O dan farchnad sengl yr UE, gall deunydd planhigion symud yn rhydd rhwng ac o fewn gwladwriaethau sy'n aelodau a rhwng gwladwriaethau sy'n aelodau a'r Swisdir. Mae deunydd sydd â'r plâ mwyaf difrifol ac afiechydon yn gorfod cael pasboprt planhigyn yr UE er mwyn symud.
Mae'r rheoliadau yn cyflwyno newidiadau mewn cysylltiad â mewnforio deunydd planhigion o gwladwriaethau sy'n aelodau o'r UE a'r Swisdir a symudiad o ddeunydd o fewn Cymru, i sicrhau bod y ddeddfwriaeth bresennol yn parhau i weithredu'n effeithiol wedi i'r DU adael yr UE rhag ofn y bydd yna senario "dim cytundeb".
Pasio Cyfnod 3 y mesur
ACau yn pasio Cyfnod 3 y Mesur Rhentu Cartrefi (Ffioedd etc.) (Cymru).
BBCCopyright: BBC
Y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol, Julie JamesImage caption: Y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol, Julie James
Canllaw i Fesurau a Deddfau Cyhoeddus
Yn gyffredinol, mae pedwar cyfnod yn y broses ar gyfer ystyried Mesur Cyhoeddus, sef:
Cyfnod 1 - pwyllgor yn ystyried egwyddorion cyffredinol y Mesur a'r Cynulliad yn cytuno ar yr egwyddorion cyffredinol hynny;
Cyfnod 2 - pwyllgor yn ystyried y Mesur ac unrhyw welliannau a gyflwynwyd i’r Mesur hwnnw yn fanwl;
Cyfnod 3 - y Cynulliad yn ystyried y Mesur ac unrhyw welliannau a gyflwynwyd i’r Mesur hwnnw yn fanwl;
Cyfnod 4 - pleidlais gan y Cynulliad i basio testun terfynol y Mesur.
Hysbysiadau cosb benodedig
Bydd y broses orfodi yn caniatáu i hysbysiadau cosb benodedig gael eu rhoi i unrhyw un lle bo taliad gwaharddedig yn ofynnol; os na chaiff cosbau eu talu, gall Awdurdodau Tai Lleol erlyn troseddau drwy'r Llys Ynadon.
Gall euogfarn am drosedd arwain at ddirwy heb gyfyngiad a chaiff hynny ei ystyried gan Rentu Doeth Cymru wrth ystyried a ddylid caniatáu neu adnewyddu trwydded ai peidio.
BBCCopyright: BBC
Creu proses orfodi glir, syml a chadarn ar gyfer achosion o droseddu
Mae Llywodraeth Cymru yn dweud y bydd y Mesur Rhentu Cartrefi (Ffioedd etc.) (Cymru):
yn sicrhau na chodir tâl ar denantiaid am ymweliadau yng nghwmni rhywun, am dderbyn rhestr eiddo, am lofnodi contract, neu am adnewyddu tenantiaeth
yn caniatáu i asiantiaid gosod eiddo a landlordiaid godi tâl mewn perthynas â rhent, blaendaliadau sicrwydd, blaendaliadau cadw, neu pan fydd tenant yn torri amodau contract yn unig
yn darparu pŵer gwneud rheoliadau i gyfyngu ar lefel y blaendaliadau sicrwydd
yn rhoi cap ar flaendaliadau cadw i gadw eiddo cyn llofnodi'r contract rhentu i'r hyn a fydd gyfwerth ag wythnos o rent a chreu darpariaethau i sicrhau y gwneir yr ad-daliad yn brydlon
chreu proses orfodi glir, syml a chadarn ar gyfer achosion o droseddu.
Nesaf yn y Siambr dadl: Cyfnod 3 y Mesur Rhentu Cartrefi (Ffioedd etc.) (Cymru).
Yn ôl Llywodraeth Cymru bydd y Mesur newydd sy'n gwahardd codi ffioedd yn y sector rhentu preifat yn ei gwneud hi'n symlach ac yn decach i denantiaid.
Mae'r sector rhentu preifat yn gyfrifol bellach am 15% o'r holl dai.
'Datganoli gwaith gweinyddol lles'
Mae Leanne Wood Plaid Cymru yn galw am "ddatganoli gwaith gweinyddol lles i Gymru fel y gellir rhoi mesurau lliniaru ar waith".
BBCCopyright: BBC
'Cyflogaeth yw un o'r ffyrdd gorau o fynd i'r afael ag anghydraddoldeb'
Mae gwelliannau'r Ceidwadwyr yn cynnig dileu popeth a rhoi yn ei le:
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn cydnabod dadansoddiad Llywodraeth Cymru o effaith diwygio lles.
2. Yn nodi sylwadau diweddar a wnaed gan yr Ysgrifennydd Gwladol dros Waith a Phensiynau ynghylch y broses o gyflwyno Credyd Cynhwysol a Thaliadau Annibyniaeth Personol, yn ogystal â'r camau a gymerwyd gan Lywodraeth y DU i ymdrin â phryderon dros weithredu'r ddau.
3. Yn nodi ymhellach bod Llywodraeth Cymru wedi cyfaddef mai cyflogaeth yw un o'r ffyrdd gorau o fynd i'r afael ag anghydraddoldeb, drwy ei Rhaglen Lywodraethu a'r cynllun gweithredu economaidd;
4. Yn pryderu, er bod cyflogaeth wedi cynyddu'n sylweddol ers 2010, bod adroddiad y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol, 'A yw Cymru'n Decach?' yn nodi bod tlodi ac amddifadedd yn dal yn uwch yng Nghymru na gwledydd eraill Prydain; Cymru yw'r genedl leiaf cynhyrchiol yn y DU, ac mae enillion wythnosol canolrifol yng Nghymru yn is nag yn Lloegr a'r Alban.
5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyhoeddi cynllun cadarn ac ystyrlon i fynd i'r afael â thlodi, sy'n cynnwys targedau perfformiad clir a dangosyddion i fesur cynnydd.
BBCCopyright: BBC
Mark IsherwoodImage caption: Mark Isherwood
Dadansoddiad o Effaith Diwygio Lles Llywodraeth y DU ar Aelwydydd yng Nghymru
Ymlaen nawr at ddadl gynta'r dydd.
A'r ddadl: Dadansoddiad o Effaith Diwygio Lles Llywodraeth y DU ar Aelwydydd yng Nghymru.
Cynnig Llywodraeth Cymru yw bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi’r dadansoddiad empirig o effaith Diwygiadau Llywodraeth y Deyrnas Unedig i’r System Les ar Aelwydydd yng Nghymru.
2. Yn cydnabod yr effaith negyddol ar fywydau’r bobl dlotaf a mwyaf agored i niwed yng Nghymru, ac yn gresynu at hynny.
BBCCopyright: BBC
Y Dirprwy Weinidog Tai a Llywodraeth Leol, Hannah BlythynImage caption: Y Dirprwy Weinidog Tai a Llywodraeth Leol, Hannah Blythyn
Cymeradwyo pedwar darn o is-ddeddfwriaeth Cymru ym maes amaethyddiaeth
Mae ACau yn cymeradwyo fersiwn ddrafft Rheoliadau'r Polisi Amaethyddol Cyffredin (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â'r UE) 2019.
Mae adroddiad y Pwyllgor Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol yn dweud eu bod yn "ceisio mynd i'r afael â methiannau cyfraith yr
UE a ddargedwir i weithredu'n effeithiol, a diffygion eraill, sy'n deillio o ymadawiad y Deyrnas Unedig â'r
Undeb Ewropeaidd".
Maent yn diwygio pedwar darn o is-ddeddfwriaeth Cymru ym maes amaethyddiaeth:
Rheoliadau
Cynlluniau Cymorthdaliadau a Grantiau Amaethyddol (Apelau) (Cymru) 2006;
Rheoliadau’r Polisi Amaethyddol Cyffredin (System Integredig Gweinyddu
a Rheoli a Gorfodi a Thrawsgydymffurfio) (Cymru) 2014; a
Rheoliadau Cynllun Taliad Sylfaenol a
Chynlluniau Cymorth y Polisi Amaethyddol Cyffredin (Cymru) 2015.
'Mynd i'r afael â methiannau cyfraith yr UE'
Mae ACau yn cymeradwyo fersiwn drafft Rheoliadau Iechyd a Lles Anifeiliaid (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â'r UE) 2019.
Mae adroddiad y Pwyllgor Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol yn dweud bod rhain "yn ceisio mynd i'r afael â methiannau cyfraith
yr UE a ddargedwir i weithredu'n effeithiol, a diffygion eraill, sy'n deillio o ymadawiad y Deyrnas Unedig â'r
Undeb Ewropeaidd".
Maent yn diwygio pedwar darn o is-ddeddfwriaeth ym maes iechyd a lles anifeiliaid:
- Rheoliadau Lles Anifeiliaid a Ffermir (Cymru) 2007;
- a Rheoliadau Lles Anifeiliaid Adeg eu Lladd (Cymru) 2014;
mae'r rhain yn gyfraith yr UE a ddargedwir yn unol â Deddf 2018.
'Dydw i ddim yn esgus ein bod ni mewn rheolaeth o bethau'
Mae rhwystredigaethau'r cyn weinidog Alun Davies gyda llinell Llywodraeth Cymru ar Brexit yn amlwg i bawb. Mae'n dweud ei fod yn difaru y dôn y cymerodd Mark Drakeford ar bleidlais y bobl.
"Dydw i ddim yn esgus ein bod ni mewn rheolaeth o bethau," meddai Mr Drakeford wrtho.
BBCCopyright: BBC
'Gagendor rhwng pleidleiswyr a chrach gwleidyddol'
Mae Neil Hamilton UKIP yn awgrymu bod Senedd y DU mwy na heb wedi pleidleisio yn erbyn Brexit. Mae'n dweud bod yna gagendor rhwng pleidleiswyr a chrach gwleidyddol.
BBCCopyright: BBC
'Hynod siomedig' bod gwelliant Hilary Benn wedi colli yn Nhŷ'r Cyffredin
Mae Mark Drakeford yn dweud ei bod hi'n "hynod siomedig" bod gwelliant Hilary Benn wedi colli yn Nhŷ'r Cyffredin.
Fe gollodd y gwelliant yn caniatáu i ASau i gymryd rheolaeth o'r broses seneddol i gynnal dadl ar gyfres o bleidleisiau mynegol, gan ddim ond dwy bleidlais, 314-312. Fe wnaeth chwech o ASau Llafur bleidleisio yn erbyn eu cyd-aelod.
Mae Mr Drakeford yn dweud bod etholwr yng Ngorllewin Casnewydd wedi ei arwain i'r tŷ i weld y canlyniad pan yr oedd e allan ar stepen y drws.
'Cymru'n cael ei tharo'n wael'
Mae Mark Drakeford yn dweud y bydd ei lywodraeth yn cefnogi casgliadau adroddiad ddoe gan Ganolfan Polisi Cyhoeddus Cymru sy'n dweud y bydd Cymru'n cael ei tharo'n wael gan drothwy cyfog arfaethedig llywodraeth y DU o £30,000 i gyfyngu mewfudo ôl-Brexit.
Getty ImagesCopyright: Getty Images
Safwynt Brexit Mark Drakeford yn 'ddryslyd'
Mae arweinydd Plaid Cymru Adam Price yn dyfynnu ffynhonnell - uwch swyddog Llafur - a wnaeth ddweud wrth BBC Cymru bod safbwynt prif weinidog Cymru ar Brexit yn "ddryslyd ac yn "anghynaladwy".
Ddydd Mercher yr wythnos ddiwethaf fe ddywedodd Mark Drakeford "rydyn ni yn agos iawn" at alw am refferendwm arall.
Ond mae'n pwysleisio mai'r flaenoriaeth ddylai fod i ganiatáu amser i ASau gyrraedd consensws ar gytundeb Brexit.
Fe ddywedodd y ffynhonnell wrth BBC Cymru y dylai Mr Drakeford fod yn "egluriach yn galw am refferendwm arall".
'Y broses o adael yr Undeb Ewropeaidd wedi ei defnyddio fel pêl-droed wleidyddol'
Mae arweinydd y Ceidwadwyr Paul Davies yn dweud "mae'r broses o adael yr Undeb Ewropeaidd wedi ei defnyddio fel pêl-droed wleidyddol gan rai gwleidyddion ar draws yr holl bleidiau, ac rydw i'n siomedig bod prif weinidog Cymru wedi dewis cyfrannu i hyn drwy ei wrthwynebiad cyson i unrhyw beth a phopeth y mae llywodraeth y DU wedi ei wneud i dorri'r anghytundeb llwyr".
'Osgoi difrod a distryw parhaus o Brexit heb gytundeb'
Mae Mark Drakeford yn dweud "nawr yw'r amser ar gyfer arweinyddiaeth go iawn gan Lywodraeth y DU a pharodrwydd i wrando a negydu gyda Llywodraeth y DU os ydyn ni am osgoi difrod a distryw parhaus o Brexit heb gytundeb".
Y diweddaraf yn fyw
Gan Alun Jones a Nia Harri
Mae pob amser yn lleol i'r DU
Hwyl
Dyna ni o'r Siambr am y dydd.
Fe fydd Senedd Fyw yn ôl yfory.
Cymeradwyo fersiwn ddrafft o Reoliadau Iechyd Planhigion
Mae ACau yn cymeradwyo fersiwn ddrafft o Reoliadau Iechyd Planhigion (Diwygio) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2019.
O dan farchnad sengl yr UE, gall deunydd planhigion symud yn rhydd rhwng ac o fewn gwladwriaethau sy'n aelodau a rhwng gwladwriaethau sy'n aelodau a'r Swisdir. Mae deunydd sydd â'r plâ mwyaf difrifol ac afiechydon yn gorfod cael pasboprt planhigyn yr UE er mwyn symud.
Mae'r rheoliadau yn cyflwyno newidiadau mewn cysylltiad â mewnforio deunydd planhigion o gwladwriaethau sy'n aelodau o'r UE a'r Swisdir a symudiad o ddeunydd o fewn Cymru, i sicrhau bod y ddeddfwriaeth bresennol yn parhau i weithredu'n effeithiol wedi i'r DU adael yr UE rhag ofn y bydd yna senario "dim cytundeb".
Pasio Cyfnod 3 y mesur
ACau yn pasio Cyfnod 3 y Mesur Rhentu Cartrefi (Ffioedd etc.) (Cymru).
Canllaw i Fesurau a Deddfau Cyhoeddus
Yn gyffredinol, mae pedwar cyfnod yn y broses ar gyfer ystyried Mesur Cyhoeddus, sef:
Cyfnod 1 - pwyllgor yn ystyried egwyddorion cyffredinol y Mesur a'r Cynulliad yn cytuno ar yr egwyddorion cyffredinol hynny;
Cyfnod 2 - pwyllgor yn ystyried y Mesur ac unrhyw welliannau a gyflwynwyd i’r Mesur hwnnw yn fanwl;
Cyfnod 3 - y Cynulliad yn ystyried y Mesur ac unrhyw welliannau a gyflwynwyd i’r Mesur hwnnw yn fanwl;
Cyfnod 4 - pleidlais gan y Cynulliad i basio testun terfynol y Mesur.
Hysbysiadau cosb benodedig
Bydd y broses orfodi yn caniatáu i hysbysiadau cosb benodedig gael eu rhoi i unrhyw un lle bo taliad gwaharddedig yn ofynnol; os na chaiff cosbau eu talu, gall Awdurdodau Tai Lleol erlyn troseddau drwy'r Llys Ynadon.
Gall euogfarn am drosedd arwain at ddirwy heb gyfyngiad a chaiff hynny ei ystyried gan Rentu Doeth Cymru wrth ystyried a ddylid caniatáu neu adnewyddu trwydded ai peidio.
Creu proses orfodi glir, syml a chadarn ar gyfer achosion o droseddu
Mae Llywodraeth Cymru yn dweud y bydd y Mesur Rhentu Cartrefi (Ffioedd etc.) (Cymru):
Gwelliannau Cyfnod 2
Dadl: Cyfnod 3 y Mesur Rhentu Cartrefi
Nesaf yn y Siambr dadl: Cyfnod 3 y Mesur Rhentu Cartrefi (Ffioedd etc.) (Cymru).
Yn ôl Llywodraeth Cymru bydd y Mesur newydd sy'n gwahardd codi ffioedd yn y sector rhentu preifat yn ei gwneud hi'n symlach ac yn decach i denantiaid.
Mae'r sector rhentu preifat yn gyfrifol bellach am 15% o'r holl dai.
'Datganoli gwaith gweinyddol lles'
Mae Leanne Wood Plaid Cymru yn galw am "ddatganoli gwaith gweinyddol lles i Gymru fel y gellir rhoi mesurau lliniaru ar waith".
'Cyflogaeth yw un o'r ffyrdd gorau o fynd i'r afael ag anghydraddoldeb'
Mae gwelliannau'r Ceidwadwyr yn cynnig dileu popeth a rhoi yn ei le:
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn cydnabod dadansoddiad Llywodraeth Cymru o effaith diwygio lles.
2. Yn nodi sylwadau diweddar a wnaed gan yr Ysgrifennydd Gwladol dros Waith a Phensiynau ynghylch y broses o gyflwyno Credyd Cynhwysol a Thaliadau Annibyniaeth Personol, yn ogystal â'r camau a gymerwyd gan Lywodraeth y DU i ymdrin â phryderon dros weithredu'r ddau.
3. Yn nodi ymhellach bod Llywodraeth Cymru wedi cyfaddef mai cyflogaeth yw un o'r ffyrdd gorau o fynd i'r afael ag anghydraddoldeb, drwy ei Rhaglen Lywodraethu a'r cynllun gweithredu economaidd;
4. Yn pryderu, er bod cyflogaeth wedi cynyddu'n sylweddol ers 2010, bod adroddiad y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol, 'A yw Cymru'n Decach?' yn nodi bod tlodi ac amddifadedd yn dal yn uwch yng Nghymru na gwledydd eraill Prydain; Cymru yw'r genedl leiaf cynhyrchiol yn y DU, ac mae enillion wythnosol canolrifol yng Nghymru yn is nag yn Lloegr a'r Alban.
5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyhoeddi cynllun cadarn ac ystyrlon i fynd i'r afael â thlodi, sy'n cynnwys targedau perfformiad clir a dangosyddion i fesur cynnydd.
Dadansoddiad o Effaith Diwygio Lles Llywodraeth y DU ar Aelwydydd yng Nghymru
Ymlaen nawr at ddadl gynta'r dydd.
A'r ddadl: Dadansoddiad o Effaith Diwygio Lles Llywodraeth y DU ar Aelwydydd yng Nghymru.
Cynnig Llywodraeth Cymru yw bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi’r dadansoddiad empirig o effaith Diwygiadau Llywodraeth y Deyrnas Unedig i’r System Les ar Aelwydydd yng Nghymru.
2. Yn cydnabod yr effaith negyddol ar fywydau’r bobl dlotaf a mwyaf agored i niwed yng Nghymru, ac yn gresynu at hynny.
Cymeradwyo pedwar darn o is-ddeddfwriaeth Cymru ym maes amaethyddiaeth
Mae ACau yn cymeradwyo fersiwn ddrafft Rheoliadau'r Polisi Amaethyddol Cyffredin (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â'r UE) 2019.
Mae adroddiad y Pwyllgor Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol yn dweud eu bod yn "ceisio mynd i'r afael â methiannau cyfraith yr UE a ddargedwir i weithredu'n effeithiol, a diffygion eraill, sy'n deillio o ymadawiad y Deyrnas Unedig â'r Undeb Ewropeaidd".
Maent yn diwygio pedwar darn o is-ddeddfwriaeth Cymru ym maes amaethyddiaeth:
Rheoliadau Cynlluniau Cymorthdaliadau a Grantiau Amaethyddol (Apelau) (Cymru) 2006;
Rheoliadau Rhaglenni Datblygu Gwledig (Cymru) 2014;
Rheoliadau’r Polisi Amaethyddol Cyffredin (System Integredig Gweinyddu a Rheoli a Gorfodi a Thrawsgydymffurfio) (Cymru) 2014; a
Rheoliadau Cynllun Taliad Sylfaenol a Chynlluniau Cymorth y Polisi Amaethyddol Cyffredin (Cymru) 2015.
'Mynd i'r afael â methiannau cyfraith yr UE'
Mae ACau yn cymeradwyo fersiwn drafft Rheoliadau Iechyd a Lles Anifeiliaid (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â'r UE) 2019.
Mae adroddiad y Pwyllgor Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol yn dweud bod rhain "yn ceisio mynd i'r afael â methiannau cyfraith yr UE a ddargedwir i weithredu'n effeithiol, a diffygion eraill, sy'n deillio o ymadawiad y Deyrnas Unedig â'r Undeb Ewropeaidd".
Maent yn diwygio pedwar darn o is-ddeddfwriaeth ym maes iechyd a lles anifeiliaid:
- Rheoliadau Cofrestru Sefydliadau (Ieir Dodwy) (Cymru) 2004;
- Gorchymyn Lles Anifeiliaid (Cludo) (Cymru) 2007;
- Rheoliadau Lles Anifeiliaid a Ffermir (Cymru) 2007;
- a Rheoliadau Lles Anifeiliaid Adeg eu Lladd (Cymru) 2014; mae'r rhain yn gyfraith yr UE a ddargedwir yn unol â Deddf 2018.