a gafodd drwydded deledu?

You need one to watch live TV on any channel or device, and BBC programmes on iPlayer. It’s the law.

darganfyddwch fwy
Nid oes gennyf drwydded deledu

Y diweddaraf yn fyw

Gan Alun Jones a Nia Harri

Mae pob amser yn lleol i'r DU

  1. Hwyl

    A dyna'r cyfan o'r Siambr am heddiw.

    Fe fydd Senedd Fyw yn ôl yfory.

    Y Senedd
  2. Cytuno i egwyddorion cyffredinol y Mesur

    Mae ACau yn cytuno i egwyddorion cyffredinol Mesur y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Indemniadau) (Cymru).

    Mae hynny'n cwblhau Cyfnod 1 y Mesur.

  3. Canllaw i Fesurau a Deddfau Cyhoeddus

    Yn gyffredinol, mae pedwar cyfnod yn y broses ar gyfer ystyried Mesur Cyhoeddus, sef:

    Cyfnod 1 - pwyllgor yn ystyried egwyddorion cyffredinol y Mesur a'r Cynulliad yn cytuno ar yr egwyddorion cyffredinol hynny;

    Cyfnod 2 - pwyllgor yn ystyried y Mesur ac unrhyw welliannau a gyflwynwyd i’r Mesur hwnnw yn fanwl;

    Cyfnod 3 - y Cynulliad yn ystyried y Mesur ac unrhyw welliannau a gyflwynwyd i’r Mesur hwnnw yn fanwl;

    Cyfnod 4 - pleidlais gan y Cynulliad i basio testun terfynol y Mesur.

  4. Cost indemniad wedi codi 7% y flwyddyn ar gyfartaledd rhwng 2013 a 2017

    Amcangyfrifir bod cost indemniad wedi codi 7% y flwyddyn ar gyfartaledd rhwng 2013 a 2017.

    Yn ôl Llywodraeth Cymru "ymysg y ffactorau sy'n arwain at godi costau indemniad mae poblogaeth sy'n heneiddio; arloesi technolegol mewn meddyginiaeth sy'n cadw pobl yn fyw am gyfnod hwy; cynnydd yn nifer y bobl sy'n byw â chyflyrau cymhleth a diwylliant o hawlio iawndal".

  5. 'Cyfnod 1 yn rhan bwysig o weithdrefnau craffu'

    Mae Cadeirydd y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol Mick Antoniw yn cyflwyno'u hadroddiad nhw.

    Mae'n dweud, "nid ydym o’r farn bod Cyfnod 1 yn broses estynedig, fel yr awgrymodd y Gweinidog.

    "Mae’n rhan bwysig o weithdrefnau craffu deddfwriaethol y Cynulliad Cenedlaethol, yn anad dim oherwydd bod Cyfnod 1 yn rhoi’r cyfle i’r Aelodau a rhanddeiliaid ddeall goblygiadau ymarferol y ddeddfwriaeth arfaethedig yn llawn. Rydym yn credu bod Cyfnod 1 hefyd yn rhoi amser a chyfle i gynigydd y ddeddfwriaeth fyfyrio ar ei gynigion ei hun".

    Mick Antoniw
  6. 'Amcangyfrif yr atebolrwyddau oddeutu £100 miliwn'

    Mae Cadierydd y Pwyllgor Cyllid Llyr Gruffydd yn cyflwyno'u hadroddiad nhw.

    Mae'n esbonio, bod y pwyllgor "yn cydnabod bod amcangyfrif yr atebolrwyddau oddeutu £100 miliwn cyn trosglwyddo unrhyw asedau. Er bod y Gweinidog wedi dweud wrth y Pwyllgor y byddai’r ffigur hwn yn gostwng ar ôl ystyried y trosglwyddiad asedau, nid yw lefel y trosglwyddiadau asedau ar gael ar hyn o bryd. Mae’r wybodaeth hon yn gyfyngedig oherwydd ei sensitifrwydd masnachol a chytundebau peidio â datgelu rhwng Llywodraeth Cymru a’r MDOs.

    "Mae’r Pwyllgor yn credu y dylai’r wybodaeth hon fod ar gael iddo pan fydd hynny’n ymarferol".

  7. Sicrhau nad yw meddygon teulu sy’n ymarfer yng Nghymru dan anfantais o gymharu â’u cydweithwyr yn Lloegr

    Mae Cadeirydd y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon, Dr Dai Lloyd yn cyflwyno'u hadroddiad.

    Mae'n dweud, "Mae trefniadau ar y gweill yn Lloegr i drosglwyddo rhwymedigaethau esgeuluster clinigol hanesyddol meddygon teulu o ddarparwyr indemniad preifat i’r wladwriaeth. Rydym yn awyddus i sicrhau nad yw meddygon teulu sy’n ymarfer yng Nghymru dan anfantais o gymharu â’u cydweithwyr yn Lloegr o ganlyniad i’r penderfyniad polisi hwn, ac rydym yn fodlon bod y Mesur yn angenrheidiol er mwyn sicrhau hyn. Gan hynny, rydym yn fodlon argymell i’r Cynulliad gytuno i egwyddorion cyffredinol y Mesur.

    "Fodd bynnag, rydym yn nodi’r dystiolaeth yn crybwyll y risg na fydd gan ddarparwr indemniadau a gefnogir gan y wladwriaeth yr un cyfrifoldeb i amddiffyn statws proffesiynol y meddyg dan sylw mewn unrhyw hawliad penodol, nac i ddarparu cymorth ychwanegol yn ystod hawliad. Rydym yn awyddus i sicrhau na fydd unrhyw gynllun a gefnogir gan y wladwriaeth yn golygu cynnig gwaeth nag sydd ar gael ar hyn o bryd drwy ddarparwr preifat".

    Dr Dai Lloyd
  8. Dadl: Mesur y GwasanaethIechyd Gwladol (Indemniadau) (Cymru)

    Ac yn olaf yn y Siambr heddiw dadl ar Egwyddorion Cyffredinol Mesur y GwasanaethIechyd Gwladol (Indemniadau) (Cymru).

    Mae'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Vaughan Gething, yn egluro mai prif ddiben y Mesur yw diwygio adran 30 o Ddeddf GIG (Cymru) 2006, gan alluogi Gweinidogion Cymru i wneud rheoliadau i sefydlu cynlluniau indemniad uniongyrchol.

    Mae'r Mesur hefyd yn ehangu'r cyrff a all gael eu hindemnio gan Weinidogion Cymru o dan gynlluniau a sefydlir yn unol ag adran 30.

    Bydd y pwerau hyn yn galluogi Gweinidogion Cymru i sefydlu Cynllun Atebolrwyddau Presennol (ELS) i indemnio Ymarferwyr Cyffredinol ar gyfer hawliadau esgeuluster clinigol hanesyddol yr adroddwyd arnynt, neu'r aed iddynt ond nad adroddwyd arnynt, cyn 1 Ebrill 2019."

    View more on twitter
  9. Sgwrs gyda Tata

    Dywed Ken Skates "Rwyf heddiw wedi siarad â'r cwmni a dywedwyd wrthyf y bydd gwaith yn digwydd dros y misoedd nesaf i nodi swyddogaeth ar ôl swyddogaeth pa swyddi fydd yn cael eu colli, ac yna y bydd asesiad fesul safle yn cael ei wneud, gyda gweithredu erbyn Mawrth 2021".

    Ken Skates
  10. Datganiad: Tata Steel

    Mae'r aelodau nawr yn gwrando ar ddatganiad gan Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth, Ken Skates: Tata Steel.

    Fe gyhoeddodd Tata Steel ddoe eu bod yn bwriadu cwtogi 3,000 o swyddi ar draws eu busnes Ewropeaidd mewn ymgais arall i ddod i delerau gyda'r farchnad ddur rhyngwladol "lem".

    Mae'r cwmni eisiau canolbwyntio ar gynnyrch gwerth uwch meddid gan ychwanegu na fyddai safleoedd yn cau.

    Mae gwaith dur Port Talbot yn cyflogi ychydig o dan hanner gweithlu 8,385 Tata yn y DU.

    Gwaith dur Port Talbot
    Image caption: Gwaith dur Port Talbot
  11. Cynlluniau Llywodraeth Cymru ar gyfer y 22 awdurdod lleol

    Mae cynlluniau Llywodraeth Cymru ar gyfer y 22 awdurdod lleol yn cynnwys:

    • Caniatáu i bob cyngor penderfynu drosto'i hun pa system bleidleisio i'w defnyddio - Y Cyntaf i'r Felin (FPTP) neu Bleidlais Sengl Drosglwyddadwy (STV);
    • Ei gwneud yn haws i bobl gael eu cynnwys ar y rhestr etholiadol, trwy roi i swyddogion cofrestru etholiadol y pŵer i ychwanegu pobl at y gofrestr yn awtomatig, heb fod angen iddynt wneud cais;
    • Hwyluso arbrofi gyda diwygiadau i etholiadau llywodraeth leol ar ôl 2022, megis cynnal etholiadau ar ddiwrnodau gwahanol a chael gorsafoedd pleidleisio mewn gwahanol leoedd;
    • Symud at gyfnodau pum mlynedd benodedig rhwng etholiadau cyngor;
    • Rhoi cyfle i bob dinesydd tramor sy'n byw yng Nghymru'r cyfle i bleidleisio mewn etholiad lleol a sefyll ynddynt, waeth beth fo'u cenedligrwydd;
    • Galluogi swyddi i gael eu rhannu yng ngweithrediaeth y cyngor gan gynnwys swydd yr Arweinydd, a diweddaru darpariaethau i alluogi cynghorwyr i fynychu cyfarfodydd cyngor o bell a chael cyfnodau o absenoldeb teuluol;
    • Caniatáu i brif gynghorau gael eu huno'n wirfoddol i sicrhau, lle y caiff y llwybr hwn ei gymryd, fod y broses yn cael ei chwblhau yn drefnus ac yn dwyn ffrwyth yn y ffordd orau bosibl i ddefnyddwyr gwasanaethau.
  12. Ychwanegu 75,000 o bobl at y gofrestr etholwyr

    Amcangyfrifir y bydd gostwng yr oedran pleidleisio yn ychwanegu 75,000 o bobl at y gofrestr etholwyr.

    Bydd cynnwys preswylwyr o dramor yn ychwanegu oddeutu 33,000 o bobl at gofrestr etholiadol yr etholiadau lleol nesaf ym Mai 2022.

    Byddai oddeutu 1,900 o garcharorion yn gymwys i fwrw pleidlais.

    Mewn deddfwriaeth arall mae'r cynulliad yn bwriadu gostwng yr oedran pleidleisio ar gyfer etholiadau'r Cynulliad nesaf yn 2021.

    Pleidlais
    Carchar
  13. Y Mesur Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru)

    Nawr datganiad gan y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol, Julie James: Y Mesur Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru).

    Mae'n esbonio y bydd y Mesur yn "ymestyn yr etholfraint i bobl ifanc 16 a 17 oed a dinasyddion tramor sy'n preswylio'n gyfreithiol yng Nghymru ar gyfer etholiadau llywodraeth leol; yn gwella prosesau ar gyfer cofrestru pleidleiswyr, ac yn diwygio'r rheolau ynghylch pwy sy'n cael sefyll fel ymgeisydd a phwy nad yw'n cael gwneud hynny.

    "Bydd yn galluogi'r awdurdodau lleol i ddewis eu system bleidleisio ar gyfer etholiadau, a bydd yn rhoi cylch etholiadol llywodraeth leol ar gylch pum mlynedd".

    Julie James
  14. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

    Symudwn ni ymlaen nawr at y Datganiad a Chyhoeddiad Busnes.

    Mae'r Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd Rebecca Evans AC yn amlinellu busnes y cynulliad yn y dyfodol ac yn ymateb i geisiadau gan ACau.

    Rebecca Evans
  15. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol

    Nesaf yn y Siambr cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Brexit, Jeremy Miles (mewn perthynas â'i gyfrifoldebau fel "swyddog cyfreithiol").

    Dim ond pedwar cwestiwn sydd wedi eu cyflwyno.

    Dyw cwestiwn Janet Finch-Saunders - pa gyngor cyfreithiol y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i ddarparu mewn perthynas â chytundebau y mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo iddynt? - ddim yn rhoi fawr o gliw i'r gweinidog ynghylch ei chwestiwn atodol.

    Mae hi'n beirniadu'r Asiantaeth Swyddfa Brisio, sy'n gosod cyfraddau busnes, gan ddatgan bod yr asiantaeth yn wynebu cymaint â 3,000 o apeliadau, gan greu ansicrwydd mawr i fusnesau.

    Mae Jeremy Miles yn dweud y bydd e'n ystyried y sefyllfa.

    Janet Finch-Saunders
    Jeremy Miles
  16. Terminoleg amhriodol?

    Mae Vaughan Gething unwaith eto yn cyhuddo arweinydd Plaid Cymru Adam Price o ddefnyddio terminoleg amhriodol wrth gymharu profiad Cymru gyda gwladychiaeth.

    Mewn cyfweliad gyda melin drafod y Sefydliad Materion Cymreig fe ddywedodd Adam Price fod Plaid Cymru am gael "iawndal am ganrif o esgeulustod sydd wedi gadael gwlad o adnoddau cyfoethog yn dlawd a sâl - lle mae bywydau wedi'u difetha a breuddwydion ddim wedi'u gwireddu".

    Dywed Mr Gething wrth ACau "na ddylem gymharu ein hunain ag un o'r cyfnodau mwyaf cywilyddus yn hanes y byd", gan ychwanegu nad yw'n briodol cymharu profiad Cymru yn y 19eg a'r 20fed ganrif â phrofiad yr ymgyrch rhyddfreinio o gaethwasiaeth.

  17. Person du cyntaf i ateb cwestiynau i'r prif weinidog

    Vaughan Gething yw'r person du cyntaf mewn unrhyw genedl yn y DU i ateb cwestiynau i'r prif weinidog.

  18. Wythnos waith bedwar diwrnod

    Mae arweinydd Plaid Brexit Mark Reckless yn gofyn pa gynnydd fyddai ei angen yng ngweithlu'r GIG petai Llafur yn cyflwyno wythnos waith llawn amser 32 awr.

    Mae Vaughan Gething yn ateb mae'n "bolisi dyhead ar gyfer 10 mlynedd a mwy".

    Yn wreiddiol fe wnaeth Canghellor yr wrthblaid John McDonnell gyhoeddi polisi wythnos waith fyrach yng nghynhadledd y Blaid Lafurym mis Medi.

    Mark Reckless
  19. 'Embaras... bod Llafur wedi ymostwng mor isel'

    Mae arweinydd y Ceidwadwyr Paul Davies yn dweud ei bod hi'n "embaras... bod Llafur wedi ymostwng mor isel" bod darllediad gwleidyddol y blaid wedi gorfod cael ei dynnu'n ôl gan Lafur Cymru wedi iddo ddarlunio actor yn chwarae nyrs.

    Yn y ffilm mae'r nyrs yn cyhuddo'r Ceidwadwyr o fygwth dyfodol y GIG.

    Mae canllawiau darlledu yn dweud bod yn "rhaid ei gwneud hi'n glir i'r gynulleidfa am y defnydd o ailwneuthuriad neu actorion".

    Fe dynnodd Llafur y ffilm yn ôl gan nad oedd hi'n glir bod actor yn chwarae'r rôl.

    Paul Davies
  20. Bwrdd Iechyd Cwm Taf Bro Morgannwg

    Mae Helen Mary Jones yn gofyn cwestiwn ar ran arweinydd Plaid Cymru Adam Price.

    Mae hi'n cyfeirio at adroddiad ar y cyd gan Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru (AGIC) a Swyddfa Archwilio Cymru sy'n beirniadu bwrdd iechyd am roi gormod o bwyslais ar dargedau yn hytrach na diogelwch cleifion.

    Mae'r adroddiad wedi darganfod methiannau pellach yng ngweithdrefnau Bwrdd Iechyd Cwm Taf Bro Morgannwg

    Mae Vaughan Gething yn dweud "Rydw i wedi gweithredu, rydw i wedi rhoi cefnogaeth ychwanegol i'r bwrdd iechyd", a bod gan y bwrdd iechyd waith yn mynd rhagddo yn delio gyda'r materion a godwyd.

    Fel rhan o'r adolygiad cafodd staff eu holi am weithdrefnau a'r mesurau oedd yna i ddysgu o gamgymeriadau.

    Fe ddaeth i'r amlwg nad oedd y bwrdd iechyd wedi rhoi digon o sylw i ddiogelwch o fewn eu gwasanaethau er fod y bwrdd wedi rhoi pwyslais mawr ar dargedau a rheolaeth ariannol.

    Helen Mary Jones
    Vaughan Gething
    View more on twitter