a gafodd drwydded deledu?

You need one to watch live TV on any channel or device, and BBC programmes on iPlayer. It’s the law.

darganfyddwch fwy
Nid oes gennyf drwydded deledu

Y diweddaraf yn fyw

Mae pob amser yn lleol i'r DU

Cyfrannu

  1. Hwyl fawr

    BBC Cymru Fyw

    Dyna ddiwedd ein llif byw am heddiw - diolch am ddarllen.

    Llongyfarchiadau calonog unwaith eto i bawb a gafodd eu canlyniadau Safon Uwch heddiw - canlyniadau gwell nag erioed yng Nghymru.

    Fe fyddwn ni nôl yr wythnos nesa pan fydd canlyniadau TGAU Cymru'n cael eu cyhoeddi, ond hwyl fawr tan hynny.

  2. 'Dim Lefel A? Dim problem!'

    Cylchgrawn, Cymru Fyw

    Nid pawb sydd wedi cael y canlyniadau yr oedden nhw wedi gobeithio amdanyn nhw wrth gwrs, ond y neges yw 'Dim Lefel A? Dim problem'.

    Fel mae Iolo Owen yn dweud, mae dewisiadau eraill ar gael.

    iolo
  3. Conwy'n fodlon iawn

    Cyngor Sir Conwy

    Dywedodd y Cyng. Julie Fallon, Aelod Cabinet Addysg Conwy, “Hoffwn longyfarch ein holl fyfyrwyr ifanc ym mhob rhan o’r sir ar eu cyflawniadau yn yr arholiadau Lefel A ac AS eleni.

    “Dwi’n dymuno’r gorau iddyn nhw wrth benderfynu ar eu gyrfaoedd yn y dyfodol, a dwi’n siŵr eu bod nhw am ymuno gyda mi i ddiolch i’w rhieni, eu teuluoedd, ein hathrawon arbennig a’r staff cymorth sydd wedi’u helpu a’u cefnogi nhw gyda’u holl astudiaethau.”

  4. Llongyfarchiadau

    BBC Cymru Fyw

    Fe fydd y chwech yma o Ysgol Bro Teifi - Ifan, Megan, Elain, Daniel, Elen ac Anthony - yn siwr o fod yn dathlu heno.

    Llongyfarchiadau iddyn nhw i gyd.

    bro teifi
  5. Coleg y Cymoedd

    BBC Cymru Fyw

    Roedd Nia Downes, Daniel Bray, Lily Cornish, Thomas Tiltman a Sophie Preece ymhlith y disgyblion fu'n dathlu yng Ngholeg y Cymoedd yn Nantgarw y bore 'ma.

    coleg y cymoedd
  6. 'Carreg filltir o flwyddyn'

    BBC Cymru Fyw

    Mae Cymwysterau Cymru wedi enwi 2019 fel carreg filltir o flwyddyn, wrth i raglen sydd wedi ei diwygio’n fawr gael ei chwblhau.

    “Nid yw’r gostyngiad parhaus o ran y rhai sy’n ymgeisio mewn arholiadau Uwch Gyfrannol a Safon Uwch yn annisgwyl, gan ei fod yn deillio o ostyngiad yn y nifer o bobl ifanc 17 ac 18 oed yn y boblogaeth yn gyffredinol,” meddai’r Prif Weithredwr Philip Blaker.

    “Mae’r canlyniadau’n dangos cynnydd bach o 0.4% mewn graddau A * a 0.7% mewn graddau A * - A, gyda chynnydd o 0.2% yn cyflawni graddau A * i E."

  7. Diolchiadau yn Wrecsam

    Cyngor Wrecsam

    Dywedodd y Cynghorydd Phil Wynn, Aelod Arweiniol Addysg:

    “Hoffwn longyfarch ein myfyrwyr am eu hymroddiad a’u dyfalbarhad. Hoffwn hefyd ddiolch i’r athrawon am eu gwaith caled yn ystod y flwyddyn, ac am baratoi’r myfyrwyr mor drwyadl at yr arholiadau.”

    “Pob dymuniad da i’n pobl ifanc ni wrth iddyn nhw ddilyn y camau nesaf yn eu gyrfaoedd.”

  8. Canlyniadau da ar Ynys Môn

    Cyngor Ynys Môn

    Dywedodd Arwyn Williams, Pennaeth Dysgu Ynys Môn: “Hoffwn longyfarch pob un disgybl sydd wedi llwyddo yn eu harholiadau Lefel A eleni.

    "Mae’n newydd da iawn i Ynys Môn, ac rydym yn falch iawn o lwyddiant ein pobl ifanc.

    "Dymunwn y gorau iddynt wrth symud i’r bennod nesaf yn eu bywydau.”

  9. Ysgol Garth Olwg yn dathlu

    BBC Cymru Fyw

    datganiad
    gartholwg
  10. Paratoi i adael cartre'

    BBC Cymru Fyw

    Doedd Elain heb baratoi yn feddyliol i fynd i brifysgol...ond fe fydd rhaid iddi wneud nawr!

    Llongyfarchiadau mawr iddi.

    Video content

    Video caption: Elain Roberts o Ysgol Bro Teifi
  11. Mwy o ddathlu

    BBC Cymru Fyw

    Ysgol Y Pant ym Mhont-y-clun, ac mae criw arall o ddisgyblion yn dathlu ar ôl derbyn eu canlyniadau Safon Uwch.

    nantgarw
  12. A*: Gwell na Lloegr a Gogledd Iwerddon

    BBC Cymru Fyw

    Fe wnaeth disgyblion Cymru berfformio'n well o safbwynt gradd A* na phob un o ranbarthau Lloegr a Gogledd Iwerddon yn yr arholiadau Safon Uwch eleni.

    Dywedodd y Gweinidog Addysg Kirsty Williams fod hyn yn dangos bod ein myfyrwyr gorau "yn ffynnu ac yn cyrraedd eu llawn botensial".

    kirsty
  13. Anthony o Fro Teifi wrth ei fodd

    BBC Cymru Fyw

    Video content

    Video caption: Mae Anthony yn 'hapus iawn' gyda'i ganlyniadau Safon Uwch
  14. Gwelliant yng nghanlyniadau Cymru

    Llywodraeth Cymru

    Mae Llywodraeth Cymru newydd gyhoeddi bod canlyniadau Safon Uwch Cymru wedi gwella eleni.

    Er bod llai wedi sefyll yr arholiadau na'r llynedd, mae ychydig yn fwy wedi cyrraedd graddau A* ac A.

    canlyniadau