a gafodd drwydded deledu?

You need one to watch live TV on any channel or device, and BBC programmes on iPlayer. It’s the law.

darganfyddwch fwy
Nid oes gennyf drwydded deledu

Y diweddaraf yn fyw

Gan Alun Jones a Sarah Down-Roberts

Mae pob amser yn lleol i'r DU

  1. Hwyl

    A dyna ni o'r Siambr am heddiw.

    Bydd Senedd Fyw yn dychwelyd ar ddydd Mawrth, 19 Tachwedd.

    Senedd
  2. Cwblhau Cyfnod 3 Mesur Senedd ac Etholiadau (Cymru)

    Dyna gwblhau Cyfnod 3 Mesur Senedd ac Etholiadau (Cymru), y Cyfnod olaf ond un.

  3. Hawl i bleidleisio yn etholiadau'r Cynulliad

    Yn rhan o'r mesur hefyd rmae estyn yr hawl i bersonau 16 a 17 oed bleidleisio a estyn yr hawl i wladolion tramor bleidleisio.

    Nid pawb sy'n cytuno, serch hynny, gyda Suzy Davies AC Ceidwadol, De Orllewin Cymru yn dweud "ei bod yn gwrthwnebu yn chwyrn yr hawl i wladolion tramor bleidleisio am nad yw'r rhan hwn o'r mesur wedi'i drafod ger bron y senedd ac nad oes darpariaeth ariannol ar ei gyfer yn y gyllideb.

    "Mi fydd yn cymryd tipyn i fi gael fy mherswadio o werth y comisiwn i gyflwyno mesurau yn y dyfodol."

    Suzy Davies
  4. Canllaw i Fesurau a Deddfau Cyhoeddus

    Yn gyffredinol, mae pedwar cyfnod yn y broses ar gyfer ystyried Mesur Cyhoeddus, sef:

    Cyfnod 1 - pwyllgor yn ystyried egwyddorion cyffredinol y Mesur a'r Cynulliad yn cytuno ar yr egwyddorion cyffredinol hynny;

    Cyfnod 2 - pwyllgor yn ystyried y Mesur ac unrhyw welliannau a gyflwynwyd i’r Mesur hwnnw yn fanwl;

    Cyfnod 3 - y Cynulliad yn ystyried y Mesur ac unrhyw welliannau a gyflwynwyd i’r Mesur hwnnw yn fanwl;

    Cyfnod 4 - pleidlais gan y Cynulliad i basio testun terfynol y Mesur.

  5. Pasio galw aelodau yn "Aelodau o'r Senedd"

    Mae gwelliant y cyn brif weinidog Carwyn Jones i aelodau gael eu galw yn "Members of the Senedd neu Aelodau o'r Senedd" wedi'i basio.

    Roedd 37 o blaid, neb wedi atal ac 18 yn erbyn.

  6. Gwelliant yn cael ei drechu

    Mae gwelliant Rhun ap Iorwerth i hepgor y geiriau "the Welsh Parliament" fel bod gan y sefydliad enw Cymraeg yn unig wedi'i drechu.

    16 o blaid, neb yn atal, a 39 yn erbyn.

    pleidlais
  7. Gweinidogion o blaid enw dwyieithog

    Mae'r Cwnsler Cyffredinol Jeremy Miles yn dweud y bydd gweinidogion Llywodraeth Cymru yn pleidleisio o blaid enw dwyieithog ond bod gan ACau Llafur y meinciau cefn bleidlais rydd.

    Mae'n nodi bod gan y sefydliad ar hyn o bryd enw dwyieithog - enw "na sydd wedi rhwystro y defnydd cynyddol o'r gair Senedd".

    Jeremy Miles
  8. Teitlau newydd i ACau

    Mae'r cyn-brif weinidog Carwyn Jones yn cyflwyno ei welliant sef bod "Aelodau y Senedd yn cael eu hadnabod wrth yr enw hwnnw".

    Carwyn Jones
  9. '70% yn ffafrio enw dwyieithog'

    Mae David Melding yn dweud bod y grŵp Ceidwadol wedi'u hargyhoeddi bod angen enw dwyieithog ar gyfer y sefydliad mewn deddfwriaeth. Ychwanega bod ymgynghoriad i'r mesur wedi arwain at 70% yn dweud eu bod yn ffafrio enw dwyieithog.

  10. Galw am hepgor y Saesneg

    Mae Rhun ap Iorwerth yn cyflwyno ei welliant sef hepgor "the Welsh Parliament" fel bod gan y sefydliad enw Cymraeg yn unig.

    Mae e'n cael cefnogaeth yr ACau Llafur David Rees, Mike Hedges, Hefin David, Huw Irranca-Davies a John Griffiths.

    Mae Sian Gwenllian yn dweud bod y Gymraeg yn perthyn i bawb yng Nghymru.

    "Mae'n bwysig bod y gair Senedd yn perthyn i bawb," meddai, "buan iawn y buasai'n ennill ei blwyf fel 'cwtsh'.

    "Senedd i bawb a phawb yn ein galw ni yn Senedd".

  11. Yr enw Senedd yn unig?

    Fis diwethaf fe wnaeth Aelodau'r Cynulliad bleidleisio o blaid cael enw dwyieithog i'r sefydliad pan fydd yn cael teitl newydd.

    Y penderfyniad yn y bleidlais gyntaf honno oedd y byddai yn cael ei alw'n Senedd Cymru yn Gymraeg, a Welsh Parliament yn Saesneg.

    Fe wnaeth y mwyafrif o ACau wrthod cael enw Cymraeg yn unig, gan gefnogi cynnig y cyn-brif weinidog, Carwyn Jones am enw dwyieithog.

    Roedd 43 o ACau yn cefnogi cynnig Mr Jones, gyda 13 yn erbyn.

    Ddydd Sadwrn fe wnaeth ymgyrchwyr alw am enw uniaith Gymraeg i'r Cynulliad mewn rali ym Mae Caerdydd.

    Enwogion yn galw am enw uniaith Gymraeg i'r Senedd

    Bethan Ruth yn annerch y dorf ar risiau'r Cynulliad brynhawn Sadwrn
    Image caption: Bethan Ruth yn annerch y dorf ar risiau'r Cynulliad brynhawn Sadwrn
  12. Egwyl

    Bydd aelodau yn cael 10 munud o egwyl cyn Dadl Cyfnod 3 y Mesur Senedd ac Etholiadau (Cymru).

    View more on twitter
  13. Dadl fer: Troi canolbarth Cymru yn fferm wynt fwya'r byd

    Y pwnc sydd wedi cael ei ddewis gan Neil Hamilton (Canolbarth a Gorllewin Cymru) yw Y Fframwaith Datblygu Cenedlaethol: Troi canolbarth Cymru yn fferm wynt fwya'r byd.

    Mae Mr Hamilton yn dweud "dyw be bynnag ry'n yn ei wneud yn y wlad yma ddim yn mynd i wneud unrhyw wahaniaeth i gynhesu byd eang", ac mae'n cyfeirio at allyriadau yn China ac India.

    Yn y gorffennol mae ymgyrchwyr wedi dweud y gallai fframwaith ar gyfer prosiectau datblygu o bwys cenedlaethol, gan gynnwys cynlluniau ynni adnewyddadwy, arwain at "ddiwydiannu" cefn gwlad Cymru.

    Fferm wynt Carno ym Mhowys
    Image caption: Fferm wynt Carno ym Mhowys
    Neil Hamilton
  14. Penodi Comisiynydd Safonau Cynulliad dros dro

    ACau yn cefnogi cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

    1. Yn nodi bod swydd Comisiynydd Safonau Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn wag.

    2. Yn penodi Douglas Bain CBE TD fel Comisiynydd dros dro, yn unol ag Adran 4(1) o Fesur Comisiynydd Safonau Cynulliad Cenedlaethol Cymru 2009, ar y telerau a ganlyn:

    a) bydd y penodiad yn dod i rym ar unwaith;

    b) bydd y penodiad yn dod i ben ar unwaith pan roddir hysbysiad i'r Comisiynydd dros dro gan Glerc y Cynulliad;

    c) bydd taliad y Comisiynydd dros dro yn gyfradd ddyddiol o £392 (neu pro-rata am ran o ddiwrnod) ar gyfer gweithgareddau sy'n ymwneud yn uniongyrchol â rôl a chyfrifoldebau'r swydd ynghyd â threuliau rhesymol;

    d) bydd pob swm y cyfeirir ato ym mharagraff 2(c) i'w dalu i'r Comisiynydd dros dro gan Gomisiwn y Cynulliad.

    Roedd 40 o blaid, neb yn ymatal a dau yn erbyn.

    Douglas Bain
    Image caption: Douglas Bain
  15. ACau yn cytuno ar gyllideb Comisiwn y Cynulliad

    ACau yn cytuno ar gyllideb Comisiwn y Cynulliad ar gyfer 2020-21.

    arian
  16. Cyllideb Comisiwn y Cynulliad

    Cyllideb Comisiwn y Cynulliad ar gyfer 2020-21 yw'r pwnc nesaf sy' cael ei drafod.

    Cyfanswm y gyllideb ar gyfer 2020-21 yw £61.411 miliwn ac mae'n darparu ar gyfer:

    ▪ gwariant o dan reolaeth uniongyrchol y Comisiwn (y gyllideb weithredol);

    ▪ cronfa prosiect;

    ▪ dibrisiant;

    ▪ y gyllideb ar gyfer Penderfyniad y Bwrdd Taliadau ar gyfer Cyflog a Lwfansau Aelodau; a

    ▪ y ddarpariaeth gyfrifyddu ar gyfer Cynllun Pensiwn yr Aelodau o dan bennawd Gwariant a Reolir yn Flynyddol Trysorlys EM.

  17. Newid cylch gwaith y Pwyllgor Cyllid

    ACau yn cymeradwyo cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 16.3, yn cytuno i newid cylch gwaith y Pwyllgor Cyllid, fel bod ei gylch gwaith fel a ganlyn:

    a) cyflawni swyddogaethau'r pwyllgor cyfrifol a nodir yn Rheolau Sefydlog 18.10, 18.11, 18A.2 (iv) a (v), 19 ac 20 o Gynulliad Cenedlaethol Cymru;

    b) o dan Reolau Sefydlog 19 ac 20, mae cyfrifoldebau'r pwyllgor yn cynnwys ystyried unrhyw adroddiad neu ddogfen a osodir gerbron y Cynulliad mewn perthynas â'r defnydd o adnoddau, neu wariant o Gronfa Gyfunol Cymru, gan gynnwys ymgymryd â gwaith craffu ar gyllideb cyrff a ariennir yn uniongyrchol o Gronfa Gyfunol Cymru;

    c) o dan Reolau Sefydlog 18.10 a 18.11, mae cyfrifoldebau'r pwyllgor yn cynnwys goruchwylio'r gwaith o lywodraethu Swyddfa Archwilio Cymru, fel y nodir yn Neddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2013;

    d) o dan Reol Sefydlog 18A.2 (iv) a (v), i arfer swyddogaethau cyllidebol mewn perthynas ag Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru;

    e) bod y Pwyllgor hefyd yn ystyried unrhyw gynigion ar gyfer datganoli pwerau ariannol i Gymru fel rhan o'i gyfrifoldebau, a'r cynnydd a wnaed wrth wneud hynny;

    f) gall y Pwyllgor hefyd graffu ar ddeddfwriaeth a gyflwynir i'r Cynulliad.

  18. Newid y nifer o weithiau y gall Aelod gyflwyno ei enw i'r balot

    ACau yn cymeradwyo cynnig i ddiwygio Rheol Sefydlog 12.63 er mwyn newid y nifer o weithiau y gall Aelod gyflwyno ei enw i'r balot ar gyfer sesiwn Cwestiynau Llafar y Cynulliad i Weinidogion o ddwywaith i unwaith.

  19. Newid cylch gwaith y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau

    ACau yn cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 16.3, yn cytuno i newid cylch gwaith y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau fel bod ei gylch gwaith fel a ganlyn:

    a) archwilio deddfwriaeth a dwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif drwy graffu ar faterion gwariant, gweinyddu a pholisi sy'n cwmpasu (ond heb fod yn gyfyngedig i): lywodraeth leol; tai, adfywio cymunedol, cydlyniant a diogelwch; trechu tlodi; cyfle cyfartal a hawliau dynol;

    b) arfer y swyddogaethau nad ydynt yn rhai cyllidebol a nodir yn Rheol Sefydlog 18A.2 mewn perthynas ag atebolrwydd a llywodraethu Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru.

  20. Goruchwylio Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru

    Mae ACau yn cymeradwyo cynnig i ddiwygio Rheolau Sefydlog i gyflwyno Rheol Sefydlog 18A newydd ar gyfer goruchwylio Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru.