a gafodd drwydded deledu?

You need one to watch live TV on any channel or device, and BBC programmes on iPlayer. It’s the law.

darganfyddwch fwy
Nid oes gennyf drwydded deledu

Crynodeb

  1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog
  2. Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth: Gwasanaethau Rheilffyrdd a Metro De Cymru
  3. Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Diweddariad ar Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
  4. Datganiad gan Weinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes: Diweddariad ar flaenoriaethau'r Iaith Gymraeg
  5. Datganiad gan Arweinydd y Tŷ a'r Prif Chwip: Diweddariad ar y Rhaglen Swyddi Gwell yn Nes at Adref
  6. Datganiad gan y Gweinidog Tai ac Adfywio: Newidiadau i Gyfradd y Comisiwn ar Gartrefi mewn Parciau

Y diweddaraf yn fyw

Gan Alun Jones a Nia Harri

Mae pob amser yn lleol i'r DU

  1. Hwyl fawr

    A dyna ni am heddiw.

    Fe fydd Senedd Fyw yn ôl bore fory ar gyfer cyfarfod o'r Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu.

    Y Senedd
  2. Gostyngiad graddol i gyfradd y comisiwn ar gartrefi mewn parciau

    Mae Rebecca Evans yn siarad am ei bwriad i ddechrau gostyngiad graddol i gyfradd y comisiwn, i lefel ucha newydd o 5%, yn cael ei gyflawni gyda gostyngiad o 1% dros bum mlynedd.

    Rebecca Evans
  3. Cyfradd y Comisiwn ar Gartrefi mewn Parciau

    Nesaf yn y Siambr datganiad olaf y prynhawn, sydd gan y Gweinidog Tai ac Adfywio, Rebecca Evans: Newidiadau i Gyfradd y Comisiwn ar Gartrefi mewn Parciau.

    Mae Rebecca Evans wedi dweud bod "rhaniad clir a chyson rhwng sylwadau preswylwyr a pherchnogion y parciau gyda'r rhan fwyaf o'r preswylwyr yn cefnogi lleihau neu ddileu'r gyfradd i'w thalu tra bo holl berchnogion y safleoedd am ei gweld yn parhau ar y gyfradd uchaf gyfredol o 10%".

    Cartref mewn parc
  4. 'Gwersi ar sut i reoli grym gwariant llywodraeth'

    Mae Julie James yn siarad am bedwar peilot y mae Llywodraeth Cymru yn eu cyflwyno "sydd ar eu pennau eu hunain ond yn cynrychioli swm bychan o gyllideb gaffael flynyddol Llywodraeth Cymru o £6bn a chyfanswm y gyllideb gyfan o £15bn, ond gallai, rydw i'n credu, ein cyflwyno ni gyda gwersi cyffrous ar sut i reoli grym gwariant llywodraeth yn y dyfodol i greu rhagor o swyddi a gwell swyddi yn agosach at adre".

  5. Y Rhaglen Swyddi Gwell yn Nes at Adref

    Mae'r datganiad nesaf gan Arweinydd y Tŷ a'r Prif Chwip, Julie James: Diweddariad ar y Rhaglen Swyddi Gwell yn Nes at Adref.

    Mae tîm trawslywodraeth wedi bod yn bwrw ymlaen â’r rhaglen Swyddi Gwell yn Nes at Adref er mwyn "cysoni amryw o brosiectau peilot masnachol ag ymyriadau eraill er mwyn helpu i greu swyddi gwerth chweil mewn cymunedau â lefelau uchel o ddiweithdra. Mae hyn yn golygu swyddi lleol i bobl leol gyda chyflog teg ac amodau cyflogaeth da".

  6. 'Cytundeb cyffredin ynghylch cyfeiriad y polisi'

    Mae Neil Hamilton UKIP yn honni bod yna "gytundeb cyffredin o amgylch y siambr ynghylch cyfeiriad polisi y llywodraeth".

    Neil Hamilton
  7. 'Ddim yn strategaeth uchelgeisiol'

    Mae Sian Gwenllian Plaid Cymru yn dweud "dydy gollwng un elfen, sef gwanio hawliau, er mwyn cyllido elfen arall, ddim yn strategaeth uchelgeisiol".

    Mae'n pwysleisio'r angen am hawliau statudol i bobl yng Nghymru i fynnu rhai gwasanaethau yn y Gymraeg.

    Sian Gwenllian
  8. Cwestiynu annibyniaeth Comisiwn y Gymraeg

    Mae'r aelod Ceidwadol Suzy Davies yn cytuno bod y broses o wneud a gosod y Safonau yn "ddrud a biwrocrataidd".

    Er hynny, mae'n cwestiynu'r penderfyniad i greu Comisiwn y Gymraeg, yn hytrach na diwygio swydd Comisiynydd yr Iiath Gymraeg, ac yn gofyn am sicrwydd ynghylch annibyniaeth y comisiwn.

    Suzy Davies
  9. Creu Comisiwn y Gymraeg

    Fel rhan ganolog o’r cynigion mae'n dweud ei bod yn bwriadu creu Comisiwn y Gymraeg.

    Wrth i dymor y Comisiynydd presennol ddod i ben fis Mawrth y flwyddyn nesaf,

    Mae Eluned Morgan yn dweud "er mwyn sicrhau cyfnod pontio priodol rhwng y Comisiynydd presennol a’r gyfundrefn newydd, byddaf yn cychwyn trefn penodiadau cyhoeddus ar gyfer Comisiynydd newydd yn fuan".

    "Bydd y person a benodir yn chwarae rhan allweddol, yn adeiladu ar waith y Comisiynydd presennol ac yn gosod seiliau cadarn i’r Comisiwn newydd".

  10. 'Angen newid cyfeiriad pendant'

    Mae Eluned Morgan yn dweud wrth ACau ei bod hi wedi cael ei tharo gan nifer o bethau ers dod yn gyfrifol am yr iaith Gymraeg.

    Yn gyntaf, meddai "cododd y gwaith o ddatblygu’r Safonau iechyd nifer o gwestiynau anodd ynghylch sgiliau Cymraeg y gweithlu a chapasiti cyrff i ddarparu gwasanaethau Cymraeg".

    Yn ail, meddai "mae’r broses o wneud a gosod y Safonau yn llafurus a chostus a chymhleth – ac mae’r broses o ymchwilio i fethiannau yn hir ac yn or-fiwrocrataidd".

    Ond yn bwysicaf oll, "mae nod uchelgeisiol Cymraeg 2050 o gyrraedd miliwn o siaradwyr yn gofyn am newid cyfeiriad pendant".

    Eluned Morgan
  11. Diweddariad ar flaenoriaethau'r Iaith Gymraeg

    Mae'r aelodau nawr yn gwrando ar ddatganiad gan Weinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes, Eluned Morgan: Diweddariad ar flaenoriaethau'r Iaith Gymraeg.

    Cymraeg
  12. Ystadegau i gefnogi cynnydd?

    Mae Michelle Brown UKIP yn gofyn am ystadegau i gefnogi honiad yr ysgrifennydd iechyd bod cynnydd wedi ei wneud mewn meysydd yn cynnwys rheoli cwynion a chyflawni'r Strategaeth Iechyd Meddwl.

    Michelle Brown
  13. Y dystiolaeth yn 'denau iawn' bod y bwrdd iechyd 'yn ôl ar y trywydd iawn'

    Mae Rhun ap Iorwerth Plaid Cymru yn dweud bod y dystiolaeth yn "denau iawn" bod Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn "dod yn ôl ar y trywydd iawn".

    Mae'n dweud y dylai mwy o gynnydd fod wedi cael ei ddisgwyl wedi tair blynedd mewn mesurau arbennig.

    Rhun ap Iorwerth
  14. 'Methiant Llywodraeth Cymru i ddelio gyda phroblemau'

    Mae'r aelod Ceidwadol Darren Millar yn dweud na fydd y datganiad yn "rhoi cysur i bobl yng ngogledd Cymru" oherwydd nad yw "gwelliannau" yn cael eu "gweld gan gleifion".

    Mae'n galw am fwy o "welliant buan" ac yn beirniadu "methiant Llywodraeth Cymru i ddelio gyda phroblemau yn y bwrdd iechyd".

    Darren Millar
  15. 'Wedi gwylltio gyda chyflymdra'r cynnydd'

    Mae Vaughan Gething yn dweud "bod yna gynnydd wedi ei wneud mewn rhai meysydd allweddol".

    Er hynny, mae'n dweud ei fod yn "bryderus o waelod calon gyda'r dirywiad mewn perfformiad" yn ail-gyfeirio amseroedd aros triniaethau, gofal heb ei drefnu a chynllunio ariannol.

    Mae e hefyd yn dweud ei fod "wedi gwylltio gyda chyflymdra'r cynnydd gan y bwrdd iechyd ar y garreg filltir osodwyd ar gyfer rhan gynta y flwyddyn galendr yma, a'r diffyg parhaus o eglurder ar eu cynlluniau".

    Vaughan Gething
  16. Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

    Nesaf yn y Siambr datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Vaughan Gething: Diweddariad ar Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr.

    Mae'r bwrdd iechyd wedi bod dan fesurau arbennig Llywodraeth Cymru am dair blynedd.

    Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
  17. Taliadau wedi eu hawtomeiddio

    Bydd taliadau i Fetro newydd De Cymru wedi eu hawtomeiddio, gydag oedi o 15 munud yn golygu ad-daliadau awtomatig, medd Ken Skates.

  18. 'Tawelu y sylwebwyr mwyaf beirniadol'

    Mae David Rowlands UKIP yn dweud bod y cynlluniau gafodd eu datgelu gan reolwyr newydd gwasanaethau rheilffordd Cymru a'r Gororau yn cynnwys "rhai addewidion sy'n tynnu dŵr i'r dannedd ddylai dawelu y sylwebwyr mwyaf beirniadol".

    Mae'n mynegi siomedigaeth, er hynny, ynghylch "hepgor cyswllt rheilffordd i Gasnewydd".

    David Rowlands
  19. 'Weithiau rydyn ni yn cyflawni'

    Mae Ysgrifennydd yr Economi Ken Skates yn dweud "Rydw i'n credu ei bod hi'n amser i gydnabod ein bod ni weithiau yn cyflawni".

  20. 'Dioddef am gyhyd'

    Mae Rhun ap Iorwerth - nid "Trina Peowith" (gweler y trydariad islaw) - yn annog Llywodraeth Cymru i fod yn "realistig yn ei disgwyliadau ynghylch pa mor ddiolchgar y dylai pobl fod ynghylch beth sy'n cael ei addo ar ôl dioddef y gwasanaeth y maen nhw wedi ei gael am gyhyd".

    View more on twitter