a gafodd drwydded deledu?

You need one to watch live TV on any channel or device, and BBC programmes on iPlayer. It’s the law.

darganfyddwch fwy
Nid oes gennyf drwydded deledu

Y diweddaraf yn fyw

Gan Alun Jones a Nia Harri

Mae pob amser yn lleol i'r DU

  1. Hwyl

    A dyna'r cyfan o'r Siambr am yr wythnos.

    Fe fydd Senedd Fyw yn ôl ddydd Mawrth nesaf Gorffennaf 16, yr wythnos olaf cyn toriad yr Haf.

    Y Senedd
  2. Dadl Fer: Gofalu am ein gofalwyr

    Ac yn olaf yn y Siambr heddiw Dadl Fer gan Jayne Bryant.

    A'r pwnc: "Gofalu am ein gofalwyr".

    Mae'n galw am "sicrhau'r gydnabyddiaeth, y seibiant a'r cymorth y mae ein gofalwyr yn eu haeddu".

    Meddai, "Gwn fod Llywodraeth Cymru eisoes wedi cymryd camau sylweddol.

    "Yn Neddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2015, am y tro cyntaf, caiff yr un hawliau eu hymestyn i ofalwyr â'r rhai y maent yn gofalu amdanynt.

    "Roedd hwn yn ddatblygiad pwysig o ran cael cydnabyddiaeth i ofalwyr, ond mae llawer o waith i'w wneud o hyd."

    Jayne Bryant
  3. 'ACau yn cytuno bod angen cynnydd yn nifer yr Aelodau Cynulliad'

    Ar fater diwygio'r cynulliad, mae gwelliant Llafur i gynnig Plaid Cymru yn cael ei basio,

    Felly mae'r cynnig wedi ei ddiwygio yn cael ei basio, gyda 35 o blaid, neb yn ymatal, ac 15 yn erbyn.

    Felly mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn:

    1. Yn nodi cyhoeddi Senedd sy'n Gweithio i Gymru a'i hargymhellion.

    2. Yn cytuno bod angen cynnydd yn nifer yr Aelodau Cynulliad.

    3. Yn galw am ragor o waith trawsbleidiol i fwrw ymlaen â'r materion hyn.

  4. ACau yn cytuno ar Egwyddorion Cyffredinol y Mesur Senedd ac Etholiadau (Cymru)

    Mae ACau yn cytuno ar Egwyddorion Cyffredinol y Mesur Senedd ac Etholiadau (Cymru).

    Roedd 42 o blaid, neb yn ymatal, a naw yn erbyn.

    Byddai'r Mesur yn newid enw’r sefydliad o Gynulliad Cenedlaethol Cymru (National Assembly for Wales) i “Senedd”, ac yn gostwng yr oedran ar gyfer pleidleisio yn etholiadau’r Cynulliad i 16 oed.

    Hwn oedd Cyfnod 1 o broses 4 Cyfnod ar gyfer ystyried Mesur Cyhoeddus:

    Cyfnod 1 - pwyllgor yn ystyried egwyddorion cyffredinol y Mesur a'r Cynulliad yn cytuno ar yr egwyddorion cyffredinol hynny;

    Cyfnod 2 - pwyllgor yn ystyried y Mesur ac unrhyw welliannau a gyflwynwyd i’r Mesur hwnnw yn fanwl;

    Cyfnod 3 - y Cynulliad yn ystyried y Mesur ac unrhyw welliannau a gyflwynwyd i’r Mesur hwnnw yn fanwl;

    Cyfnod 4 - pleidlais gan y Cynulliad i basio testun terfynol y Mesur.

  5. Rheoliadau Perfformiad Ysgol a Thargedau Absenoldeb (Cymru) (Diwygio) 2019

    Mae ACau yn gwrthod y cynnig y dylid dirymu Rheoliadau Perfformiad Ysgol a Thargedau Absenoldeb (Cymru) (Diwygio) 2019, a osodwyd gerbron y Cynulliad ar 6 Mehefin 2019.

    Roedd 5 o blaid, 19 yn ymatal, a 27 yn erbyn.

    Disgwylir i reoliadau diwygiedig ddod i rym ar 1 Medi 2019, a byddant yn adlewyrchu'r newidiadau diweddar i fesurau perfformiad Cyfnod Allweddol 4.

  6. 'Dydw i ddim yn credu bod cynrychiolaeth ranbarthol yn gynrychiolaeth go iawn'

    "Dydw i ddim yn credu bod cynrychiolaeth ranbarthol yn gynrychiolaeth go iawn" medd AC Llafur Blaenau Gwent Alun Davies, er siom i'w gyd-aelod Llafur ar gyfer Canolbarth a Gorllewin Cymru, Joyce Watson.

    Joyce Watson ac Alun Davies
  7. Galw am ymchwiliad pellach i effaith unrhyw gynnydd yn nifer ACau

    Mae'r Ceidwadwr Paul Davies yn dweud y dylai ACau gydnabod "bod heriau sylweddol o ran capasiti Aelodau'r Cynulliad i ymgymryd â gwaith craffu boddhaol ar ddeddfwriaeth a Llywodraeth Cymru".

    Mae'n galw am i ymchwiliad pellach i effaith unrhyw gynnydd yn nifer Aelodau'r Cynulliad ac a oes cefnogaeth gyhoeddus i symudiad o'r fath.

    Mae e hefyd yn galw am unrhyw gynnydd yn nifer Aelodau'r Cynulliad i "gael ei ariannu drwy arbedion cyffredinol i drethdalwyr, yn deillio o ganlyniad i leihad yn nifer gyffredinol y cynrychiolwyr etholedig yng Nghymru" ac yn galw ar i unrhyw Aelodau Cynulliad ychwanegol "gael eu hethol ar sail heb fod yn llai cyfrannol na'r hyn sy'n digwydd ar hyn o bryd".

    Paul Davies
  8. 'Galw am ragor o waith trawsbleidiol'

    Mae gwelliant Prif Chwip Llafur Jane Hutt yn galw am ddileu cynnig Plaid Cymru yn ei gyfanrwydd a rhoi yn ei le:

    Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

    1. Yn nodi cyhoeddi Senedd sy'n Gweithio i Gymru a'i hargymhellion.

    2. Yn cytuno bod angen cynnydd yn nifer yr Aelodau Cynulliad.

    3. Yn galw am ragor o waith trawsbleidiol i fwrw ymlaen â'r materion hyn.

    Jane Hutt
  9. 'Dim awydd ymysg y cyhoedd sy'n pleidleisio i gynyddu nifer y gwleidyddion yng Nghymru'

    Mae Mark Reckless yn dweud bod Plaid Brexit yn credu "nad oes awydd ymysg y cyhoedd sy'n pleidleisio i gynyddu nifer y gwleidyddion yng Nghymru ar hyn o bryd, ac y dylai ymdrechion ganolbwyntio yn hytrach ar:

    a) deddfu cynigion adolygiad 2018 o Etholaethau Seneddol i'w hethol i Dŷ'r Cyffredin;

    b) cyflymu'r broses o ddiwygio etholiadau llywodraeth leol yng Nghymru".

  10. Gohirio penderfyniad ar gael mwy o aelodau nes 2021

    Mae Llywydd y Cynulliad wedi gohirio'r penderfyniad ar gael mwy o aelodau nes 2021.

    Cafodd cynigion eu gwneud i ychwanegu 20 neu 30 o ACau i'r 60 sydd 'na ar hyn o bryd cyn yr etholiadau nesaf o fewn dwy flynedd.

    Ond yn ddiweddar, dywedodd Llafur na fydden nhw'n cefnogi'r cynllun na newidiadau i'r ffordd mae ACau yn cael eu hethol cyn cyflwyno'r syniad mewn maniffesto i bleidleiswyr.

    O ganlyniad, mae'r Llywydd wedi cadarnhau na fydd hi'n bosib newid y gyfraith cyn yr etholiadau.

  11. 'Angen cynnydd yn nifer yr ACau ar frys ynghyd â system etholiadol STV'

    Mae Adam Price yn dadlau bod y Senedd angen cynnydd yn nifer yr ACau ar frys ynghyd â system etholiadol STV i sicrhau "Senedd gref" a fyddai'n gallu "gweithredu'n llawn fel senedd effeithiol ar gyfer pobl Cymru".

  12. Dadl: Diwygio'r Cynulliad

    Pwnc Dadl Plaid Cymru heddiw yw Diwygio'r Cynulliad.

    Mae Adam Price yn cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

    1. Yn galw am gynyddu’r nifer o Aelodau Cynulliad.

    2. Yn galw am weithredu ar unwaith er mwyn cynyddu’r nifer o Aelodau Cynulliad erbyn dechrau’r Chweched Cynulliad.

    3. Yn galw am ddiwygio system etholiadol y Cynulliad a chyflwyno system pleidlais sengl drosglwyddadwy o ethol Aelodau erbyn etholiadau nesaf y Cynulliad yn 2021.

    Adam Price
  13. Plaid Brexit yn gwrthwynebu'r mesur

    Mae arweinydd Plaid Brexit Mark Reckless yn dweud y bydd ei blaid yn gwrthwynebu'r mesur heddiw "oherwydd nad ydyn ni'n cefnogi ailenwi'r cynulliad yn Senedd".

    Mewn ymateb i'r AC Llafur Hefin David, mae Mark Reckless yn cadarnhau nad yw Plaid Brexit eisiau diddymu'r Cynulliad.

    Mark Reckless
  14. 'Sarhad' ar bobol ddi-Gymraeg

    Ar fater ailenwi'r cynulliad yn Senedd, mae Dai Lloyd Plaid Cymru yn dweud ei bod hi'n "sarhad" ar bobol ddi-Gymraeg i feddwl na fydden nhw'n deall yr enw uniaith Senedd.

    Dai Lloyd
  15. ACau Ceidwadol yn cael pleidlais rydd

    Mae'r Ceidwadwr David Melding yn dweud y bydd e'n cefnogi egwyddorion cyffredinol y Mesur Senedd ac Etholiadau (Cymru), ond y bydd ACau Ceidwadol yn cael pleidlais rydd.

    David Melding
  16. Llywodraeth Cymru 'yn gefnogol iawn i brif nodau'r Mesur'

    Mae'r Cwnsler Cyffredinol Jeremy Miles yn dweud bod Llywodraeth Cymru "yn gefnogol iawn i brif nodau'r Mesur fel yr ydym ni yn eu gweld nhw: i ailenwi'r sefydliad er mwyn adlewyrchu ei statws".

  17. Cam cyntaf mewn strategaeth ddeddfwriaethol

    Y Mesur Senedd ac Etholiadau (Cymru) yw’r cam cyntaf mewn strategaeth ddeddfwriaethol i ddatblygu’r diwygiadau hyn.

    Rhagwelir y bydd ail gam y strategaeth ddeddfwriaethol yn ymgorffori’r system etholiadol a maint y Cynulliad, os ceir consensws trawsbleidiol ar y materion hynny.

    Fe fydd yr ail gam o ddiwygio yn edrych ar gynigion gyhoeddwyd gan banel o arbenigwyr yn 2017.

    Dan gadeiryddiaeh yr Athro Laura McAllister o Brifysgol Caerdydd, fe ddaeth y panel i'r casgliad bod angen mwy o ACau i gydfynd gyda phwerau a chyfrifoldebau cynyddol y cynulliad.

    Yr Athro Laura McAllister o Brifysgol Caerdydd
    Image caption: Yr Athro Laura McAllister o Brifysgol Caerdydd
  18. 'Costau mewn perthynas â newid enw’r Cynulliad yn gymesur'

    Mae Cadeirydd y Pwyllgor Cyllid Llyr Gruffydd yn cyflwyno adroddiad y pwyllgor ar y Mesur Senedd ac Eholiadau (Cymu).

    Mae’r Pwyllgor "yn credu bod y costau mewn perthynas â newid enw’r Cynulliad yn gymesur ac yn dryloyw ar y cyfan a bod yr opsiwn mwyaf cost-effeithiol yn cael ei ddilyn".

    Llyr Gruffydd
  19. 'Darn anferth o ddeddfwriaeth gyfansoddiadol Cymreig'

    Gosodwyd adroddiad y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol ar y Mesur Senedd ac Etholiadau (Cymru) gerbron y Cynulliad ar 28 Mehefin 2019.

    Cadeirydd y pwyllgor Mick Antoniw sy'n cyflwyno'r adroddiad ac mae'n disgrifio'r Mesur fel "darn anferth o ddeddfwriaeth gyfansoddiadol Cymreig" ac yn dweud bod y pwyllgor yn argymell bod ACau yn cytuno ar yr egwyddorion cyffredinol.

    Mae'r pwyllgor yn gwneud 19 o argymhellion.

    Yn eu plith mae:

    "Dylai pob Mesur sy’n ymwneud â materion cyfansoddiadol sylweddol gael eu cyhoeddi ar ffurf drafft ac, yn unol â hynny, dylid cynnwys amser yn y broses ddeddfwriaethol i alluogi hyn i ddigwydd.

    "Dylid cyflwyno mesurau i’r Cynulliad Cenedlaethol y gellir yn rhesymol ystyried eu bod wedi’u datblygu’n llawn ar adeg eu cyflwyno".

    Mick Antoniw
  20. Diben y Mesur

    Mae Mesur Senedd ac Etholiadau (Cymru):

    ▪ yn newid enw’r sefydliad o Gynulliad Cenedlaethol Cymru (National Assembly for Wales) i “Senedd”, ac yn gwneud newidiadau canlyniadol i enwau, teitlau a disgrifiadau perthnasol;

    ▪ yn gostwng yr oedran ar gyfer pleidleisio yn etholiadau’r Cynulliad i 16 oed, ac yn diwygio’r trefniadau cofrestru etholiadol cysylltiedig;

    ▪ yn diwygio’r gyfraith sy’n ymwneud ag anghymhwyso person rhag bod yn Aelod o’r Cynulliad;

    ▪ yn gosod dyletswydd ar y Senedd i ystyried y trefniadau ariannol a goruchwylio ar gyfer gwaith y Comisiwn Etholiadol mewn perthynas ag etholiadau datganoledig Cymru a refferenda datganoledig;

    ▪ yn cyflwyno pŵer i wneud rheoliadau i weithredu argymhellion Comisiwn y Gyfraith;

    ▪ yn estyn y dyddiad olaf ar gyfer cyfarfod cyntaf y Cynulliad ar ôl etholiad; ac

    ▪ yn egluro pwerau Comisiwn y Cynulliad i godi tâl am nwyddau a gwasanaethau.

    Y Llywydd Elin Jones
    Image caption: Y Llywydd Elin Jones