a gafodd drwydded deledu?

You need one to watch live TV on any channel or device, and BBC programmes on iPlayer. It’s the law.

darganfyddwch fwy
Nid oes gennyf drwydded deledu

Crynodeb

  1. ACau yn pasio cynnig Plaid Cymru yn galw ar Lywodraeth Cymru i gadw'r Grant Byw'n Annibynnol yn llawn
  2. Y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig yn cynnal sesiwn graffu blynyddol gyda Chyfoeth Naturiol Cymru
  3. Cyfarfod Llawn yn dechrau am 1.30pm gyda chwestiynau i Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth
  4. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Brexit
  5. Datganiad gan y Llywydd: Cyflwyno Mesur arfaethedig y Comisiwn - Mesur Senedd ac Etholiadau (Cymru)
  6. Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus: Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon Cyfoeth Naturiol Cymru ar gyfer 2017-18
  7. Dadl Plaid Cymru - Grant Byw’n Annibynnol Cymru
  8. Dadl Blaid Annibyniaeth y Deyrnas Unedig - Carchardai a Charcharorion
  9. Dadl Fer: Deddfwriaeth ansawdd aer sy'n addas ar gyfer heriau modern.

Y diweddaraf yn fyw

Gan Alun Jones a Nia Harri

Mae pob amser yn lleol i'r DU

  1. Hwyl fawr

    Dyna ni o'r Siambr am yr wythnos.

    Fe fydd Senedd Fyw yn ôl ddydd Mawrth nesaf Chwefror 19.

    Y Senedd
  2. Dadl Fer: Deddfwriaeth ansawdd aer

    Ac yn olaf yn y Siambr heddiw Dadl Fer gan Dai Lloyd.

    A'r pwnc: "Deddfwriaeth ansawdd aer sy'n addas ar gyfer heriau modern".

    Dywed, "mae cyfraddau'r anadlwst neu'r fogfa—dyna i chi ddau air Cymraeg am asthma—mae cyfraddau'r anadlwst ar gynnydd yn ein plant ers degawdau, ac nid oes esboniad dilys arall yn y bôn, dim ond y graddfeydd llygredd yn yr awyr y mae rhai plant yn gorfod ei anadlu yn gyson. Ac mae'r gronynnau bychan, y PM10 a'r PM2.5 sy'n dod o danwydd disel a phetrol, yn ogystal â theiars y ceir yn gwasgaru gronynnau bychan o rwber a phlastig i'r awyr, a'r nitrogen deuocsid—y nwy gwenwynig yna sy'n deillio o losgi disel—oll yn cael eu hanadlu i mewn i'r ysgyfaint.

    "Ac mae rhai o'r gronynnau yma mor fach—nano-gronynnau, fel dŷn ni'n eu galw nhw—fel eu bod nhw nid yn unig yn cyrraedd y pibellau mwyaf maen yn ein hysgyfaint, ond yn gallu mynd drwodd yn uniongyrchol i gylchredeg yn y gwaed hefyd, a chyrraedd ein calonnau'n uniongyrchol ac achosi adwaith yn y cyhyr sydd yn wal ein calonnau ni.

    "Felly, dyna pam mae hwn yn argyfwng—argyfwng sydd wedi dod yn fwy pwysig yn ddiweddar".

    Ansawdd aer
  3. Y Dirprwy Weinidog a’r Prif Chwip Jane Hutt wedi gwrthwynebu cynnig Pladi Cymru

    Mae'r Dirprwy Weinidog a’r Prif Chwip, Jane Hutt, yn dweud ei bod hi wedi gwrthwynebu cynnig Plaid Cymru, ond mae'r Llywydd Elin Jones yn dweud na chlywodd hi'r gwrthwynebiad, felly mae cynnig Plaid Cymru wedi cael ei basio.

    Jane Hutt
  4. 'Cefnogi’r egwyddor o hawliau pleidleisio i garcharorion'

    Mae ACau yn pasio gwelliant Llywodraeth Cymru yn dileu holl gynnig UKIP a rhoi yn ei le fod y Cynulliad:

    1. Yn credu y dylai carchardai fod yn lleoedd i ddiwygio ac adsefydlu.

    2. Yn cefnogi’r egwyddor o hawliau pleidleisio i garcharorion yn etholiadau Cymru, ond yn disgwyl am adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau.

    Pleidlais
  5. 'Gwasanaethau adsefydlu, dedfrydau cymunedol a lleihau aildroseddu'

    Ar ran y Ceidwadwyr mae Mark Isherwood yn "croesawu'r ffocws gan y Weinyddiaeth Gyfiawnder ar wasanaethau adsefydlu, dedfrydau cymunedol a lleihau aildroseddu", ac yn nodi bod y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau yn cynnal ymchwiliad cyfredol i hawliau pleidleisio i garcharorion.

    Mae e hefyd yn dweud "na ddylai hawliau pleidleisio cyfredol carcharorion gael eu hymestyn yn y dyfodol".

  6. Dadl: Carchardai a Charcharorion

    Pwnc dadl UKIP heddiw yw Carchardai a Charcharorion.

    Maen nhw'n cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

    1. Yn credu y dylai carchardai fod yn fannau diwygio ac adsefydlu, ac mai'r carchar yw'r gosb ar gyfer y rhai a gaiff eu dyfarnu'n euog o drosedd.

    2. Yn penderfynu na ddylai carcharorion gael yr hawl i bleidleisio yn etholiadau Cymru.

    Carchar
  7. Cynnig Plaid Cymru yn cael ei basio

    Does neb yn gwrthwynebu cynnig Plaid Cymru, er gwaetha'r ffaith i Lywodraeth Cymru a'r Ceidwadwyr gynnig gwelliannau, felly mae'r cynulliad yn pasio'r cynnig "yn galw ar Lywodraeth Cymru i gadw'r Grant Byw'n Annibynnol yn llawn".

    Gwelliant Llywodraeth Cymru oedd dileu popeth a rhoi yn ei le fod y Cynulliad:

    1. Yn cydnabod bod Llywodraeth Cymru bob amser wedi neilltuo’r swm llawn o gyllid a drosglwyddwyd ar gyfer y Gronfa Byw’n Annibynnol at y diben hwnnw.

    2. Yn ymrwymo Llywodraeth Cymru i weithio gyda’r rhai sy’n derbyn y cyllid a’r awdurdodau lleol i sicrhau bod bwriadau Grant Byw’n Annibynnol Cymru yn parhau i gael eu cyflawni yng Nghymru.

  8. 'Adnoddau ddim yn rhwystr i becyn llawn o ofal a chefnogaeth'

    Mae'r Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Julie Morgan, yn dweud er bod y mwyafrif o bobl oedd yn derbyn Cronfa Byw'n Annibynnol Cymru (ILF) yn derbyn yr un gofal neu fwy o ofal ag yr oedden nhw'n flaenorol, mae nifer sylweddol wedi profi gostyngiad mewn oriau o gefnogaeth, ac mae yna hefyd amrywiaeth sylweddol o fewn y gostyngiadau o gefnogaeth.

    Mae'n dweud "Rydw i felly wedi ysgrifennu at arweinwyr llywodraeth leol i ofyn am oedi yn y cyfnod pontio yn syth er mwyn cyflwyno'r trefniadau diwygiedig.

    "Mae hwn yn newid allweddol mewn agwedd sy'n sicrhau bod anghenion pobl a oedd yn derbyn Grant Byw’n Annibynnol Cymru yn cael eu diwallu ac nad yw adnoddau yn rhwystr i becyn llawn o ofal a chefnogaeth".

    Julie Morgan
  9. AC Llafur Mike Hedges wedi bwriadu pleidleisio yn erbyn Llywodraeth Cymru

    Mae'r aelod Llafur Mike Hedges yn dweud ei fod wedi newid ei feddwl ynghylch y ffordd y bydd yn pleidleisio yn dilyn newid polisi Llywodraeth Cymru.

    Mae'n dweud bod y newid meddwl bellach yn unol â pholisi'r Blaid Lafur, felly gall e nawr bleidleisio o blaid.

    Mike Hedges
  10. 'Diogelu hawliau pobl anabl i fyw bywydau annibynnol'

    Ar ran y Ceidwadwyr mae Mark Isherwood yn galw ar Lywodraeth Cymru "i sicrhau bod pobl anabl yn bartneriaid llawn wrth ddylunio a gweithredu Cronfa Byw'n Annibynnol Cymru, sy'n diogelu hawliau pobl anabl i fyw bywydau annibynnol".

    Mark Isherwood
  11. Ymddygiad Llywodraeth Cymru fel 'agwedd y Ceidwadwyr yn Llundain'

    Ddoe fe wnaeth Llywodraeth Cymru ddweud y gallai unrhyw un a oedd eisiau "ail farn" gael "asesiad gwaith cymdeithasol annibynnol" ac y byddai'r symudiad i'r system newydd yn cael ei atal am y tro tra bo trefniadau eraill yn cael eu cyflwyno.

    Mae Leanne Wood yn croesawu'r newid meddwl, ond yn dweud bod "ymddygiad y llywodraeth yma ar y cyfan tan nawr yn dangos tebygrwydd i'r agwedd yr ydyn ni'n ei weld gan y Ceidwadwyr yn Llundain".

    Leanne Wood
  12. Dadl: Grant Byw’n Annibynnol Cymru

    Symudwn ni ymlaen nawr at ddadl gan Plaid Cymru - Grant Byw’n Annibynnol Cymru.

    Mae'r blaid yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddal gafael llawn ar Grant Byw'n Annibynnol Cymru.

    Ar hyn o bryd mae Grant Byw'n Annibynnol Cymru (WILG) yn cael ei dalu i tua 1,300 o bobl yng Nghymru.

    Mae'r arian wedi cael ei basio i gynghorau lleol sydd nawr yn ailasesu'r rheiny sy'n ei dderbyn.

    Dywedodd y llywodraeth fod WILG yn "system ddwy haen" a'u bod yn gweithio gyda chynghorau i "gefnogi byw'n annibynnol i holl bobl anabl".

    Cafodd WILG ei gyflwyno i helpu pobl oedd gynt yn cael cymorth gan Gronfa Byw'n Annibynnol Llywodraeth y DU, ddaeth i ben yn 2015.

    Mae'r rheiny sy'n gymwys ar y cyfan yn defnyddio'r arian i dalu am ofalwyr a chynorthwywyr personol er mwyn eu helpu i fyw gartref, gweithio a chymdeithasu.

    Ond mae ymgyrchwyr yn poeni y bydd y system newydd yn golygu llai o gefnogaeth, o ystyried faint o bwysau sydd ar gyllidebau cynghorau.

  13. Llywodraeth Cymru yn derbyn yr holl argymhellion

    Mae Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig, Lesley Griffiths yn rhoi ymateb Llywodraeth Cymru.

    Mae'r tri argymhelliad yn cael eu derbyn.

    Lesley Griffiths
  14. Y penderfyniad a wnaed gan y cwango yn 'anesboniadwy'

    Daeth i'r amlwg yn yr haf y llynedd fod Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) wedi gwerthu cytundebau coed nad oedd wedi cael ei roi i dendr, er iddyn nhw gael eu beirniadu am wneud yr un peth ychydig fisoedd ynghynt.

    Mewn adroddiad fe wnaeth y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus ddweud fod penderfyniadau a wnaed gan y cwango yn "anesboniadwy".

    Wrth ymateb i adroddiad y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus dywedodd CNC eu bod yn derbyn cynnwys yr adroddiad ac wedi penodi'r archwiliwr Grant Thornton i adolygu gwaith masnachol coedwigaeth y corff.

    Yn y gorffennol mae'r archwilydd cyffredinol wedi beirniadu CNC am gytundeb 10 mlynedd, gwerth £39m, i werthu coed i BSW Timber heb dendr a luniwyd yn 2014.

    Roedd y feirniadaeth ar sail cyfreithlondeb y cytundebau, gan eu bod yn amau bod rheolau Ewropeaidd ar gymorth gan y wladwriaeth yn cael eu torri.

    Cyfoeth Naturiol Cymru
  15. 'Hynod siomedig' bod cyfrifon CNC yn annigonol am dair blynedd yn olynol

    Mae Mr Ramsay yn dweud bod y pwyllgor yn "hynod siomedig" bod cyfrifon CNC yn annigonol am dair blynedd yn olynnol. Fe wnaeth yr asiantaeth - sy'n gyfrifol am goedtiroedd cyhoeddus ar draws Cymru - werthu pren dro ar ôl tro heb fynd ar y farchnad agored.

    Fe wnaeth CNC ofyn i arbenigwyr Grant Thorton i adolygu eu prosesau wedi i Swyddfa'r Archwilydd Cyffredinol dynnu sylw at eu cyfrifon am y drydedd flwyddyn yn olynol.

  16. 'Diffygion yn y trefniadau llywodraethu'

    Mae cadeirydd y pwyllgor, Nick Ramsay yn cyflwyno'r adroddiad sy'n gwneud tri o argymhellion.

    Un o'r rheini yw:

    "Os na fydd canfyddiadau’r adolygiad annibynnol ynghylch y diffygion yn y trefniadau llywodraethu’n ddigonol, rydym yn argymell y dylai Llywodraeth Cymru sicrhau bod adolygiad cynhwysfawr yn cael ei gynnal ar unwaith o drefniadau llywodraethu Cyfoeth Naturiol Cymru, gan archwilio’r rhesymau dros y diffygion hyn".

    Nick Ramsay
  17. UKIP yn gwrthwynebu gostwng yr oed pleidleisio

    Mae arweinydd UKIP Gareth Bennett yn dweud bod UKIP yn gwrthwynebu'r cynnig i ganiatáu i bobl ifanc 16 oed i bleidleisio yn etholiad nesa'r cynulliad.

    Gareth Bennett
  18. 'Deall y sensitifrwydd ynghylch newid yr enw'

    "Rydw i'n deall y sensitifrwydd ynghylch newid yr enw," medd Dai Lloyd Plaid Cymru, ond mae'n ychwanegu y byddai Senedd yn adlewyrchu pwerau cynyddol y sefydliad.

    Dai Lloyd
  19. Senedd 'ddim mor adnabyddus ymhlith etholwyr'

    Mae'r aelod Ceidwadol David Melding yn dweud bod ail enwi'r cynulliad yn Senedd dan drafodaeth.

    Mae'n dweud y byddai'n well ganddo ddefnyddio "senedd" ond nad yw'r gair mor adnabyddus ymhlith etholwyr.

    David Melding