a gafodd drwydded deledu?

You need one to watch live TV on any channel or device, and BBC programmes on iPlayer. It’s the law.

darganfyddwch fwy
Nid oes gennyf drwydded deledu

Y diweddaraf yn fyw

Gan Alun Jones a Nia Harri

Mae pob amser yn lleol i'r DU

  1. Hwyl

    A dyna ni o'r Siambr am yr wythnos.

    Fe fydd Senedd Fyw yn ôl ddydd Mawrth nesaf Tachwedd 13.

    Y Senedd
  2. Dadl Fer: Cymru wledig

    Ac yn olaf yn y Cyfarfod Llawn heddiw Dadl Fer gan Angela Burns.

    A'r pwnc: "Cymru wledig - economi i'w hyrwyddo".

    Mae hi'n dweud "heb ffermio wrth galon yr economi wledig, fe fyddwn ni'n colli nid dim ond ffermydd, nid dim ond y genhedlaeth nesaf, nid dim ond y busnesau sy'n dibynnu ar amaethyddiaeth, ond fe fyddwn ni'n colli'r amgylchedd".

    Angela Burns
  3. Gwrthod galwad i benodi comisiynydd y lluoedd arfog i Gymru

    Mae ACau yn gwrthod galwad y Ceidwadwyr ar i Lywodraeth Cymru benodi comisiynydd y lluoedd arfog i Gymru.

  4. Penodi Swyddogion Cyswllt y Lluoedd Arfog drwy Gymru

    Dyw Llywodraeth Cymru ddim yn gweld yr angen am gomisiynydd y lluoedd arfog i Gymru, felly mae eu gwelliant yn cynnig dileu pwynt 4 a rhoi yn ei le:

    Yn croesawu penodi Swyddogion Cyswllt y Lluoedd Arfog drwy Gymru a dull cydweithredol Grŵp Arbenigol y Lluoedd Arfog o fynd ati i sicrhau bod Cyfamod y Lluoedd Arfog yn cael ei gynnal.

  5. 'Ddim yn argyhoeddedig' o'r angen am gomisiynydd y lluoedd arfog i Gymru

    Mae Helen Mary Jones yn dweud nad yw Plaid Cymru "yn argyhoeddedig" o'r angen am gomisiynydd y lluoedd arfog i Gymru, ac o'r herwydd fyddan nhw ddim yn cefnogi galwad y Ceidwadwyr.

    Helen Mary Jones
  6. Profiadau erchyll taid yn y Rhyfel Byd Cyntaf

    Mae Dr Dai Lloyd yn ingol yn atgofio profiadau erchyll ei daid yn y rhyfel byd cyntaf, er bod ei daid, wedi hynny, yn gyndyn i siarad amdanyn nhw - "Cofio mud oedd cofio taid".

  7. 'Deddf peidio â gadael yr un milwr ar ôl'

    Mae'r AC Annibynnol Neil McEvoy yn galw ar Lywodraeth Cymru "i sicrhau Deddf peidio â gadael yr un milwr ar ôl a fyddai'n gwarantu ansawdd tai a gofal iechyd i gyn-filwyr sydd wedi gweld gwasanaeth gweithredol".

    Neil McEvoy
  8. Galwad i benodi comisiynydd y lluoedd arfog i Gymru

    Nawr dadl gan y Ceidwadwyr Cymreig ar y Lluoedd Arfog.

    Mae Mark Isherwood yn cyflwyno cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

    1. Yn nodi bod Sul y Cofio eleni yn nodi canmlwyddiant Diwrnod y Cadoediad a ddiwedd y rhyfel byd cyntaf.

    2. Yn croesawu ymgyrch 'Thank you 100' y Lleng Brydeinig Frenhinol, sy'n cofio'r rhai a wasanaethodd, aberthodd a newidodd ein byd rhwng 1914 a 1918.

    3. Yn anrhydeddu cyfraniad y rheini sydd wedi gwasanaethu ac sy'n parhau i wasanaethu yn ein lluoedd arfog.

    4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i benodi comisiynydd y lluoedd arfog i Gymru er mwyn sicrhau bod Cyfamod y Lluoedd Arfog yn cael ei gynnal.

    Lluoedd Arfog
  9. 'Dim gwanhad mewn dulliau diogelu cydraddoldeb a hawliau dynol'

    Mae Arweinydd y Tŷ a'r Prif Chwip, Julie James, yn dweud bod Llywodraeth Cymru wedi bod yn eglur na ddylai ymadawiad y DU o'r UE arwain o gwbl tuag at wanhad mewn dulliau diogelu cydraddoldeb a hawliau dynol.

    Julie James
  10. Dylai'r Gronfa Rhannu Ffyniant 'gael ei gweinyddu yng Nghymru gan Lywodraeth Cymru'

    Mae John Griffiths yn amlinellu llythyr ar y cyd y pwyllgorau i'r prif weinidog yn crynhoi eu barn.

    Mae'n dweud "yn dilyn eu sesiynau tystiolaeth, nid ydym eto wedi ein hargyhoeddi ynghylch honiad Llywodraeth y DU, yn ei dadansoddiad fesul hawl o'r Siarter, fod holl hawliau'r Siarter eisoes wedi'u diogelu gan gyfraith ddomestig y DU".

    Mae e hefyd yn dweud bod y pwyllgorau "yn rhannu safbwynt ein tystion y dylai'r Gronfa Rhannu Ffyniant y mae Llywodraeth y DU wedi'i chynnig gael ei gweinyddu yng Nghymru gan Lywodraeth Cymru, a hynny er mwyn sicrhau ei bod yn ymateb i anghenion ac anghydraddoldebau lleol. Rydym hefyd o'r farn y dylid defnyddio'r Gronfa hon i fynd i'r afael ag anghydraddoldeb ac anfantais economaidd-gymdeithasol".

    John Griffiths
  11. Cydraddoldeb a Gadael yr Undeb Ewropeaidd

    Y pwnc nesaf yn y Siambr yw Cydraddoldeb a Gadael yr Undeb Ewropeaidd - Canfyddiadau ar y cyd gan y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau a'r Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol.

    Brexit
  12. Gwrthod pedwar o'r argymhellion

    Mae'r Ysgrifennydd Addysg, Kirsty Williams, yn rhoi ymateb Llywodraeth Cymru,sy'n gwrthod pedwar o'r argymhellion.

    Ymhlith yr argymhellion sy'n cael eu gwrthod mae:

    "Os yw Llywodraeth Cymru am i ysgolion ddefnyddio’r Grant Datblygu Disgyblion ar gyfer disgyblion sydd wedi bod yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim ar unrhyw adeg yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf, dylai ariannu dyraniadau’r Grant Datblygu Disgyblion ar y sail honno, h.y. fesul disgybl a fu’n gymwys i gael prydau ysgol am ddim ar unrhyw adeg yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf, yn hytrach na disgwyl i ysgolion gefnogi disgyblion ychwanegol gan ddefnyddio dyraniad grant sy’n seiliedig ar gipolwg o’r lefelau cymhwystra dros un flwyddyn".

    A rheswm y llywodraeth am wrthod hwn:

    "Rydym wedi ymgymryd â modelu helaeth ym mharamedrau'r cwantwm cyffredinol presennol o arian, yn fwyaf diweddar cyn cadarnhau dyraniadau ar gyfer y flwyddyn ariannol bresennol a'r blynyddoedd ariannol nesaf. Arweiniodd hyn at weithredu'r dyraniad gorau posibl, fforddiadwy ym marn y Llywodraeth. Fodd bynnag, rydym yn cydnabod bod carfan ehangach o ddysgwyr ar y cyrion a fyddai'n cael budd o gymorth ychwanegol hefyd. Dyna pam, o fis Ebrill 2018 rydym wedi rhoi mwy o hyblygrwydd i ysgolion drwy ehangu'r diffiniad ar gyfer defnyddio'r Grant Datblygu Disgyblion".

    Kirsty Williams
  13. Y Grant Datblygu Disgyblion o ran gwerth am arian a chost cyfle

    Mae Cadeirydd y pwyllgor, Lynne Neagle yn cyflwyno'r adroddiad sy'n gwneud 31 o argymhellion.

    Y cyntaf o'r rheini yw:

    "Dylai Llywodraeth Cymru asesu’n rheolaidd faint o fuddsoddiad sydd ei angen ar gyfer y Grant Datblygu Disgyblion o ran gwerth am arian a chost cyfle. Yn benodol, dylai Llywodraeth Cymru fonitro’n agos ac ar sail barhaus effaith y Grant Datblygu Disgyblion ar y disgyblion y mae’r grant yn eu targedu".

    Lynne Neagle
  14. Dadl: Cyllid wedi'i Dargedu i Wella Canlyniadau Addysgol

    Ymlaen nawr at ddadl gynta'r dydd.

    Mae'n ddadl ar adroddiad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg: Cyllid wedi'i Dargedu i Wella Canlyniadau Addysgol.

    Disgyblion
  15. 'Rydyn ni'n dy golli di'n arw'

    Mae Bethan Sayed yn dweud bod Carl Sargeant "yn ffrind gwirioneddol dda, yn gyfaill mynwesol ac yn rhywun y gallwn i wastad ddibynnu arno.

    "Os wyt ti fyny yna'n gwrando arnon ni, rydyn ni'n iawn mêt, ond fe fyddwn ni wastad yn dy gofio di, ac fe fyddwn ni'n gwneud cyfiawnder gyda dy waddol, ond rydyn ni'n dy golli di'n arw yma heddiw".

    Bethan Sayed
  16. Teyrnged bersonol i Carl Sargeant

    Mae Bethan Sayed Plaid Cymru yn talu teyrnged bersonol i Carl Sargeant flwyddyn ers ei farwolaeth.

    Cafwyd hyd i'r AC Llafur yn farw yn ei gartref ddyddiau wedi iddo gael ei ddiswyddo gan y prif weinidog.

    Y gred yw iddo ladd ei hun.

    Roedd yn wynebu honiadau o aflonyddu rhywiol.

    Bu Carl Sargeant yn weinidog Llywodraeth Cymru am bron i ddegawd
    Image caption: Bu Carl Sargeant yn weinidog Llywodraeth Cymru am bron i ddegawd
  17. Datganiadau 90 Eiliad

    Nawr y Datganiadau 90 Eiliad, lle mae tri aelod yn cael cyfle i godi materion amserol.

  18. 'Dim trafodaethau wedi bod'

    Mae Alun Davies yn ateb, "does dim trafodaethau wedi bod ar y defnydd o hyfforddi peilotiaid o Saudi Arabia yn safle'r Awyrlu yn y Fali".

    "Mae'r defnydd o'r Fali ar gyfer defnydd hyfforddi yn fater i'r Awyrlu a'r Weinyddiaeth Amddffyn" meddai.