a gafodd drwydded deledu?

You need one to watch live TV on any channel or device, and BBC programmes on iPlayer. It’s the law.

darganfyddwch fwy
Nid oes gennyf drwydded deledu

Y diweddaraf yn fyw

Gan Alun Jones a Nia Harri

Mae pob amser yn lleol i'r DU

  1. Hwyl

    A dyna ni am heddiw.

    Fe fydd Senedd Fyw yn ôl bore fory ar gyfer cyfarfod o'r Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau.

    View more on twitter
  2. 'Gwahardd gwleidyddion etholedig'

    Mae Gareth Bennett UKIP yn dweud bod "elfennau o wleidyddion ar y chwith wedi ceisio fy ngwahardd i o'r siambr yma flwyddyn yn ôl, ac mae yna symudiad ar droed i geisio fy ngwahardd eto.

    "Dyw gwahardd gwleidyddion etholedig am ddarlledu barn nad yw pobl ar y chwith yn eu hoffi, ddim yn ymddangos yn gyson i mi gyda chael diddordeb mewn hawliau dynol".

  3. Gresynu at nifer o bethau

    Mae gwelliannau Plaid Cymru yn gresynu at nifer o bethau:

    • "dirwyn grant byw'n annibynnol Cymru i ben ac yn credu na all llywodraeth leol ddarparu lefel gyfatebol o gymorth ariannol oherwydd toriadau Llywodraeth Cymru.
    • "y ffaith bod cyllid ar gyfer gwasanaethau cymorth sy'n goroesi ymosodiadau rhywiol a cham-drin domestig yn parhau i fod yn annigonol.
    • "y canfyddiad bod tlodi yng Nghymru yn dwysáu ac yn credu y dylai mynd i'r afael â thlodi ac anghydraddoldebau dosbarth chwarae rôl allweddol o ran hyrwyddo cydraddoldeb a hawliau dynol.
    • "y twf rhyngwladol mewn symudiadau gwleidyddol sy'n ceisio dirwyn amddiffyniadau hawliau dynol yn ôl ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyhoeddi cynllun ar gyfer cynnal hawliau dynol ar ôl ymadael â'r Undeb Ewropeaidd".
    Leanne Wood
  4. Dyletswydd economaidd-gymdeithasol

    Mae Mark Isherwood yn cyflwyno gwelliant y Ceidwadwyr sydd eisiau ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

    "Yn nodi:

    a) argymhellion allweddol yr adroddiad ynghylch dyletswydd cydraddoldeb y sector cyhoeddus; a

    b) yr argymhelliad yn llythyr y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol a'r Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau i'r Prif Weinidog fod Llywodraeth Cymru yn amlinellu ei safbwynt diweddaraf ar gyflwyno dyletswydd economaidd-gymdeithasol.

    Mark Isherwood
  5. 'Agwedd wedi'i thargedu a chydgysylltiedig tuag at daclo anghydraddoldeb'

    Mae'r Cwnsler Cyffredinol, Jeremy Miles, yn dweud y bydd "gosod ein hamcanion gyda heriau y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yn sicrhau ein bod ni'n cymryd agwedd wedi'i thargedu a chydgysylltiedig tuag at daclo anghydraddoldeb yng Nghymru".

    Jeremy Miles
  6. 'Datguddio gwirioneddau anghyfforddus'

    Ac yn olaf yn y Siambr heddiw dadl ar Adolygiad Blynyddol y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol 2017/18.

    Mae June Milligan, Comisiynydd a Chadeirydd Pwyllgor Cymru, yn dweud bod yr Adolygiad Blynyddol yn "dangos bod ein gwaith yn datguddio gwirioneddau anghyfforddus. Mae ein tystiolaeth yn dangos bod tlodi yng Nghymru’n dwysáu.

    "Mae miloedd o bobl anabl ar hyd a lled Cymru’n byw mewn cartrefi anaddas. Mae trais yn erbyn menywod yn wirionedd i lawer o bobl sy’n byw yng Nghymru heddiw.

    "Yn ein Cynhadledd Flynyddol, clywsom dystiolaeth rymus pobl oedd yn dioddef trosedd casineb o ganlyniad i’w hil neu'u crefydd".

  7. Cytuno ar yr egwyddorion cyffredinol

    ACau yn cytuno i egwyddorion cyffredinol Mesur Rhentu Cartrefi (Ffioedd etc.) (Cymru).

  8. 'Pyderon sylweddol am yr asesiadau effaith sy’n cyd-fynd â’r Mesur'

    Mae Cadeirydd y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol, Mick Antoniw, yn cyflwyno adroddiad y pwyllgor sy'n gwneud 12 o argymhellion.

    Mae gan aelodau'r pwyllgor "bryderon sylweddol am gynnwys, dull gweithredu, a hygyrchedd yr asesiadau effaith sy’n cyd-fynd â’r Mesur".

    Maen nhw hefyd yn "siomedig â datganiad y Gweinidog fod hi a’i thîm wedi gwneud rhagdybiaeth y byddai Aelodau’r Cynulliad a phartïon eraill yn gyfarwydd â lleoliad y porth asesu effaith. Gan fod y Pwyllgor yn gyfrifol am graffu ar bob Mesur a osodir gerbron y Cynulliad, nid ydym yn gyfarwydd â’r porth hwn".

    Mick Antoniw
  9. 'Effaith ar lefelau rhent'

    Mae Cadeirydd y Pwyllgor Cyllid, Llyr Gruffydd, yn cyflwyno adroddiad y pwyllgor - sydd yn argymmell bod Llywodraeth Cymru yn monitro’n agos ac yn adolygu effaith gweithredu’r Mesur ar lefelau rhent ac "yn gwerthuso effaith ariannol y Mesur ar awdurdodau lleol yn fanwl, yn arbennig o ran costau gorfodaeth, i sicrhau eu bod yn cael digon o adnoddau".

    Llyr Gruffydd
  10. 'Pwerau gorfodi i Rhentu Doeth Cymru'

    Mae Cadeirydd y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau, John Griffiths, yn cyflwyno adroddiad y pwyllgor sy'n cefnogi egwyddorion cyffredinol y Mesur.

    Ymhlith argymhellion y pwyllgor mae galwad ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno gwelliannau yng Nghyfnod 2 sy’n rhoi pwerau gorfodi i Rhentu Doeth Cymru ochr yn ochr ag awdurdodau lleol.

    Fe gafodd system drwyddedu i landordiaid - Rhentu Doeth Cymru - ei lansio yn 2015, rhywbeth meddai Llywodraeth Cymru oedd yn ymgais i "wella delwedd" y sector rhentu preifat.

    John Griffiths
  11. Rhent mis a blaendal diogelwch

    Fe fydd y Mesur Rhentu Cartrefi (Ffioedd etc) (Cymru) yn caniatáu asiantiaid a landlordiaid i godi tâl am bethau sydd ond yn gysylltiedig gyda rhent, blaendaliadau diogelwch, blaendaliadau cadw neu pan fo tenant yn torri cytundeb.

    Fe fydd yn cynnwys pwerau i gyfyngu ar lefelau diogelwch a blaendaliadau cadw.

    Mae Gweinidog Tai ac Adfywio, Rebecca Evans, yn dweud y dylai'r mwyafrif o denantiaid ddim ond gael eu gofyn i dalu rhent mis a blaendal diogelwch.

    Rebecca Evans
  12. Dadl: Mesur Rhentu Cartrefi (Ffioedd etc) (Cymru)

    Symudwn ni ymlaen nawr at ddadl gynta'r prynhawn.

    Mae'n ddadl ar egwyddorion cyffredinol y Mesur Rhentu Cartrefi (Ffioedd etc) (Cymru).

    Yn ôl Llywodraeth Cymru "fe fydd y Mesur Rhentu Cartrefi (Ffioedd etc.) (Cymru):

    • yn sicrhau na chodir tâl ar denantiaid am ymweliadau yng nghwmni rhywun, am dderbyn rhestr eiddo, am lofnodi contract, neu am adnewyddu tenantiaeth
    • yn caniatáu i asiantiaid gosod eiddo a landlordiaid godi tâl mewn perthynas â rhent, blaendaliadau sicrwydd, blaendaliadau cadw, neu pan fydd tenant yn torri amodau contract yn unig
    • yn darparu pŵer gwneud rheoliadau i gyfyngu ar lefel y blaendaliadau sicrwydd
    • yn rhoi cap ar flaendaliadau cadw i gadw eiddo cyn llofnodi'r contract rhentu i'r hyn a fydd gyfwerth ag wythnos o rent a chreu darpariaethau i sicrhau y gwneir yr ad-daliad yn brydlon
    • a chreu proses orfodi glir, syml a chadarn ar gyfer achosion o droseddu".
    Tai
  13. Y Mesur Ifori

    Mae ACau yn cymeradwyo cynnig "bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai darpariaethau yn y Mesur Ifori, i’r graddau y bônt o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru, gael eu hystyried gan Lywodraeth y DU".

    Bwriad y Mesur Ifori yw ei gwneud hi'n anghyfreithlon i brynu neu werthu bron i bob ifori yn y DU.

    Ar hyn o bryd mae'n gyfreithlon i brynu neu werthu rhai mathau.

    Yn ôl llywodraeth y DU, y rheolau newydd "fydd y rhai llymaf yn Ewrop - ac ac un o'r rhai mwyaf llym yn y byd" a'u bod yn cael eu cyflwyno fel rhan o gynlluniau'r llywodraeth i wneud mwy i amddiffyn eliffantod y byd.

    Mae llywodraeth y DU yn gobeithio ei gwneud hi'n anghyfreithlon i fasnachu bron pob ifori yn y DU - waeth pa mor hen ydyw
    Image caption: Mae llywodraeth y DU yn gobeithio ei gwneud hi'n anghyfreithlon i fasnachu bron pob ifori yn y DU - waeth pa mor hen ydyw
  14. 'Y rhinweddau y gallai cyn filwyr ddod â nhw i fyd gwaith'

    Mae Alun Davies yn cyhoeddi mesurau newydd y mae e'n dweud all fod o gymorth i gymuned y Lluoedd Arfog.

    Mae'n dweud er mwyn cefnogi'r Llwybr Cyflogaeth ar eu cyfer, "rydyn ni hefyd yn gweithio gyda Busnes yn y Gymuned i ddatblygu pecyn cymorth i gyflogwyr i'w helpu i adnabod y rhinweddau y gallai cyn filwyr ddod â nhw i fyd gwaith".

    Mae e hefyd yn tynnu sylw at y ffaith bod Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru wedi llwyddo i gael cyllid Cronfeydd y Cyfamod i benodi Swyddogion Cyswllt y Lluoedd Arfog i ddarparu cymorth cyson ar gyfer cyn filwyr a'u teuluoedd mewn ardaloedd awdurdodau lleol ledled Cymru, ond y bydd y cyllid hwnnw yn dod i ben yn 2019.

    Ond er mwyn cynnal y momentwm, meddai, a datblygu'r gwaith sy'n mynd rhagddo ar hyn o bryd, "dwi am roi hanner miliwn o bunnoedd o'r flwyddyn nesaf i sicrhau bod cynghorau'n gallu gosod Canllawiau'r Cyfamod a'r gwasanaethau ar seiliau cadarn yn ystod y ddwy flynedd nesaf".

    Alun Davies
  15. Can mlynedd ers diwedd y Rhyfel Byd Cyntaf

    Symudwn ni ymlaen nawr at ddatganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus, Alun Davies: Cofio ein Lluoedd Arfog a Chyflawni ar gyfer Cymuned ein Lluoedd Arfog.

    Fe fydd digwyddiadau ar hyd a lled y wlad i gofio canmlwyddiant diwedd y Rhyfel Byd Cyntaf, pan gollodd dros 700,000 o filwyr o Brydain eu bywydau, gan gynnwys llawer o Gymru.

    Dydd Sul y Cadoediad fe fydd Gwasanaeth Diolchgarwch Cenedlaethol Llywodraeth Cymru yn cael ei gynnal yn Eglwys Gadeiriol Llandaf.

  16. 'Cymaint o drueni'

    Mae Michelle Brown UKIP yn dweud "Mae'n gymaint o drueni i'r bobl sydd angen Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr nad yw datganiad ysgrifennydd y cabinet yn cynnwys mwy o newyddion da na haeriadau bras bod yna welliannau anfesuredig mewn rhai mannau".

    Michelle Brown
  17. 'Pryd y daw hyn i ben?'

    Mae Helen Mary Jones Plaid Cymru yn croesawu penodiad Cyfarwyddwr Gweithredol Gofal Sylfaenol a Chymunedol.

    Er hynny mae'n dweud, "Rydw i'n rhannu pryder Darren Millar ynghylch rhai o'r bobl eraill sy'n dal yna o'r gyfundrefn flaenorol".

    Mae'n ychwanegu, " mae'r mesurau arbennig wedi bod yn eu lle am mor mor hir, maen nhw'n dechrau ymddnagos fel y status quo.. pryd y daw hyn i ben?"

  18. Beirniadu y 'diffyg cynnydd' dros y tair blynedd a hanner ddiwethaf

    Mae'r Ceidwadwr Darren Millar unwaith eto yn beirniadu y "diffyg cynnydd" dros y tair blynedd a hanner ddiwethaf.

    Mae'n ychwanegu, "Rydw i'n dal yn bryderus bod yna bobl o amgylch y bwrdd gweithredol yn rhan o'r tîm gweithredol a oedd yn rhan o fethiannau sylweddol y bwrdd iechyd pan y cafodd ei roi mewn mesurau arbennig".

    Darren Millar