'Dylai'r bobl sy'n gweithio'n galed i gael cymwysterau tra'n gwneud prentisiaethau gael eu gwobrwyo'
Mae Mike Hedges yn dweud bod angen i "bobl sy'n gweithio'n galed i gael cymwysterau tra'n gwneud prentisiaethau gael eu gwobrwyo am y sgiliau hynny a dylai'r rhai hynny sydd ddim yn gymwys ddim gael yr hawl i'w tanseilio nhw".
Dadl Fer: Pwysigrwydd prentisiaethau
Ac yn olaf yn y Siambr heddiw Dadl Fer gan Mike Hedges.
A'r pwnc o'i ddewis: "Pwysigrwydd prentisiaethau: Pam mae angen pobl arnom sydd â chymwysterau crefftau".
BBCCopyright: BBC
Croesawu penodi prif weithredwr a chadeirydd dros dro newydd
Ar ran Llywodraeth Cymru mae Gweinidog yr
Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig, Lesley Griffiths, yn dweud mai'r "cyfnod o ansicrwydd sy'n cael ei gynnig gan y gwrthbleidiau yw'r peth olaf y mae staff CNC ei angen".
Mae'n cynnig:
Dileu pwyntiau 3 a 4 a rhoi yn eu lle bwyntiau newydd:
Yn nodi casgliadau ac argymhellion yr adroddiadau gan:
b) Grant Thornton – Cyfoeth Naturiol Cymru - Llywodraethu’r Gwaith o Werthu Pren – Chwefror 2019.
Yn croesawu penodi prif weithredwr a chadeirydd dros dro newydd ar gyfer Cyfoeth Naturiol Cymru a’u hymrwymiad i weithredu argymhellion y ddau adroddiad a gwella’r modd y caiff Cyfoeth Naturiol Cymru ei reoli a’i lywodraethu.
BBCCopyright: BBC
'Methiannau difrifol'
Ym mis Gorffennaf y llynedd fe wnaeth cadeirydd Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) ymddiswyddo yn dilyn sgandal am werthu pren.
Roedd Diane McCrea dan bwysau i adael ei swydd wedi i archwilwyr godi pryderon ynglŷn â chyfrifon CNC am y drydedd flynedd yn olynol.
Daeth ei hymddiswyddiad wedi i CNC fethu cynnig gwerthu pren oedd wedi'i dyfu ar dir cyhoeddus ar y farchnad agored.
Roedd galw ar Lywodraeth Cymru i ymyrryd wedi i ACau glywed nad oedd CNC wedi ymdrechu i werthu'r pren ar y farchnad agored cyn arwyddo cytundebau busnes gyda thri chwmni.
Mewn adroddiadau damniol dywedodd yr Archwilydd Cyffredinol, Huw Vaughan Thomas bod rhai o gytundebau'r CNC a'r cwmnïau dan sylw yn anghyfreithlon ac nad oedd CNC wedi ymdrechu i sicrhau bod y pren wedi ei brisio yn ôl cyfraddau'r farchnad.
Fis diwethaf fe wnaeth adolygiad Grant Thorton ddarganfod "methiannau difrifol" yn y modd y cafodd cytundebau eu rheoli a'u goruchwylio gan CNC.
'Nifer y methiannau proffil uchel'
Mae gwelliant Plaid Cymru yn dweud y dylid dileu "Yn gresynu at fethiant systematig Cyfoeth Naturiol Cymru o ran pobl Cymru drwy nifer o sgandalau proffil uchel" a rhoi yn ei le "Yn gresynu at nifer y methiannau proffil uchel yn Cyfoeth Naturiol Cymru".
Mae Llyr Gruffydd hefyd yn galw ar Lywodraeth Cymru i "sefydlu adolygiad annibynnol er mwyn canfod a yw'n dal yn briodol i Gyfoeth Naturiol Cymru barhau i reoli'r ystâd goedwig fasnachol yng Nghymru ac ystyried unrhyw fodelau amgen posibl".
Mae'r blaid hefyd yn galw ar Lywodraeth Cymru "i sicrhau bod gan Cyfoeth Naturiol Cymru adnoddau priodol i gyflawni ei holl ddyletswyddau yn ddigonol".
BBCCopyright: BBC
Dadl: Cyfoeth Naturiol Cymru
Nesaf yn y Siambr dadl gan y Ceidwadwyr Cymreig.
A'r pwnc: Cyfoeth Naturiol Cymru.
Mae'r Ceidwadwyr yn cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi penderfyniad Llywodraeth Cymru i uno Cyngor Cefn Gwlad Cymru, Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru a Chomisiwn Coedwigaeth Cymru drwy ffurfio Cyfoeth Naturiol Cymru yn 2013.
2. Yn cydnabod gwaith caled y staff rheng flaen yn y sefydliad ond yn deall eu hanfodlonrwydd a'u diffyg hyder yn y penderfyniadau a wneir gan uwch reolwyr, fel y caiff ei fynegi'n rheolaidd mewn arolygon staff ers sefydlu Cyfoeth Naturiol Cymru.
3. Yn gresynu at fethiant systematig Cyfoeth Naturiol Cymru o ran pobl Cymru drwy nifer o sgandalau proffil uchel, gan gynnwys:
a) diffygion difrifol wrth ymdrin â chontractau pren, i'r graddau bod yr archwilwyr, Grant Thornton, wedi dweud eu bod mor ddrwg eu bod yn "dwysáu'r amlygiad i'r risg o dwyll";
b) 'cymhwyso' cyfrifon y sefydliad gan Swyddfa Archwilio Cymru am dair blynedd yn olynol, sy'n awgrymu bod ansicrwydd ynghylch a oedd y sefydliad wedi gweithredu o fewn y rheolau;
c) y dull anghyson y mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn arwain wrth benderfynu ymyrryd ar faterion o ddiddordeb cyhoeddus megis saethu ar dir cyhoeddus a dympio mwd niwclear.
4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gychwyn adolygiad/ymchwiliad annibynnol i fethiannau'r sefydliad ac ymchwilio i gynigion amgen ar gyfer rheoli adnoddau naturiol Cymru.
BBCCopyright: BBC
ACau yn pasio Cyfnod 3
Mae ACau yn pasio Cyfnod 3 y Mesur Ombwdsman Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru).
Canllaw i Fesurau a Deddfau Cyhoeddus
Yn gyffredinol, mae pedwar cyfnod yn y broses ar gyfer ystyried Mesur Cyhoeddus, sef:
Cyfnod 1 - pwyllgor yn ystyried egwyddorion cyffredinol y Mesur a'r Cynulliad yn cytuno ar yr egwyddorion cyffredinol hynny;
Cyfnod 2 - pwyllgor yn ystyried y Mesur ac unrhyw welliannau a gyflwynwyd i’r Mesur hwnnw yn fanwl;
Cyfnod 3 - y Cynulliad yn ystyried y Mesur ac unrhyw welliannau a gyflwynwyd i’r Mesur hwnnw yn fanwl;
Cyfnod 4 - pleidlais gan y Cynulliad i basio testun terfynol y Mesur.
"Mae’r Mesur yn gwneud darpariaeth ynghylch swydd yr Ombwdsmon a
swyddogaethau ymchwilio’r rôl. Mae’n ei gwneud yn ofynnol hefyd
i’r Ombwdsmon gyhoeddi datganiad o egwyddorion ynghylch
gweithdrefnau awdurdodau rhestredig ar gyfer ymdrin â chwynion ac yn
galluogi’r Ombwdsmon i gyhoeddi gweithdrefnau enghreifftiol ar gyfer
ymdrin â chwynion.
"Mae’r Mesur hefyd yn sicrhau mynediad i wasanaethau’r Ombwdsmon yn
y dyfodol ac yn caniatáu i’w swyddfa ddatblygu canllawiau i ymateb
i ddatblygiadau yn y dyfodol, fel newidiadau i ddulliau cyfathrebu
electronig a datblygiadau ym maes technoleg".
Janet Finch-Saunders wedi'i hethol yn gadeirydd y Pwyllgor Deisebau
Mae'r Llywydd Elin Jones yn cyhoeddi canlyniad y bleidlais gudd i ethol cadeirydd y Pwyllgor Deisebau.
Mae Janet Finch-Saunders wedi'i hethol gyda 25 o bleidleisau.14 pleidlais gafodd Mark Isherwood.
BBCCopyright: BBC
Effaith colli cyllid Ewropeaidd
Mae Bethan Sayed yn canolbwyntio ar golli cyllid Ewropeaidd, yr effaith ar y gallu i hyrwyddo Cymru ar y llwyfan rhyngwladol, a'r effaith ar yr iaith Gymraeg a chymunedau Cymraeg eu hiaith. Mae'n dweud ynghyd â chyfleoedd cyllido, "mae Cymru'n elwa'n fawr" o'i gallu presennol i gymryd rhan mewn rhaglenni a phartneriaethau Ewropeaidd.
Mae'r adroddiad yn gwneud saith o argymhellion, un o'r rheini yw y dylai Llywodraeth Cymru "barhau i lobïo Llywodraeth y DU i barhau i fod yn rhan o Ewrop Greadigol, Horizon 2020 ac Erasmus + ar ôl i ni adael yr UE.
"Os nad yw hyn yn bosibl yna dylai Llywodraeth Cymru fwrw ymlaen gyda’r opsiwn o aelodaeth gan ddefnyddio’r cynsail a osodwyd gan Quebec wrth gymryd rhan yn Horizon 2020".
BBCCopyright: BBC
'Cymru'n elwa o arian gan yr Undeb Ewropaidd'
Mae'r pwyllgor yn dweud bod "Cymru’n derbyn arian yr UE ar gyfer ein diwydiannau creadigol, ein celfyddydau, a’n mudiadau diwylliannol a threftadaeth.
"Mae hefyd yn elwa o raglenni profiad gwaith diwylliannol ac academaidd a rhwydweithiau cyfnewid gwybodaeth.
"Mae’r diwydiannau creadigol yn elwa o’r farchnad sengl ar gyfer nwyddau a gwasanaethau a symudiad rhydd pobl sy’n caniatáu gweithio a theithio heb fisa mewn unrhyw un o’r Aelod-wladwriaethau".
Effaith Brexit ar y celfyddydau, y diwydiannau creadigol, treftadaeth a'r Gymraeg
Nawr datganiad gan Gadeirydd y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu, Bethan Sayed: Effaith Brexit ar y celfyddydau, y diwydiannau creadigol, treftadaeth a'r Gymraeg.
Cwestiynau Amserol
Ni ddewiswyd unrhyw Gwestiynau Amserol heddiw.
Mae'n rhaid i gwestiynau amserol ymwneud â mater o arwyddocâd
cenedlaethol, rhanbarthol neu leol y byddai'n ddymunol cael ymateb cyflym iddo
gan Weinidog, ac y dylai'r mater fod wedi codi ers i'r terfyn amser ar gyfer
cyflwyno cwestiynau amserol yr wythnos flaenorol fynd heibio.
Y Llywydd sy'n penderfynu sawl cwestiwn amserol i'w ddethol ar
gyfer y cyfnod o 20 munud a neilltuwyd, a sut i rannu'r amser sydd ar gael
rhwng y cwestiynau hynny.
BBCCopyright: BBC
'Heriau ar draws y wlad ynghylch ein capasiti i gymryd cleifion GIG ychwanegol
Mewn ymateb i gwestiwn gan arweinydd UKIP Gareth Bennett ar argaeledd deintyddion y GIG, mae Vaughan Gething yn cydnabod "mae yna heriau ar draws y wlad ynghylch ein capasiti i gymryd cleifion GIG ychwanegol, ond mae hynny ynghlwm wrth ddiwygio cytundebol".
BBCCopyright: BBC
'Angen cymryd camau pellach'
Mae Helen Mary Jones Plaid Cymru a Vaughan Gething yn cyfnewid dyfyniadau o Adolygiad y Mudiad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygu Economaidd (OECD) ar Ansawdd Gofal Iechyd: y Deyrnas Unedig 2016.
Mae'r adolygiad yn datgan "lai na dau ddegawd wedi datganoli, mae system iechyd Cymru yn dal yn un cymharol ifanc; mae nifer o'r sefydliadau a'r peirianwaith sydd eu hangen i hybu gofal o ansawdd uchel yn eu lle, ond nawr mae angen cymryd camau pellach i symud tuag at ansawdd pensaernïaaeth aeddfetach a chadarnach".
BBCCopyright: BBC
E-sigarennau yn 'llawer llai niweidiol'
Mae Vaughan Gething yn dweud ei bod hi'n fwy cywir i ddweud bod e-sigarennau yn "llawer llai niweidiol" yn hytrach nag yn "fwy diogel".
Llywodraeth Cymru 'bum mlynedd ar ei hôl hi' o ran eu targed i leihau cyffredinolrwydd smygu
Ar Ddiwrnod Dim Smygu mae'r aelod Ceidwadol Darren Millar yn dweud ei bod hi'n "ofidus iawn" bod Llywodraeth Cymru "bum mlynedd ar ei hôl hi" o ran eu targed i leihau cyffredinolrwydd smygu yng Nghymru i 16% erbyn 2020. Mae'n galw am newid mawr yn agwedd Llywodraeth Cymru, yn arbennig yn y defnydd o e-sigarennau i hybu rhoi'r gorau i smygu.
Y diweddaraf yn fyw
Gan Alun Jones a Nia Harri
Mae pob amser yn lleol i'r DU
Hwyl
A dyna ni o'r Siambr am yr wythnos.
Fe fydd Senedd Fyw yn ôl ddydd Mawrth nesaf Mawrth 19.
'Dylai'r bobl sy'n gweithio'n galed i gael cymwysterau tra'n gwneud prentisiaethau gael eu gwobrwyo'
Mae Mike Hedges yn dweud bod angen i "bobl sy'n gweithio'n galed i gael cymwysterau tra'n gwneud prentisiaethau gael eu gwobrwyo am y sgiliau hynny a dylai'r rhai hynny sydd ddim yn gymwys ddim gael yr hawl i'w tanseilio nhw".
Dadl Fer: Pwysigrwydd prentisiaethau
Ac yn olaf yn y Siambr heddiw Dadl Fer gan Mike Hedges.
A'r pwnc o'i ddewis: "Pwysigrwydd prentisiaethau: Pam mae angen pobl arnom sydd â chymwysterau crefftau".
Croesawu penodi prif weithredwr a chadeirydd dros dro newydd
Ar ran Llywodraeth Cymru mae Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig, Lesley Griffiths, yn dweud mai'r "cyfnod o ansicrwydd sy'n cael ei gynnig gan y gwrthbleidiau yw'r peth olaf y mae staff CNC ei angen".
Mae'n cynnig:
Dileu pwyntiau 3 a 4 a rhoi yn eu lle bwyntiau newydd:
'Methiannau difrifol'
Ym mis Gorffennaf y llynedd fe wnaeth cadeirydd Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) ymddiswyddo yn dilyn sgandal am werthu pren.
Roedd Diane McCrea dan bwysau i adael ei swydd wedi i archwilwyr godi pryderon ynglŷn â chyfrifon CNC am y drydedd flynedd yn olynol.
Daeth ei hymddiswyddiad wedi i CNC fethu cynnig gwerthu pren oedd wedi'i dyfu ar dir cyhoeddus ar y farchnad agored.
Roedd galw ar Lywodraeth Cymru i ymyrryd wedi i ACau glywed nad oedd CNC wedi ymdrechu i werthu'r pren ar y farchnad agored cyn arwyddo cytundebau busnes gyda thri chwmni.
Cafodd Ms McCrea eibeirniadu gan Lee Waters AC a ddywedodd bod CNC "allan o reolaeth".
Mewn adroddiadau damniol dywedodd yr Archwilydd Cyffredinol, Huw Vaughan Thomas bod rhai o gytundebau'r CNC a'r cwmnïau dan sylw yn anghyfreithlon ac nad oedd CNC wedi ymdrechu i sicrhau bod y pren wedi ei brisio yn ôl cyfraddau'r farchnad.
Fis diwethaf fe wnaeth adolygiad Grant Thorton ddarganfod "methiannau difrifol" yn y modd y cafodd cytundebau eu rheoli a'u goruchwylio gan CNC.
'Nifer y methiannau proffil uchel'
Mae gwelliant Plaid Cymru yn dweud y dylid dileu "Yn gresynu at fethiant systematig Cyfoeth Naturiol Cymru o ran pobl Cymru drwy nifer o sgandalau proffil uchel" a rhoi yn ei le "Yn gresynu at nifer y methiannau proffil uchel yn Cyfoeth Naturiol Cymru".
Mae Llyr Gruffydd hefyd yn galw ar Lywodraeth Cymru i "sefydlu adolygiad annibynnol er mwyn canfod a yw'n dal yn briodol i Gyfoeth Naturiol Cymru barhau i reoli'r ystâd goedwig fasnachol yng Nghymru ac ystyried unrhyw fodelau amgen posibl".
Mae'r blaid hefyd yn galw ar Lywodraeth Cymru "i sicrhau bod gan Cyfoeth Naturiol Cymru adnoddau priodol i gyflawni ei holl ddyletswyddau yn ddigonol".
Dadl: Cyfoeth Naturiol Cymru
Nesaf yn y Siambr dadl gan y Ceidwadwyr Cymreig.
A'r pwnc: Cyfoeth Naturiol Cymru.
Mae'r Ceidwadwyr yn cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi penderfyniad Llywodraeth Cymru i uno Cyngor Cefn Gwlad Cymru, Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru a Chomisiwn Coedwigaeth Cymru drwy ffurfio Cyfoeth Naturiol Cymru yn 2013.
2. Yn cydnabod gwaith caled y staff rheng flaen yn y sefydliad ond yn deall eu hanfodlonrwydd a'u diffyg hyder yn y penderfyniadau a wneir gan uwch reolwyr, fel y caiff ei fynegi'n rheolaidd mewn arolygon staff ers sefydlu Cyfoeth Naturiol Cymru.
3. Yn gresynu at fethiant systematig Cyfoeth Naturiol Cymru o ran pobl Cymru drwy nifer o sgandalau proffil uchel, gan gynnwys:
a) diffygion difrifol wrth ymdrin â chontractau pren, i'r graddau bod yr archwilwyr, Grant Thornton, wedi dweud eu bod mor ddrwg eu bod yn "dwysáu'r amlygiad i'r risg o dwyll";
b) 'cymhwyso' cyfrifon y sefydliad gan Swyddfa Archwilio Cymru am dair blynedd yn olynol, sy'n awgrymu bod ansicrwydd ynghylch a oedd y sefydliad wedi gweithredu o fewn y rheolau;
c) y dull anghyson y mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn arwain wrth benderfynu ymyrryd ar faterion o ddiddordeb cyhoeddus megis saethu ar dir cyhoeddus a dympio mwd niwclear.
4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gychwyn adolygiad/ymchwiliad annibynnol i fethiannau'r sefydliad ac ymchwilio i gynigion amgen ar gyfer rheoli adnoddau naturiol Cymru.
ACau yn pasio Cyfnod 3
Mae ACau yn pasio Cyfnod 3 y Mesur Ombwdsman Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru).
Canllaw i Fesurau a Deddfau Cyhoeddus
Yn gyffredinol, mae pedwar cyfnod yn y broses ar gyfer ystyried Mesur Cyhoeddus, sef:
Dadl: Mesur Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru)
Symudwn ni ymlaen nawr at ddadl gynta'r dydd.
Mae'n ddadl ar Gyfnod 3 y Mesur Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru).
Mae Memorandwm Esboniadol y Mesur yn nodi:
"Mae’r Mesur yn gwneud darpariaeth ynghylch swydd yr Ombwdsmon a swyddogaethau ymchwilio’r rôl. Mae’n ei gwneud yn ofynnol hefyd i’r Ombwdsmon gyhoeddi datganiad o egwyddorion ynghylch gweithdrefnau awdurdodau rhestredig ar gyfer ymdrin â chwynion ac yn galluogi’r Ombwdsmon i gyhoeddi gweithdrefnau enghreifftiol ar gyfer ymdrin â chwynion.
"Mae’r Mesur hefyd yn sicrhau mynediad i wasanaethau’r Ombwdsmon yn y dyfodol ac yn caniatáu i’w swyddfa ddatblygu canllawiau i ymateb i ddatblygiadau yn y dyfodol, fel newidiadau i ddulliau cyfathrebu electronig a datblygiadau ym maes technoleg".
Janet Finch-Saunders wedi'i hethol yn gadeirydd y Pwyllgor Deisebau
Mae'r Llywydd Elin Jones yn cyhoeddi canlyniad y bleidlais gudd i ethol cadeirydd y Pwyllgor Deisebau.
Mae Janet Finch-Saunders wedi'i hethol gyda 25 o bleidleisau.14 pleidlais gafodd Mark Isherwood.
Effaith colli cyllid Ewropeaidd
Mae Bethan Sayed yn canolbwyntio ar golli cyllid Ewropeaidd, yr effaith ar y gallu i hyrwyddo Cymru ar y llwyfan rhyngwladol, a'r effaith ar yr iaith Gymraeg a chymunedau Cymraeg eu hiaith. Mae'n dweud ynghyd â chyfleoedd cyllido, "mae Cymru'n elwa'n fawr" o'i gallu presennol i gymryd rhan mewn rhaglenni a phartneriaethau Ewropeaidd.
Mae'r adroddiad yn gwneud saith o argymhellion, un o'r rheini yw y dylai Llywodraeth Cymru "barhau i lobïo Llywodraeth y DU i barhau i fod yn rhan o Ewrop Greadigol, Horizon 2020 ac Erasmus + ar ôl i ni adael yr UE.
"Os nad yw hyn yn bosibl yna dylai Llywodraeth Cymru fwrw ymlaen gyda’r opsiwn o aelodaeth gan ddefnyddio’r cynsail a osodwyd gan Quebec wrth gymryd rhan yn Horizon 2020".
'Cymru'n elwa o arian gan yr Undeb Ewropaidd'
Mae'r pwyllgor yn dweud bod "Cymru’n derbyn arian yr UE ar gyfer ein diwydiannau creadigol, ein celfyddydau, a’n mudiadau diwylliannol a threftadaeth.
"Mae hefyd yn elwa o raglenni profiad gwaith diwylliannol ac academaidd a rhwydweithiau cyfnewid gwybodaeth.
"Mae’r diwydiannau creadigol yn elwa o’r farchnad sengl ar gyfer nwyddau a gwasanaethau a symudiad rhydd pobl sy’n caniatáu gweithio a theithio heb fisa mewn unrhyw un o’r Aelod-wladwriaethau".
Effaith Brexit ar y celfyddydau, y diwydiannau creadigol, treftadaeth a'r Gymraeg
Nawr datganiad gan Gadeirydd y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu, Bethan Sayed: Effaith Brexit ar y celfyddydau, y diwydiannau creadigol, treftadaeth a'r Gymraeg.
Cwestiynau Amserol
Ni ddewiswyd unrhyw Gwestiynau Amserol heddiw.
Mae'n rhaid i gwestiynau amserol ymwneud â mater o arwyddocâd cenedlaethol, rhanbarthol neu leol y byddai'n ddymunol cael ymateb cyflym iddo gan Weinidog, ac y dylai'r mater fod wedi codi ers i'r terfyn amser ar gyfer cyflwyno cwestiynau amserol yr wythnos flaenorol fynd heibio.
Y Llywydd sy'n penderfynu sawl cwestiwn amserol i'w ddethol ar gyfer y cyfnod o 20 munud a neilltuwyd, a sut i rannu'r amser sydd ar gael rhwng y cwestiynau hynny.
'Heriau ar draws y wlad ynghylch ein capasiti i gymryd cleifion GIG ychwanegol
Mewn ymateb i gwestiwn gan arweinydd UKIP Gareth Bennett ar argaeledd deintyddion y GIG, mae Vaughan Gething yn cydnabod "mae yna heriau ar draws y wlad ynghylch ein capasiti i gymryd cleifion GIG ychwanegol, ond mae hynny ynghlwm wrth ddiwygio cytundebol".
'Angen cymryd camau pellach'
Mae Helen Mary Jones Plaid Cymru a Vaughan Gething yn cyfnewid dyfyniadau o Adolygiad y Mudiad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygu Economaidd (OECD) ar Ansawdd Gofal Iechyd: y Deyrnas Unedig 2016.
Mae'r adolygiad yn datgan "lai na dau ddegawd wedi datganoli, mae system iechyd Cymru yn dal yn un cymharol ifanc; mae nifer o'r sefydliadau a'r peirianwaith sydd eu hangen i hybu gofal o ansawdd uchel yn eu lle, ond nawr mae angen cymryd camau pellach i symud tuag at ansawdd pensaernïaaeth aeddfetach a chadarnach".
E-sigarennau yn 'llawer llai niweidiol'
Mae Vaughan Gething yn dweud ei bod hi'n fwy cywir i ddweud bod e-sigarennau yn "llawer llai niweidiol" yn hytrach nag yn "fwy diogel".
Pa help sydd ar gael?