a gafodd drwydded deledu?

You need one to watch live TV on any channel or device, and BBC programmes on iPlayer. It’s the law.

darganfyddwch fwy
Nid oes gennyf drwydded deledu

Y diweddaraf yn fyw

Gan Alun Jones a Nia Harri

Mae pob amser yn lleol i'r DU

  1. Hwyl

    A dyna'r cyfan o'r Siambr am heddiw.

    Fe fydd Senedd Fyw yn ôl yfory.

    Y Senedd
  2. Pasio cynnig ar gysylltedd digidol

    Mae cynnig Llywodraeth Cymru - wedi ei ddiwygio - yn cael ei basio.

    Roedd 40 o blaid, pedwar yn ymatal, a neb yn erbyn.

  3. Isafbris am Alcohol

    Mae ACau yn cymeradwyo y fersiwn ddrafft o Reoliadau Iechyd y Cyhoedd (Isafbris am Alcohol) (Isafbris Uned) (Cymru) 2019.

    Fe fydd y gyfraith sy'n gosod isafbris am alcohol yn dod i rym ar Fawrth yr ail, o dan gynlluniau Llywodraeth Cymru.

    Mae gweinidogion eisiau i adwerthwyr a bariau godi isafswm o 50c yr uned - sy'n golygu y gallai can o seidr gostio o leiaf £1 a photel o win £4.69.

    Roedd 38 o blaid, neb yn ymatal, a phump yn erbyn.

    Alcohol
    Pleidlais
  4. 'Siop un stop i’r rhai sydd ddim wedi cael eu cysylltu drwy raglen Cyflymu Cymru'

    Mae gwelliant Plaid Cymru yn cynnig ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig galw "am ddarparu gwell gwybodaeth - drwy ‘siop un stop’ - i’r rhai sydd ddim wedi cael eu cysylltu drwy raglen Cyflymu Cymru, ynglyn â sut arall y gallant gael mynediad cyflym i’r we".

  5. 'Methiant Llywodraeth Cymru i gyflawni ei haddewid'

    Mae'r aelod Ceidwadol Russell George yn beirniadu Llywodraeth Cymru ar nifer o faterion gan gynnwys eu "methiant i gyflawni ei haddewid i sicrhau y byddai gan bob eiddo preswyl a busnes, fand eang y genhedlaeth nesaf erbyn 2015 a bod rhai cymunedau wedi'u gadael gydag asedau wedi'u hynysu ar ôl cwblhau cam 1 Cyflymu Cymru".

    Mae'r Ceidwadwyr yn canmol gwaith Llywodraeth y DU gan gynnwys "cyflwyno rhwymedigaeth gwasanaeth cyffredinol (USO) a fydd yn rhoi hawl clir, gorfodadwy i gartrefi a busnesau cymwys yn y DU ofyn am gysylltiad band eang digonol a fforddiadwy erbyn mis Mawrth 2020 a buddsoddiad Llywodraeth y DU i ddarparu band eang cyflym iawn a'i symbyliad ar gyfer buddsoddiad masnachol mewn cysylltiadau ffeibr llawn mewn lleoliadau gwledig a threfol ledled y DU gyfan".

    Russell George
  6. Dadl: Cysylltedd Digidol

    Yr eitem olaf yn y Siambr heddiw yw dadl ar gysylltedd digidol.

    Ar ran Llywodraeth Cymru mae Dirprwy Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth, Lee Waters, yn cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

    1. Yn cydnabod y gwaith a wnaed gan Lywodraeth Cymru ers 2012 i wella cysylltedd digidol ledled Cymru drwy’r rhaglen Superfast Cymru, â 733,000 o eiddo wedi cael mynediad at fand eang ffibr cyflym erbyn hyn.

    2. Yn nodi bod Llywodraeth Cymru wedi gwneud y gwaith hwn mewn maes nad yw wedi ei ddatganoli yn sgil methiant Llywodraeth y DU ar y pryd i fuddsoddi’n ddigonol lle na fyddai’r farchnad fasnachol yn darparu.

    3. Yn galw ar Lywodraeth y DU i gyflawni ei chyfrifoldebau a buddsoddi mewn band eang sy’n gallu ymdopi â gigabit sy’n bodloni anghenion cartrefi a busnesau yng Nghymru, gan sicrhau bod:

    a) cyllid yn adlewyrchu’r heriau o roi seilwaith digidol ar waith yng Nghymru;

    b) dull sy’n edrych o’r ‘tu allan i’r tu mewn’ yn cael ei ddilyn wrth gyflenwi, sy’n darparu cysylltedd i’r eiddo hynny mewn ardaloedd gwledig neu wledig iawn; ac

    c) cysylltedd yn cael ei ddarparu yn gyntaf i’r eiddo hynny nad ydynt yn gallu derbyn band eang cyflym.

    Band eang
    Lee Waters
  7. Y Dyfodol ar gyfer Gwasanaeth Busnes Cymru

    Ymlaen nawr at ddatganiad ola'r dydd.

    Mae'n ddatganiad gan Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth, Ken Skates: Y Model Cyflenwi Arfaethedig ar gyfer y Dyfodol ar gyfer Gwasanaeth Busnes Cymru.

    Mae Busnes Cymru yn darparu cyngor annibynnol am ddim i bobl sy'n dechrau, rhedeg a thyfu busnes yng Nghymru.

    Mae Mr Skates yn dweud, "mae'n bryd i ni fel Llywodraeth Cymru i weithio gyda chi fel Cynulliad Cenedlaethol Cymru i helpu i roi Busnes Cymru ar sylfaen gryfach ar gyfer y dyfodol... I wneud hynny rydyn ni wedi canolbwyntio ein gwaith ar dri phrif maes:

    "Y prif faes cyntaf yw creu gwasanaeth Busnes Cymru ar gyfer y dyfodol sydd o ansawdd uchel, cyngor rheng flaen a phorth ymchwilio. Un sydd yn darparu i bawb sydd ei eisiau, "siop un stop" ar gyfer cefnogaeth ddigidol, llinell gymorth ac ymchwilio.

    "Yr ail elfen oedd canolbwyntio ar greu gwasanaeth a all wella gallu ein heconomïau rhanbarthol yng Nghymru i gefnogi twf cynhwysol.

    "Ac mae trydydd maes ein gwaith yn canolbwyntio ar dwf cynhwysol a chynaliadwy."

    Ken Skates
  8. Cynghori ar ddatblygiadau am yr 20 mlynedd nesaf

    Mae ardal y cynllun morol yn cynnwys 12,350 milltir sgwâr o fôr a 1,300 milltir o arfordir.

    Y syniad yw y bydd yn gweithio ar y cyd â'r Fframwaith Datblygu Cenedlaethol newydd, sy'n ddogfen debyg ond ar gyfer datblygiadau ar y tir.

    Y gobaith yw y byddan nhw'n cynghori ar ddatblygiadau am yr 20 mlynedd nesaf.

    Fferm wynt
  9. Cynllun Morol Cenedlaethol Cymru

    Mae'r aelodau nawr yn gwrando ar ddatganiad gan Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig, Lesley Griffiths: Cynllun Morol Cenedlaethol Cymru.

    Yn ôl Deddf y Môr a Mynediad i'r Arfordir (2009), mae'n ofynnol i Weinidogion Cymru, fel yr awdurdod cynllunio ar gyfer ardal glannau ac ardal môr mawr Cymru, gyflwyno cynlluniau sy'n nodi ein polisïau datblygu cynaliadwy ar ôl mabwysiadu Datganiad Polisi Morol y DU.

    Y bwriad yw rhoi hwb i gynlluniau ynni adnewyddadwy, tra'n diogelu bywyd gwyllt.

    Yn ôl y Gweinidog Amgylchedd Lesley Griffiths fe fyddai'r Cynllun Morol Cenedlaethol yn rhoi Cymru ar flaen y gad wrth daclo newid hinsawdd.

    Ond, yn wahanol i'r fersiwn ddrafft, nid yw'n pennu ardaloedd penodol lle mae 'na botensial am fwy o ddatblygu.

    Daw hyn yn dilyn beirniadaeth gan elusennau amgylcheddol, fydd bellach yn rhan o'r broses o benderfynu lle bydd yr hyn sy'n cael eu galw'n ardaloedd strategol yn cael eu lleoli.

    Dywedodd Lesley Griffiths ei bod yn bwysig ei fod yn "gynllun byw, egnïol" nid un i'w adael ar silff "i gasglu llwch a chael ei anghofio"
    Image caption: Dywedodd Lesley Griffiths ei bod yn bwysig ei fod yn "gynllun byw, egnïol" nid un i'w adael ar silff "i gasglu llwch a chael ei anghofio"
    Lesley Griffiths
  10. Cymru'n Cofio

    Mae rhaglen Cymru'n Cofio i nodi canmlwyddiant y Rhyfel Byd Cyntaf wedi’i hymestyn tan 2020.

    Rhyfel Byd Cyntaf
  11. Nodi Dydd y Cofio a chefnogi cymuned ein Lluoedd Arfog

    Nesaf yn y Siambr datganiad cynta'r dydd.

    Mae'n ddatganiad gan y Dirprwy Weinidog Tai a Llywodraeth Leol, Hannah Blythyn: Nodi Dydd y Cofio a chefnogi cymuned ein Lluoedd Arfog.

    Fe gafodd digwyddiadau Sul y Cofio eu cynnal ledled y wlad ddydd Sul.

    Roedd gorymdaith yng Nghaerdydd, gydag aelodau o'r fyddin, y llynges a'r awyrlu yn teithio o Rodfa'r Brenin Edward VII at y gofeb rhyfel ym Mharc Cathays.

    Cafodd ras ei chynnal dros nos ar Drac Rasio Môn hefyd, gyda'r rasio'n dod i ben er mwyn cynnal gwasanaeth am 11:00 ddydd Sul.

    Bu gwasanaeth ym Mangor yn ogystal, gyda thaith ar hyd y Stryd Fawr o'r cloc hyd at yr Eglwys Gadeiriol ar gyfer gwasanaeth, cyn gorymdaith bellach at senotaff y ddinas erbyn 11:00.

    Roedd gwasanaeth hefyd yn cael ei gynnal yn Wrecsam, gyda gorymdaith yn teithio at y gofeb rhyfel yn ardal Bodhyfryd yn y dref.

    Roedd disgyblion o Ysgol Marlborough yng Nghaerdydd yn gwisgo dillad amser rhyfel fel rhan o'u digwyddiadau Diwrnod y Cofio
    Image caption: Roedd disgyblion o Ysgol Marlborough yng Nghaerdydd yn gwisgo dillad amser rhyfel fel rhan o'u digwyddiadau Diwrnod y Cofio
  12. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

    Symudwn ni ymlaen nawr at y Datganiad a Chyhoeddiad Busnes.

    Mae'r Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd Rebecca Evans AC yn amlinellu busnes y cynulliad yn y dyfodol ac yn ymateb i geisiadau gan ACau.

    Rebecca Evans
  13. 'Dau AC wedi diystyru awdurdod y Llywydd'

    Mae'r cyn brif weinidog Carwyn Jones yn dweud bod dau AC wedi "diystyru awdurdod" y Llywydd Elin Jones heddiw.

    Yn gyntaf, mae'n dweud na wnaeth Mark Reckless wir dynnu ei gyhuddiad o ragfarn yn ôl, gan yn hytrach ddefnyddio "geiriau gwencïaidd".

    Yn ail, mae'n cyfeirio at y trydar isod gan Neil McEvoy.

    Mae'n ychwanegu nad yw wedi gweld sefyllfa debyg mewn 20 mlynedd yn y siambr.

    Carwyn Jones
    View more on twitter
  14. Tynnu'n ôl cyhuddiad o ragfarn

    Mae'r Llywydd yn gofyn i Mark Reckless i dynnu ei gyhuddiad yn ôl ei bod hi wedi bod yn rhagfarnllyd.

    Mae e'n ymateb, "er gwaetha'r gwir neu fel arall o'r cyhuddiad, rydw i'n ei dynnu yn ôl".

  15. Recordiad gan yr AC Neil McEvoy o'r Comisiynydd Safonau

    Mae arweinydd Plaid Brexit Mark Reckless yn cyfeirio at gwyn gan y Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd, Rebecca Evans, yn ei erbyn.

    Mae'n dyfynnu o drawsgrifiad o recordiad cudd gan yr AC Neil McEvoy o'r Comisiynydd Safonau yn dweud "mae'n eglur i mi nad oedd Rebecca yn gwybod holl ffeithiau'r achos cyn iddi drydar hyn".

    Mae'r prif weinidog yn dweud bod hynny yn "sarhad o gyfle" i'w gwestiynu fe.

  16. 'Canslo trenau, methu aros mewn gorsafoedd a gorlenwi'

    Mae Rhun ap Iorwerth yn gofyn cwestiwn ar ran arweinydd Plaid Cymru Adam Price.

    Mae'n beirniadu Trafnidiaeth Cymru am "ganslo trenau, methu aros mewn gorsafoedd a gorlenwi".

    Mae'r prif weinidog yn dweud o Ionawr 2020 fe fydd gostyngiadau mewn prisiau ar draws rhwydwaith Trafnidiaeth Cymru.

    Rhun ap Iorwerth
  17. Ymrwymiadau isadeiledd ym maniffesto Llafur Cymru 2016

    Mae arweinydd y Ceidwadwyr Paul Davies yn gofyn i'r prif weinidog "faint yn union o'r ymrwymiadau isadeiledd ym maniffesto Llafur Cymru 2016 yr ydych chi'n bwriadu eu cyflawni?"

    Mae Mark Drakeford yn ateb, " fe fyddwn ni'n cyflawni'r budsoddiad y gwnaethon ni ei addo yn ein maniffesto yn 2016".

    Mae Mr Davies yn cyfeirio at yr hyn y mae e'n ei weld fel diffyg cynnydd ar waith deuoli ffordd blaenau'r cymoedd a gwaith ar yr A55 a'r A40, yn ogystal â rhoi'r gorau i ffordd liniaru'r M4.

    Paul Davies
    View more on twitter