a gafodd drwydded deledu?

You need one to watch live TV on any channel or device, and BBC programmes on iPlayer. It’s the law.

darganfyddwch fwy
Nid oes gennyf drwydded deledu

Crynodeb

  1. CYMRU 4-1 GWERINIAETH IWERDDON - Lawrence, Bale, Ramsey a Connor Roberts gyda'r goliau i Gymru
  2. Gêm agoriadol Cymru yng nghystadleuaeth newydd Cynghrair y Cenhedloedd
  3. Buddugoliaeth yng ngêm gystadleuol gyntaf Ryan Giggs fel rheolwr Cymru

Y diweddaraf yn fyw

Mae pob amser yn lleol i'r DU

Cyfrannu

  1. Diolch a hwyl fawr

    BBC Cymru Fyw

    Waw - dwi'n credu fod pawb angen gorffwys ar ôl y gêm yna!

    Tom Lawrence (6 munud), Gareth Bale (17 munud), Aaron Ramsey (38 munud) a Connor Roberts (55 munud) yn rhoi dechrau anhygoel i Gymru yng nghystadleuaeth newydd Cynghrair y Cenhedloedd.

    Ymlaen at Aarhus lle bydd Cymru'n herio Denmarc nos Sul - fe fyddwn ni nôl, ac fe fyddai'n braf iawn cael eich cwmni.

    C'MON CYMRU!!!

  2. SGOR TERFYNOL: Cymru 4-1 Gweriniaeth Iwerddon

    Cynghrair y Cenhedloedd

    Dyna'r chwiban olaf, a buddugoliaeth wych i Gymru.

    Pwyllo nawr a gorffwys cyn teithio i Aarhus i herio Denmarc nos Sul.

    bale
  3. Anaf?

    Iwan Roberts

    Cyn-ymosodwr Cymru

    "Mae Joe Allen yn edrych fel bod o wedi tynnu llinyn y gar neu rhywbeth - diom yn edrych yn gyffyrddus!"

    Newyddion drwg yn yr amser ychwanegol i Gymru?

  4. Seren y gêm - mae yna anghytuno!

    BBC Camp Lawn

    Mae Iwan Roberts yn credu mai Tom Lawrence yw'r chwaraewr gorau, ond Kath Morgan yn dewis David Brooks.

    I fod yn deg, roedd y penderfyniad yn un hynod anodd heno!

  5. Cymru 4-1 Gweriniaeth Iwerddon

    Eilyddio

    Nawr mae Ben Davies yn gadael, ac mae Paul Dummett yn dychwelyd i'r maes rhyngwladol.

  6. Cymru 4-1 Gweriniaeth Iwerddon

    Cynghrair y Cenhedloedd

    Bron yn bump!

    Tyler Roberts yn dechrau a gorffen symudiad da, a Randolph yn gorfod bod ar ei ore i arbed cynnig ymosodwr Leeds.

  7. Cymru 4-1 Gweriniaeth Iwerddon

    Eilyddio

    Ond Gareth Bale sy'n cael ei dynnu i ffwrdd gan Giggs, gan roi cyfle i'r ymosodwr ifanc Tyler Roberts.

    bale
  8. Anaf i Davies?

    Kath Morgan

    "Mae'n edrych fel bod Ben Davies wedi cael anaf bach, a dwi'n credu bydd e'n gadael cyn hir."

    Mae gan Gymru gêm bwysig arall nos Sul wrth gwrs, felly gobeithio nad yw'r anaf yn un drwg.

  9. Ampadu'n gadael

    Eilyddio

    Mae'r llanc 17 oed wedi cael gêm wych, ond mae'n cael ei dynnu o'r maes am yr 20 munud olaf gyda Matthew Smith o Manchester City'n cymryd ei le.

  10. Cymru 4-1 Gweriniaeth Iwerddon

    Gôl!

    Camgymeriad gan Aaron Ramsey, a gôl i Shaun Williams!

    williams
  11. Cymru 4-0 Gweriniaeth Iwerddon

    Cynghrair y Cenhedloedd

    Mae'r bêl yn y rhwyd eto....ond mae Gareth Bale yn camsefyll.

    Piti mawr wrth i Ampadu ganfod Bale gyda phas ardderchog, ond er i Bale rwydo fydd hi ddim yn cyfri.

  12. Cymru 4-0 Gweriniaeth Iwerddon

    Iwan Roberts

    Cyn-ymosodwr Cymru

    "Mae hyn fel gwylio cath yn chwarae hefo llygoden ...jyst cyn ei lladd hi!"

    Diolch am y darlun bach yna Iwan....

  13. Cymru 4-0 Gweriniaeth Iwerddon

    Gôl!

    CONNOR ROBERTS!!!!!

    BOBL BACH!

    connor
  14. Cymru 3-0 Gweriniaeth Iwerddon

    Cerdyn Melyn

    Ciaran Clark o Weriniaeth Iwerddon sy'n gweld cerdyn am dacl fler a hwyr ar Gareth Bale, ond mae Bale yn holliach.