a gafodd drwydded deledu?

You need one to watch live TV on any channel or device, and BBC programmes on iPlayer. It’s the law.

darganfyddwch fwy
Nid oes gennyf drwydded deledu

Y diweddaraf yn fyw

Gan Alun Jones a Nia Harri

Mae pob amser yn lleol i'r DU

  1. Hwyl

    A dyna'r cyfan o'r Siambr am heddiw.

    Fe fydd Senedd Fyw yn ôl yfory.

    Senedd
  2. Pasio Cyfnod 3 y Mesur Deddfwriaeth (Cymru)

    Mae ACau yn pasio Cyfnod 3 y Mesur Deddfwriaeth (Cymru).

    Llyfr Statud
  3. Canllaw i Fesurau a Deddfau Cyhoeddus

    Yn gyffredinol, mae pedwar cyfnod yn y broses ar gyfer ystyried Mesur Cyhoeddus, sef:

    • Cyfnod 1 - pwyllgor yn ystyried egwyddorion cyffredinol y Mesur a'r Cynulliad yn cytuno ar yr egwyddorion cyffredinol hynny;
    • Cyfnod 2 - pwyllgor yn ystyried y Mesur ac unrhyw welliannau a gyflwynwyd i’r Mesur hwnnw yn fanwl;
    • Cyfnod 3 - y Cynulliad yn ystyried y Mesur ac unrhyw welliannau a gyflwynwyd i’r Mesur hwnnw yn fanwl;
    • Cyfnod 4 - pleidlais gan y Cynulliad i basio testun terfynol y Mesur.
  4. Dadl: Cyfnod 3 y Mesur Deddfwriaeth (Cymru)

    Ac yn olaf yn y Siambr heddiw dadl ar Gyfnod 3 y Mesur Deddfwriaeth (Cymru).

    Yn ôl Llywodraeth Cymru diben y Mesur Deddfwriaeth (Cymru) yw gwneud cyfraith Cymru yn fwy hygyrch, clir a syml i'w defnyddio.

    Mae'n gwneud darpariaeth ynghylch dehongli a gweithredu deddfwriaeth Cymru, a’i gwneud yn ofynnol i’r Cwnsler Cyffredinol a Gweinidogion Cymru gymryd camau i wella hygyrchedd cyfraith Cymru.

  5. 'Y llwybr glas ddim yn opsiwn'

    Mae Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth, Ken Skates, yn dweud "nad yw'r llwybr glas yn opsiwn".

    Mae'n gwadu bod gwaith ar yr M4 yn ôl i'r dechrau.

    Ar gyhuddiadau Mark Reckless bod rhoi'r gorau i'r llwybr du yn torri ymrwymiad maniffesto, mae'n dweud "ers 2016 mae amserau wedi newid yn gyflym. Mae ganddon ni nawr well gafael, rydw i'n credu, ar yr argyfwng hinsawdd".

  6. Llafur Cymru wedi 'bradychu' eu hymrwymiad maniffesto

    Mae arweinydd Plaid Brexit Mark Reckless yn dweud bod Llafur Cymru wedi "bradychu" eu hymrwymiad maniffesto i adeiladu ffordd liniaru'r M4.

  7. Grŵp gwaith eu hunain i edrych ar ddewisiadau eraill

    Mae AC Dwyrain De Cymru Delyth Jewell yn dweud bod Plaid Cymru yn sefydlu ei grŵp gwaith eu hunain i edrych ar ddewisiadau eraill i ffordd liniaru'r M4.

    Delyth Jewell
  8. 'Y problemau ynghylch twneli Brynglas yn broblem Gymreig, nid yn un i Gasnewydd'

    Mae AC Llafur Gorllewin Casnewydd Jayne Bryant yn yn dweud bod "y problemau ynghylch twneli Brynglas yn broblem Gymreig, nid yn un i Gasnewydd".

    Mae'n ychwanegu, "Ni ddylai ein dinas gael ei thagu gan dagfeydd.

    "Fydd syniadau fel cau cyffyrdd ar ddarn Casnewydd o'r M4 ddim yn ateb. Fe fydd cau unrhyw gyffordd o'r M4 yn gwneud bywyd yn fwy cymhleth i fy etholwyr".

    Jayne Bryant
  9. 'Unrhyw gynnig newydd yn rhan o becyn buddsoddi mewn seilwaith ar gyfer Cymru gyfan'

    Mae Rhun ap Iorwerth Plaid Cymru yn galw ar Lywodraeth Cymru "i sicrhau bod unrhyw gynnig newydd yn rhan o becyn buddsoddi mewn seilwaith ar gyfer Cymru gyfan".

    Rhun ap Iorwerth
  10. 'Gresynu ymhellach at fethiant un Llywodraeth Lafur ar ôl y llall yng Nghymru i ddatrys y tagfeydd ar yr M4'

    Mae'r aelod Ceidwadol Russell George yn gresynu at "fethiant Llywodraeth Cymru i gyhoeddi adroddiad yr Arolygydd Cyhoeddus Annibynnol cyn 4 Mehefin 2019".

    Mae e hefyd yn "gresynu ymhellach at fethiant un Llywodraeth Lafur ar ôl y llall yng Nghymru i ddatrys y tagfeydd ar yr M4 hyd yn hyn" ac yn "galw ar Lywodraeth Cymru i dderbyn argymhelliad yr arolygydd cyhoeddus annibynnol ac adeiladu ffordd liniaru'r M4".

    Russell George
  11. 'Tagfeydd o amgylch Casnewydd wedi bod yn llesteirio economi Cymru dros y ddau ddegawd diwetha'

    Mae David Rowlands o Blaid Brexit yn "gresynu bod Llywodraeth Cymru wedi methu â chadw at ei haddewid i ddarparu ffordd liniaru'r M4".

    Mae e hefyd yn cydnabod "bod tagfeydd o amgylch Casnewydd wedi bod yn llesteirio economi Cymru dros y ddau ddegawd diwethaf".

    Mae'n "galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod unrhyw fesurau lleddfu, yn absenoldeb ffordd liniaru, yn cael eu rhoi ar waith cyn gynted â phosibl".

    David Rowlands
  12. 'Dyw gwneud dim ddim yn opsiwn'

    Mae Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth Ken Skates yn dweud "dyw gwneud dim ddim yn opsiwn", a bod "amser wedi newid ers i'r llwybr du gael ei gynnig".

    Mae'n egluro y bydd y dystiolaeth roddwyd i ymchwiliad cyhoeddus yr M4 yn cael ei gyfrif gan y comisiwn newydd.

    Ken Skates
  13. Dadl: Coridor yr M4 o amgylch Casnewydd

    Ymlaen nawr at ddadl gynta'r dydd.

    Mae'n ddadl ar Goridor yr M4 o amgylch Casnewydd.

    Mae Llywodraeth Cymru yn cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

    1. Yn nodi adroddiad yr Arolygydd Cyhoeddus a’r llythyr o benderfyniad a gyhoeddwyd gan y Prif Weinidog ddydd Mawrth 4 Mehefin, gan gynnwys datganiad llafar yn ddiweddarach y diwrnod hwnnw, ynghylch prosiect coridor yr M4 o amgylch Casnewydd.

    2. Yn nodi’r camau nesaf a amlinellwyd gan Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth gan gynnwys sefydlu Comisiwn o arbenigwyr o dan arweiniad yr Arglwydd Terry Burns.

    3. Yn cydnabod y problemau sylweddol o ran tagfeydd ar rwydwaith yr M4 ger Twnelau Brynglas a’u heffaith ar Gasnewydd a’r economi ehangach

    4. Yn nodi ymrwymiad Llywodraeth Cymru i ddatblygu ac ariannu atebion cynaliadwy ac effeithiol i broblemau tagfeydd fel rhan o system drafnidiaeth integredig, aml-ddull a charbon isel.

    M4
  14. Mân ddiwygiadau i gywiro cyfeiriadau

    Mae ACau yn cymeradwyo Rheoliadau Gwasanaethau Eirioli Rheoleiddiedig (Darparwyr Gwasanaethau ac Unigolion Cyfrifol) (Cymru) (Diwygio) 2019 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 4 Mehefin 2019.

    Mae'r Rheoliadau hyn yn gwneud mân ddiwygiadau i gywiro cyfeiriadau.

  15. Ystyried y cyfleoedd a'r heriau

    Mae Lesley Griffiths yn cyhoeddi ei bod hi'n sefydlu grŵp yn cael ei arwain gan ddiwydiant "i ystyried y cyfleoedd a'r heriau ynghlwm wrth ddatgarboneiddio y sectorau diwydiannol a busnesau yng Nghymru".

    Lesley Griffiths
  16. 100 o bolisïau a chynigion i fynd i'r afael â newid hinsawdd

    Ym mis Mawrth fe wnaeth Llywodraeth Cymru gyhoeddi pecyn o 100 o bolisïau a chynigion i fynd i'r afael â newid hinsawdd.

    Dywedodd gweinidogion bod y cynllun yn "gosod y sylfeini i Gymru droi'n wlad carbon isel".

    Roedd hefyd yn egluro sut maen nhw'n bwriadu cyrraedd targed cyfreithiol i dorri allyriadau Cymru 80% erbyn 2050.

    Mae mwyafrif y polisïau yn rhai sydd eisoes yn bodoli, wedi'u tynnu at ei gilydd o adrannau gwahanol Llywodraeth Cymru.

    Y gobaith yw cydlynu ymdrechion i leihau allyriadau carbon mewn adrannau gwahanol, fel ynni, trafnidiaeth ac amaeth.

    Mae'r mesurau'n cynnwys cynyddu nifer y coed sy'n cael eu plannu, sicrhau bod pob adeilad cyhoeddus yn rhedeg ar ynni adnewyddadwy erbyn 2020 a bod pob bws a thacsi yn rhai gwell i'r amgylchedd erbyn 2028.

    Mae'r addewidion newydd yn cynnwys:

    • Comisiynu arolwg o fylchau mewn swyddi a sgiliau fyddai'n gallu cefnogi datgarboneiddio;
    • Sefydlu grŵp o arbenigwyr i gynghori ar dechnolegau newydd all leihau allyriadau;
    • Cynnal cynhadledd newid hinsawdd i gynnwys yr holl sector a phob lefel o gymdeithas.
  17. Lleihau allyriadau yng Nghymru o leiaf 80% erbyn 2050

    Mae’n ofynnol yn ôl y gyfraith i Lywodraeth Cymru leihau allyriadau yng Nghymru o leiaf 80% erbyn 2050, o’u cymharu â lefelau yn 1990, gyda thargedau interim ar gyfer 2020, 2030 a 2040.

  18. Datganiad: Darparu Cymru Carbon Isel

    Nawr datganiad gan Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig, Lesley Griffiths: Darparu Cymru Carbon Isel.

    View more on twitter