a gafodd drwydded deledu?

You need one to watch live TV on any channel or device, and BBC programmes on iPlayer. It’s the law.

darganfyddwch fwy
Nid oes gennyf drwydded deledu

Y diweddaraf yn fyw

Gan Alun Jones a Nia Harri

Mae pob amser yn lleol i'r DU

  1. Hwyl

    A dyna'r cyfan o'r Siambr am heddiw.

    Fe fydd Senedd Fyw yn ôl yfory ar gyfer cyfarfod o'r Pwyllgor Cyllid.

    Senedd
  2. Y cynnig ar ddatganoli’r Doll Teithwyr Awyr yn cael ei basio

    Mae'r cynnig i alw ar lywodraeth y DU i ddatganoli’r Doll Teithwyr Awyr yn llawn erbyn 2021 yn cael ei basio yn ddi-wrthwynebiad.

    Maes Awyr Caerdydd
  3. Credu 'bod yr achos wedi ei wneud i'r dreth yma gael ei datganoli'

    Mae Mark Reckless o Blaid Brexit yn dweud er gwaetha amheuaeth gyffredinol ei blaid ynghylch datganoli trethi, ei fod yn credu "bod yr achos wedi ei wneud i'r dreth yma gael ei datganoli".

  4. 'Gan Ysgrifennydd Cymru Alun Cairns record bleidleisio gwael ar ddatganoli Toll Teithwyr Awyr'

    Mae Rhun ap Iorwerth Plaid Cymru yn dweud bod gan Ysgrifennydd Cymru Alun Cairns record bleidleisio gwael ar ddatganoli Toll Teithwyr Awyr a'i fod yn sefyll yn ffordd datganoli.

    Mae hefyd yn dweud y dylai'r bleidlais heddiw fod yn arwydd i Mr Cairns oherwydd "bod ewyllus y Senedd yma yn glir".

    Mae Plaid Cymru hefyd yn gyd-gyflwynwyr y cynnig.

    Rhun ap Iorwerth
  5. Pam ddyle fod yna floc ar ddatganoli Toll Teithwyr Awyr?

    Mae'r Ceidwadwr Nick Ramsay yn dweud "os allwn ni gael pwerau treth incwm yma, a'r dreth stamp, pam felly y dylai fod yna floc ar yr un yma?"

    Mae'r Ceidwadwyr Cymreig hefyd yn gyd-gyflwynwyr y cynnig.

    Nick Ramsay
  6. Dim gwelliannau wedi eu cyflwyno

    Does dim gwelliannau wedi eu cyflwyno i gynnig Llywodraeth Cymru ar i lywodraeth y DU i ddatganoli’r doll yn llawn erbyn 2021.

  7. Toll Teithwyr Awyr - yr achos dros ddatganoli

    Ac yn olaf yn y Siambr heddiw dadl ar "Doll Teithwyr Awyr - yr achos dros ddatganoli".

    Mae Llywodraeth Cymru yn cynnig bod y Cynulliad:

    1. Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Materion Cymreig, Datganoli’r Doll Teithwyr Awyr i Gymru.

    2. Yn croesawu argymhelliad unfrydol y Pwyllgor Materion Cymreig y dylai’r Doll Teithwyr Awyr gael ei datganoli i Gynulliad Cenedlaethol Cymru.

    3. Yn nodi’r gefnogaeth drawsbleidiol gyson ar draws y Cynulliad i ddatganoli’r doll, gan gynnwys y safbwynt yng nghyfraniad y Pwyllgor Cyllid i adroddiad y Pwyllgor Materion Cymreig.

    4. Yn galw ar Lywodraeth y DU i ymateb i’r adroddiad drwy:

    a) amlinellu cynigion i ddatganoli’r Doll Teithwyr Awyr i’r Cynulliad Cenedlaethol; a

    b) datganoli’r Doll yn llawn erbyn 2021.

    View more on twitter
  8. Cytuno ar Femorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol

    Mae ACau yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried y darpariaethau ym Mesur y Cyfrifiad (Manylion Ffurflenni a Dileu Cosbau) i’r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

  9. Cydsyniad Deddfwriaethol ar Fesur y Cyfrifiad (Manylion Ffurflenni a Dileu Cosbau)

    Mae ACau nawr yn trafod Cydsyniad Deddfwriaethol ar Fesur y Cyfrifiad (Manylion Ffurflenni a Dileu Cosbau).

    Cyflwynwyd y Mesur yn Nhŷ’r Arglwyddi ar 1 Mai 2019 ac mae wedi ei noddi gan Swyddfa'r Cabinet.

    Mae Llywodraeth y DU wedi datgan mai’r amcan polisi yw "datblygu'r cwestiynau gwirfoddol newydd sy'n cael eu hargymell ynghylch cyfeiriadedd rhywiol a hunaniaeth o ran rhywedd i fodloni'r angen am wybodaeth o ansawdd gwell ar gyfer monitro cydraddoldeb a darpariaeth sector cyhoeddus".

  10. 'Hynod anesmwyth gyda'r syniad o osod targedau'

    Mae Cadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg, AC Llafur Torfaen Lynne Neagle, yn dweud ei bod hi'n "hynod anesmwyth gyda'r syniad o osod targedau" yn y maes hwn.

    Mae'n rhybuddio y byddai peryg o "anogaethau gwrthnysig".

    Lynne Neagle
  11. 16,080 o blant yn derbyn gofal yn 2018

    • Roedd 16,080 o blant sy’n derbyn gofal a chymorth wedi’u cynnwys yn y Cyfrifiad Plant sy’n Derbyn Gofal a Chymorth ar 31 Mawrth 2018, sef cyfradd o 256 fesul 10,000 o blant o dan 18 oed. O’r rhain, roedd 8,870 (55%) yn fechgyn a 7,210 (45%) yn ferched.
    • Roedd gan 21% o blant sy’n derbyn gofal a chymorth anabledd.
    • Cafodd ffactor gallu rhieni yn wyneb salwch meddwl ei gofnodi ar gyfer bron i draean o’r plant sy’n derbyn gofal a chymorth.
    • Roedd cyrhaeddiad plant sy’n derbyn gofal a chymorth yn llawer is na chyfartaledd cyrhaeddiad yr holl ddisgyblion mewn asesiadau’r Cyfnod Sylfaen a’r Cyfnodau Allweddol.
  12. Datganiad: 'Gwella Canlyniadau ar gyfer Plant sy'n Derbyn Gofal'

    Mae'r ACau nawr yn gwrando ar ddatganiad gan y Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Julie Morgan: "Gwella Canlyniadau ar gyfer Plant sy'n Derbyn Gofal".

    Mae'n dweud bod "bron i 25% o blant sy'n derbyn gofal yn cael eu gosod y tu allan i'w sir a 5% yn cael eu gosod y tu allan i Gymru. Er bod yna resymau da yn aml pam bod y plant yma yn cael eu gosod y tu allan i'w hardal, er enghraifft lleoliad arbenigol neu gyda theulu ehangach neu ffrindiau, rydyn ni eisiau archwilio a fyddai cyfran o'r plant hyn yn gallu cael eu gosod yn fwy priodol yn agosach i adre.

    "Fe fydd disgwyliadau gostyngiad arfaethedig yn para tair blynedd - gydag asesiad cyson a monitro bob chwarter ac ar ddiwedd pob blwyddyn".

    Julie Morgan
  13. Argymhellion y Grŵp Gorchwyl a Gorffen

    Gallwch weld adroddiad llawn y Grŵp Gorchwyl a Gorffen a oedd yn gwneud argymhellion ar sut y dylid gwario'r cyllid yma.

  14. £15m i wella gofal critigol

    Mae Vaughan Gething yn cyhoeddi sut y bydd y gronfa £15m Llywodraeth Cymru i wella gofal critigol yn cael ei neilltuo.

    Mae'n cynnwys £1.7m i sefydlu gwasanaeth trosglwyddo cenedlaethol ar gyfer oedolion sy'n ddifrifol wael i "wella diogelwch cleifion ac yn golygu bod defnydd gwell yn cael ei wneud o adnoddau gofal critigol ac ambiwlansys argyfwng cyfyngedig".

    Mae Mr Gething yn dweud "Rydyn ni angen cyflawni'r newidiadau i ofal critigol yn gyflymach ac edrych ar sut rydyn ni'n darparu gwasanaethau ym mhob cwr o Gymru, i sicrhau bod gennym y gwasanaethau cywir yn y man cywir ar gyfer y rheini sy'n ddifrifol wael. Bydd y cyllid hwn yn ein helpu ni i wneud hynny".

  15. 'Helpu i ail-lunio'r ffordd y mae gwasanaethau gofal critigol Cymru yn cael eu darparu'

    Cyhoeddwyd cyllid blynyddol newydd ar gyfer gofal critigol gan Lywodraeth Cymru ym mis Gorffennaf 2018. Bwriad y gronfa o £15m medd y llywodraeth yw "cryfhau pob agwedd ar ofal critigol a helpu i ail-lunio'r ffordd y mae gwasanaethau gofal critigol Cymru yn cael eu darparu".

    Grŵp Gorchwyl a Gorffen dan gadeiryddiaeth y Dirprwy Brif Swyddog Meddygol sy'n gyfrifol am wneud penderfyniadau ynghylch sut y dylai'r arian gael ei ddyrannu.

  16. Datganiad: Y Grŵp Gorchwyl a Gorffen ar Ofal Critigol

    Nawr datganiad cynta'r dydd.

    Mae’n ddatganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Vaughan Gething: Y Grŵp Gorchwyl a Gorffen ar Ofal Critigol – Adroddiad.

    Vaughan Gething
  17. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

    Symudwn ni ymlaen nawr at y Datganiad a Chyhoeddiad Busnes.

    Mae'r Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd Rebecca Evans AC yn amlinellu busnes y cynulliad yn y dyfodol ac yn ymateb i geisiadau gan ACau.

    Rebecca Evans
  18. Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud ynghylch tafarnau'n cau?

    Mae Gareth Bennett UKIP yn gofyn beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud ynghylch tafarnau'n cau.

    Mae Mr Drakeford yn dweud bod Llywodraeth Cymru yn bwriadu cyflwyno gwell gwarchodaeth i sicrhau na all tafarnau gael eu dymchwel neu gael newid eu defnydd heb geisio caniatâd cynllunio yn gyntaf.

    Gareth Bennett
  19. 'Anghrediniaeth' yn Iwerddon bod Cymru wedi pleidleisio o blaid gadael yn 2016

    Mae arweinydd Plaid Brexit Mark Reckless yn cyfeirio at ddatganiad diweddar gan Eluned Morgan ei bod hi wedi dod ar draws "anghrediniaeth" yn Iwerddon bod Cymru wedi pleidleisio o blaid gadael yn 2016.

    "Onid ddylai hi fod yn dweud wrth Iwerddon bod angen iddyn nhw symud ar y backstop i osgoi dim cytundeb?" gofynna.

    Mark Reckless
  20. 'Cwynion ynghylch bwrdd iechyd Bae Abertawe wedi codi 29% yn 2018'

    Mae Paul Davies yn codi cyfweliad BBC gydag Andrew Davies wnaeth gyhuddo Llywodraeth Cymru o gael effaith negyddol ar eu gwasanaethau trwy "ymyrryd yn ormodol".

    Mae Mark Drakeford yn ateb pan fo byrddau iechyd yn wynebu heriau mae'n "iawn a chywir" bod y llywodraeth yn cymryd diddordeb uniongyrchol.

    Mae Mr Davies yn dweud bod hwn yn fwrdd iechyd arall sydd ddim yn gwneud yn dda iawn, a bod cwynion ynghylch bwrdd iechyd Bae Abertawe wedi codi 29% yn 2018.