a gafodd drwydded deledu?

You need one to watch live TV on any channel or device, and BBC programmes on iPlayer. It’s the law.

darganfyddwch fwy
Nid oes gennyf drwydded deledu

Y diweddaraf yn fyw

Gan Alun Jones a Nia Harri

Mae pob amser yn lleol i'r DU

  1. Hwyl

    A dyna ni o'r Siambr am yr wythnos oherwydd ni chyflwynwyd testun ar gyfer y Ddadl Fer.

    Fe fydd Senedd Fyw yn ôl ddydd Mawrth nesaf Tachwedd 20.

    Y Siambr
  2. 'Cyflwyno grant busnesau bwyd ar gyfer lladd-dai bach a chanolig'

    Ar ran Llywodraeth Cymru mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig, Lesley Griffiths, yn cynnig hyn.

    Dileu popeth ar ôl pwynt 1 a rhoi yn ei le:

    Yn nodi’r camau y mae Llywodraeth Cymru wedi’u cymryd o ran:

    a) cyflwyno grant busnesau bwyd ar gyfer lladd-dai bach a chanolig fel bod modd iddynt osod teledu cylch cyfyng a hefyd wneud gwelliannau busnes eraill;

    b) cynnwys safonau cadarn o ran lles ac iechyd anifeiliaid mewn gwaith er mwyn diffinio’r Gwerthoedd Brand Cynaliadwy i’r diwydiant bwyd amaeth.

    c) sicrhau bod unrhyw adolygiad o ddeddfwriaeth ym maes labelu bwyd sy’n gysylltiedig â lles anifeiliaid yn seiliedig ar dystiolaeth.

    Mae Lesley Griffiths hefyd yn nodi nad oes unrhyw ladd heb stynio yn digwydd yng Nghymru ar hyn o bryd, ac mai dymuniad Llywodraeth Cymru yw "sicrhau bod anifeiliaid yn cael eu lladd mor agos ag y bo’n ymarferol at eu pwynt cynhyrchu".

    Lesley Griffiths
  3. 'Dim ras i'r gwaelodion ar les anifeiliaid'

    Mae Llyr Gruffydd Plaid Cymru yn dweud "ei bod hi'n hanfodol nad yw Brexit yn arwain at ras i'r gwaelodion ar les anifeiliaid".

  4. Gwahardd gwerthu cŵn bach gan drydydd partïon

    Mae'r aelod Annibynnol Neil McEvoy yn galw am "wahardd gwerthu cŵn bach gan drydydd partïon i roi terfyn ar ffermio anfoesegol cŵn bach".

    Neil McEvoy
  5. 'Gwneud gwyliadwriaeth teledu cylch cyfyng yn orfodol mewn lladd-dai'

    Mae'r Ceidwadwyr yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

    a) gwneud gwyliadwriaeth teledu cylch cyfyng yn orfodol mewn lladd-dai ledled Cymru;

    b) archwilio’r posibilrwydd o gyflwyno cyfraith Lucy a gwahardd gwerthu cŵn bach gan siopau anifeiliaid anwes a'r holl werthwyr trydydd parti masnachol yng Nghymru; ac

    c) cynyddu cymorth ar gyfer lladd-dai bach a chanolig i sicrhau bod ffermwyr yn gallu prosesu stoc mor lleol â phosibl.

  6. 'Gan y DU rai o'r safonau lles anifeiliaid uchaf yn y byd'

    Ar ran y Ceidwadwyr mae Andrew RT Davies yn "croesawu'r gwaith cadarnhaol a wnaed gan Lywodraeth y DU i sicrhau bod gan y DU rai o'r safonau lles anifeiliaid uchaf yn y byd".

    Mae e hefyd yn nodi'r ymgynghoriad diweddar a gynhaliwyd gan Lywodraeth y DU ar agweddau ar les anifeiliaid wrth eu cludo "fel bod y drefn reoleiddio yn adlewyrchu gwybodaeth wyddonol a milfeddygol unwaith y bydd y DU yn gadael yr Undeb Ewropeaidd".

    Mae'r Ceidwadwyr hefyd yn "croesawu'r penderfyniadau a gymerwyd gan Lywodraeth y DU i gynyddu’r dedfrydau uchaf am greulondeb anifeiliaid i bum mlynedd a chyflwyno teledu cylch cyfyng gorfodol mewn lladd-dai yn Lloegr".

    Andrew RT Davies
  7. Dadl ar Les Anifeiliaid

    Ac yn olaf yn y Siambr heddiw dadl gan UKIP, a'r pwnc: Lles Anifeiliaid.

    Mae UKIP yn cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

    1. Yn credu y dylai Cymru fod yn arweinydd byd mewn lles anifeiliaid.

    2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

    a) gwneud gwyliadwriaeth teledu cylch cyfyng yn orfodol yn holl ladd-dai Cymru; a

    b) gwahardd yr arfer o ladd anifeiliaid heb eu stynio yn holl ladd-dai Cymru.

    3. Yn galw ar Lywodraeth y DU i wahardd allforio anifeiliaid byw at ddibenion eu magu a'u lladd.

  8. Llywodraeth Cymru yn derbyn yr holl argymhellion

    Mae'r Ysgrifennydd Cyllid, Mark Drakeford, yn rhoi ymateb Llywodraeth Cymru, sy'n derbyn holl argymhellion y Pwyllgor Cyllid.

    Mae Mark Drakeford yn dweud "ei bod hi'n hynod druenus nad ydyn ni fawr callach ynghylch bwriadau llywodraeth y DU y tu hwnt i 2021. Mae'r oedi yn yr adolygiad gwariant ar gyfer y flwyddyn nesaf yn golygu y bydd hi hyd yn oed yn anoddach i gynllunio'n effeithiol ar gyfer ein dyfodol y tu allan i'r Undeb Ewropeaidd".

  9. 'Siomedigaeth anferth'

    Mae David Rees yn mynegi "siomedigaeth anferth" mai dim ond dau ACau wnaeth gefnogi Brexit sydd yn y Siambr wrth iddo siarad, a bod dim un ACau UKIP yn bresennol.

    Mae Cymru ar hyn o bryd yn derbyn tua £680 miliwn y flwyddyn mewn cyllid o'r UE, llawer mwy am bob person nag unrhyw un o'r cenhedloedd datganoledig a rhanbarthau Lloegr.

    David Rees
  10. 'Angen dewis amgen hirdymor cynaliadwy yn lle fformiwla Barnett'

    Mae cadeirydd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus Nick Ramsay yn cytuno gyda'r Pwyllgor Cyllid "y dylai Llywodraeth Cymru weithio gyda Llywodraeth y Deyrnas Unedig a gweinyddiaethau datganoledig eraill i ddatblygu dewis amgen hirdymor cynaliadwy yn lle fformiwla Barnett, sy’n dyrannu cyllid ar draws y Deyrnas Unedig yn seiliedig ar angen".

  11. 11 o argymhellion

    Mae Cadeirydd y Pwyllgor Cyllid, Llyr Gruffydd, yn cyflwyno'r adroddiad sy'n gwneud 11 o argymhellion.

    Y cyntaf o'r rheini yw:

    "Mae’r Pwyllgor yn cefnogi Llywodraeth Cymru wrth iddi roi blaenoriaeth i’r trafodaethau â Llywodraeth y Deyrnas Unedig i gael y fargen gyllido orau bosibl, i sicrhau na fydd Cymru “geiniog ar ei cholled” ar ôl Brexit. Mae’r Pwyllgor yn argymell fod Llywodraeth Cymru yn parhau i geisio trafod â Llywodraeth y Deyrnas Unedig, a bod Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn ymrwymo i drafodaeth lawn ar y mater hwn".

    Llyr Gruffydd
  12. Paratoadau ar gyfer disodli ffrydiau cyllido'r Undeb Ewropeaidd yng Nghymru

    Ymlaen nawr at ddadl gynta'r prynhawn.

    Mae'n ddadl ar adroddiad y Pwyllgor Cyllid ar ei Ymchwiliad i baratoadau ar gyfer disodli ffrydiau cyllido'r Undeb Ewropeaidd yng Nghymru.

    Baneri'r UE
  13. Cymeradwyo cyllideb Comisiwn y Cynulliad ar gyfer 2019-20

    Mae'r aelodau yn cymeradwyo cyllideb Comisiwn y Cynulliad ar gyfer 2019-20.

    Arian
  14. Cynnig i gymeradwyo Cyllideb Comisiwn y Cynulliad ar gyfer 2019-20

    Mae ACau nawr yn trafod cynnig i gymeradwyo Cyllideb Comisiwn y Cynulliad ar gyfer 2019-20.

    Mae cyfanswm y gyllideb yn £57.023 miliwn.

    Suzy Davies, aelod o Gomisiwn y Cynulliad
    Image caption: Suzy Davies, aelod o Gomisiwn y Cynulliad
  15. Ethol David Rowlands i’r Pwyllgor Safonau Ymddygiad

    Mae David Rowlands hefyd yn cael ei ethol i’r Pwyllgor Safonau Ymddygiad yn lle Michelle Brown (UKIP).

  16. Penodi David Rowlands i Gomisiwn y Cynulliad

    Mae ACau yn pasio cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn penodi David Rowlands (UKIP) yn aelod o Gomisiwn y Cynulliad.

    Fe fydd Mr Rowlands yn ennill £13,578 yn ychwanegol ar ben ei gyflog sylfaenol o £66,847 fel AC main gefn, gan ddod â chyfanswm ei gyflog i £80,425.

    Yn gynharach eleni fe gafodd cynnig i ethol Neil Hamilton i Gomisiwn y Cynulliad ei drechu.

  17. Datganiadau 90 Eiliad

    Nawr y Datganiadau 90 Eiliad, lle mae tri aelod yn cael cyfle i godi materion amserol.

  18. Cwestiynau Amserol - Ni ddewiswyd unrhyw un

    Ni ddewiswyd unrhyw Gwestiwn Amserol.

    Mae'n rhaid i gwestiynau amserol ymwneud â mater o arwyddocâd cenedlaethol, rhanbarthol neu leol y byddai'n ddymunol cael ymateb cyflym iddo gan Weinidog.

    Y Llywydd sy'n penderfynu sawl cwestiwn amserol i'w ddethol ar gyfer y cyfnod o 20 munud a neilltuwyd, a sut i rannu'r amser sydd ar gael rhwng y cwestiynau hynny.

    Cwestiynau
  19. Adolygu ansawdd y sain ar Senedd.tv

    Mae'r Llywydd Elin Jones yn dweud y bydd hi'n adolygu ansawdd y sain ar Senedd.tv ac mae hefyd yn dweud "rydyn ni'n buddsoddi yn y seilwaith sydd ganddon ni i wneud is-deitlo yn fwy syml yn y dyfodol".

    Elin Jones