a gafodd drwydded deledu?

You need one to watch live TV on any channel or device, and BBC programmes on iPlayer. It’s the law.

darganfyddwch fwy
Nid oes gennyf drwydded deledu

Crynodeb

  1. ACau yn cefnogi cynnig Plaid Cymru yn credu bod angen cynnydd sylweddol yn y raddfa adeiladu tai cymdeithasol yng Nghymru.
  2. Cyfarfod Llawn yn dechrau am 1.30pm gyda chwestiynau i'r Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd
  3. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol
  4. Cwestiynau i Gomisiwn y Cynulliad
  5. Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol: Cytundeb cysylltiadau rhyng-sefydliadol rhwng Cynulliad Cenedlaethol Cymru a Llywodraeth Cymru
  6. Dadl Plaid Cymru - Adeiladu Tai Cymdeithasol
  7. Dadl ar ddeiseb P-05-849 Dylai pob dyn yng Nghymru gael mynediad drwy'r GIG at y profion diagnostig gorau posibl ar gyfer canser y prostad
  8. Dadl Fer: Gwastatir Gwent

Y diweddaraf yn fyw

Gan Alun Jones a Nia Harri

Mae pob amser yn lleol i'r DU

  1. Hwyl

    A dyna ni o'r Siambr am yr wythnos.

    Fe fydd Senedd Fyw yn ôl ddydd Mawrth nesaf Mawrth 12.

    Senedd
  2. Canmol gwaith Lefelau Byw

    Mae John Griffiths yn canmol gwaith Lefelau Byw sy'n "anelu i ailgysylltu pobl a chymunedau i'w tirlun a darparu dyfodol cynaliadwy i'r ardal hanesyddol ac unigryw hon".

  3. Dadl Fer: Gwastatir Gwent

    Ac yn olaf yn y Siambr Dadl Fer gan John Griffiths.

    A'r pwnc: "Gwastatir Gwent: Tirwedd Unigryw a Hanesyddol".

    Mae Llywodraeth Cymru yn cynnig adeiladu ffordd rhwng Magwyr a Chas-bach, sydd i'r de o Gasnewydd, fyddai'n cynnwys pont dros Afon Wysg, yn ogystal ag ailwampio cyffyrdd 23 a 29 o'r M4.

    Fe wnaeth cannoedd o bobl fynd i wrthdystiad y tu allan i'r Senedd ym mis Rhagfyr i wrthwynebu'r ffordd.

    Mae cadwriaethwyr yn dweud y byddai'n "ymosodiad uniongyrchol" ar "fforest law Amason Cymru", Lefelau Gwent.

    Mae Gwastatir Gwent yn Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig
    Image caption: Mae Gwastatir Gwent yn Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig
  4. Y canllaw yn cael ei adolygu

    Mae'r Gweinidog Iechyd Vaughan Gething yn dweud nad yw'r defnydd cyffredin o MRI amlbaramedrig yn cael ei argymell gan NICE y sefydliad ar gyfer Iechyd a Rhagoriaeth Gofal.

    Dywed hefyd bod y canllaw perthnasol yn cael ei adolygu a bod byrddau iechyd yn gweithio gyda'i gilydd i baratoi ar gyfer newidiadau posib i ymchwiliadau i ganser y prostad.

    Vaughan Gething
  5. Canser y prostad wedi goddiweddid canser y fron fel y llofrudd canser mwya yn y DU

    Yn ôl ffigyrau diweddar fe wnaeth canser y prostad oddiweddid canser y fron fel y llofrudd canser mwya yn y DU.

    Dim ond ym myrddau iechyd Caerdydd a'r Fro, Aneurin Bevan a Chwm Taf sy'n cynnig y sgan.

    Mae cleifion mewn rhannau o'r gogledd yn gorfod talu £900 am sgan canser y prostad medd ymgyrchwyr.

  6. Galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i weithredu ar unwaith

    Mae Cadeirydd y pwyllgor, David Rowlands, yn cyflwyno'r ddeiseb sy'n galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru "i annog Llywodraeth Cymru i weithredu ar unwaith a sicrhau bod sganiau delweddu atseiniol magnetig amlbaramedrig (mpMRI) o ansawdd uchel cyn biopsi ar gael i bob dyn cymwys yng Nghymru lle mae amheuaeth bod arno ganser y prostad".

    David Rowlands
  7. Dadl: Deiseb ar Ganser y prostad

    Mae'r aelodau nawr yn cael dadl ar ddeiseb P-05-849 "Dylai pob dyn yng Nghymru gael mynediad drwy'r GIG at y profion diagnostig gorau posibl ar gyfer canser y prostad".

    Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Stuart Davies, wedi iddi gasglu 5,916 o lofnodion ar-lein a 429 ar bapur, sef cyfanswm o 6,345 o lofnodion.

  8. ACau yn cefnogi cynnig Plaid Cymru

    Mae ACau yn cefnogi cynnig Plaid Cymru yn "credu bod angen cynnydd sylweddol yn y raddfa adeiladu tai cymdeithasol yng Nghymru" yn ddiwrthwynebiad.

  9. 'Angen brys am gartrefi ar gyfer rhent cymdeithasol'

    Mae'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol, Julie James, yn dweud "rydyn ni'n gwybod bod yna angen brys am gartrefi ar gyfer rhent cymdeithasol ar draws Cymru".

    Mae'n ailadrodd y targed o gyflawni 20,000 yn ychwanegol o dai fforddiadwy yn ystod tymor y cynulliad hwn.

    Julie James
  10. 'Rydyn ni angen 40% o dai sydd ddim ar y farchnad a 60% ar y farchnad'

    Mae'r aelod Ceidwadol David Melding yn dweud "mae angen i ni siarad am raddfa, ac adeiladu llawer llawer mwy o dai gymdeithasol yn gyffredinol".

    Mase'n ychwanegu, "fy asesiad bras i yw ein bod ni angen 40% o dai sydd ddim ar y farchnad a 60% ar y farchnad".

    David Melding
  11. 'Bwlch yn gwbl syfrdanol'

    Dywed Leanne Wood, "rhwng 1997 a 2007, 825 yn unig o unedau newydd o dai cymdeithasol a adeiladwyd bob blwyddyn, ac nid yw ond wedi codi i 850 bob blwyddyn yn y 10 mlynedd diwethaf.

    "Ond mae'r Sefydliad Polisi Cyhoeddus i Gymru yn amcangyfrif bod angen rhwng 3,300 a 4,200 o unedau ychwanegol o dai cymdeithasol arnom bob blwyddyn, ac eto 850 yn unig o gartrefi, pan fo angen dros 4,000 arnom.

    "Mae'r bwlch hwnnw'n gwbl syfrdanol."

    Tai
  12. Dadl: Adeiladu Tai Cymdeithasol yng Nghymru

    Nesaf yn y Siambr dadl Plaid Cymru ar Adeiladu Tai Cymdeithasol yng Nghymru.

    Maen nhw'n cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

    "Yn credu bod angen cynnydd sylweddol yn y raddfa adeiladu tai cymdeithasol yng Nghymru".

    Yn anarferol, does dim gwelliannau wedi cael eu cyflwyno.

    Leanne Wood
  13. 'Rhagor o gyd-weithio rhwng gwenyddiaethau datganoledig a llywodraeth y DU'

    Mae Gweinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol, Eluned Morgan, yn dweud bod Brexit a datganoli yn gosod cynigion ar gyfer mwy o gyd-weithio rhwng gwenyddiaethau datganoledig a llywodraeth y DU pan fyddwn ni'n gadael yr Undeb Ewropeaidd.

  14. Dal Gweinidogion Cymru i gyfrif

    Bwriad y Cytundeb, medd Mick Antoniw "yw cefnogi gallu’r Cynulliad Cenedlaethol i graffu ar weithgarwch Llywodraeth Cymru ac i ddal Gweinidogion Cymru i gyfrif yn yr arena rynglywodraethol yn unig".

  15. Tair egwyddor a fydd yn llywodraethu’r berthynas rhwng Cynulliad Cenedlaethol Cymru a Llywodraeth Cymru

    Mae Cadeirydd y pwyllgor Mick Antoniw yn cyflwyno'r adroddiad.

    Mae’r Cytundeb hwn yn sefydlu tair egwyddor a fydd yn llywodraethu’r berthynas rhwng Cynulliad Cenedlaethol Cymru a Llywodraeth Cymru mewn perthynas â chysylltiadau rhynglywodraethol, sef:

     Tryloywder;

     Atebolrwydd;

     Parch, a chydnabyddiaeth, i’r rhan y mae trafodaethau cyfrinachol yn ei chwarae rhwng llywodraethau, yn enwedig wrth ddatblygu polisi.

    Mick Antoniw
  16. Dadl: Cytundeb cysylltiadau rhyng-sefydliadol rhwng Cynulliad Cenedlaethol Cymru a Llywodraeth Cymru

    Ymlaen nawr at ddadl gynta'r dydd. Mae'n ddadl ar Adroddiad y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol: Cytundeb cysylltiadau rhyng-sefydliadol rhwng Cynulliad Cenedlaethol Cymru a Llywodraeth Cymru.

    View more on twitter
  17. 'Dim bwriad o gwbl i fod yn rhan uniongyrchol o'r trafodaethau'

    Mae Dafydd Elis-Thomas yn dweud nad oes gan Lywodraeth Cymru "fwriad o gwbl i fod yn rhan uniongyrchol" yn y trafodaethau ynghylch ad-drefnu rygbi Cymru.

  18. Cwestiwn Amserol - Ailwampio mawr ar y gêm broffesiynol yng Nghymru

    Un Cwesiwn Amserol sydd yna i Weinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol, Eluned Morgan.

    Mae Andrew RT Davies yn gofyn pa drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cael gydag Undeb Rygbi Cymru yng ngoleuni adroddiadau unghylch ailwampio mawr ar y gêm broffesiynol yng Nghymru?

    Nid yw'r Gweilch ar fin uno â rhanbarth rygbi arall fel rhan o gynlluniau i ad-drefnu'r gêm yng Nghymru, yn ôl datganiad gan y rhanbarth.

    Fe wnaeth y Bwrdd Rygbi Proffesiynol (PRB) gyfarfod ddydd Mawrth er mwyn trafod y posibilrwydd o uno'r Scarlets a'r Gweilch a chreu rhanbarth newydd yn y gogledd.

    Ond mewn datganiad dywedodd y Gweilch nad oedden nhw'n agos at gytundeb i uno, gan feirniadu ymgais "ddryslyd" a "di-glem" i ailstrwythuro.

    Mae'r PRB wedi cwestiynu datganiad y Gweilch, gan ddweud bod y corff o blaid uno'r rhanbarthau gan ei fod yn cydfynd â'r strategaeth gafodd ei lunio ar y cyd ym mis Ionawr.

    Yn gynharach, daeth i'r amlwg bod chwaraewyr rygbi proffesiynol yn poeni'n ofnadwy am gynlluniau i ad-drefnu, yn ôl y corff sy'n diogelu lles a hawliau.

    Andrew RT Davies
  19. Cwestiynau Amserol

    Symudwn ni ymlaen nawr at y Cwestiynau Amserol.

    Mae'n rhaid i gwestiynau amserol ymwneud â mater o arwyddocâd cenedlaethol, rhanbarthol neu leol y byddai'n ddymunol cael ymateb cyflym iddo gan Weinidog, ac y dylai'r mater fod wedi codi ers i'r terfyn amser ar gyfer cyflwyno cwestiynau amserol yr wythnos flaenorol fynd heibio.

    Y Llywydd sy'n penderfynu sawl cwestiwn amserol i'w ddethol ar gyfer y cyfnod o 20 munud a neilltuwyd, a sut i rannu'r amser sydd ar gael rhwng y cwestiynau hynny.

    Cwestiynau