd yn y farchnad, i ychwanegu at ein llwyddiannau yn y gorffennol, a hefyd i sicrhau cydweithredu cryfach fyth er mwyn mynd i'r afael â'r mater pwysig hwn.

    "Bydd hyn yn cynnwys cydweithio a manteisio i'r eithaf ar bob cyfle sy'n dod i'r amlwg, er enghraifft, cydweithio â Thasglu'r Cymoedd er mwyn helpu i gyflwyno'r Grant Cartrefi Gwag."

    Mae modd gweld yr ateb llawn yma.

    ty gwag
  12. Eiddo gwag

    Mae'r ddadl nesaf ar adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau: Eiddo Gwag.

    Mae'r adroddiad, sy'n cael ei gyflwyno gan John Griffiths (Dwyrain Casnewydd), yn nodi bod tua 27,000 o gartrefi yn y sector preifat yng Nghymru wedi bod yn wag ers mwy na chwe mis.

    "Rydym i gyd yn ymwybodol o eiddo o’r fath yn ein cymunedau a’r niwsans a’r malltod y gallant eu hachosi," medd y pwyllgor.

    "Gallant achosi problemau a niwed mawr i bobl ac awdurdodau lleol fel ei gilydd.

    "Yn ogystal â denu ymddygiad gwrthgymdeithasol, creu problemau iechyd yr amgylchedd a chyfrannu at ddirywiad cyffredinol eu cymdogaethau, maent hefyd yn adnodd sy’n cael ei wastraffu.

    "Mae hyn yn arbennig o rwystredig o ystyried bod prinder tai."

    View more on twitter
  13. Gwrthod un argymhelliad

    Vaughan Gething sy'n ymateb i'r adroddiad ar ran Llywodraeth Cymru.

    Gwrthodir un argymhelliad sef: Rhaid i Lywodraeth Cymru gynhyrchu a chyhoeddi strategaeth ar gyfer ymestyn Deddf Lefelau Staff Nyrsio (Cymru) 2016 i bob lleoliad, gan gynnwys gwasanaethau nyrsio cymunedol ac ardal.

    Y rheswm dros y gwrthodiad yw ei bod "hi'n bwysig cofio bod y Ddeddf eisoes yn berthnasol i'r holl leoliadau lle mae gofal nyrsio yn cael ei ddarparu neu ei gomisiynu yng Nghymru".

    Mae modd gweld yr ateb llawn yma.

    Vaughan Gething
  14. 'Angen cydnabod rôl hanfodol nyrsio cymunedol'

    Cadeirydd y Pwyllgor Dai Lloyd AC sy'n cyflwyno yr adroddiad sy' cynnwys 10 o argymhellion.

    Mae argymhelliad 1 yn nodi bod yn rhaid i Lywodraeth Cymru sicrhau bod rôl hanfodol nyrsio cymunedol, gan gynnwys nyrsys cymunedol i blant, wrth ddarparu gofal iechyd yn y dyfodol yn cael ei chydnabod yn briodol wrth gynllunio gweithlu, recriwtio nyrsys a hyfforddiant.

    Dai Lloyd
  15. Gwasanaethau Nyrsio Cymunedol ac Ardal

    Mae dadl gyntaf y diwrnod ar adroddiad y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon: Gwasanaethau Nyrsio Cymunedol ac Ardal.

    View more on twitter
  16. Cwestiwn Amserol 2: Bygythiad i ddinasyddion Cymru wedi ymosodiad terfysgol Llundain?

    Mae Leanne Wood (Rhondda) yn gofyn: Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o'r bygythiad i ddinasyddion Cymru yn dilyn yr ymosodiad terfysgol yn Llundain ddydd Gwener diwethaf?

    Mae Jane Hutt, y Dirprwy Weinidog a'r Prif Chwip, yn ateb gan ddweud "nad yw Llywodraeth Cymru wedi derbyn cudd-wybodaeth sy'n awgrymu bygythiad uniongyrchol i bobl Cymru, ond mae lefel bygythiad yn y DU yn sylweddol".

    Llundain
    Image caption: Mae nifer wedi gosod blodau wedi'r digwyddiad ddydd Gwener
  17. Cwestiwn Amserol 1: Tata Steel

    Mae David Rees (Aberafan) yn gofyn i Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth:

    A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf yn dilyn cyhoeddiad Tata Steel ynghylch colli 1000 o swyddi yn y DU?

    Dywed Ken Skates ei fod yn parhau "mewn cysylltiad â'r cwmni ac undebau llafur er mwyn canfod beth mae'r cyhoeddiad yn ei olygu i fusnesau yng Nghymru".

    tata
  18. Mantra'r Ceidwadwyr o 'Gyflawni Brexit' yn 'gelwydd'

    Mae Delyth Jewell o Blaid Cymru yn disgrifio mantra'r Ceidwadwyr o 'Gyflawni Brexit' yn "gelwydd".

    Mae Mr Miles yn dweud "nid oes unrhyw obaith o gwbl i drefniadau gael eu rhoi ar waith erbyn diwedd y cyfnod trosglwyddo y byddem yn eu hystyried yn dderbyniol yng nghyd-destun gadael yr Undeb Ewropeaidd".

    Delyth Jewell
  19. Darpariaeth addysg wedi Brexit

    Nesaf cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Brexit Jeremy Miles.

    Yn gyntaf mae Suzy Davies, AC Ceidwadol Gorllewin De Cymru, yn gofyn: Pa drafodaethau y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'u cael gyda'r Gweinidog Addysg ynghylch darparu addysg ar ôl Brexit?

    Mae hi am gael sicrwydd y bydd "dinasyddion yr UE yn gallu parhau, neu hyd yn oed, ddechrau addysgu yma ar y diwrnod ymadael."

    Mae Miles yn ymateb gan ddweud bod gan y cynulliad "reoleiddiadau sy'n cydnabod cymwysterau presennol dinasyddion y DU mewn sefyllfa gadael heb gytundeb ".

    Jeremy Miles
  20. Lle mae TVR?

    Mae David Rowlands o Blaid Brexit yn gofyn pryd y bydd cwmni cynhyrchu ceir TVR yn symud i'w ffatri newydd yng Nglyn Ebwy, Blaenau Gwent fel rhan o gynlluniau Llywodraeth Cymru i greu 1,500 o swyddi ym maes technoleg yn yr ardal erbyn 2027.

    Mae Ken Skates yn dweud bod y llywodraeth yn aros am "gadarnhad gan y cwmni ei fod wedi codi y buddsoddiad angnerheidiol".

    Mae Llywodraeth Cymru wedi rhoi benthyciad o £2m i'r cwmni - arian sydd i'w ad-dalu pe na bai'r cwmni yn symud i Gymru.

    Delwedd wedi'i chynhyrchu gan gyfrifiadur o sut y gallai'r TVR newydd edrych
    Image caption: Delwedd wedi'i chynhyrchu gan gyfrifiadur o sut y gallai'r TVR newydd edrych