a gafodd drwydded deledu?

You need one to watch live TV on any channel or device, and BBC programmes on iPlayer. It’s the law.

darganfyddwch fwy
Nid oes gennyf drwydded deledu

Crynodeb

  1. ACau ac Aelodau Seneddol yr Alban yn "galw ar Lywodraeth y DU i gymryd camau ar unwaith i atal y DU rhag ymadael â’r UE heb gytundeb"
  2. Cyfarfod Llawn yn dechrau am 1.30pm gyda chwestiynau i'r prif weinidog
  3. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Brexit
  4. Datganiad gan y Dirprwy Weinidog a'r Prif Chwip: Diwrnod Rhyngwladol y Menywod
  5. Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Lles Anifeiliaid (Anifeiliaid Gwasanaeth)
  6. Dadl: Ail Gyllideb Atodol 2018-19
  7. Dadl - Trafodaethau ar Ymadael â'r UE

Y diweddaraf yn fyw

Gan Alun Jones

Mae pob amser yn lleol i'r DU

  1. 'Canlyniad o ddim-cytundeb yn hollol annerbyniol'

    Mae ACau yn pasio'r cynnig - gyda 37 o blaid, neb yn ymatal a 13 yn erbyn - bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

    1. Yn ailadrodd ei wrthwynebiad i’r cytundeb niweidiol ar gyfer ymadael â’r UE y cytunwyd arno gan Lywodraeth y DU.

    2. Yn cytuno y byddai canlyniad o ddim-cytundeb yn dilyn y negodiadau presennol ar ymadael â’r UE yn hollol annerbyniol ar 29 Mawrth 2019 neu ar unrhyw adeg.

    3.Yn galw felly ar Lywodraeth y DU i gymryd camau ar unwaith i atal y DU rhag ymadael â’r UE heb gytundeb ac yn cytuno y dylai proses Erthygl 50 gael ei hestyn fel bod modd dod i gytundeb ar y ffordd orau ymlaen er mwyn diogelu buddiannau Cymru, yr Alban a’r Deyrnas Unedig gyfan.

    y bleidlais
  2. Cymeradwyo'r Ail Gyllideb Atodol

    Mae ACau yn cymeradwyo'r Ail Gyllideb Atodol ar gyfer y flwyddyn ariannol 2018-19.

    Arian
    View more on twitter
  3. Byddai gadael yr UE heb fargen yn 'drychinebus'

    Mae'r Prif Weinidog Mark Drakeford, yn dweud y byddai gadael yr UE heb fargen yn "drychinebus", ac yn dweud mai pwrpas y cynigion yn y Senedd a Holyrood yw cyfleu barn y gweinyddiaethau datganoledig unwaith eto i lywodraeth y DU.

    Mark Drakeford
  4. Cefnogi gwelliant Plaid Cymru yn galw am refferendwm arall

    Dywed AC Llafur Torfaen, Lynne Neagle, y bydd hi'n cefnogi cynnig Llywodraeth Cymru ond hefyd yn cefnogi gwelliant Plaid Cymru yn galw am refferendwm arall.

    Lynne Neagle
  5. 'Adlewyrchu canlyniad y refferendwm'

    Meddai'r Ceidwadwr David Melding, a bleidleisiodd i aros yn 2016, "Rwy'n credu'n gryf mai cytundeb Theresa May yw'r opsiwn gorau ... gan ei fod, hyd eithaf y bo modd, yn adlewyrchu canlyniad y refferendwm yn 2016".

    David Melding
  6. 'Y ffordd orau ymlaen yw cynnal pleidlais y bobl'

    Dywed Adam Price bod Plaid Cymru yn credu "mai'r ffordd orau ymlaen yw cynnal pleidlais y bobl, er mwyn galluogi dewis democrataidd rhwng cytundeb y Prif Weinidog ar gyfer ymadael â'r UE ac aros yn yr UE," ac mae'n galw ar Lywodraeth y DU i amlinellu ei chynlluniau i gynnal pleidlais o'r fath ar unwaith.

    Adam Price
  7. 'Ni ddylid ymestyn proses Erthygl 50'

    Mae Neil Hamilton yn cyflwyno gwelliant UKIP sef dileu popeth a rhoi yn ei le:

    Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

    1. Yn dwyn i gof fod Llywodraeth y DU, cyn y refferendwm ym mis Mehefin 2016, wedi anfon llyfryn at bob aelwyd yn y Deyrnas Unedig, yn datgan, o dan y pennawd 'Penderfyniad Unwaith Mewn Cenhedlaeth', 'Cred y Llywodraeth mai pleidleisio dros aros yn yr Undeb Ewropeaidd yw’r penderfyniad gorau i’r D.U.', ond hefyd, 'Chi sydd i benderfynu. Bydd y Llywodraeth yn gweithredu ar eich penderfyniad.'.

    2. Yn credu mai modd drefnus o adael yr Undeb Ewropeaidd ar 29 Mawrth 2019 fyddai orau, ond yn penderfynu, os na ellir cael cytundeb rhwng y Deyras Unedig a'r Undeb Ewropeaidd, na ddylid ymestyn proses Erthygl 50, gan y byddai hyn yn parhau'r ansicrwydd ac yn bradychu ewyllys ddemocrataidd pobl Cymru a'r Deyrnas Unedig, a bleidleisiodd yn bendant dros adael yr UE.

    3. Yn galw ar Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru i dderbyn y tebygolrwydd y byddwn yn gadael yr UE ar delerau Sefydliad Masnach y Byd ar 29 Mawrth 2019, a chanolbwyntio ein holl ymdrechion erbyn hyn ar baratoi ar gyfer y canlyniad hwn.

    Neil Hamilton
  8. Gadael yr UE heb gytundeb yn 'gwbl annerbyniol'

    Cynnig Llywodraeth Cymru, wedi ei gyd-gyflwyno gan Blaid Cymru, yw y byddai gadael yr UE heb gytundeb yn "gwbl annerbyniol" ac y dylid oedi cyn gadael yr UE "er mwyn i gytundeb gael ei drafod ar y ffordd orau ymlaen".

    Y Gweinidog Brexit Jeremy Miles
    Image caption: Y Gweinidog Brexit Jeremy Miles
  9. Trafodaethau ar Ymadael â'r UE

    Mae galwad ar i'r Prif Weinidog Theresa May wrthod Brexit heb gytundeb yn cael ei drafod gan y Cynulliad a Senedd Yr Alban.

    Dyma'r tro cyntaf i drafodaethau ar y cyd rhwng y ddwy siambr ddigwydd yn ôl Prif Weinidog Cymru Mark Drakeford.

    Mae Llywodraeth Cymru a Llywodraeth Yr Alban yn gwrthod cytundeb y Prif Weinidog gyda Brwsel, ac eisiau gohirio Brexit.

    Mae Llywodraeth y DU yn dweud fod y cytundeb er lles y Deyrnas Unedig cyfan.

    Mae Mrs May wedi addo pleidlais i ASau i oedi Brexit os na fyddan nhw'n derbyn telerau ei chytundeb.

    Ar hyn o bryd, bydd y DU yn gadael yr UE ar 29 Mawrth heb gytundeb.

    Ewrop
  10. Cyfraith Finn

    Mae ACau yn cytuno i gynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn "cytuno y dylai’r darpariaethau yn y Bil Lles Anifeiliaid (Anifeiliaid Gwasanaeth), sy’n gysylltiedig ag Iechyd a Lles Anifeiliaid, i’r graddau y maent o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru, gael eu hystyried gan Senedd y DU."

    Nod Cyfraith Finn - a enwyd ar ôl ci a gafodd ei drywanu ar ddyletswydd - yw atal ymosodwyr rhag hawlio hunan-amddiffyniad fel esgus.

    Finn y ci gyda'r heddwas Dave Wardell
    Image caption: Finn y ci gyda'r heddwas Dave Wardell
  11. Adolygiad Llywodraeth Cymru o Gydraddoldeb Rhywiol

    Dywed Jane Hutt, Dirprwy Weinidog a'r Prif Chwip, "heddiw, mae mwy o fenywod nac o ddynion yng nghabinet Llywodraeth Cymru, sy’n beth positif o ran mynd i’r afael â’r anghydbwysedd blaenorol.

    "Bydd gwaith Adolygiad Llywodraeth Cymru o Gydraddoldeb Rhywiol yn cyfrannu at y cydbwysedd hwn, drwy edrych ar feysydd lle mae modd gwella ac arwain y ffordd o ran hybu cydraddoldeb i fenywod a chael gwared ar yr anghydraddoldebau hen ffasiwn sy'n parhau.

    "Mae'r adolygiad hefyd yn ystyried yr effaith ychwanegol a gaiff nodwedd warchodedig arall (er enghraifft anabledd, hil, neu rywioldeb) ar gydraddoldeb rhywiol, er mwyn galluogi inni lunio polisïau a blaenoriaethau rhyng- gysylltiedig."

    Jane Hutt
  12. Diwrnod Rhyngwladol y Menywod

    Mae'r datganiad nesaf gan y Dirprwy Weinidog a'r Prif Chwip Jane Hutt: Diwrnod Rhyngwladol y Menywod.

    Mae'n cael ei ddathlu ar Fawrth 8 bob blwyddyn, a thema ymgyrch 2019 yw adeiladu byd cytbwys rhwng y rhywiau.

    View more on twitter
  13. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

    Yr eitem nesaf yw'r Datganiad a Chyhoeddiad Busnes.

    Mae'r Trefnydd Rebecca Evans AC yn amlinellu busnes y Cynulliad yn y dyfodol ac yn ymateb i geisiadau gan Aelodau'r Cynulliad.

    Mae angen i unrhyw newidiadau mewn rygbi rhanbarthol fod yn "gynaliadwy" a chael cefnogaeth y cyhoedd, meddai, wrth ymateb i'r AC Ceidwadol Andrew RT Davies.

    Dywed Rebecca Evans "mae angen i unrhyw gynlluniau ailstrwythuro fod yn gynaliadwy ac i gefnogi datblygiad rygbi yn y dyfodol a pharhau i ddenu cefnogaeth y cyhoedd ledled Cymru".

    Gallai Adam Beard o'r Gweilch (chwith) a Ken Owen o'r Scarlets chwarae gyda'i gilydd ar gyfer rhanbarth newydd ar ôl y diwygiadau posib
    Image caption: Gallai Adam Beard o'r Gweilch (chwith) a Ken Owen o'r Scarlets chwarae gyda'i gilydd ar gyfer rhanbarth newydd ar ôl y diwygiadau posib
  14. 'Gwahaniaethau cynyddol rhwng cyfraith Cymru a chyfraith Lloegr'

    Symudwn ymlaen at Gwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Brexit Jeremy Miles (mewn perthynas â'i gyfrifoldebau fel swyddog cyfreithiol).

    Mae Helen Mary Jones yn gofyn am y wybodaeth ddiweddaraf am fesurau sy'n cael eu cymryd i sicrhau bod y farnwriaeth yn llwyr ymwybodol o'r gwahaniaethau cynyddol rhwng cyfraith Cymru a chyfraith Lloegr.

    Mae Jeremy Miles yn ateb bod Llywodraeth Cymru yn ymgysylltu'n rheolaidd â swyddfa'r Arglwydd Brif Ustus.

    cyfraith
  15. Ffermio ar ôl Brexit

    Mae arweinydd UKIP Gareth Bennett yn gofyn ynghylch cymorthdaliadau ffermio ar ôl Brexit.

    Mae hi am ddisodli'r cynllun taliadau sylfaenol. Nid yw'r Polisi Amaethyddol Cyffredin wedi gwneud ffermwyr yn fwy cadarn nac yn fwy cynhyrchiol, meddai.

    Ffermio
  16. Cyffuriau ac alcohol

    Dywed arweinydd y Ceidwadwyr Paul Davies fod "loteri cod post" mewn gofal am broblemau cyffuriau ac alcohol.

    Mae Lesley Griffiths yn nodi isafbwynt pris alcohol fel enghraifft o leihau niwed gan Lywodraeth Cymru.

    alcohol
  17. 'Blaenoriaeth' i dderbyniad ym Mhalas Buckingham dros Gwestiynau i'r Prif Weinidog

    Mae Adam Price yn gofyn a ydyw yn iawn i'r prif weinidog roi "blaenoriaeth" i dderbyniad ym Mhalas Buckingham dros Gwestiynau i'r Prif Weinidog.

    "Byddai pawb eisiau i'r Prif Weinidog gynrychioli Cymru yn y modd y mae'n ei wneud," meddai Lesley Griffiths.

  18. Perfformiad adrannau Damweiniau ac Achosion Brys Cymru yn 'argyfwng'

    Mae arweinydd Plaid Cymru, Adam Price, yn disgrifio perfformiad yn adrannau Damweiniau ac Achosion Brys Cymru fel "argyfwng".

    Mae'n galw am ymchwiliad cyhoeddus.

    Ym mis Rhagfyr, treuliodd 77.8% o gleifion lai na phedair awr yn yr Adran Damweiniau ac Achosion Brys cyn cael eu derbyn, eu trosglwyddo neu eu rhyddhau.

    Y targed yw 95% i'w gweld o fewn pedair awr.

    Adran Damweiniau ac Achosion Brys Wrecsam Maelor
    Image caption: Adran Damweiniau ac Achosion Brys yn ysbyty Wrecsam Maelor
  19. Gwasanaethau fascwlaidd brys yn Ysbyty Gwynedd

    Mae'r Llywydd yn cynnal balot i benderfynu pa Aelodau a gaiff gyflwyno cwestiynau i’r Prif Weinidog ac i Weinidogion Cymru.

    Mae'r cwestiwn cyntaf a gyflwynwyd heddiw gan Sian Gwenllian: A wnaiff y Prif Weinidog gadarnhau pryd, ar ôl 1 Mawrth 2018, y diddymwyd y penderfyniad i gadw gwasanaethau fascwlaidd brys yn Ysbyty Gwynedd?

    Mae'r bwrdd iechyd wedi dweud "wrth leoli'r gwasanaeth yn Ysbyty Glan Clwyd, gallwn ni ddiogelu dyfodol y gwasanaeth hwn yn y gogledd a sicrhau mynediad teg i wasanaethau fasgwlaidd o ansawdd uchel i'n holl boblogaeth, waeth ble maent yn byw."

    Mae Lesley Griffiths yn dweud y cafwyd ymgynghoriad cyhoeddus a chytunwyd ar benderfyniad ym mis Ionawr 2013, ac ni wnaed unrhyw newidiadau i'r penderfyniad hwnnw.

    Ysbyty Gwynedd
    Image caption: Ysbyty Gwynedd