a gafodd drwydded deledu?

You need one to watch live TV on any channel or device, and BBC programmes on iPlayer. It’s the law.

darganfyddwch fwy
Nid oes gennyf drwydded deledu

Y diweddaraf yn fyw

Gan Alun Jones a Sarah Down-Roberts

Mae pob amser yn lleol i'r DU

  1. Hwyl Fawr

    A dyna ni o'r Senedd am heddiw.

    Bydd Senedd Fyw yn ôl ddydd Mawrth nesaf (26 Tachwedd).

    Senedd
  2. Diwygiwyd gan Lywodraeth Cymru

    Mae cynigion y Ceidwadwyr a Phlaid Cymru, fel y'u diwygiwyd gan Lywodraeth Cymru, yn cael eu pasio.

  3. Buddsoddiad o £5 biliwn dros y 15 mlynedd nesaf

    Mae gwelliant Llywodraeth Cymru, a gynigir gan Ken Skates, yn dileu cynnig Plaid Cymru yn ei gyfanrwydd ac yn ei le:

    1. Yn croesawu’r buddsoddiad o £5 biliwn yn rhwydwaith rheilffyrdd Cymru dros y 15 mlynedd nesaf, gan gynnwys dros £800 miliwn mewn cerbydau.

    2. Yn nodi’r heriau y mae’r diwydiant rheilffyrdd yn eu hwynebu ar draws y DU o safbwynt cydymffurfiaeth â’r gofynion o ran teithwyr â symudedd cyfyngedig sy’n effeithio ar fasnachfreintiau ar draws y DU.

    3. Yn cydnabod mai un o’r prif resymau dros brinder cerbydau yw’r ffaith nad yw Llywodraeth y DU wedi edrych i’r dyfodol wrth gwtogi ei rhaglen drydaneiddio, gan effeithio ar Abertawe ac arwain at oedi o safbwynt darpariaeth cerbydau.

    4. Yn galw ar Lywodraeth y DU i sicrhau nad yw’r etholiad cyffredinol yn amharu ar geisiadau am randdirymiadau o safbwynt teithwyr â symudedd cyfyngedig er mwyn sicrhau capasiti ychwanegol ar y rhwydwaith am gyfnod byr hyd 2020.

    5. Yn nodi nad yw’r system gerbydau ar draws y DU yn gweithio ac yn galw ar Lywodraeth y DU i gydweithio â’r gweinyddiaethau datganoledig er mwyn datblygu model newydd.

    Trafnidiaeth Cymru
  4. 'Mater i'r Llywodraeth ers 2006'

    Mae'r Ceidwadwr Russell George yn nodi mai mater i Lywodraeth Cymru oedd y cyfrifoldeb dros ddarparu capasiti cerbydau ar gyfer gwasanaethau Cymru a gwasanaethau i Gymru yn unig o dan y fasnachfraint reilffyrdd a weithredwyd gan Drenau Arriva Cymru ers 2006.

    Russell George
  5. Strategaeth cerbydau

    Y pwnc sydd wedi cael ei ddewis gan Plaid Cymru ar gyfer eu dadl yw strategaeth cerbydau.

    Mae Rhun ap Iorwerth yn cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

    1.Yn nodi argymhelliad Pwyllgor Menter a Busnes y Pedwerydd Cynulliad yn 2013 y dylai Llywodraeth Cymru: 'Ddatblygu a chyhoeddi strategaeth cerbydau fel mater o frys, nid dim ond i sicrhau bod penderfyniadau pwysig ynglŷn â chydweddiad cerbydau ar gyfer trydaneiddio a deddfwriaeth hygyrchedd yn cael eu cymryd mewn da bryd i osgoi’r costau uwch a’r tarfu sy’n deillio o oedi, ond hefyd i gynyddu capasiti ac ansawdd trenau ar gyfer y tymor hir '.

    2.Yn gresynu at fethiant Llywodraeth Cymru:

    (a)i gymryd camau priodol i fynd i'r afael â'r materion y tynnwyd sylw atynt mor bell yn ôl â 2013 mewn perthynas â cherbydau;

    (b)i gyrraedd y dyddiad cau ar gyfer cydymffurfio â rheoliadau pobl â chyfyngiadau symudedd (PRM) mewn perthynas â'i gerbydau;

    (c)i wneud cais amserol i'r Adran Drafnidiaeth am y rhyddhad angenrheidiol i gadw trenau nad ydynt yn cydymffurfio â rheoliadau pobl â chyfyngiadau symudedd (PRM) mewn gwasanaeth o fis Ionawr 2020.

    3.Yn mynegi pryder am yr aflonyddwch parhaus y mae llawer o deithwyr rheilffordd Trafnidiaeth Cymru yn ei wynebu bob dydd.

    4.Yn galw ar Lywodraeth Cymru i roi sicrwydd bod ganddi gynlluniau wrth gefn ar waith i liniaru'r posibilrwydd o golli cyfran fawr o'i fflyd.

  6. Cymru i fod yn 'wlad dosturiol' gyntaf y byd

    Mae gwelliant Llywodraeth Cymru - a gynigir gan y gweinidog iechyd Vaughan Gething - yn nodi "bod cynnydd wedi’i wneud o ran ehangu mynediad i ofal hosbis a gofal lliniarol yng Nghymru a bod angen gwneud rhagor o waith i nodi unrhyw angen sydd heb ei ddiwallu.

    Nodir y bydd Llywodraeth Cymru:

    a) yn parhau i weithio gyda phartneriaid statudol a phartneriaid yn y trydydd sector i gyflawni’r uchelgais o sicrhau mai Cymru yw 'gwlad dosturiol' gyntaf y byd;

    b) yn sicrhau bod cryfhau’r ddarpariaeth gwasanaethau gofal lliniarol yng Nghymru yn cael ei wneud yn ganolog i’r dull gweithredu hwn;

    c) yn darparu meini prawf adrodd cyson, ac yn mynd i’r afael â bylchau yn y data a gaiff eu casglu am anghenion gofal lliniarol oedolion a gofal lliniarol pediatrig;

    d) yn parhau i fonitro’r dull cyllido ar gyfer hosbisau elusennol gan weithio gyda’r bwrdd diwedd oes a’r byrddau iechyd;

    e) yn parhau i fonitro ac adolygu’r cyllid a ddarperir i hosbisau oedolion a phlant yng Nghymru.

    Vaughan Gething
  7. 23,000 o bobl yng Nghymru angen gofal lliniarol

    Mae oddeutu 33,000 o bobl yn marw bob blwyddyn yng Nghymru.

    Amcangyfrifir bod oddeutu 23,000 o bobl yng Nghymru angen gofal lliniarol ar unrhyw un adeg.

    Mae gan oddeutu 1,000 o blant a phobl ifanc yng Nghymru gyflyrau sy’n cyfyngu ar eu bywydau.

  8. 'Angen parchu dewisiadau'r unigolyn'

    Mae Helen Mary Jones ar ran Plaid Cymru yn dweud bod angen sicrhau bod gofalwyr yn cael y cymorth sydd ei angen arnynt yn ystod ac ar ôl iddynt ofalu am rywun sy'n cael gofal lliniarol.

    Mae Plaid Cymru hefyd am sicrhau bod amrywiaeth o wasanaethau ar gael ym mhob rhan o Gymru fel bod modd parchu dewisiadau'r unigolyn o ran y math o ofal lliniarol a ddarperir, ynghyd â lleoliad y gofal hwnnw.

    Helen Mary Jones
  9. Cymru yn 'wlad dosturiol'

    Y pwnc sydd wedi cael ei ddewis gan y Ceidwadwyr Cymreig yw Gofal Hosbis a Gofal Lliniarol.

    Mae Mark Isherwood yn cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

    1. Yn nodi adroddiad y Grŵp Trawsbleidiol ar Hosbisau a Gofal Lliniarol ar Anghydraddoldebau o ran Mynediad i Ofal Hosbis a Gofal Lliniarol.

    2. Yn cydnabod bod gan tua 23,000 o bobl yng Nghymru angen gofal lliniarol ar unrhyw un adeg, gan gynnwys dros 1,000 o blant.

    3. Yn cydnabod er bod rhywfaint o gynnydd wedi'i wneud o ran ehangu mynediad i ofal hosbis a gofal lliniarol yng Nghymru, bod anghenion sylweddol sydd heb eu diwallu ac anghenion na fodlonwyd yn barhaus, ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i fynd i'r afael â hyn.

    4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

    a) amlinellu sut y bydd Cymru'n dod yn 'wlad dosturiol';

    b) sicrhau bod cryfhau'r ddarpariaeth o wasanaethau gofal lliniarol yng Nghymru yn cael ei wneud yn ganolog i'r dull hwn o weithredu;

    c) darparu meini prawf adrodd cyson, a mynd i'r afael â bylchau yn y data a gaiff eu casglu ar anghenion gofal lliniarol i oedolion a phediatrig;

    d) diweddaru'r mecanwaith cyllido ar gyfer hosbisau elusennol fel ei fod yn seiliedig ar y data sydd ei angen ar y boblogaeth leol a nifer yr achosion;

    e) cynyddu lefel y cyllid statudol a ddarperir i hosbisau oedolion a phlant yng Nghymru.

    Mark Isherwood
  10. Grym gan gynghorau eisoes

    Mae Ken Skates, y Gweinidog Economi a Thrafnidiaeth, yn dweud bod gan awdurdodau lleol eisoes y grym i gyflwyno ardoll ar barcio petaent yn dymuno.

    Mae'n ychwanegu bod blaenoriaethu "ffyrdd teithio cynaliadwy yn mynd i fod yn rhan allweddol o Strategaeth Trafnidiaeth Cymru".

    Ken Skates
  11. Talu am barcio yn y gwaith?

    Nesaf Dadl ar Gynnig Deddfwriaethol gan Aelod

    ac mae Jenny Rathbone (Canol Caerdydd) yn cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

    1. Yn nodi cynnig ar gyfer Bil i alluogi rhoi ardoll ar barcio yn y gweithle.

    2. Yn nodi mai diben y Bil hwn fyddai:

    a) galluogi awdurdodau lleol i weithredu ardoll ar barcio yn y gweithle, yn dibynnu ar nifer y lleoedd parcio a neilltuir i gyflogeion;

    b) galluogi awdurdodau lleol i ddefnyddio'r refeniw i gryfhau trafnidiaeth gyhoeddus a llwybrau teithio llesol;

    c) lleihau tagfeydd traffig mewn canolfannau poblogaeth mawr;

    d) annog cyflogwyr i hyrwyddo cynlluniau teithio llesol ar gyfer eu staff ac eiriol ar gyfer gwell trafnidiaeth gyhoeddus;

    e) cymell Llywodraeth Cymru i annog awdurdodau lleol yng Nghymru i roi'r ardoll hon ar waith, fel rhan o gyfres o fesurau i fynd i'r afael â'r allyriadau carbon sy'n achosi argyfwng yn yr hinsawdd.

    Jenny Rathbone
  12. Cwestiwn Amserol: Diogelwch tân mewn llety myfyrwyr yng Nghymru

    Mae David Melding (Canol De Cymru) yn gofyn: A wnaiff Llywodraeth Cymru ddatganiad ynghylch diogelwch tân mewn llety myfyrwyr yng Nghymru yn dilyn tân yr wythnos diwethaf ym Mhrifysgol Bolton?

    Mae Julie James, y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol, yn dweud bod y tân yn Bolton "yn pwysleisio pwysigrwydd cydweithio a gwneud asesiadau risg manwl o bob adeilad".

    Y tân yn Bolton
    Image caption: Bu 200 o ddiffoddwyr yn delio â'r tân yn Bolton
  13. Chwiliadau diogelwch ystâd y Cynulliad

    Nesaf cwestiynau i Gomisiwn y Cynulliad ac mae AC annibynnol Neil McEvoy yn gofyn:

    A wnaiff y Comisiwn roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y chwiliadau diogelwch ar ystâd y Cynulliad?

    Yn gynharach ym mis Tachwedd fe wnaeth y comisiynydd sy'n delio â chwynion am wleidyddion yng Nghymru ymddiswyddo ar ôl i Aelod Cynulliad recordio ei sgyrsiau cyfrinachol.

    Dywedodd Comisiynydd Safonau'r Cynulliad, Syr Roderick Evans, bod sgyrsiau am "faterion cyfrinachol a sensitif" wedi eu recordio'n ddirgel.

    Mae cyn-AC Plaid Cymru, Neil McEvoy, wedi dweud mai ef wnaeth y recordiadau.

    Mae'r heddlu wedi cael cais i ymchwilio ac mae'r Cynulliad wedi trefnu archwiliad o'r ystâd.

    Mae'r Llywydd Elin Jones yn ateb drwy ddweud bod chwiliad diogelwch wedi digwydd er mwyn rhoi i bobl "yr hyder eu bod yn gallu siarad mewn amgylchedd ddiogel heb boeni bod rhywun yn clustfeinio".

    Neil McEvoy
    Image caption: Dywedodd Neil McEvoy ei fod wedi ymddwyn yn gyfreithlon ac yn niddordebau'r cyhoedd
  14. Oedi i'r strategaeth ryngwladol

    Mae'r Ceidwadwr Darren Millar yn dweud ei fod yn "ofnadwy o siomedig" na fydd strategaeth ryngwladol Llywodraeth Cymru yn cael ei chyhoeddi tan yn gynnar yn y flwyddyn newydd.

    Mae Eluned Morgan yn dweud mai'r etholiad cyffredinol sy'n gyfrifol am yr oedi.

    Darren Millar
  15. Ymdrechion awdurdodau lleol yn ne orllewin Cymru i gwrdd â safonau'r Gymraeg?

    Nesaf symudwn ymlaen at gwestiynau i Weinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol Eluned Morgan.

    Yn gyntaf mae Dai Lloyd, AC Gorllewin De Cymru yn gofyn: Pa asesiad y mae'r Gweinidog wedi'i wneud o ymdrechion awdurdodau lleol yn ne orllewin Cymru i gwrdd â safonau'r Gymraeg?

    Mae Eluned Morgan yn ateb gan ddweud mai Comisiynydd y Gymraeg sy'n gyfrifol am gydymffurfio â'r safonau.

    Mae'n cytuno i gais Dai Lloyd i fwrw golwg ar yr hyn y mae e'n ei alw yn "sefyllfa argyfyngus" sy'n wynebu uned gyfieithu Cyngor Abertawe.

    Dywed Dr Lloyd bod "pryderon am niferoedd staff, diffyg arweiniad a buddsoddiad ac ansicrwydd am ddyfodol y gwasanaeth".

    Eluned Morgan
  16. 'Cysylltiad â'r gŵr busnes Gavin Woodhouse?'

    Mae arweinydd Plaid Brexit Mark Reckless yn holi'r gweinidog am berthynas Llywodraeth Cymru gyda'r gŵr busnes, Gavin Woodhouse.

    Credir bod dros mil o bobl wedi buddsoddi oddeutu £80m mewn cwmnïau sy'n eiddo i Mr Woodhouse.

    Mae Mr Reckless yn awgrymu bod "cefnogaeth gyhoeddus" Llywodraeth Cymru i Mr Woodhouse mewn cysylltiad â pharc gwyliau antur gwerth £200m yng Nghwm Afan wedi hybu ei enw da.

    Mae Rebecca Evans yn gwrthod y sylw gan ddweud na wnaeth "Llywodraeth Cymru ddarparu unrhyw gyllid i gynlluniau cysylltiedig â Mr Woodhouse."

    AFAN VALLEY ADVENTURE RESORT
    Gavin Woodhouse
    Image caption: Gavin Woodhouse
  17. Rhaglen Datblygu Gwledig

    Rebecca Evans yn dweud wrth y Ceidwadwr Nick Ramsay "bod Cymru hyd yma wedi defnyddio 45% o gyllid yr UE o'r Rhaglen Datblygu Gwledig a bod hynny yn debyg i wladwriaethau eraill yn yr UE."

    Mae'n ychwanegu "nad oes gennym gynlluniau i ddychwelyd arian na sydd wedi cael ei ddefnyddio i'r UE".

  18. 'Buddsoddi i arbed'

    Rhun ap Iorwerth yn galw am agwedd gryfach o "fuddsoddi i arbed" gan Lywodraeth Cymru ac mae'n ychwanegu eu "bod wedi methu blaenoriaethu llywodraeth leol yn ddigonol mewn cyllidebau diweddar".

    Mae Rebecca Evans yn ymateb gan ddweud bod "Llywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol wedi ei chael hi'n anodd wrth wynebu cyllidebau is yn ystod y blynyddoedd diwethaf".

    Rhun ap Iorwerth
  19. Ymdrin â thywydd garw

    Bydd y Llywydd Elin Jones yn cynnal balot i benderfynu pa Aelodau a gaiff gyflwyno cwestiynau.

    Caiff pob Aelod gynnwys ei enw yn y balot.

    Yn gyntaf mae Russell George, AC Sir Drefaldwyn yn gofyn:

    Pa ddyraniadau ychwanegol fydd ar gael yn ystod y cylch cyllideb presennol i gynorthwyo gwasanaethau cyhoeddus wrth ymdrin â thywydd garw?

    Mae Rebecca Evans yn ymateb drwy ddweud "eleni ry'n yn buddsoddi mwy na £51 miliwn i atal llifogydd ac erydu arfordirol."

    rebecca evans
  20. 'Llongyfarchiadau mawr'

    Y Llywydd, Elin Jones yn llongyfarch tîm Cymru wedi iddynt drechu Hwngari o 2 i 0 nos Fawrth i gyrraedd Euro 2020.

    tim cymru