Dyna'r cyfan o'r llif byw yma - diolch o galon i chi am ddarllen.
Fe gewch chi'r datblygiadau diweddaraf ar Brexit a straeon eraill ar ein hafan, a phwy a wyr os fyddwn ni nôl yr wythnos nesaf gyda phleidlais allweddol arall o San Steffan.
Hwyl fawr.
I grynhoi...
BBC Cymru Fyw
Mae Tŷ'r Cyffredin wedi pleidleisio o blaid gofyn i'r Undeb Ewropeaidd am ymestyn cyfnod Erthygl 50 nes 30 Mehefin.
Mae'n rhaid i'r 27 aelod o'r UE gytuno i hynny, a hyd yn oed wedyn mae'r cyfnod yna'n dibynnu ar Gytundeb Ymadael Theresa May yn cael ei basio yr wythnos nesaf.
Y sefyllfa gyfreithiol o hyd yw y bydd y DU yn gadael yr UE ar 29 Mawrth, ond mae pleidlais heno yn awgrymu y gallai hynny newid gyda chydsyniad Ewrop.
Yn gynharach heddiw fe wnaeth Theresa May gadarnhau y bydd yn ceisio cael ASau i gymeradwyo ei chytundeb Brexit am y trydydd tro yr wythnos nesaf.
Dywedodd wrth ASau, os yw'r cytundeb yn methu eto, ei bod yn debyg y byddai angen oedi hir cyn gadael yr Undeb Ewropeaidd.
Y disgwyl yw y bydd pleidlais arall un ai dydd Mawrth neu ddydd Mercher.
Os yw ei chytundeb yn methu am y trydydd tro, yna fe allai Brexit gael ei ohirio ymhellach na 30 Mehefin. Dyna oedd dymuniad Tŷ'r Cyffredin yn y bleidlais nos Fawrth, ond ni wnaeth y bleidlais yna newid y gyfraith sy'n golygu fod y DU yn gadael yr UE ar 29 Mawrth.
Y Sylwebydd Gwleidyddol, Tweli Griffiths yn dweud ar rifyn arbennig y Post Prynhawn fod dehongliad rhai bod 'na garfan gryf o fewn San Steffan o blaid refferendwm arall yn anghywir.
Newydd dorriASau yn pleidleisio o blaid oedi Brexit
BBC Cymru Fyw
Mae ASau wedi pasio cynnig fyddai'n galw ar y Llywodraeth i ofyn am estyniad i Erthygl 50 tan 30 Mehefin, gan oedi Brexit a rhoi cyfle arall i ASau gymeradwyo Cytundeb Ymadael Theresa May.
Ni fydd Guto Bebb, AS Aberconwy, yn pleidleisio ar y prif gynnig, a dywedodd wrth Radio Cymru nad yw'n credu y gall cytundeb ymadael Theresa May gael ei basio gan ASau yr wythnos nesaf.
Video content
Video caption: Guto Bebb yw AS Ceidwadol AberconwyGuto Bebb yw AS Ceidwadol Aberconwy
Mae AS Rhondda, Chris Bryant, wedi tynnu nôl ei welliant yntau fyddai wedi galw ar ASau i wrthod pleidleisio eto at gytundeb ymadael Theresa May am y trydydd tro.
Dyma'r prif gynnig fydd gerbron Aelodau Seneddol heddiw, sef bod y DU yn ceisio cytuno estyniad i Erthygl 50 gyda'r Undeb Ewropeaidd... gohirio Brexit mewn geiriau eraill.
Gan nad yw un o'r gwelliannau wedi llwyddo, dyna'r bleidlais nesaf i ASau felly.
Nid yw'r cynnig yn manylu beth fyddai hyd unrhyw estyniad os nad yw Cytundeb Ymadael Theresa May yn cael ei basio cyn 20 Mawrth.
Tŷ'r CyffredinCopyright: Tŷ'r Cyffredin
Gwelliant E yn methu
BBC Cymru Fyw
Mae Gwelliant Jeremy Corbyn a Llafur wedi cael ei drechu.
O blaid - 302
Yn erbyn - 318
Roedd y cynnig wedi galw am ohirio Brexit er mwyn rhoi amser i geisio cyrraedd cyfaddawd fyddai'n dderbyniol i fwyafrif o ASau o bob plaid.
Gan fod Gwelliant I wedi methu o drwch blewyn, mae ASau nawr yn pleidleisio ar Welliant E sy'n cael ei gyflwyno gan Jeremy Corbyn a mainc flaen llafur.
Mae'n galw am wrthod cytundeb y prif weinidog a hefyd y syniad o adael heb gytundeb.
Mae hefyd yn galw am drefnu amser yn y senedd i Dŷ'r Cyffredin weithio tuag at gael mwyafrif o blaid strategaeth wahanol.
BBCCopyright: BBC
'Yr unig un â gobaith o basio'
Tweli Griffiths
Sylwebydd gwleidyddol
Ar y rhifyn arbennig o'r Post Prynhawn ar Radio Cymru mae Tweli Griffiths wedi bod yn egluro pwysigrwydd Gwelliant I.
"O'r pedwar gwelliant gerbron heno, gwelliant Hilary Benn oedd yn unig un â gobaith o gael ei basio," meddai.
"Mae'n un arwyddocaol, gan grŵp trawsbleidiol, i drio rhoi cyfle i'r senedd gael trafod gwahanol opsiynnau trwy ddwyn rheolaeth dros Dŷ'r Cyffredin oddi wrth y llywodraeth.
"Mae hynny'n ergyd fawr i'r bobl sydd naill ai'n gwrthwynebu Brexit yn llwyr neu'n gobeithio am un fwy meddal na chytundeb Theresa May."
Gwelliant I yn methu
BBC Cymru Fyw
Mae Gwelliant I wedi cael ei wrthod gan ASau yn San Steffan.
O blaid - 312
Yn erbyn - 314
Roedden nhw'n bwriadu defnyddio'r amser i drafod, a gallai fod wedi arwain at bleidleisio ar nifer o opsiynau gwahanol am Brexit.
Saith AS Llafur o Gymru wedi mynd yn erbyn y blaid
Gohebydd Gwleidyddol BBC Cymru ar Twitter
Twitter
Fel mae Gohebydd Gwleidyddol BBC Cymru, Cemlyn Davies yn egluro, fe wnaeth saith Aelod Seneddol Llafur o Gymru anwybyddu chwip y blaid a phleidleisio o blaid refferendwm arall.
Roedd y Blaid Lafur wedi gorchymyn ei haelodau i beidio pleidleisio ar y gwelliant.
Y diweddaraf yn fyw
Mae pob amser yn lleol i'r DU
Cyfrannu
Hwyl am y tro!
BBC Cymru Fyw
Dyna'r cyfan o'r llif byw yma - diolch o galon i chi am ddarllen.
Fe gewch chi'r datblygiadau diweddaraf ar Brexit a straeon eraill ar ein hafan, a phwy a wyr os fyddwn ni nôl yr wythnos nesaf gyda phleidlais allweddol arall o San Steffan.
Hwyl fawr.
I grynhoi...
BBC Cymru Fyw
Mae Tŷ'r Cyffredin wedi pleidleisio o blaid gofyn i'r Undeb Ewropeaidd am ymestyn cyfnod Erthygl 50 nes 30 Mehefin.
Mae'n rhaid i'r 27 aelod o'r UE gytuno i hynny, a hyd yn oed wedyn mae'r cyfnod yna'n dibynnu ar Gytundeb Ymadael Theresa May yn cael ei basio yr wythnos nesaf.
Y sefyllfa gyfreithiol o hyd yw y bydd y DU yn gadael yr UE ar 29 Mawrth, ond mae pleidlais heno yn awgrymu y gallai hynny newid gyda chydsyniad Ewrop.
Trafodaethau pellach ar faint o oedi fydd angen
Gohebydd Brexit BBC Cymru yn San Steffan
Twitter
Pleidlais arall ar gytundeb May wythnos nesaf
BBC Cymru Fyw
Yn gynharach heddiw fe wnaeth Theresa May gadarnhau y bydd yn ceisio cael ASau i gymeradwyo ei chytundeb Brexit am y trydydd tro yr wythnos nesaf.
Dywedodd wrth ASau, os yw'r cytundeb yn methu eto, ei bod yn debyg y byddai angen oedi hir cyn gadael yr Undeb Ewropeaidd.
Y disgwyl yw y bydd pleidlais arall un ai dydd Mawrth neu ddydd Mercher.
Os yw ei chytundeb yn methu am y trydydd tro, yna fe allai Brexit gael ei ohirio ymhellach na 30 Mehefin. Dyna oedd dymuniad Tŷ'r Cyffredin yn y bleidlais nos Fawrth, ond ni wnaeth y bleidlais yna newid y gyfraith sy'n golygu fod y DU yn gadael yr UE ar 29 Mawrth.
...ond mae un broblem fach arall
Elliw Gwawr
Gohebydd Seneddol BBC Cymru
'Dehongliad anghywir o farn Tŷ’r Cyffredin'
Tweli Griffiths
Sylwebydd gwleidyddol
Y Sylwebydd Gwleidyddol, Tweli Griffiths yn dweud ar rifyn arbennig y Post Prynhawn fod dehongliad rhai bod 'na garfan gryf o fewn San Steffan o blaid refferendwm arall yn anghywir.
Video content
Ymateb Prif Weinidog Cymru
Twitter
Oedi i bwrpas?
Gohebydd Brexit BBC Cymru ar Twitter
Twitter
Newydd dorriASau yn pleidleisio o blaid oedi Brexit
BBC Cymru Fyw
Mae ASau wedi pasio cynnig fyddai'n galw ar y Llywodraeth i ofyn am estyniad i Erthygl 50 tan 30 Mehefin, gan oedi Brexit a rhoi cyfle arall i ASau gymeradwyo Cytundeb Ymadael Theresa May.
Etholiadau i ddod?
Twitter
'Ddim yn bosib' i'r Llywodraeth ennill
BBC Radio Cymru
Ni fydd Guto Bebb, AS Aberconwy, yn pleidleisio ar y prif gynnig, a dywedodd wrth Radio Cymru nad yw'n credu y gall cytundeb ymadael Theresa May gael ei basio gan ASau yr wythnos nesaf.
Video content
Ymlaen at fater mawr y dydd...
Gohebydd Brexit BBC Cymru
Twitter
Bebb ddim am gymryd rhan yn y brif bleidlais
Gohebydd Brexit BBC Cymru yn San Steffan
Twitter
Y prif gynnig
BBC Cymru Fyw
Mae AS Rhondda, Chris Bryant, wedi tynnu nôl ei welliant yntau fyddai wedi galw ar ASau i wrthod pleidleisio eto at gytundeb ymadael Theresa May am y trydydd tro.
Dyma'r prif gynnig fydd gerbron Aelodau Seneddol heddiw, sef bod y DU yn ceisio cytuno estyniad i Erthygl 50 gyda'r Undeb Ewropeaidd... gohirio Brexit mewn geiriau eraill.
Gan nad yw un o'r gwelliannau wedi llwyddo, dyna'r bleidlais nesaf i ASau felly.
Nid yw'r cynnig yn manylu beth fyddai hyd unrhyw estyniad os nad yw Cytundeb Ymadael Theresa May yn cael ei basio cyn 20 Mawrth.
Gwelliant E yn methu
BBC Cymru Fyw
Mae Gwelliant Jeremy Corbyn a Llafur wedi cael ei drechu.
O blaid - 302
Yn erbyn - 318
Roedd y cynnig wedi galw am ohirio Brexit er mwyn rhoi amser i geisio cyrraedd cyfaddawd fyddai'n dderbyniol i fwyafrif o ASau o bob plaid.
Rhyddhad i'r Prif Weinidog
Gohebydd Seneddol BBC Cymru
Elliw Gwawr
Gohebydd Seneddol BBC Cymru
ASau yn pleidleisio ar welliant Llafur