a gafodd drwydded deledu?

You need one to watch live TV on any channel or device, and BBC programmes on iPlayer. It’s the law.

darganfyddwch fwy
Nid oes gennyf drwydded deledu

Y diweddaraf yn fyw

Gan Alun Jones a Nia Harri

Mae pob amser yn lleol i'r DU

  1. Hwyl

    Dyna ni o'r Siambr am yr wythnos.

    Fe fydd Senedd Fyw yn ôl ddydd Mawrth nesaf Gorffennaf 9.

    Senedd
  2. Dadl Fer: 'Camau at Wleidyddiaeth Garedicach'

    Ac yn olaf yn y Siambr heddiw, Dadl Fer gan Jack Sargeant.

    A'r pwnc: "Camau at Wleidyddiaeth Garedicach: Cynllun ar gyfer creu cymunedau caredicach ledled Cymru".

    Dywed, "I mi, mae cymunedau mwy caredig yn dechrau drwy gydnabod bod rhaid i empathi fod yn ganolog i'r hyn a wnawn.

    "Mae'n golygu cael y gallu i weld y byd o safbwyntiau nad ydynt bob amser yn rhai ein hunain. Mae hefyd yn golygu bod yn agored, yn onest ac yn dryloyw fel unigolion ac fel llywodraethau, felly os byddwn yn methu ar rai pethau, mae pobl yn gwybod ein bod wedi gwneud ein gorau.

    "Ac mae'n golygu cydnabod bod ein heconomeg ni ein hunain wedi bod yn anghyfartal ers amser maith a bod y canlyniadau'n eithriadol o galed."

    Jack Sargeant
  3. Cynnig Cymraeg 2050 yn cael ei drechu

    Mae cynnig y Ceidwadwyr yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddiweddaru'r Cynulliad drwy ddatganiadau llafar bob chwe mis ar y cynnydd a wnaed mewn perthynas â Cymraeg 2050 - y strategaeth o gyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg mewn cenhedlaeth - yn cael ei drechu.

  4. 'Cynnydd sylweddol' Cymraeg 2050

    Mae Gweinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol, Eluned Morgan, a Llywodraeth Cymru yn credu bod angen "dathlu" bod y llywodraeth ers lansio Cymraeg 2050, wedi gwneud "cynnydd sylweddol yn y meysydd a ganlyn:

    "a) cynyddu nifer y Cylchoedd Meithrin a Chylchoedd Ti a Fi er mwyn i fwy o blant gael cychwyn ar eu taith i addysg cyfrwng Cymraeg;

    "b) symud o asesu’r galw am addysg cyfrwng Cymraeg i greu’r galw amdani, er mwyn cynyddu nifer y siaradwyr drwy’r Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg;

    "c) lansio Cynllun Gweithredu Technoleg Cymraeg newydd sy’n nodi gweledigaeth i sicrhau bod y Gymraeg ar gael yn hawdd ym maes technoleg;

    "d) cyllido’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol i ddarparu’r cynllun Cymraeg Gwaith / Work Welsh er mwyn datblygu sgiliau Cymraeg gweithwyr mewn sectorau a dargedir, gan gynnwys y sector prentisiaethau;

    "e) darparu bron £60 miliwn o gyllid cyfalaf ar gyfer y blynyddoedd cynnar, addysg ac ar gyfer ailwampio Neuadd Pantycelyn a chyfleusterau’r Urdd yng Nglan-llyn a Llangrannog;

    "f) cyllido 14 Swyddog Busnes ledled Cymru i gynnig cyngor a dulliau ymarferol i helpu busnesau i ddefnyddio mwy o Gymraeg. Caiff llinell gymorth ei lansio’n fuan i roi gwybodaeth am y Gymraeg, i gyfeirio pobl at gymorth gyda’r Gymraeg, ac i ddarparu cyfieithiadau cryno."

    Mae Llywodraeth Cymru hefyd yn credu bod angen "dathlu bod Llywodraeth Cymru wedi cyfrannu’n frwdfrydig at Flwyddyn Ryngwladol y Cenhedloedd Unedig ar gyfer Ieithoedd Cynhenid, a hynny fel platfform i ddathlu Cymru fel cenedl ddwyieithog agored".

    Eluned Morgan
  5. 'Cyflwyno a gweithredu amserlen i ganiatáu Comisiynydd y Gymraeg i osod safonau’r Gymraeg ac ehangu hawliau i ddefnyddio’r iaith'

    Mae Delyth Jewell Plaid Cymru yn dweud bod "gweithredu dyhead y strategaeth yn gofyn am gynllunio strategol a gweithredu ymarferol bwriadus ym mhob maes, yn enwedig mewn perthynas ag addysg, datblygu economaidd, datblygu cymunedol, statws ac isadeiledd y Gymraeg, y gweithle, a’r teulu".

    Mae'n galw ar Lywodraeth Cymru "i gyflwyno a gweithredu amserlen i ganiatáu Comisiynydd y Gymraeg i osod safonau’r Gymraeg ac ehangu hawliau i ddefnyddio’r iaith ym maes cymdeithasau tai, dŵr, gwasanaethau post, trafnidiaeth, ynni, telathrebu ynghyd ag ychwanegu cyrff newydd at reoliadau a basiwyd eisoes".

    Delyth Jewell
  6. Galw am ddatganiadau llafar bob chwe mis ar y cynnydd a wnaed

    Mae Suzy Davies yn galw ar Lywodraeth Cymru

    • i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Cynulliad drwy ddatganiadau llafar bob chwe mis ar y cynnydd a wnaed mewn perthynas â Cymraeg 2050.
    • i gyflwyno adroddiad i'r Cynulliad cyn diwedd 2019 ar effeithiolrwydd ei gwaith hyrwyddo presennol o'r Gymraeg i fusnesau, ar wahân i waith Comisiynydd y Gymraeg.
    • i benodi rhwydwaith o hyrwyddwyr busnes Cymraeg i hybu defnyddio'r Gymraeg gan fusnesau micro, bach a chanolig eu maint.
    • i ystyried diwygio rôl Comisiynydd y Gymraeg ymhellach o ran caniatau i ymchwiliadau gael eu cynnal i honiadau siaradwyr Cymraeg a'r rhai nad ydynt yn siarad Cymraeg mewn perthynas â thorri eu hawliau iaith.
    Suzy Davies
  7. Dadl: Uchelgais y strategaeth Cymraeg 2050

    Pwnc ail ddadl y Ceidwadwyr Cymreig yw uchelgais y strategaeth Cymraeg 2050 o gyrraedd 1 filiwn o siaradwyr Cymraeg mewn cenhedlaeth.

    Cafodd y strategaeth ei lansio yn 2016, a'r bwriad yw sicrhau'r nod erbyn 2050.

    Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud eu bod wedi ymrwymo'n llwyr i gyrraedd y nod a bod cynlluniau gweithredu wedi eu llunio i gyrraedd y targedau.

    Y Gymraeg
  8. 'Gweithlu cenedlaethol ar gyfer yr holl sector gofal llygaid'

    Ar ran Llywodraeth Cymru mae'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Vaughan Gething, yn cyflwyno'r gwelliant sy'n ymrwymo:

    • "i fwrw ymlaen â chyhoeddi a gweithredu’r cynllun gweithlu cenedlaethol ar gyfer yr holl sector gofal llygaid a chyhoeddi Cylchlythyr Iechyd Cymru i sicrhau bod digon o gapasiti mewn clinigau llygaid i ddiwallu anghenion pobl Cymru yn awr ac yn y dyfodol;
    • "i wella'r broses o gasglu, dadansoddi a dysgu o gwynion a digwyddiadau difrifol lle mae pobl wedi colli eu golwg;
    • "i barhau i fwrw ymlaen â’r gwaith o weithredu’r cynllun cyflawni ar gyfer gofal llygaid yn ei flwyddyn olaf a nodi y bydd y Prif Gynghorydd Optometrig yn gweithio gyda rhanddeiliaid trwy Gymru yn ystod y misoedd nesaf i gytuno ar y camau nesaf."
  9. Datblygu cynllun gweithlu cenedlaethol ar gyfer offthalmoleg

    Mae Angela Burns hefyd yn galw ar Lywodraeth Cymru i wneud y canlynol:

    a) bod yn gadarn wrth ddwyn byrddau iechyd i gyfrif am eu methiant i gyrraedd targedau amseroedd aros gofal llygaid a rhoi ei mesurau gofal llygaid ar waith;

    b) datblygu cynllun gweithlu cenedlaethol ar gyfer offthalmoleg i sicrhau bod digon ogapasitimewn clinigau llygaid i ddiwallu anghenion pobl Cymru nawr ac yn y dyfodol;

    c) gwella'r broses o gasglu, dadansoddi a dysgu o gwynion a digwyddiadau difrifol lle mae pobl wedi colli eu golwg;

    d) cyhoeddi amserlen, ar frys, ar gyfer datblygu a chyhoeddi cynllun cyflawni newydd ar gyfer gofal llygaid yng Nghymru.

  10. Dadl: Colli Golwg

    Nesaf yn y Siambr y cyntaf o ddwy ddadl gan y Ceidwadwyr Cymreig.

    A'r pwnc: Colli Golwg.

    Mae nhw'n cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

    1. Yn nodi:

    a) bod 111,000 o bobl yng Nghymru, ar hyn o bryd, yn byw gyda nam ar eu golwg;

    b) y rhagwelir y bydd nifer y bobl sydd wedi colli eu golwg yn cynyddu 32 y cant erbyn 2030 ac yn dyblu erbyn 2050.

    2. Yn croesawu cyflwyno mesurau perfformiad newydd ar gyfer cleifion gofal llygaid.

    3. Yn gresynu bod 1 o bob 3 chlaf y tybir eu bod mewn perygl mawr o golli eu golwg yn aros yn hwy na'u targed o ran amser aros ar gyfer apwyntiadau offthalmoleg.

  11. Argymhellion yn cael eu derbyn neu eu derbyn mewn egwyddor

    Mae'r Gweinidog Addysg Kirsty Williams yn cyflwyno ymateb Llywodraeth Cymru sy'n derbyn neu'n derbyn mewn egwyddor yr holl argymhellion heblaw am un y mae'r llywodraeth yn dweud ddylai gael ei gyfeirio at Gymwysterau Cymru.

    Gellir gweld ymateb y llywodraeth yn llawn fan hyn.

  12. 'Cau dy geg'

    "Cau dy geg" gwaedda'r aelod Annibynnol Michelle Brown tuag at yr AC Llafur Huw Irranca-Davies, cyn cael ei cheryddu gan y Dirprwy Lywydd Ann Jones.

    Michelle Brown
  13. 'Datganiad cliriach ynghylch gweledigaeth Bagloriaeth Cymru'

    Mae Cadeirydd y pwyllgor Lynne Neagle yn cyflwyno'r adroddiad sy'n gwneud 10 o argymhellion.

    Y cyntaf o'r rheini yw:

    "Bod Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi datganiad cliriach ynghylch ei gweledigaeth ar gyfer Bagloriaeth Cymru, a bod y datganiad yn cael ei ategu gan ganllawiau sy’n rhoi manylion am ei disgwyliadau o ran cysondeb darparu’r cymhwyster yng Nghymru a’r adnoddau y dylai ysgolion a cholegau sicrhau eu bod ar gael i addysgu’r cymhwyster yn effeithiol".

    Lynne Neagle
  14. Dadl: Bagloriaeth y Dyfodol: Statws cymhwyster Bagloriaeth Cymru

    Nawr dadl ar adroddiad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg - Bagloriaeth y Dyfodol: Statws cymhwyster Bagloriaeth Cymru.

    View more on twitter
  15. Llywodraeth Cymru yn derbyn yr argymhellion

    Mae Dirprwy Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth Lee Waters yn cyflwyno ymateb Llywodraeth Cymru sy'n derbyn yr argymhellion.

    Gellir gweld ymateb Trafnidiaeth Cymru fan hyn.

  16. Ymrwymiad cryfach i ddiwallu anghenion cwsmeriaid a gwella profiad teithwyr

    Mae Cadeirydd y pwyllgor Russell George yn cyflwyno'r adroddiad sy'n gwneud 13 o argymhellion.

    Un o'r rheini yw:

    "Rhaid i Trafnidiaeth Cymru ddangos ymrwymiad cryfach i ddiwallu anghenion cwsmeriaid a gwella profiad teithwyr: rhaid iddo ddefnyddio ystod eang o fecanweithiau, yn ffurfiol ac yn anffurfiol, i ymgynghori ac ymgysylltu â rhanddeiliaid a theithwyr. Dylai Trafnidiaeth Cymru ddatblygu a chyhoeddi cynllun cyfathrebu ac ymgysylltu cynhwysfawr sy’n nodi ei ymagwedd ac yn nodi’n glir pa safonau y gall rhanddeiliaid a’r cyhoedd eu disgwyl. Dylai’r cynllun ddangos yn glir sut y bydd Trafnidiaeth Cymru yn ystyried barn grwpiau defnyddwyr a rhanddeiliaid allweddol".

    Russell George
  17. Dadl: Datblygu Trafnidiaeth Cymru yn y dyfodol

    Nesaf yn y Siambr dadl ar adroddiad Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau - Datblygu Trafnidiaeth Cymru yn y dyfodol.

    View more on twitter
  18. Datganiad wedi i ddau weithiwr rheilffordd gael eu lladd: Sicrhau bod gwersi'n cael eu dysgu

    Mae Dirprwy Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth Lee Waters yn gwneud datganiad wedi i ddau weithiwr rheilffordd farw ar ôl cael eu taro gan drên rhwng gorsafoedd Port Talbot Parkway a Phen-y-bont.

    Mae'n dweud bod Llywodraeth Cymru wedi cael eu hysgwyd gan y digwyddiad ac y bydd y digwyddiad yn anfon "tonnau ysgytwad trwy'r holl ddiwydiant".

    "Mae'n anodd deall sut y gallai hyn ddigwydd y bore 'ma rhyw 20 milltir i ffwrdd" meddai.

    Mae'n mynegi cydymdeimlad gyda'r holl bobl sydd wedi eu heffeithio ac yn dweud y bydd yna ymchwiliad i sicrhau bod gwersi'n cael eu dysgu.

    Lee Waters
  19. Corff cenedlaethol newydd i gynrychioli llais cleifion

    Ym mis Mehefin fe wnaeth Llywodraeth Cymru gyhoeddi y byddan nhw'n sefydlu corff cenedlaethol newydd i gynrychioli llais cleifion yn y gwasanaeth iechyd ac yng ngofal cymdeithasol.

    Yn ôl y Gweinidog Iechyd, Vaughan Gething, bydd y corff sy'n cael ei argymell gan y Mesur Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn "llawer mwy na chorff cwynion" a bydd yn chwarae rôl bwysig yn yr ymdrech i wella gwasanaethau.

    O dan y drefn newydd byddai'r Cynghorau Iechyd Cymuned presennol yn cael eu diddymu wrth i'r corff newydd ddarparu cyngor a chymorth i unigolion sydd am wneud cwyn am eu profiad o wasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol.