a gafodd drwydded deledu?

You need one to watch live TV on any channel or device, and BBC programmes on iPlayer. It’s the law.

darganfyddwch fwy
Nid oes gennyf drwydded deledu

Y diweddaraf yn fyw

Gan Alun Jones a Sarah Down-Roberts

Mae pob amser yn lleol i'r DU

  1. Hwyl fawr

    A dyna ni o'r Siambr am heddiw.

    Bydd Senedd Fyw yn dychwelyd ddydd Mawrth nesaf, 3 Rhagfyr.

    Senedd
  2. Dadl Fer - Gwasanaethau bysiau

    Mark Reckless (Dwyrain De Cymru) sy'n cyflwyno'r ddadl fer ac mae e wedi dewis 'Gwasanaethau bysiau yng Nghymru' fel pwnc.

    Mae e'n dadansoddi data ac yn gofyn "a allen ni fod yn gwneud yn well o ran nifer y bobl sy'n defnyddio'r bws, yn enwedig i deithio i'r gwaith, ac oes yna wersi o rannau eraill o'r DU?".

    Mark Reckless
  3. Cofrestr Lobïwyr - pasio'r gwelliant

    Mae cynnig Plaid Brexit yn cael ei newid gan y Ceidwadwyr ac yn cael ei basio gan ACau.

  4. Cyllid Llywodraeth Cymru - newid y cynnig cyn ei basio

    Mae cynnig y Ceidwadwyr Cymreig ar gyllido Llywodraeth Cymru yn cael ei newid gan Lywodraeth Cymru ac yna yn cael ei basio gan ACau.

    Roedd 24 o blaid, neb yn ymatal a 22 yn erbyn.

  5. Cefnogi'r gwelliant

    Dywed Jane Hutt, y Dirprwy Weinidog a'r Prif Chwip, y bydd Llywodraeth Cymru yn cefnogi gwelliant y Ceidwadwyr "gan fod hwn yn bennaf yn fater ar gyfer comisiwn y cynulliad".

    Yn gynharach eleni dywed Llywodraeth Cymru iddynt weithredu i gyfyngu ar fynediad lobïwyr proffesiynol at weinidogion wedi i fanylion cyfarfod ddod i'r amlwg.

    Jane Hutt
  6. Plaid Cymru yn ffafrio cael cofrestr

    Mae Dai Lloyd yn cadarnhau y bydd Plaid Cymru yn pleidleisio o blaid cyflwyno cofrestr lobïwyr yng Nghymru.

  7. 'Dim digon o dystiolaeth i gefnogi cofrestr'

    Dywed cadeirydd Pwyllgor Safonau'r Cynulliad, Jayne Bryant, bod y pwyllgor wedi edrych ar yr achos a'u bod wedi dod i benderfyniad nad oedd digon o dystiolaeth i gefnogi cofrestr gwirfoddol ond mae grŵp o ACau wedi cael cais i ddateglu manylion yn wirfoddol ar gyfer cynllun peilot - bydd hynny yn cael ei werthuso yn 2020.

    Mae lobïwyr yn gwmnïau neu yn unigolion sy'n cael eu talu i ddylanwadu ar benderfyniadau y llywodraeth.

    jayne bryant
  8. Galw am ystyriaeth bellach i lobïo cyn diwedd y Pumed Cynulliad

    Dim ond un gwelliant sydd i gynnig Plaid Brexit.

    Mae'r Ceidwadwyr yn galw ar Gomisiwn y Cynulliad i roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y camau y mae wedi'u cymryd ers cyhoeddi adroddiad y Pwyllgor Safonau Ymddygiad ar lobïo a gyhoeddwyd ym mis Ionawr 2018.

    Yn croesawu bwriad y Pwyllgor Safonau Ymddygiad i roi ystyriaeth bellach i lobïo cyn diwedd y Pumed Cynulliad.

    Andrew RT Davies
    Image caption: Andrew RT Davies yn cyflwyno gwelliant y Ceidwadwyr
  9. Dadl Plaid Brexit - Cofrestr Lobïwyr

    Y pwnc sydd wedi cael ei ddewis gan Blaid Brexit ar gyfer eu dadl yw cofrestr lobïwyr.

    Mae Plaid Brexit yn cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

    1. Yn nodi mai Cynulliad Cenedlaethol Cymru yw'r unig ddeddfwrfa genedlaethol yn y DU sydd heb gofrestr lobïwyr.

    2. Yn credu y byddai cofrestr lobïwyr yn helpu i hyrwyddo didwylledd a thryloywder yng ngwleidyddiaeth Cymru.

    3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ymgynghori ar unwaith ar weithredu cofrestr lobïwyr ar gyfer Cymru.

    Caroline Jones
    Image caption: Caroline Jones yn cyflwyno dadl Plaid Brexit
  10. Gwelliant y Llywodraeth

    Mae gwelliant y Llywodraeth, sy'n cael ei gyflwyno gan y Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd Rebecca Evans, yn dileu popeth ar ôl pwynt 1 a rhoi yn ei le:

    Yn nodi bod Llywodraeth Cymru wedi negodi ffactor newydd sy’n seiliedig ar anghenion o fewn fformiwla Barnett fel rhan o gytundeb y Fframwaith Cyllidol gyda Llywodraeth y DU.

    Yn gresynu bod Llywodraeth y DU yn aml yn buddsoddi llai na Llywodraeth Cymru mewn meysydd cyfrifoldeb pwysig ledled Cymru sydd heb eu datganoli, gan gynnwys y seilwaith rheilffyrdd a chysylltedd digidol.

    Yn nodi bod cylch gwario blwyddyn Llywodraeth y DU yn golygu bod Llywodraeth Cymru ar ei cholled o £300 miliwn mewn termau real o gymharu â 2010-11 ac yn condemnio degawd o gyni anghyfiawn a osodwyd gan y DU

    Yn nodi, er gwaethaf y pwysau a achoswyd gan gyni, bod ystadegau’r Dadansoddiad yn ôl Gwlad a Rhanbarth ym mis Tachwedd 2019 yn dangos:

    a) bod gwariant y pen ar iechyd a gwasanaethau cymdeithasol yn uwch yng Nghymru nag yn unrhyw un o bedair gwlad y DU ac 11 y cant yn uwch nag yn Lloegr;

    b) bod gwariant y pen ar addysg 6 y cant yn uwch yng Nghymru na’r gwariant y pen yn Lloegr.

    Yn nodi ymrwymiad Llywodraeth Cymru i beidio â chynyddu cyfraddau Cymreig y Dreth Incwm yn ystod tymor y Cynulliad hwn.

    Rebecca Evans
  11. 'Tlodi a thanfuddsoddiad cronig'

    Mae gwelliant Plaid Cymru yn cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

    1. Yn credu bod Llywodraethau olynol yn San Steffan - o dan Lafur a'r Ceidwadwyr - wedi llywyddu dros dlodi rhwng cenedlaethau a thanfuddsoddiad cronig yng Nghymru.

    2. Yn credu mai dylanwadau economaidd a chyllidol gwlad annibynnol yw'r allwedd i ffyniant economaidd Cymru yn y dyfodol.

  12. ‘Cymru’n elwa o fod yn rhan o’r DU’

    Y pwnc sydd wedi cael ei ddewis gan y Ceidwadwyr Cymreig ar gyfer eu dadl yw Cyllid Llywodraeth Cymru.

    Mae Nick Ramsay ar eu rhan yn cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

    1. Yn credu bod Cymru'n elwa o fod yn rhan o'r Deyrnas Unedig.

    2. Yn nodi bod Cymru, o ganlyniad i'r Fframwaith Cyllidol y cytunwyd arni rhwng Llywodraethau Cymru a'r DU, yn cael £1.20 y pen ar hyn o bryd am bob £1 y pen a gaiff ei gwatio yn Lloegr ar faterion datganoledig.

    3. Yn croesawu'r £790 miliwn ychwanegol sy'n fwy na grant bloc Cymru sydd wedi cael ei ymrwymo gan Lywodraeth y DU tuag at Gytundebau Twf ledled Cymru.

    4. Yn cydnabod bod y cyllid sydd ar gael i Lywodraeth Cymru ar ei lefel uchaf erioed.

    5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

    a) defnyddio unrhyw adnoddau ychwanegol sy'n codi o ganlyniad i fwy o fuddsoddiad ar y GIG gan Lywodraeth y DU i wella gwasanaeth iechyd Cymru;

    b) defnyddio unrhyw adnoddau ychwanegol sy'n codi o ganlyniad i fuddsoddiad cynyddol ar addysg gan Lywodraeth y DU i wella system addysg Cymru;

    c) diystyru unrhyw godiadau mewn trethi neu drethi newydd yng Nghymru rhwng nawr a'r etholiad nesaf i Gynulliad Cenedlaethol Cymru.

    Nick Ramsay
  13. Un llwybr canser newydd ledled Cymru

    Mae'r Ysgrifennydd Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Vaughan Gething yn cyflwyno un llwybr canser newydd ledled Cymru

    Mae e'n egluro bod un llwybr canser yn disodli'r llwybrau achosion brys lle ceir amheuaeth o ganser ac achosion nad ydynt yn rhai brys lle ceir amheuaeth o ganser.

    Dyma gam mawr ymlaen i Gymru, meddai

    Mae amser aros y claf nawr yn dechrau o'r adeg yr amheuir bod canser arno yn hytrach na'r adeg pan fydd yn cael diagnosis.

  14. Cefnogaeth amlbleidiol i'r cynnig

    Mae'r cynnig yn cael ei gyd-gyflwyno gan Dai Lloyd (Gorllewin De Cymru) a David Melding (Canol De Cymru)

    ac yn ei gefnogi mae:

    Delyth Jewell (Dwyrain De Cymru)

    Joyce Watson (Canolbarth a Gorllewin Cymru)

    Mark Isherwood (Gogledd Cymru)

    Neil Hamilton (Canolbarth a Gorllewin Cymru)

    Neil McEvoy (Canol De Cymru)

    Vikki Howells (Cwm Cynon)

  15. 500 achos newydd o ganser y pancreas yng Nghymru bob blwyddyn

    Dadl Aelod sydd nesaf ac mae Lynne Neagle(Torfaen) yn cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

    1.Yn cydnabod nad yw un o bob pedwar o bobl sy'n cael diagnosis o ganser y pancreas yn y DU yn goroesi'r clefyd y tu hwnt i fis ac nad yw tri o bob pedwar yn goroesi y tu hwnt i flwyddyn, llawer ohonynt am nad oeddent yn cael eu trin yn ddigon cyflym.

    2. Yn cydnabod bod tua 500 o achosion newydd o ganserau'r pancreas yng Nghymru bob blwyddyn, a bod tua 508 o bobl wedi cael diagnosis o ganser y pancreas yn 2015, ac y bu farw tua 451 o bobl o'r clefyd yn yr un flwyddyn.

    3. Yn cydnabod mai canser y pancreas yw'r canser cyffredin mwyaf angheuol gyda phrognosis truenus sydd prin wedi newid yn ystod y 45 mlynedd diwethaf.

    4. Yn croesawu mis ymwybyddiaeth canser y pancreas (Tachwedd) a'r gwaith y mae Pancreatic Cancer UK yn ei wneud i hyrwyddo ymwybyddiaeth o'r canser sydd â'r nifer isaf o ran goroesi, a'r cyflymaf o ran lladd.

    5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gymryd camau i wella cyfraddau goroesi ar gyfer pobl â chanser y pancreas yng Nghymru drwy:

    a) triniaeth gyflymach, drwy ddysgu gan fodelau llawdriniaeth llwybr carlam yn Lloegr sydd wedi dangos canlyniadau addawol;

    b) diagnosis cynharach, drwy ddysgu o Ganolfannau Diagnostig Cyflym sy'n cael eu cyflwyno yn Lloegr a'r treialon gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe a Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf; ac

    c) cymorth cyfannol, drwy gymorth deietegol a maethol amserol i alluogi cleifion i oddef triniaeth yn well.

    canser
    Image caption: Mae 500 achos newydd o ganser y pancreas yng Nghymru bob blwyddyn
  16. Pasio Mesur Senedd ac Etholiadau (Cymru)

    Mae ACau yn cymeradwyo Mesur Senedd ac Etholiadau (Cymru).

    Roedd 41 o blaid, neb yn ymatal, ac roedd 19 yn erbyn.

    Bydd y mesur yn dod i rym yn Ionawr - a bydd hawl gan bobl ifanc 16 ac 17 oed bleidleisio am y tro cyntaf yng Nghymru yn etholiadau'r Senedd 2021.

    View more on twitter
  17. Rhaniadau dwfn

    Mae Mark Reckless o Blaid Brexit yn dweud bod rhan o'r mesur sy'n ymwneud â dinasyddion tramor yn pleidleisio yn cynnwys "cymalau a all ysgogi rhaniadau dwfn".

  18. Canllaw i Fesurau a Deddfau Cyhoeddus

    Yn gyffredinol, mae pedwar cyfnod yn y broses ar gyfer ystyried Mesur Cyhoeddus, sef:

    • Cyfnod 1 - pwyllgor yn ystyried egwyddorion cyffredinol y Mesur a'r Cynulliad yn cytuno ar yr egwyddorion cyffredinol hynny;
    • Cyfnod 2 - pwyllgor yn ystyried y Mesur ac unrhyw welliannau a gyflwynwyd i’r Mesur hwnnw yn fanwl;
    • Cyfnod 3 - y Cynulliad yn ystyried y Mesur ac unrhyw welliannau a gyflwynwyd i’r Mesur hwnnw yn fanwl;
    • Cyfnod 4 - pleidlais gan y Cynulliad i basio testun terfynol y Mesur.
  19. Y Llywydd a'r dirprwy yn cael pleidleisio

    Tra bod disgwyl i Llafur a Plaid Cymru gefnogi'r mesur, mae'r Ceidwadwyr a Phlaid Brexit yn bwriadu pleidleisio yn ei erbyn.

    Dylai pleidleisiau Plaid Cymru, ac aelodau meinciau cefn a gweinidogion Llafur fod yn ddigon i sicrhau y 40 pleidlais sydd eu hangen.

    Yn 2017 fe gafodd y cynulliad yr hawl i ddeddfu ar faterion y sefydliad, gan gynnwys etholiadau cyn belled a bod dwy ran o dair o'r aelodau yn cytuno i'r newidiadau.

    Dyw'r Llywydd Elin Jones na'r dirprwy lywydd ddim fel arfer yn pleidleisio ond mae rheolau newydd yn golygu eu bod yn cael bwrw pleidlais y tro hwn.

  20. Diffyg hyder

    Mae Rhun ap Iorwerth o Blaid Cymru yn clodfori fod pobl ifanc yn cael pleidleisio yn 16 ond mae'n dweud ei fod yn siomedig gyda'r dewis o enw. Roedd e am Senedd yn unig.

    "Efallai mai diffyg hyder oedd wrth wraidd y penderfyniad.. Neu ofn. Ofn beth, dwim yn sicr," meddai.

    Rhun ap Iorwerth