a gafodd drwydded deledu?

You need one to watch live TV on any channel or device, and BBC programmes on iPlayer. It’s the law.

darganfyddwch fwy
Nid oes gennyf drwydded deledu

Crynodeb

  1. Mewn dadl ar atal hunladdiadau Jack Sargeant, mab y diweddar AC Carl Sargeant, yn dweud na all "dim eich paratoi ar gyfer effaith parhaol hunanladdiad"
  2. Cyfarfod Llawn yn dechrau am 1.30pm gyda chwestiynau i Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig
  3. Cwestiynau i'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol
  4. Dadl ar yr adroddiad ar berthynas Cymru â Phwyllgor y Rhanbarthau yn y dyfodol
  5. Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon: Busnes Pawb: Adroddiad ar atal hunanladdiad yng Nghymru
  6. Dadl Aelodau - Teihio Llesol
  7. Dadl Ceidwadwyr Cymreig - Ariannu Ysgolion
  8. Dadl Fer: Cartrefi i'n Harwyr: A ydym yn diwallu anghenion cartrefu ein cyn-filwyr?

Y diweddaraf yn fyw

Gan Alun Jones a Nia Harri

Mae pob amser yn lleol i'r DU

  1. Hwyl fawr

    A dyna ni o'r Siambr am yr wythnos.

    Fe fydd Senedd Fyw yn ôl ar Fawrth y pumed wedi toriad hanner tymor y gwanwyn.

    View more on twitter
  2. Difaru bod yna rai cyn-filwyr yn dal i gysgu allan ar y strydoedd

    Mae Darren Millar, sy'n Gadeirydd Grŵp Traws-Bleidiol y Cynulliad ar y Lluoedd Arfog a'r Cadetiaid, yn dweud ei fod yn difaru bod yna rai cyn-filwyr yn dal i gysgu allan ar y strydoedd yng Nghymru.

  3. Dadl Fer: A ydym yn diwallu anghenion cartrefu ein cyn-filwyr?

    Ac yn olaf yn y Siambr y prynhawn yma Dadl Fer gan Darren Millar.

    A'r pwnc: Cartrefi i'n Harwyr: A ydym yn diwallu anghenion cartrefu ein cyn-filwyr?

    Milwyr
  4. 'Sicrhau system addysg y mae gan y cyhoedd hyder ynddi'

    Ar ran Llywodraeth Cymru mae'r Ysgrifennydd Addysg Kirsty Williams yn cynnig:

    Dileu’r cyfan a rhoi yn ei le:

    1. Yn nodi bod fformiwlâu asesu seiliedig ar ddangosydd (IBA) cyfredol ar gyfer 'gwasanaethau ysgolion' yn modelu angen cymharol awdurdodau i wario ar wasanaethau ysgolion, o ystyried y cyllid sydd ar gael a chan ragdybio ynghylch y dreth gyngor a blaenoriaethau gwario.

    2. Yn croesawu’r canllawiau ‘Cyllid ar gyfer ysgolion’, a gyhoeddwyd yn ddiweddar, sy’n egluro’r trefniadau cyllido ysgolion.

    3. Yn cydnabod bod holl ganllawiau Llywodraeth Cymru i awdurdodau lleol ynghylch cyllido a pholisi yn cefnogi cyflawni yn unol â chynllun gweithredu ‘Cenhadaeth ein Cenedl’ i godi safonau, lleihau’r bwlch cyrhaeddiad, a sicrhau system addysg y mae gan y cyhoedd hyder ynddi.

    Kirsty Williams
  5. 'Hi'n rhy hawdd i feio hyn' ar Lywodraeth y DU

    Mewn ymateb i sylw yr AC Llafur Lynne Neagle mai gwraidd y problemau yw "agenda llymder" llywodraeth y DU, mae'r aelod Ceidwadol Suzy Davies yn dweud ei bod "hi'n rhy hawdd i feio hyn" ar Lywodraeth y DU "pan fo llywodraeth y DU yn anfon £1.20 i Gymru am bob plentyn lle mae'n nhw'n gwario £1 yn Lloegr".

    Suzy Davies
  6. Dadl: Ariannu Ysgolion

    Nesaf dadl y Ceidwadwyr Cymreig ar Ariannu Ysgolion.

    Mae'r Ceidwadwyr yn cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

    1. Yn nodi'r fformiwla asesu seiliedig ar ddangosydd (IBA) ar gyfer 'gwasanaethau ysgolion' ar hyn o bryd, sy'n cyfrifo faint o arian sydd ei angen ar bob awdurdod lleol yn genedlaethol i'w wario ar ei ysgolion.

    2. Yn cydnabod:

    a) diffyg tryloywder yn y fformiwla IBA a phenderfyniadau dilynol awdurdodau lleol o ran ariannu ysgolion; a

    b) y dryswch ymysg y cyhoedd ynghylch sut y caiff ysgolion unigol eu hariannu drwy awdurdodau lleol, consortia rhanbarthol a grantiau penodol Llywodraeth Cymru.

    3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i lunio dull dealladwy o werthuso a chyfleu effeithiolrwydd holl ffrydiau ariannu ysgolion, yn arbennig;

    a) eu heffaith ar gyrhaeddiad a deilliannau eraill dysgwyr;

    b) cymorth a datblygiad staff;

    c) safonau ysgolion; a

    d) cyflawni yn erbyn amcanion polisi ehangach Llywodraeth Cymru.

    View more on twitter
  7. 'Mae teithio llesol angen newid diwylliant'

    Mae'r dirprwy weinidog trafnidiaeth Lee Waters yn dweud y bydd Llywodraeth Cymru yn cefnogi'r cynnig.

    Mae'n dweud ei fod yn bwriadu gweithio ar ddatblygu targedau mwy uchelgeisiol i gael pobl i gerdded a seiclo ar gyfer defnydd bob dydd, fel mynd i'r gwaith.

    Mae'n atgoffa ACau y gwnaeth e'n bersonol gyflwyno deiseb i'r cynulliad yn 2008 yn galw am greu Deddf Teithio Llesol ac mae'n dweud iddo arwain yr ymgyrch i greu y cynghrair traws-bleidiol i basio'r ddeddf.

    Mae'n dweud bod yn rhaid i "deithio llesol fod yn newid diwylliant. Mae angen modurwyr i newid eu hymddygiad".

  8. 'Diffyg ewyllus gwleidyddol a dychymyg o fewn Llywodraeth Cymru i wireddu amcanion da iawn'

    Mae llefarydd y Ceidwadwyr ar drafnidiaeth Russell George yn dweud ei fod yn falch i weld bod cynghrair traws-bleidiol i gefnogi Deddf Teithio Llesol wedi aeddfedu i un sy'n craffu ar Lywodraeth Cymru ar y mater.

    Mae'n dweud bod yna amcanion da iawn yn y ddeddf, ond bod diffyg ewyllus gwleidyddol a dychymyg o fewn Llywodraeth Cymru i weld rhain yn cael eu gwireddu.

    Russell George
  9. Galw am ragor o fuddsoddiad mewn seilwaith cerdded a seiclo

    Mae Mr Irranca-Davies yn beirniadu perfformiad Llywodraeth Cymru ar gerdded a seiclo, ac yn galw am ragor o fuddsoddiad mewn seilwaith cerdded a seiclo.

    Mae'r cyn weinidog ar gyfer plant a phobl ifanc yn cyfeirio at gynlluniau yn yr Alban i ddyblu boddsoddiad i £80m y flwyddyn. Mae Llywodraeth Cymru wedi clustnodi £60m dros dair blynedd ar gyfer cerdded a seiclo.

    Teithio
  10. Llywodraeth Cymru 'ddim wedi cyflawni eu huchelgeisiau eu hunain'

    Mae'r cyn weinidog Huw Irranca-Davies yn dweud nad yw Llywodraeth Cymru wedi cyflawni eu huchelgeisiau eu hunain i gael pobl yn cerdded a seiclo.

  11. Dadl: Teithio Llesol

    Nesaf yn y Siambr Dadl Aelodau - Teithio Llesol.

    Mae Huw Irranca-Davies yn cynnig bod y Cynulliad:

    1. Yn nodi:

    a) bod gan bobl ifanc yng Nghymru rai o'r lefelau gweithgarwch corfforol isaf yn y Deyrnas Unedig, sy'n cyfrannu at lefelau cynyddol o ordewdra a materion iechyd cysylltiedig megis diabetes math 2;

    b) bod nifer o gymunedau yng Nghymru yn dioddef o lefelau anghyfreithlon o uchel o lygredd aer, gydag un gymuned yn profi'r ansawdd aer gwaethaf y tu allan i Lundain;

    c) amcangyfrifir bod cost tagfeydd ar y ffyrdd yn £2 biliwn i economi Cymru bob blwyddyn;

    d) nid yw targedau ar gyfer allyriadau carbon o drafnidiaeth yng Nghymru wedi'u cwrdd o gwbl;

    e) mae lefelau cerdded a beicio yng Nghymru yn dirywio, ac un pryder arbennig yw bod lefelau teithio llesol i'r ysgol yn disgyn; ac

    f) gellid gwella pob un o'r materion hyn pe bai Deddf Teithio Llesol (Cymru) 2013 yn cael ei gweithredu'n effeithiol.

    2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i adnewyddu ei huchelgais am deithio llesol yng Nghymru trwy lunio strategaeth teithio llesol gynhwysfawr, gan gynnwys targedau uchelgeisiol a chynllun manwl ar gyfer buddsoddi hirdymor mewn seilwaith teithio llesol.

    Huw Irranca-Davies
  12. Gwario mwy ar wasanaethau iechyd meddwl nag ar unrhyw ran arall o'r GIG

    Mae Vaughan Gething, y Gweinidog Iechyd, yn dweud bod Llywodraeth Cymru yn mynd i dargedu mentrau ar gyfer atal achosion o hunanladdiad a lleihau'r cyfraddau yng Nghymru wrth fuddsoddi cyllid newydd ar gyfer iechyd meddwl.

    Mae'n dweud bod iechyd meddwl yn un o brif flaenoriaethau Llywodraeth Cymru, ac y bydd Gweinidogion yn parhau i wario mwy ar wasanaethau iechyd meddwl nag ar unrhyw ran arall o'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol, gyda £655m yn cael ei fuddsoddi yn 2018-19.

    Mae Vaughan Gething yn yn cyhoeddi y bydd £500,000 arall y flwyddyn yn cael ei fuddsoddi'n benodol i gefnogi dulliau cenedlaethol a rhanbarthol o fynd ati i atal hunanladdiad a hunan-niweidio.

    Mae’r rhain yn cynnwys:

    • ·Recriwtio arweinwyr cenedlaethol a rhanbarthol ym mhob cwr o Gymru
    • ·Rhoi'r llwybr ôl-ymyrraeth cymorth ar ôl hunanladdiad ar waith i helpu'r rheini sydd wedi colli rhywun i hunanladdiad, yn ogystal â chynnal adolygiad llawn o gymorth a buddsoddiad wedi'i dargedu i wella hyn
    • ·Codi ymwybyddiaeth a sicrhau bod mwy o adnoddau i'w cael gan gynnwys Cymorth wrth Law Cymru a gwefan newydd ar atal hunanladdiad sydd wedi'i datblygu gan y grŵp cynghori cenedlaethol, talktometoo.wales
    • ·Rhoi canllawiau ar hyfforddiant atal hunanladdiad i staff sy'n gweithio ar draws y gwasanaeth cyhoeddus
    • ·Darparu cyllid i gefnogi rhaglenni a mentrau y profwyd eisoes eu bod yn effeithiol.
  13. Llywodraeth Cymru yn derbyn yr holl argymhellion

    Mae'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Vaughan Gething yn cyflwyno ymateb Llywodraeth Cymru sy'n derbyn neu'n dderbyn mewn egwyddor yr holl argymhellion.

    Vaughan Gething
  14. 'All dim eich paratoi ar gyfer effaith parhaol hunanladdiad'

    Mae Jack Sargeant, mab y diweddar AC Carl Sargeant, yn dweud na all "dim eich paratoi ar gyfer effaith parhaol hunanladdiad".

    Mae'n dweud rhai dyddiau "Rydw i'n stryffaglio i ddod allan o'r gwely".

    Mae'n dweud bod "rhai teimladau yn effeithio ar eich iechyd a lles - euogrwydd, dicter, ing ynghylch materion sydd heb eu datrys, a llawer, llawer mwy, y cyfan sydd, rydw i'n gwybod wedi cael effaith tymor hir arnaf i, ac y byddan nhw'n parhau i wneud hynny".

    Fe wnaeth cwest gafodd ei ohirio ym mis Tachwedd ddweud mai achos rhagarweiniol marwolaeth Carl Sargeant oedd crogi.

    Jack Sargeant
  15. Galw am fwy o frys gan Lywodraeth Cymru

    Mae Lynne Neagle ac Helen Mary Jones, ill dwy, yn dweud bod derbyn yr argymhellion "mewn egwyddor" ddim yn ddigon da mewn nifer o achosion ac yn galw am fwy o frys gan Lywodraeth Cymru.

    Lynne Neagle
    Image caption: Lynne Neagle
  16. 'Cam-drin domestig, emosiynol a chudd yn erbyn dynion'

    Mae ACau yn clywed "yn unol â Rheol Sefydlog 12.23 (iii), nid yw'r gwelliannau gafodd eu cyflwyno i'r cynnig hwn wedi cael eu dewis" gan y Llywydd Elin Jones.

    Roedd yr AC Annibynnol Neil McEvoy wedi cyflwyno gwelliannau yn ychwanegu bod " cam-drin domestig, emosiynol a chudd yn erbyn dynion fod yn gallu bod yn ffactor yn y gyfradd hunanladdiad uchel ymysg dynion".

    Roedd e hefyd wedi "galw ar Lywodraeth Cymru i fynd i'r afael â'r diffyg cymorth anfeirniadol sydd ar gael o ran cam-drin domestig, i ddynion yng Nghymru, fel rhan o'i strategaeth ar atal hunanladdiad, a hynny fel mater o frys".

    Neil McEvoy
  17. Fframwaith hyfforddiant ar atal hunanladdiad

    Mae Cadeirydd y pwyllgor Dai Lloyd yn cyflwyno'r adroddiad sy'n gwneud 31 o argymhellion.

    Y cyntaf o'r rheini yw:

    "y dylid mabwysiadu fframwaith hyfforddiant ar atal hunanladdiad a’i weithredu ar draws yr holl wasanaethau cyhoeddus mewn ffordd debyg i’r fframwaith ar gyfer trais domestig, lle y manylir ar y gofynion o ran hyfforddiant yn dibynnu ar y rôl.

    "Yn benodol, byddai meddygon teulu yn un o’r grwpiau o weithwyr proffesiynol fyddai â gofynion uwch o ran hyfforddiant / sgiliau, ac mae’n bwysig bod ganddynt hwy a’u hyder i ofyn y cwestiynau cywir ac ymateb yn dosturiol ac effeithiol wrth ymdrin â chleifion a allai fod mewn perygl o gyflawni hunanladdiad. Credwn y dylai’r Grŵp Cynghori Cenedlaethol fwrw ymlaen â hyn fel un o’r blaenoriaethau pennaf, yn enwedig o gofio bod fframwaith hyfforddiant eisoes wedi’i ddatblygu ac yn cael ei lansio yn Lloegr".

    Dai Lloyd
  18. 300 i 350 o fywydau'n cael eu colli yng Nghymru o ganlyniad i hunanladdiad

    Nesaf yn y Siambr dadl ar adroddiad y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon: Busnes Pawb: Adroddiad ar atal hunanladdiad yng Nghymru.

    Bob blwyddyn, mae rhyw 300 i 350 o fywydau'n cael eu colli yng Nghymru o ganlyniad i hunanladdiad.

  19. 'Gadael yr Undeb Ewropeaidd ond ddim yn gadael Ewrop'

    Mae Gweinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol, Eluned Morgan, yn dweud ei bod hi wedi bod yn ymwybodol ers tro o'r gwaith y mae Pwyllgor y Rhanbarthau yn ei wneud. Mae hi yn gyn ASE.

    Mae'n dweud "er ein bod ni'n gadael yr Undeb Ewropeaidd dydyn ni ddim yn gadael Ewrop".

    Mae'n dweud bod y prif weinidog yn ceisio cael cyfarfod gyda llywydd Pwyllgor y Rhanbarthau.

    Eluned Morgan