a gafodd drwydded deledu?

You need one to watch live TV on any channel or device, and BBC programmes on iPlayer. It’s the law.

darganfyddwch fwy
Nid oes gennyf drwydded deledu

Y diweddaraf yn fyw

Gan Alun Jones a Nia Harri

Mae pob amser yn lleol i'r DU

  1. Hwyl

    A dyna'r cyfan o'r Siambr am y diwrnod.

    Fe fydd Senedd Fyw yn ôl yfory.

    Y Senedd
  2. Cymeradwyo Cyllideb Atodol Gyntaf 2019-20

    Mae ACau yn cymeradwyo Cyllideb Atodol Gyntaf 2019-20.

    Roedd 27 o blaid, 18 yn ymatal, a neb yn erbyn.

    Arian
  3. 'Diffyg eglurder, yn arbennig ynghylch cyllido comisiwn yr M4'

    Mae'r aelod Ceidwadol Nick Ramsay yn dweud y bydd y Ceidwadwyr yn ymatal yn y bleidlais gan nad oedden nhw wedi cefnogi'r gyllideb wreiddiol. Mae'n dweud bod diffyg eglurder, yn arbennig ynghylch cyllido comisiwn yr M4.

    Nick Ramsay
  4. 12 o argymhellion

    Mae Cadeirydd y Pwyllgor Cyllid Llyr Gruffydd yn cyflwyno adroddiad y pwyllgor sy'n gwneud 12 o argymhellion.

    Mae’r Pwyllgor yn ailadrodd ei argymhelliad blaenorol "bod Llywodraeth Cymru yn adolygu cynnwys y wybodaeth sy’n cyd-fynd â’r gyllideb atodol yn y dyfodol, â’r bwriad o gysoni’r naratif yn well â chyllidebau drafft a’r gyllideb derfynol".

  5. Dadl: Cyllideb Atodol Gyntaf 2019-2020

    Ac yn olaf yn y Siambr heddiw, dadl ar Gyllideb Atodol Gyntaf 2019-2020.

    Mae Rebecca Evans yn cynnig bod y Cynulliad yn cymeradwyo'r Gyllideb Atodol Gyntaf ar gyfer y flwyddyn ariannol 2019-20 a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 18 Mehefin.

    View more on twitter
  6. Cytuno ar Femorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol

    Mae ACau yn cymeradwyo cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried y darpariaethau yn y Mesur Ardrethu Annomestig (Rhestrau) i’r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

    Mae Llywodraeth y DU wedi datgan mai ei hamcan polisi yw sicrhau bod biliau ardrethi annomestig yn adlewyrchiad mwy cywir o werth rhenti cyfredol eiddo.

  7. Cymeradwyo y fersiwn ddrafft o Reoliadau Gwrthrychau Rhagnodedig ar gyfer Rhoi Twll mewn Rhan Bersonol o’r Corff

    Mae ACau yn cymeradwyo y fersiwn ddrafft o Reoliadau Gwrthrychau Rhagnodedig ar gyfer Rhoi Twll mewn Rhan Bersonol o’r Corff (Cymru) 2019 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn drafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 18 Mehefin 2019.

    Mae Rhan 5 o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Cymru) 2017 yn ei gwneud yn drosedd i berson yng Nghymru roi (neu wneud trefniadau i roi) twll mewn rhan bersonol o gorff person o dan 18 oed. Ar hyn o bryd, fodd bynnag, dim ond i roi tyllau mewn rhan bersonol o’r corff sy’n cynnwys eitemau o emwaith y mae’r gwaharddiad hwnnw’n berthnasol.

    Mae’r Rheoliadau hyn yn rhagnodi “unrhyw wrthrych nad yw’n emwaith” fel gwrthrych at ddibenion paragraff (b) yn y diffiniad o “tyllu’r corff” yn adran 94(1) o Ddeddf 2017, ond dim ond i’r graddau y mae’r diffiniad hwnnw yn gymwys ar gyfer dibenion y drosedd yn Rhan 5.

    Bydd y Rheoliadau hyn, felly, yn dod â rhoi twll mewn rhan bersonol o’r corff sy’n cynnwys unrhyw wrthrych nad yw’n emwaith o fewn cwmpas y drosedd yn adran 95 o Ddeddf 2017.

    Vaughan Gething y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
    Image caption: Vaughan Gething y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
  8. Difaru 'nad oes newid cyfeiriad'

    Mae Llyr Gruffydd Plaid Cymru yn dweud bod yna newid tôn gan Lywodraeth Cymru ond ei fod e'n difaru bod yna "ddim newid cyfeiriad".

    Mae'n dweud ei fod yn parhau i "rannu pryder y sector na fydd yna o leiaf elfen o daliad sylfaenol ar gael i ffermwyr Cymru, fel y bydd ar gael i brif gystadleuwyr Cymru yn Ewrop".

  9. 'Brexit yn gyfle inni greu cynllun sydd wedi'i wneud yng Nghymru'

    Mae Lesley Griffiths yn dweud bod "y ffordd yr ydym yn cefnogi ffermwyr wedi Brexit yn newid ac mae Brexit yn gyfle inni greu cynllun sydd wedi'i wneud yng Nghymru.

    "Ni fu amheuaeth erioed ynghylch a ydym am barhau i gefnogi ffermwyr - y cwestiwn yw beth yw'r ffordd orau o wneud hynny.

    "Mae cynhyrchu bwyd yn gynaliadwy, ymateb i argyfwng yr hinsawdd a gwyrdroi'r gostyngiad mewn bioamrywiaeth yn dri o'n heriau pwysicaf heddiw. Rydym yn credu y dylai cymorth i ffermydd yn y dyfodol adlewyrchu hyn a gwobrwyo ffermwyr sy'n gweithredu i fodloni'r heriau hyn.

    "Rydym am gael ffermydd cynaliadwy sy'n cynhyrchu bwyd yn ogystal â manteision ehangach i wella llesiant ffermwyr, cymunedau gwledig a phawb yng Nghymru heddiw ac yn y dyfodol".

  10. Nid yw'n wybyddus faint o arian fydd ar gael i gyllido y Cynllun Ffermio Cynaliadwy wedi Brexit

    Mae Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig, Lesley Griffiths, yn dweud nad yw'n wybyddus faint o arian fydd ar gael i gyllido y Cynllun Ffermio Cynaliadwy wedi Brexit.

  11. 'Cyfle Brexit'

    Mae'r aelod Ceidwadol Andrew RT Davies yn dweud y bydd Brexit "am y tro cyntaf yn rhoi'r cyfle i weinidogion llywodraeth Cymru i gyfarwyddo cefnogaeth a pholisi yn y maes hwn ac mae'n rhaid croesawu hynny".

  12. Cynnig dyfodol cynaliadwy

    Bydd cymorth i ffermio yng Nghymru yn cynnig dyfodol cynaliadwy i'r diwydiant a'r amgylchedd, medd Lesley Griffiths, wrth i gynlluniau ar gyfer cynllun ffermio wedi Brexit gael eu datgelu.

    Mae'r cynigion manwl meddai, - a amlinellwyd yn yr ymgynghoriad Ffermio Cynaliadwy a'n Tir - "yn anelu at ddiogelu'r tir a'r amgylchedd ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol, tra'n cynnig incwm sefydlog i ffermwyr drwy Gynllun Ffermio Cynaliadwy newydd.

    "O dan y cynlluniau hyn, bydd ffermwyr yn cael eu gwobrwyo am ganlyniadau amgylcheddol megis ansawdd aer gwell, lleihau allyriadau carbon a gwella ansawdd y pridd, nad ydynt yn cael eu gwobrwyo gan y farchnad. Bydd hyn yn helpu i gryfhau busnes y ffermwr a chynnig manteision i bawb yng Nghymru.

    "Yn dilyn ymgynghoriad y llynedd, Brexit a'n Tir a'r ymateb eang iawn a gafwyd, cyflwynwyd nifer o newidiadau polisi".

  13. Ffermio Cynaliadwy a’n Tir

    Nesaf yn y Siambr datganiad gan Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig, Lesley Griffiths: Ffermio Cynaliadwy a’n Tir.

    Amaethyddiaeth
  14. 'Y ddarpariaeth ddim wedi ateb y galw'

    Mae Caroline Jones o Blaid Brexit yn dweud "dyw'r ddarpariaeth ddim wedi ateb y galw" am dai ac mae'n croesawu y "cam cyntaf hwn wrth ddelio gyda'r argyfwng tai".

  15. 'Angen newid sylfaenol yn y ffordd y mae'r system gynllunio yn gweithio'

    Mae Leanne Wood o Blaid Cymru yn dweud bod "gorgyffwrdd sylweddol" rhwng argymhellion yr adolygiad a'n "cynigion a gyhoeddwyd gennym ym mis Chwefror".

    Mae'n rhybuddio bod "angen newid sylfaenol yn y ffordd y mae'r system gynllunio yn gweithio".

  16. Galw am dargedau 'uchelgeisiol'

    Mae'r aelod Ceidwadol David Melding yn galw am dargedau "uchelgeisiol" ar gyfer adeiladu tai yn y 2020au.

    Mae'n croesawu'r adolygiad sydd meddai wedi darparu "rhai mewnwelediadau gwerthfawr".

    Tai
  17. 'Rhaid inni gael polisïau ac arferion sy'n barod at y dyfodol'

    Er bod Llywodraeth Cymru yn dweud eu bod wedi buddsoddi'n sylweddol mewn tai cymdeithasol, ac mewn tai yn fwy cyffredinol yn nhymor presennol y Cynulliad, maen nhw'n dweud nad oes ganddon nhw adnoddau diderfyn.

    Mae Llywodraeth Cymru hefyd yn dweud bod "hon wedi bod yn broses amserol a phwysig, ac yn adlewyrchiad o ba mor bwysig yw ein buddsoddiad mewn tai inni.

    "Rhaid inni gael polisïau ac arferion sy'n barod at y dyfodol. Mae darparu cartref clyd a diogel yn ymwneud â llawer mwy na dim ond sicrhau bod gennym do uwch ein pen".

    Julie James
  18. Cyflenwad Tai Fforddiadwy

    Mae'r aelodau nawr yn gwrando ar ddatganiad gan y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol, Julie James: Ymateb Llywodraeth Cymru i'r Adolygiad Annibynnol o'r Cyflenwad Tai Fforddiadwy.

    Mae'n dweud wrth ACau ei bod yn derbyn holl argymhellion yr adolygiad namyn un, a'i bod wedi ysgrifennu at awdurdodau cynllunio ar draws Cymru i bwysleisio bod yn rhaid i gynlluniau datblygu lleol gefnogi safleoedd lle bo o leiaf 50% o dai fforddiadwy.

    View more on twitter
  19. Peryg o syrthio i 'fagl gorfforaethol'

    Mae Adam Price Plaid Cymru yn croesawu'r datganiad ond yn cwestiynu a oes yna beryg o syrthio i "fagl gorfforaethol a chau allan elfennau eraill o gymdeithas" sydd ddim yn cael eu hadlewyrchu yn strwythurau cyflogwyr, undebau a llywodraeth.

  20. Y dull gweithredu newydd yn dilyn adroddiad y Comisiwn Gwaith Teg

    Daw’r dull gweithredu newydd yn dilyn adroddiad y Comisiwn Gwaith Teg ym mis Mai a oedd yn nodi y dylai safonau newydd yn amlinellu beth y mae gwaith teg yn ei olygu yn ymarferol gael eu datblygu er lles pawb yng Nghymru.

    I gyd-fynd â chyhoeddiad y Prif Weinidog, mae'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol, Julie James, wedi cyhoeddi datganiad yn derbyn pob un o 48 o argymhellion y Comisiwn mewn egwyddor.