a gafodd drwydded deledu?

You need one to watch live TV on any channel or device, and BBC programmes on iPlayer. It’s the law.

darganfyddwch fwy
Nid oes gennyf drwydded deledu

Y diweddaraf yn fyw

Mae pob amser yn lleol i'r DU

Cyfrannu

  1. Dyna ni am heno!

    BBC Cymru Fyw

    Diolch am ddilyn y llif byw.

    Cofiwch fod modd gwrando yn ôl ar sylwebaeth gêm olaf Cymru ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad yn llawn ar BBC Sounds.

    Mwynhewch y dathlu heno!

  2. Seren y Gêm

    Undeb Rygbi Cymru

    Mae Gareth Anscombe wedi cael ei enwi fel Seren y Gêm heddiw.

    anscombe
  3. Y Goron driphlyg

    BBC Cymru Fyw

    Noddwr Undeb Rygbi Cymru, Dug Caergrawnt, yn cyflwyno'r Goron driphlyg i Alun Wyn Jones, am guro Lloegr, Yr Alban ac Iwerddon yn y bencampwriaeth.

    william
  4. Gwers Gymraeg hynod o bwysig...

    Clwb Pêl-droed Schalke 04 yn dysgu term hynod o bwysig i'w dilynwyr

    View more on twitter
  5. Llongyfarchiadau Alun!

    Ein capten, Alun Wyn Jones yn dod yn gyfartal â record Gethin Jenkins am ymddangosiadau mewn gemau prawf!

    AWJ
  6. Cerddorion o Gymru yn mwynhau'r gêm o Texas

    Huw Stephens, Boy Azooga a Seazoo yn amlwg yn mwynhau'r awyrgylch yng ngŵyl SXSW

    View more on twitter
  7. Adroddiad llawn o'r gêm

    BBC Cymru Fyw

    Mae Cymru wedi sicrhau'r Gamp Lawn ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad ar ôl curo Iwerddon yn gyfforddus yn Stadiwm Principality.

    Cliciwch yma am fwy!

    cymru
  8. Un Camp Lawn i Iwerddon eleni

    Twitter

    Roedd hi'n stori wahanol i'r Tîm Dan 20 neithiwr ym Mae Colwyn, wrth i Iwerddon ennill y Gamp Lawn, llongyfarchiadau!

    View more on twitter