a gafodd drwydded deledu?

You need one to watch live TV on any channel or device, and BBC programmes on iPlayer. It’s the law.

darganfyddwch fwy
Nid oes gennyf drwydded deledu

Y diweddaraf yn fyw

Gan Alun Jones a Nia Harri

Mae pob amser yn lleol i'r DU

  1. Hwyl

    A dyna ni am heddiw.

    Fe fydd Senedd Fyw yn ôl bore fory ar gyfer cyfarfod o'r Pwyllgor Cyllid.

    View more on twitter
  2. ACau yn diddymu y Mesur Parhad

    Mae ACau yn cymeradwyo y fersiwn ddrafft o Reoliadau Deddf Cyfraith sy’n Deillio o’r Undeb Ewropeaidd (Cymru) 2018 (Diddymu) 2018, wedi i Lywodraeth Cymru ddweud nad oed angen y ddeddf bellach oherwydd cytundeb gyda gweinidogion yn San Steffan ynghylch ffrae am "gipio pwerau" o Fae Caerdydd ar ôl Brexit.

    Roedd 40 o blaid, neb yn ymatal, ac wyth yn erbyn.

    Y bleidlais
  3. Natur ffured neu natur daeargi?

    Mae'r AC Llafur Julie Morgan yn llongyfarch Lynne Neagle ar ei "natur ffured".

    Wedi ystyried, mae hi wedyn yn cyfeirio at ei "natur daeargi".

    Lynne Neagle a Julie Morgan
    Image caption: Lynne Neagle a Julie Morgan
  4. Diwrnod Byd-eang y Plant y Cenhedloedd Unedig

    Ac yn olaf yn y Siambr heddiw datganiad gan Cadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg, Lynne Neagle: Diwrnod Byd-eang y Plant y Cenhedloedd Unedig.

    Fe gafodd Diwrnod Byd-eang y Plant ei gyhoeddi gyntaf gan Gynulliad Cyffredinol y Cenhedloedd Unedig yn 1954. Yn wreiddiol roedd yna ddau nod i'r diwrnod: annog plant o bob hil, credo a chrefydd i dreulio amser gyda'i gilydd, yn dod i adnabod eu gilydd a gwerthfawrogi eu gwahaniaethau, ac i symbylu llywodraethau ar draws y byd i dalu mwy o sylw i les eu dinasyddion ieuengaf.

    Mae Lynne Neagle yn diweddaru'r aelodau ar waith y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg yn dal Llywodraeth Cymru i gyfrif ar addysg, iechyd a lles plant a phobl ifanc Cymru.

    Lynne Neagle
  5. Galwad am ddatganoli yr holl bwerau dros ynni i Gymru yn llawn

    Mae Llyr Gruffydd Plaid Cymru yn galw am ddatganoli yr holl bwerau dros ynni i Gymru yn llawn.

    Mae e hefyd yn galw am sefydlu Ynni Cymru i gyflymu'r gwaith o ddatblygu ynni adnewyddadwy yng Nghymru gyda ffocws cryf ar ynni cymunedol a pherchnogaeth y cyhoedd.

    Llyr Gruffydd
  6. 'Cydnabod pwysigrwydd Wylfa Newydd'

    Mae'r aelod Ceidwadol Andrew RT Davies yn dweud bod angen i'r cynulliad "gydnabod pwysigrwydd Wylfa Newydd i ddarparu cymysgedd ynni cynaliadwy tymor hir yng Nghymru ac chymeradwyo sylwadau Prif Weinidog y DU ynghylch potensial trawsnewidiol y datblygiad seilwaith ynni mawr hwn i economi Gogledd Cymru".

    Mae e hefyd yn dweud bod angen i'r cynulliad "gydnabod pwysigrwydd sicrhau cymorth cymunedol pan yn cynllunio prosiectau ynni adnewyddadwy ar raddfa fawr ac yn gresynu at ymyrraeth Ysgrifennydd y Cabinet ynglŷn â datblygu Fferm Wynt Hendy nad yw'n parchu'r egwyddor bwysig hon ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i ailystyried y penderfyniad hwn".

    Andrew RT Davies
  7. Galwad i wrthwynebu defnyddio ynni niwclear fel ffordd o gyflawni system ynni carbon isel

    Mae'r aelod Annibynnol Neil McEvoy yn galw ar Lywodraeth Cymru i wrthwynebu defnyddio ynni niwclear fel ffordd o gyflawni system ynni carbon isel.

    Neil McEvoy
  8. Cyflawni system ynni carbon isel i Gymru

    Pwnc dadl ola'r dydd yw: Sut rydym yn cyflawni system ynni carbon isel i Gymru?

    Mae Llywodraeth Cymru yn cynnig bod y Cynulliad:

    1. Yn nodi Adroddiad 2017 Cynhyrchu Ynni yng Nghymru, a gyhoeddwyd ar 13 Tachwedd 2018.

    2. Yn nodi bod angen mynd ati ar frys i ddatgarboneiddio’r system ynni yng Nghymru er mwyn cyflawni’r targed a nodir yn Neddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 o leihau allyriadau carbon 80 y cant, gan wneud y canlynol:

    a) cyflwyno gwaith cynllunio systemau ynni cyflawn a rhanbarthol er mwyn cefnogi economi carbon isel;

    b) cydnabod y posibiliadau sydd ynghlwm wrth wahanol dechnolegau cynhyrchu ynni, a hefyd yr angen am atebion clyfar i gydbwyso’r gwaith o gynhyrchu ynni â’r galw amdano;

    c) cyflymu’r broses o ddatblygu ynni carbon isel, lle y mae’n fanteisiol i Gymru, gan gydnabod yr hinsawdd heriol presennol o ran buddsoddiad; a

    d) datblygu ymhellach y grid yng Nghymru fel rhan o gynlluniau ar gyfer lleoliadau penodol.

    Lesley Griffiths, Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig
    Image caption: Lesley Griffiths, Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig
  9. 'Anodd dirnad'

    Mae Steffan Lewis Plaid Cymru yn dweud y gallai diddymu y Ddeddf Parhad osod cynsail peryglus sy'n caniatáu i San Steffan ddeddfu mewn meysydd datganoledig yn y dyfodol.

    Mae'n ychwanegu ei bod hi'n anodd dirnad pam bod Llywodraeth Cymru eisiau diddymu'r Ddeddf cyn bod y Goruchaf Lys wedi dyfarnu ynghylch a yw Mesur Parhad yr Alban o fewn cymhwysedd Senedd yr Alban.

    Mae'n dweud y dylai ACau o leiaf aros tan y dyfarniad cyn pleidleisio i ddiddymu'r Ddeddf.

    Mae'n annog ACau i wrthod diddymu'r Ddeddf Parhad.

    Steffan Lewis
  10. Y Ddeddf Parhad yn 'ddianghenraid'

    Mae'r Ceidwadwr Darren Millar yn tynnu sylw at y ffaith bod y Ceidwadwyr wedi dweud bod y Ddeddf Cyfraith sy'n deillio o'r Undeb Ewropeaidd (Cymru) 2018 yn "ddianghenraid" o'r cychwyn ac o'r herwydd rydyn ni'n croesawu ei diddymu, " hyd yn oed wedi eitha tipyn o oedi".

    Darren Millar
  11. 'Yswiriant'

    Wedi misoedd o drafod rhwng gweinidogion y ddwy lywodraeth, fe wnaethon nhw gytuno ar newidiadau i Fesur Ymadael yr UE.

    O ganlyniad, mae'r Ysgrifennydd Cyllid, Mark Drakeford, yn egluro nad yw Llywodraeth Cymru bellach yn teimlo'r angen am y Ddedf Parhad, rhywbeth meddai gafodd ei phasio fel "yswiriant" cyn y gwnaethon nhw gyrraedd "cytundeb rhyng-lywodraethol".

    Mark Drakeford
  12. Deddf Parhad - ddim ei hangen mwyach?

    Nesaf mae ACau yn cynnal dadl ar Reoliadau'r Ddeddf Cyfraith sy'n Deillio o'r Undeb Ewropeaidd (Cymru) 2018 (Diddymu) 2018.

    Ym mis Ebrill fe wnaeth llywodraethau Cymru a'r DU ddod i gytundeb yn yr anghydfod am 'gipio pwerau' o Fae Caerdydd ar ôl Brexit.

    Dywedodd Ysgrifennydd Cyllid Cymru, Mark Drakeford, bryd hynny fod y cytundeb yn "un y gallwn ni weithio gyda fe ac sydd wedi golygu cymodi ar y ddwy ochr".

    Ond fe wnaeth Llywodraeth Yr Alban wrthod y cynnig diweddaraf gan ddweud y byddai'n "clymu dwylo" Senedd Yr Alban.

    Senedd
  13. 97% o bobl ifanc ddigartref wedi cael o leiaf un Profiad Niweidiol yn ystod eu Plentyndod

    Mae amrywiaeth o faterion cysylltiedig â’i gilydd a all arwain at berson ifanc yn dod yn ddigartref, ac mae gwaith ymchwil gan y mudiad Llamau yn awgrymu bod 97% o bobl ifanc ddigartref wedi cael o leiaf un Profiad Niweidiol yn ystod eu Plentyndod (ACE). Mae Llamau yn nodi:

    • Bu 25% o’r bobl ifanc ddigartref a gefnogir ganddynt mewn gofal;
    • Mae 90% o’r bobl ifanc a gefnogir ganddynt yn bodloni’r meini prawf ar gyfer o leiaf un broblem iechyd meddwl gyfredol; a
    • Bu tua 15% o’r bobl ifanc a gefnogir ganddynt yn gysylltiedig â gwasanaethau troseddau ieuenctid.
  14. 'Agwedd gydweithrediadol ac ataliol'

    Mae'r Gweinidog Tai ac Adfywio, Rebecca Evans, yn dweud bod y £10m ychwanegol o "gyllid yr ydw i wedi ei gyhoeddi heddiw yn cymryd agwedd gydweithrediadol ac ataliol i'r mater cymhleth hwn ac yn dangos ein hymrwymiad traws-lywodraethol i daclo digartrefedd".

    Dechreuodd grŵp o elusennau a oedd yn gweithio gyda phobl ifanc ddigartref ymgyrch, ym mis Hydref 2015, i ddod â’r arfer o roi llety gwely a brecwast i bobl ifanc 16 a 17 mlwydd oed i ben.

    Diwygiwyd y Cod Canllawiau i Awdurdodau Lleol ar Ddyrannu Llety a Digartrefedd yn 2016, a bellach mae’n datgan bod Gweinidogion Cymru yn bwriadu rhoi terfyn ar ddefnyddio llety gwely a brecwast ar gyfer pobl ifanc sengl 16 a 17 oed, ac annog a chefnogi defnyddio llai o’r math hwn o lety dros dro.

    Rebecca Evans, Gweinidog Tai ac Adfywio
    Image caption: Rebecca Evans, Gweinidog Tai ac Adfywio
  15. Mynd i'r afael â Digartrefedd ymysg Pobl Ifanc

    Symudwn ni 'mlaen nawr at ddatganiad gan y Gweinidog Tai ac Adfywio, Rebecca Evans: Buddsoddi mewn Ymyrraeth Gynnar a Dulliau Traws-Lywodraeth i fynd i'r afael â Digartrefedd ymysg Pobl Ifanc.

    Yn gynharach eleni fe wnaeth AC Llafur rybuddio y byddai dileu'r ardal derfyn ar grant ar gyfer cynghorau i helpu pobl ifanc bregus y fyw bywyd annibynnol yn "tanseilio" yr holl waith sydd wedi ei wneud i ddelio gyda chysgu allan.

    Fe wnaeth Dawn Bowden feirniadu penderfyniad Llywodraeth Cymru i asrchwilio'r Rhaglen Gefnogi Pobl.

  16. 'Bydd athrawon mewn colegau Addysg Bellach yn cael eu talu yr un faint ag athrawon mewn chweched dosbarth ysgol'

    Mae Eluned Morgan yn cyhoeddi y bydd athrawon mewn colegau Addysg Bellach yn cael eu talu yr un faint ag athrawon mewn chweched dosbarth ysgolion sy'n gwneud yr un swydd.

    Mae hi hefyd yn cynnig newid y modd y mae darpariaeth rhan amser yn cael ei gyllido, ei gynllunio a'i gyflwyno. Yn y dyfodol fe fydd darpariaeth rhan amser yn cael ei flaenoriaethu i nifer y boblogaeth sydd ond yn dal cymhwyster lefel 2.

  17. Cyllido mewn ffyrdd gwahanol

    Caiff sefydliadau addysg bellach (SABau) a chweched dosbarth mewn ysgolion eu cyllido mewn ffyrdd gwahanol:

     Mae'r SABau yn derbyn eu dyraniad cyllid yn uniongyrchol gan Lywodraeth Cymru ar gylch blwyddyn academaidd; a

     Dyrennir cyllid ar gyfer chweched dosbarth mewn ysgolion gan Lywodraeth Cymru i awdurdodau lleol, bob blwyddyn ariannol, sydd yna'n trosglwyddo'r cyllid hwnnw i ddosbarthiadau chweched dosbarth unigol.

    Gall awdurdod lleol gadw hyd at 3 y cant (PDF46KB) o gyfanswm ei ddyraniad ar gyfer gwasanaethau a gedwir yn ganolog sy'n ymwneud ag addysg ôl-16.

  18. Yr Adolygiad o Gyllid Addysg Bellach

    Mae'r aelodau nawr yn gwrando ar ddatganiad gan Weinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes, Eluned Morgan: Yr Adolygiad o Gyllid Addysg Bellach.

    Eluned Morgan
  19. 'Dylai myfyrwyr o Gymru allu astudio ym mhrifysgolion gorau'r byd'

    Mae Bethan Sayed yn dweud bod "Plaid Cymru yn credu y dylai myfyrwyr o Gymru allu astudio ym mhrifysgolion gorau'r byd ac i gael y cyfle i fyw a gweithio dramor".

    Bethan Sayed