a gafodd drwydded deledu?

You need one to watch live TV on any channel or device, and BBC programmes on iPlayer. It’s the law.

darganfyddwch fwy
Nid oes gennyf drwydded deledu

Y diweddaraf yn fyw

Gan Alun Jones a Sarah Down-Roberts

Mae pob amser yn lleol i'r DU

  1. Hwyl fawr

    A dyna ni o'r Siambr am heddiw.

    Bydd Senedd Fyw yn dychwelyd ddydd Mawrth ar 12 Tachwedd.

    Senedd
  2. Pam y dylem ddiogelu cofebion rhyfel yng Nghymru?

    Y pwnc y mae Paul Davies (Preseli Sir Benfro) wedi'i ddewis ar gyfer y ddadl fer yw 'Cofio a pharchu: pam y dylem ddiogelu cofebion rhyfel yng Nghymru'.

    Dywed mai'r ffordd orau o anrhydeddu ein cyn-filwyr yw gosod dyletswydd statudol ar awdurdodau lleol i amddiffyn y safleoedd.

    Paul Davies
  3. 'Angen gwerthfawrogi gweithlu'r GIG'

    Mae gwelliant Llywodraeth Cymru am ddileu cynnig Plaid Cymru a chynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

    1. Yn gwerthfawrogi gweithlu’r GIG a’n trefniadau gweithio mewn partneriaeth gymdeithasol ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) ac ym mhob bwrdd iechyd yng Nghymru.

    2. Yn nodi bod BIPBC yn parhau i ymgysylltu â’r staff nyrsio a’u hundebau llafur ynglŷn â newidiadau i rotas nyrsio.

  4. 'Ni ddylid osgoi Deddf Lefelau Staff Nyrsio (Cymru) 2016 drwy ailddosbarthu patrymau gwaith'

    Mae Mandy Jones o Blaid Brexit yn galw ymhellach ar Lywodraeth Cymru i sicrhau nad yw Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr a byrddau iechyd eraill ledled Cymru yn ceisio osgoi Deddf Lefelau Staff Nyrsio (Cymru) 2016 drwy ailddosbarthu patrymau gwaith.

    Mandy Jones
  5. Cynnydd yn y diwrnodau a gollir oherwydd straen

    Dywed Mark Isherwood ar ran y Ceidwadwyr ei fod yn gresynu ymhellach bod nifer y diwrnodau gwaith a gollir oherwydd straen a materion yn ymwneud ag iechyd meddwl o fewn y bwrdd iechyd wedi cynyddu 20 y cant ers 2014.

  6. Tro pedol ar newid patrwm gwaith nyrsys

    Ail bwnc trafodaeth Plaid Cymru yw rotas newydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr.

    Ond wrth gyflwyno'r pwnc nododd Llyr Gruffydd ei bod hi'n rhyddhad bod bwrdd iechyd y gogledd wedi rhoi'r gorau i'w cynlluniau i newid patrwm shifftiau nyrsys.

    Cyn y tro pedol roedd Plaid Cymru yn cynnig bod y cynulliad:

    1. Yn gwrthwynebu penderfyniad Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr i gyflwyno rotas newydd a fydd yn ymestyn sifftiau staff nyrsio o fis Ionawr 2020.

    2. Yn credu bod hwn yn gam niweidiol ac yn gam yn ôl - yn enwedig ar adeg pan fo mwy nag un o bob deg swydd nyrsio yn y Bwrdd Iechyd yn wag.

    3. Yn nodi bod Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr wedi bod o dan fesurau arbennig dros y pedair blynedd diwethaf a'i fod felly o dan reolaeth uniongyrchol y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol.

    4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i wrthdroi'r penderfyniad a diogelu amodau gwaith nyrsys.

    llyr g
  7. Gwelliant Llywodraeth Cymru

    Mae gwelliant Llywodraeth Cymru, a gyflwynir gan y gweinidog iechyd, am ddileu cynnig Plaid Cymru yn ei gyfanrwydd ac yn cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

    1. Yn nodi’r camau gweithredu cadarnhaol sydd ar y gweill drwy Fodel Gofal Sylfaenol Cymru i wella mynediad pobl, ddydd a nos, at y gweithiwr proffesiynol a’r gwasanaeth cywir ar gyfer eu hanghenion penodol.

    2. Yn nodi’r gwelliant amlwg yn lefelau recriwtio meddygon i’r rhaglen hyfforddiant arbenigol ar gyfer meddygon teulu eleni.

  8. Pryderon am wasanaethau gofal sylfaenol yn y dyfodol

    Mae Angela Burns o'r Blaid Geidwadol yn nodi pryderon parhaus Cymdeithas Feddygol Prydain Cymru ynghylch cynaliadwyedd gwasanaethau gofal sylfaenol yn y dyfodol a chyhoeddi map gwres diweddaraf practisau meddygon teulu Cymru.

    Angela Burns
  9. 119,000 o gleifion yng Nghymru o dan ofal practisau meddygon teulu mewn perygl

    Mae Caroline Jones o Blaid Brexit yn gresynu bod dros 119,000 o gleifion yng Nghymru o dan ofal practisau meddygon teulu mewn perygl ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod gofal sylfaenol yn cael ei ariannu'n ddigonol drwy dderbyn o leiaf 10 y cant o gyllideb gyfan y GIG.

    caroline jones
  10. Mynediad i wasanaethau iechyd

    Mae Plaid Cymru wedi dewis rhannu ei awr o gyflwyno dadl i ddwy ddadl 30 munud.

    Mae'r cyntaf yn ymwneud â mynediad i wasanaethau iechyd.

    Mae Helen Mary Jones yn cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

    1. Yn mynegi pryder ynghylch y diffyg mynediad at wasanaethau meddygol sylfaenol, gan gynnwys meddygon teulu a deintyddiaeth y GIG, mewn sawl rhan o Gymru.

    2. Yn galw am recriwtio a chadw staff meddygol ychwanegol i sicrhau mynediad priodol at wasanaethau iechyd ledled Cymru.

  11. Gohirio'r cyfarfod: 'sŵn chwibanu'

    Mae'r cyfarfod llawn wedi'i ohirio am o leiaf 5 munud oherwydd yr hyn y mae'r dirprwy lywydd Ann Jones yn ei alw yn "sŵn chwibanu" yn y Siambr.

  12. Ymateb Llywodraeth Cymru

    Mae Julie Morgan, Dirpwy Weinidog Iechyd a Gwasnaethau Cymdeithasol, yn dweud bod Llywodraeth Cymru "wedi'u hymrwymo i sicrhau hyfforddiant llawn ar gyfer pob aelod o staff y GIG er mwyn sicrhau bod pobl sydd ag anableddau dysgu yn derbyn gofal o ansawdd uchel sy'n addas i'w gofynion", ac maent yn dweud bydd hyfforddiant sy'n creu ymwybyddiaeth o anabledd dysgu yn orfodol i fyrddau iechyd.

    julie morgan
  13. Nifer o nyrsys arbenigol wedi'u hyfforddi

    Mae teulu Paul Ridd wedi galw am weithredu ers i gwest nodi bod esgeulustod wedi cyfrannu at ei farwolaeth yn 2009.

    Cafodd hyfforddiant gorfodol ar gyfer gweithwyr iechyd cymdeithasol yn Lloegr ei gyhoeddi ddydd Mawrth - yn dilyn marwolaeth Oliver McGowan 18 oedd yn awtistig.

    Yn 2013 dywedodd crwner bod Mr Ridd, 53 oed o Faglan ger Port Talbot, wedi marw o achosion naturiol wedi esgeulustod yn Ysbyty Treforys Abertawe.

    Ar y pryd dywedodd y bwrdd iechyd lleol bod ansawdd eu gofal iechyd wedi gwella.

    Ers 2014 mae'r sefydliad a gafodd ei enwi ar ôl Mr Ridd wedi helpu i hyfforddi 1,000 o "bencampwyr" yn y gwasanaeth iechyd i weithio fel nyrsys sy'n arbenigo ar anabledd dysgu.

    Paul Ridd
  14. Delio â'r 'anghyfartaleddau sy'n wynebu pobl sydd ag awtisitiaeth ac anabledd dysgu'

    Yr eitem nesaf yw dadl ar ddeiseb P-05-854 - Gwneud hyfforddiant Anabledd Dysgu yn orfodol ar gyfer staff ysbytai.

    Mae cadeirydd y Pwyllgor Deisebau,Janet Finch-Saunders (Aberconwy), yn cyflwyno deiseb ag arni 5,650 o enwau gan Sefydliad Paul Ridd sy'n dweud y gallai hyfforddiant gorfodol yng Nghymru "ddelio â'r anghyfartaleddau iechyd anferth sy'n wynebu pobl sydd ag awtistiaeth ac anabledd dysgu".

    janet finch
  15. Targedau i leihau 90% ar amlder hepatitis feirysol 90%

    Mae'r Gweinidog Iechyd Vaughan Gething yn ymateb i'r adroddiad ar ran Llywodraeth Cymru.

    Mae'r holl argymhellion wedi'u cymeradwyo, neu eu cymeradwyo mewn egwyddor.

    Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i agenda Sefydliad Iechyd y Byd ar gyfer dileu hepatitis B a C, sy'n cynnwys targedau i leihau 90% ar amlder hepatitis feirysol 90% ac i leihau 65% ar farwolaeth oherwydd hepatitis B a C erbyn 2030.

    Mae'n bosib gweld yr ymateb ysgrifenedig yma.

  16. 12,000 o drigolion Cymru nad ydynt yn gwybod bod ganddynt hepatitis C

    Amcangyfrifir bod 12,000 o drigolion Cymru nad ydynt yn gwybod bod ganddynt hepatitis C neu nad ydynt yn ymgysylltu â gwasanaethau ar gyfer triniaeth.

  17. Creu strategaeth ddileu genedlaethol, gynhwysfawr ar gyfer Hepatitis C

    Mae Helen Mary Jones sy'n siarad ar ran Cadeirydd y Pwyllgor, Dai Lloyd, yn cyflwyno'r adroddiad sydd â phedwar argymhelliad.

    Argymhelliad 1 yw bod Llywodraeth Cymru yn "creu strategaeth ddileu genedlaethol, gynhwysfawr ar gyfer Hepatitis C. Dylai’r strategaeth honno gynnwys targedau uchelgeisiol clir, a dylai hefyd gynllunio ar gyfer y gweithlu.

    "Dylid darparu cyllid cynaliadwy hyd nes y caiff yr haint ei ddileu. Rhaid gwneud hyn yn ddiymdroi, o gofio y bydd y cynllun presennol yn dod i ben eleni, ac mai dim ond tan 2021 y mae cyllid wedi’i gadarnhau ar gyfer swyddi penodol."

    helen mary
  18. Cwestiwn Amserol 3: Effaith ymddiswyddiad Alun Cairns?

    Gofynnodd Leanne Wood (Rhondda): Pa drafodaethau y mae’r Prif Weinidog wedi’u cael gyda Llywodraeth y DU ar y goblygiadau i Gymru yn dilyn ymddiswyddiad Ysgrifennydd Gwladol Cymru?

    Atebodd y Gwenidog Cyllid Rebecca Evans: "Ry'n ni ddim wedi cael y fath drafodaethau".

    Mae Leanne Wood yn dweud petai Alun Cairns yn gwybod am ran cyn-gydweithiwr yn dymchwel achos treisio bod yn "rhaid iddo beidio sefyll fel ymgeisydd".

    Mae'n gofyn i'r gweinidog a yw hi'n cytuno fod Mr Cairns yn anaddas ar gyfer swydd gyhoeddus.

    Dywed Rebecca Evans ei bod hi'n cytuno â Jeremy Corbyn bod angen holi am "hawl foesol" Alun Cairns i sefyll.

    Ychwanegodd Paul Davies AC, arweinydd Ceidwadwyr Cymru, bod Alun Cairns yn iawn i ymddswyddo ond bod e'n cydymdeimlo gyda'r dioddefwr.

    Leanne Wood