a gafodd drwydded deledu?

You need one to watch live TV on any channel or device, and BBC programmes on iPlayer. It’s the law.

darganfyddwch fwy
Nid oes gennyf drwydded deledu

Crynodeb

  1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog
  2. Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth: Y Cynllun Gweithredu Economaidd
  3. Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg: Academi Genedlaethol Arweinyddiaeth Addysgol
  4. Datganiad gan Gweinidog Gofal Cymdeithasol a Phlant: Trawsnewid Gofal Cymdeithasol yng Nghymru: Gweithredu Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru)
  5. Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg: Addysg Perthnasoedd a Rhywioldeb
  6. Dadl: Adroddiad Blynyddol Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru 2017-18

Y diweddaraf yn fyw

Gan Alun Jones a Nia Harri

Mae pob amser yn lleol i'r DU

  1. Hwyl

    A dyna ni am heddiw.

    Fe fydd Senedd Fyw yn ôl bore fory ar gyfer cyfarfod o'r Pwyllgor Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau.

    Y Senedd
  2. 'Modd dirmygus, amharchus a hyd yn oed enllibus'

    Mae David Rowlands UKIP yn dweud bod pobl yn "siarad am bobl hŷn yn rhy aml mewn modd dirmygus, amharchus a hyd yn oed enllibus - a dydw i ddim yn siarad am fy nheulu".

  3. 'Angen mwy o flaenoriaeth i'r sector gofal'

    Mae Dai Lloyd Plaid Cymru yn cefnogi'r alwad am Fesur hawliau pobl hŷn.

    Mae e hefyd yn galw am fwy o flaenoriaeth i'r sector gofal.

    Dai Lloyd
  4. Galw am Fesur hawliau pobl hŷn

    Ar ran y Ceidwadwyr mae Janet Finch-Saunders yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno "Mesur hawliau pobl hŷn, i godeiddio yng nghyfraith Cymru yr hawliau hynny sy'n berthnasol i bobl hŷn, er mwyn galluogi pobl hŷn i siarad lle nad yw eu hawliau'n cael eu bodloni".

    Mae hi hefyd yn galw ar Lywodraeth Cymru i gymryd "camau brys i ymdrin â phryderon a godwyd gan Gomisiynydd Pobl Hŷn Cymru na all nifer sylweddol o bobl hŷn yng Nghymru gael mynediad at wasanaethau eiriolaeth annibynnol".

    Janet Finch-Saunders
  5. 'Cenedl lle y gall pawb edrych ymlaen i dyfu'n hen'

    Mae'r Gweinidog Plant, Pobl Hŷn a Gofal Cymdeithasol, Huw Irranca-Davies yn dweud bod Sarah Rochira wedi siarad gyda "llais hyderus a gwybodus ynghylch sut y gallwn ni i gyd weithio gyda'n gilydd i greu cymunedau gwydn a dod yn genedl lle y gall pawb edrych ymlaen i dyfu'n hen".

  6. Angen cydnabod pobl hŷn fel yr ased gwerthfawr

    Yn ôl Sarah Rochira mae "cymaint o waith da ac arferion da i’w gweld yng Nghymru i wella bywydau pobl hŷn, rhywbeth rwyf yn ei amlygu ac yn ei hyrwyddo ar bob cyfle – mae mor bwysig bod yr arferion da hyn yn dod yn arferion safonol yng Nghymru.

    "Ond mae cymaint sydd angen ei wneud o hyd i gydnabod pobl hŷn fel yr ased gwerthfawr yr ydynt i Gymru, i ddiogelu eu hawliau, i’w gwarchod rhag niwed, i gyflawni’r newidiadau maent eu heisiau a’u hangen, ac i sicrhau bod y dyhead sy’n sail i gymaint o’n polisïau a’n deddfwriaeth yng Nghymru’n dod yn realiti ym mywydau pob dydd pobl hŷn".

    Pobl hŷn
  7. Rhybuddio yn erbyn 'gor-gymhlethu plentyndod'

    Mae Michelle Brown UKIP yn mynegi pryder ynghylch y newidiadau i addysg rhyw yng Nghymru.

    Mae'n dweud ei bod wedi "dychryn" gyda'r argymhelliad y dylai plant pump oed gael eu dysgu ynghylch perthnasau a rhywioldeb.

    Mae'n rhybuddio yn erbyn "gor-gymhlethu plentyndod".

  8. 'Dylid derbyn yr holl 11 o argymhellion'

    Mae Llyr Gruffydd yn annog Kirsty Williams i dderbyn yr holl 11 o argymhellion sydd wedi eu gosod ar Lywodraeth Cymru gan y Panel Arbenigol sy'n edrych ar y ddarpariaeth addysg perthnasoedd a rhyw ar hyn o bryd a sut y gall ysgolion gael gwell cefnogaeth i weithredu hwn yn gyson ac i safon uchel.

  9. 'Barod yn ddatblygiadol?'

    Mae'r Ceidwadwrr Darren Millar yn dweud y bydd gan rai pobl "bryderon o hyd ynghylch y posibilrwydd o gyflwyno materion yn y dosbarth i blant pump oed, y bydd rhai ddim yn barod yn ddatblygiadol".

    Mae Kirsty Williams yn dweud "dydyn ni ddim yn edrych ar ddysgu plant ynghylch pynciau nad ydyn nhw'n barod amdanynt yn ddatblygiadol.

    "Mae ganddon ni ar hyn o bryd Cyfnod Sylfaen, sy'n darparu dysgu ar gyfer y plant ieuengaf; yn cynnwys rhan sy'n dysgu ar gyfer Datblygiad Personol a Chymdeithasol, Amrywiaeth Lles a Diwylliannol."

  10. Pwyslais ar bwysigrwydd cynnal cydberthnasau iach a hapus

    Dan y cwricwlwm newydd sy'n cael ei gyflwyno yn 2022 fe fydd 'na fwy o bwyslais ar bwysigrwydd cynnal cydberthnasau iach a hapus.

    Yn dilyn adroddiad gan bwyllgor o arbenigwyr, mae Kirsty Williams yn dweud y bydd Addysg Rhyw a Chydberthnasau yn newid i fod yn Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb.

    Dan y drefn bresennol mae addysg rhyw a chydberthynas yn rhan statudol o'r cwricwlwm sylfaenol yng Nghymru, ond mae gan ysgolion hawl i benderfynu sut i gyflwyno'r pwnc.

    Dan addysg cydberthynas a rhywioldeb bydd disgyblion yn cael dealltwriaeth ehangach o rywioldeb sy'n cynnwys y gymuned LGBTQI+.

    Yn ôl Ms Williams: "Mae'n ffaith bod cydberthynas a rhywioldeb yn siapio'n bywydau yn ogystal â'r byd o'n cwmpas.

    "Maent yn rhan hanfodol o bwy ydym ni a sut rydym ni'n deall ein hunain, ein gilydd a chymdeithas."

    Plant
  11. Addysg Perthnasoedd a Rhywioldeb

    Mae'r datganiad nesaf gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, Kirsty Williams ar Addysg Perthnasoedd a Rhywioldeb.

  12. Ymgynghoriad ar wasanaethau mabwysiadu yn yr Hydref

    Mae Huw Irranca-Davies yn dweud bod ymgynghorion ynghylch maethu, lleoli oedolion a gwasanaethau eiriolaeth yn cael eu lansio yn fuan, ac fe fydd ymgynghoriad ar wasanaethau mabwysiadu yn gynnar yn yr Hydref.

  13. Adlewyrchu’r newid byd yn y maes gofal cymdeithasol

    Mae Llywodraeth Cymru yn dweud bod y ddeddf yn "adeiladu ar lwyddiant rheoleiddio yng Nghymru ac mae’n adlewyrchu’r newid byd yn y maes gofal cymdeithasol. Mae’n gosod ansawdd a gwella wrth galon y gyfundrefn reoleiddio ac yn cadarnhau trefniadau diogelu i’r rheini sydd eu hangen.

    "Bydd rheoleiddio yn mynd ymhellach na chydymffurfiaeth â safonau gofynnol. Bydd yn canolbwyntio mwy ar ansawdd y gwasanaethau a’r effaith maen nhw’n ei chael ar y bobl sy’n eu derbyn".

    Mae'r rheoliadau a’r canllawiau yn berthnasol i’r gwasanaethau canlynol:

    • cartref gofal
    • llety diogel
    • canolfan breswyl i deuluoedd
    • cymorth yn y cartref.
  14. Trawsnewid gofal cymdeithasol

    Mae'r aelodau nawr yn gwrando ar ddatganiad gan y Gweinidog Plant, Pobl Hŷn a Gofal Cymdeithasol, Huw Irranca-Davies: Trawsnewid Gofal Cymdeithasol yng Nghymru: Gweithredu Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru).

    Huw Irranca-Davies
  15. 'Nifer cymharol fach o fenywod mewn swyddi arweinyddiaeth'

    Mae Michelle Brown UKIP yn galw ar yr academi i wynebu "y nifer cymharol fach o fenywod mewn swyddi arweinyddiaeth".

    Mae'n pwysleisio pwysigrwydd craffu i sicrhau bod cost yr academi yn gymesur ac nad yw'n cymryd adnoddau o wasanaethau dysgu".

    Michelle Brown
  16. 'Athrawon angen rhagor o amser ar gyfer datblygiad proffesiynol'

    Mae Llyr Gruffydd Plaid Cymru yn pwysleisio'r angen i athrawon gael rhagor o amser ar gyfer datblygiad proffesiynol i sylweddoli eu potensial.

    Llyr Gruffydd
  17. Yr Academi yn Abertawe

    Mae Kirsty Williams yn dweud y bydd gan yr Academi Genedlaethol Arweinyddiaeth Addysgol, sydd wedi ei sefydlu yn Abertawe, "saith neu wyth" o aelodau staff.

  18. Arian trethdalwyr Cymru

    Mewn perthynas â datblygiad proffesiynol, mae'r Ceidwadwr Darren Millar yn gofyn am sicrwydd y bydd "y pethau hynny sydd ddim yn cwrdd â'r galw yn cael eu diddymu, ac na fyddwn ni'n gweld arian trethdalwyr Cymru yn cael ei wastraffu ar rhai pethau yr ydyn ni wedi gwario arian arnyn nhw yn y gorffennol".

    Darren Millar