a gafodd drwydded deledu?

You need one to watch live TV on any channel or device, and BBC programmes on iPlayer. It’s the law.

darganfyddwch fwy
Nid oes gennyf drwydded deledu

Y diweddaraf yn fyw

Gan Alun Jones a Nia Harri

Mae pob amser yn lleol i'r DU

  1. Hwyl

    A dyna'r cyfan o'r Siambr am yr wythnos.

    Fe fydd Senedd Fyw yn ôl ddydd Mawrth nesaf Gorffennaf 2.

    Senedd
  2. 'Amser i sefydlu hawl gyfreithiol i dai digonol yng Nghymru'

    Ni chyflwynwyd cynnig yn wreiddiol i gynnal Dadl Fer, felly mae'r Llywydd Elin Jones yn cyflwyno cynnig er mwyn caniatáu i Ddadl Fer Dawn Bowden gael ei hystyried yn y Cyfarfod Llawn heddiw.

    A'r pwnc: "Amser i sefydlu hawl gyfreithiol i dai digonol yng Nghymru:

    Mae'n galw ar ACau a Llywodraeth Cymru i "wneud ymrwymiad cenedlaethol i'r egwyddor sylfaenol y dylai pob un ohonom gael hawl ddynol, wedi'i hategu gan gyfraith, i gael gafael ar dai digonol a chynaliadwy".

    Dawn Bowden
  3. Y cynnig wedi ei ddiwygio gan Lywodraeth Cymru yn cael ei basio

    Mae ACau yn pasio'r cynnig wedi ei ddiwygio gan Lywodraeth Cymru.

  4. 'Prifysgolion yng Nghymru a’r Deyrnas Unedig yn sefydliadau annibynnol ac ymreolaethol'

    Ar ran Llywodraeth Cymru mae'r Gweinidog Addysg Kirsty Williams yn cynnig:

    Dileu’r cyfan a rhoi yn ei le:

    1. Yn cydnabod:

    a. bod Prifysgolion yng Nghymru a’r Deyrnas Unedig yn sefydliadau annibynnol ac ymreolaethol;

    b. yr heriau ariannol sy’n wynebu’r sector Addysg Uwch ledled y Deyrnas Unedig, gan gynnwys Brexit a’r gwymp yn nifer y bobl ifanc 18 oed;

    2. Yn croesawu:

    a. bod Llywodraeth Cymru wedi cyflwyno’r system cefnogi myfyrwyr fwyaf hael yn y Deyrnas Unedig, a bod nifer y myfyrwyr rhan amser ac ôl-raddedig yng Nghymru wedi cynyddu’n sylweddol;

    b. bod setliad teg a chynaliadwy wedi’i gyflwyno i brifysgolion Cymru a bod ymrwymiad i gynyddu cyllid CCAUC ym mhob blwyddyn ariannol am oes y Llywodraeth hon;

    c. bod ymrwymiad ar draws y sector yng Nghymru i dalu’r cyflog byw go iawn i bob aelod o staff, bod mwy o dryloywder o ran adrodd ar gyflogau rheolwyr uwch, bod camau’n cael eu cymryd i fynd i’r afael â’r bwlch cyflog rhwng y rhywiau a bod y Cod Ymarfer ar Gyflogaeth Foesegol mewn Cadwyni Cyflenwi wedi ei fabwysiadu;

    d. mai Cymru yw’r wlad sy’n perfformio orau yn y Deyrnas Unedig o ran bodlonrwydd myfyrwyr.

    3. Yn nodi bod Llywodraeth Cymru wedi rhoi yng nghylch gwaith CCAUC y dylai weithio mewn partneriaeth â’r sector i gynyddu tryloywder o ran y defnydd o incwm o ffioedd a chryfhau llywodraethiant ac atebolrwydd.

    Kirsty Williams
  5. 'Cyflogau anferthol o uchel' is-ganghellorion

    Mae David Rowlands o Blaid Brexit yn gofyn a yw "cyflogau anferthol o uchel" is-ganghellorion yn "arwydd o'r rheolau ariannol cyffredinol" o fewn y sector addysg uwch.

  6. 'Cyhoeddi'r wybodaeth am y sefyllfa ariannol'

    Ar ran y Ceidwadwyr mae Suzy Davies yn galw ar Lywodraeth Cymru "i gyhoeddi'r wybodaeth am y sefyllfa ariannol y mae'n ei hystyried o ran y sector addysg uwch cyn cytuno ar ddyraniad cyllideb flynyddol y sector".

    Suzy Davies
  7. 'Prifysgolion yng Nghymru ddim yn llwyr annibynnol'

    Mae Bethan Sayed yn dadlau nad yw prifysgolion yng Nghymru yn llwyr annibynnol am eu bod yn derbyn arian cyhoeddus trwy HEFCW – un o gyrff Llywodraeth Cymru, a bod gan Lywodraeth Cymru felly gyfrifoldeb uniongyrchol i ddal sefydliadau AU yng Nghymru i gyfrif.

  8. Sicrhau digonolrwydd a thryloywder trefniadau goruchwylio a llywodraethu prifysgolion

    Mae Plaid Cymru hefyd yn galw ar Lywodraeth Cymru "i sicrhau bod unrhyw arian cyhoeddus i brifysgol yng Nghymru yn amodol ar y ffaith na fyddai cyflog is-ganghellor yn ddim mwy na phum gwaith enillion canolrifol.

    "Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau digonolrwydd a thryloywder trefniadau goruchwylio a llywodraethu prifysgolion, yn enwedig mewn perthynas â gwariant arian cyhoeddus;

    "Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyfarwyddo CCAUC, ac unrhyw gorff olynol, i weithio mewn partneriaeth â myfyrwyr a staff prifysgolion ar bob lefel o wneud penderfyniadau; a'i gwneud yn ofynnol i brifysgolion ystyried llais myfyrwyr a barn staff wrth wneud penderfyniadau staffio".

  9. Galw am adolygiad brys o gynaliadwyedd ariannol sector prifysgolion Cymru

    Mae Bethan Sayed yn cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

    1. Yn nodi'r argyfwng ariannol difrifol sy'n wynebu sector addysg uwch Cymru, gyda chyhoeddi bod nifer sylweddol o swyddi wedi'u colli dros y deuddeg mis diwethaf ymysg pryderon am gynaliadwyedd ariannol sefydliadau unigol.

    2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gomisiynu adolygiad brys o gynaliadwyedd ariannol sector prifysgolion Cymru.

    3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i roi mandad penodol i CCAUC ymyrryd i atal methdaliad unrhyw sefydliad addysg uwch yng Nghymru yn y dyfodol agos, drwy gyfrwng benthyciad brys os oes angen.

    Bethan Sayed
  10. Dadl: Y Sector Addysg Uwch

    Symudwn ni ymlaen at ddadl gan Blaid Cymru.

    A'r pwnc: Y Sector Addysg Uwch.

    Addysg
  11. Llywodraeth Cymru yn gwrthod dau o'r argymhellion

    Mae'r Dirprwy Weinidog Tai a Llywodraeth Leol, Hannah Blythyn, yn rhoi ymateb Llywodraeth Cymru i'r adroddiad.

    Mae'r llywodraeth yn gwrthod dau o'r argymhellion gan gynnwys argymhelliad bod Llywodraeth Cymru "yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol gasglu gwybodaeth am nifer y cynghorwyr presennol sy’n gymwys i hawlio’r lwfans gofal a faint sy’n gwneud hynny".

    Yn ôl Llywodraeth Cymru "mae yna gydbwysedd i'w daro fan hyn rhwng annog unigolion i ymgeisio a pharchu blaenoriaeth unigolyn ar gyfer trefniadau personol. Fe fydd Llywodraeth Cymru yn gofyn i Banel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol i ystyried y mater ymhellach".

    Gallwch weld ymateb Llywodraeth Cymru yn llawn fan hyn.

    Hannah Blythyn
  12. 22 o argymhellion

    Mae Cadeirydd y pwyllgor John Griffiths yn cyflwyno'r adroddiad sy'n gwneud 22 o argymhellion.

    Y cyntaf o'r rheini yw argymell "bod Llywodraeth Cymru, yn ei mesur llywodraeth leol arfaethedig, yn cynnwys darpariaethau i lacio’r cyfyngiadau ar bresenoldeb a phleidlais o bell i aelodau yng nghyfarfodydd ffurfiol y cyngor a nodir ym Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011 er mwyn galluogi awdurdodau lleol i dreialu’r defnydd o ddulliau cyfathrebu fideo".

    John Griffiths
  13. Dadl: Amrywiaeth mewn Llywodraeth Leol

    Nawr dadl gynta'r dydd.

    Mae'n ddadl ar Adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau: Amrywiaeth mewn Llywodraeth Leol.

  14. 'Ffocysu ar ddod o hyd i waith lleol arall

    Mae Dirprwy Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth Lee Waters yn ateb "ein ffocws nawr yw dod o hyd i waith lleol arall i weithlu dawnus Jistcourt".

    Lee Waters
  15. Cwestiwn Amserol - Cwmni adeiladu Jistcourt

    Un Cwestiwn Amserol sydd yna.

    Mae'r Ceidwadwr Russell George yn gofyn am y wybodaeth ddiweddaraf am y cymorth y mae Llywodraeth Cymru wedi'i roi i gwmni adeiladu Jistcourt.

    Ddydd Gwener fe gyhoeddodd y cwmni adeiladu teuluol o Gastell-nedd Port Talbot eu bod wedi mynd i ddwylo'r gweinyddwyr, gan roi swyddi 47 o'r 66 o weithwyr yn y fantol.

    Dywedodd cadeirydd Jistcourt bod y cam yn anorfod wedi bron i 40 o flynyddoedd mewn busnes.

    "Wedi nifer o flynyddoedd anodd... ni allwn ni barhau i fasnachu," meddai Roy Norman mewn datganiad.

    Mae gan y cwmni swyddfeydd ym Maglan a Bryste.

    Ychwanegodd Mr Norman yn ei ddatganiad: "Byddwn yn cysylltu â'r holl gredydwyr yn yr wythnosau nesaf.

    Mae swyddi tua 50 o weithwyr Jistcourt yn y fantol
    Image caption: Mae swyddi tua 50 o weithwyr Jistcourt yn y fantol
  16. Cwestiynau Amserol

    Symudwn ni ymlaen nawr at y Cwestiynau Amserol.

    Mae'n rhaid i gwestiynau amserol ymwneud â mater o arwyddocâd cenedlaethol, rhanbarthol neu leol y byddai'n ddymunol cael ymateb cyflym iddo gan Weinidog, ac y dylai'r mater fod wedi codi ers i'r terfyn amser ar gyfer cyflwyno cwestiynau amserol yr wythnos flaenorol fynd heibio.

    Y Llywydd sy'n penderfynu sawl cwestiwn amserol i'w ddethol ar gyfer y cyfnod o 20 munud a neilltuwyd, a sut i rannu'r amser sydd ar gael rhwng y cwestiynau hynny.

    Cwestiynau
  17. Rhoi terfyn ar sgamiau ffôn sy'n defnyddio rhifau ffôn y Cynulliad

    Dim ond dau gwestiwn sydd wedi'u cyflwyno - un ar y defnydd o dechnoleg yn y siambr ac un ar sgamiau ffôn sy'n defnyddio rhifau ffôn y Cynulliad.

    Mae twyllwyr sy'n honni eu bod yn swyddogion treth yn defnyddio rhifau ffôn y Cynulliad, gan achosi i'r staff dderbyn galwadau gan aelodau pryderus o'r cyhoedd.

    Mae'n ffordd o geisio twyllo arian drwy fygwth dioddefwyr gyda chamau cyfreithiol.

    Mae'r neges awtomatig yn honni bod swyddogion treth am ddwyn achos cyfreithiol yn erbyn y derbynnydd, ac yn gofyn i'r galwr bwyso botwm i siarad â gweithiwr er mwyn gallu gwneud taliad.

    Mae'r Cynulliad wedi rhoi gwybod i'r Asiantaeth Troseddau Cenedlaethol ac Action Fraud am y mater.

    Mae'r Ceidwadwr Andrew RT Davies yn dweud bod rhai o'r galwadau wedi achosi gofid.

  18. Cwestiynau i Gomisiwn y Cynulliad

    Yr eitem nesaf yw cwestiynau i Gomisiwn y Cynulliad, y corff sy’n gyfrifol am sicrhau bod eiddo, staff a gwasanaethau yn cael eu darparu i’r Cynulliad. Mae Comisiwn y Cynulliad yn cynnwys y Llywydd a phedwar Aelod o bleidiau gwleidyddol gwahanol.

  19. Pryder ynghylch 'ymdriniaeth annynol' o fudwyr ger ffin ddeheuol yr Unol Daleithiau

    Mae Leanne Wood Plaid Cymru yn mynegi pryder ynghylch yr "ymdriniaeth annynol" o fudwyr, yn arbennig plant, mewn canolfan i fudwyr ger ffin ddeheuol yr Unol Daleithiau.

    Mae Eluned Morgan yn ateb "Rydw i'n bendant yn condemnio'r ymdriniaeth sy'n torri hawliau dynol".

    Mae cyfreithwyr wnaeth ymweld â chanolfan rheoli ffiniau yn Clint, Texas, wedi disgrifio celloedd gorlawn, gyda phlant yn cael eu cloi heb arolygaeth oedolyn neu fynediad digonol at fwyd neu gawodydd.

    Mae dadl gyfreithiol gan lywodraeth yr UD bod mynediad at sebon a brwsh dannedd ddim yn angenrheidiol ar gyfer plant mudwyr mewn canolfan gadw wedi ennyn llawer o feirniadaeth.

    Leanne Wood