a gafodd drwydded deledu?

You need one to watch live TV on any channel or device, and BBC programmes on iPlayer. It’s the law.

darganfyddwch fwy
Nid oes gennyf drwydded deledu

Crynodeb

  1. Abertawe yn herio Stoke i aros yn Uwch Gynghrair Lloegr
  2. Diweddara' o gêm bwysig Southampton v Manchester City
  3. Caerdydd yn dathlu dyrchafiad gyda pharêd o amgylch y brifddinas
  4. I aros fyny mae angen i Abertawe guro Stoke a gobeithio bod Southampton yn colli i Man City, yn ogystal â chau bwlch o 10 yn y gwahaniaeth goliau.

Y diweddaraf yn fyw

Mae pob amser yn lleol i'r DU

Cyfrannu

  1. Dyna ni am heddiw

    BBC Cymru Fyw

    Dyna ni am heddiw.

    Wrth i Gaerdydd ddathlu dyrchafiad i Uwch Gynghrair Lloegr, colli oedd hanes Abertawe, fydd yn chwarae yn y Bencampwriaeth y tymor nesaf.

    Caerdydd ac Abertawe
  2. Adroddiad o gêm Abertawe v Stoke

    BBC Cymru Fyw

    Dyma adroddiad o’r gêm rhwng Abertawe a Stoke, wrth i'r Elyrch ddisgyn o Uwch Gynghrair Lloegr ar ôl saith tymor.

    Fabianski
  3. Tad a mab yn dathlu!

    BBC Cymru Fyw

    Cafodd ein gohebydd Alun Thomas air gyda dau o gefnogwyr Caerdydd, Owen John a'i fab Ellis oedd yn ymuno yn y dathliadau heddiw.

    Video content

    Video caption: Owen John a'i fab Ellis o Gaerdydd
  4. Crynodeb o ddathliadau Caerdydd

    Catrin Heledd

    Chwaraeon BBC Cymru

    Catrin Heledd sy'n crynhoi digwyddiadau'r dydd yng Nghaerdydd.

    Video content

    Video caption: Catrin Heledd sy'n crynhoi digwyddiadau'r dydd yng Nghaerdydd
  5. 'Diolch o waelod calon'

    BBC Cymru Fyw

    Dyma oedd neges Leon Britton i gefnogwyr Abertawe:

    "Diolch o waelod calon am y gefnogaeth ers y diwrnod cyntaf i mi ymuno gyda'r clwb 15 mlynedd yn ôl.

    "Mae llawer o newid wedi bod yn y clwb dros y tair blynedd diwethaf, felly mae hi'n amser i bethau setlo i lawr a gobeithio camu'n ôl i'r Uwch Gynghrair."

    Leon Britton
  6. Southampton yn colli

    Yn y gêm arall heddiw, fe enillodd Man City ac yn y broses sicrhau record o 100 o bwyntiau yn Uwch Gynghrair Lloegr.

    Gabriel Jesus sgoriodd y gôl enillodd y gêm i'r pencampwyr

    Jesus
  7. Tristwch ar y Liberty

    BBC Cymru Fyw

    Roedd tristwch yn amlwg ar wynebau rai o chwaraewyr Abertawe ar ddiwedd y gêm.

    Un fethodd a rheoli ei emosiynau oedd y golwr Łukasz Fabiański.

    Mae llawer o ddyfalu am ddyfodol Fabianski gyda'r cefnogwyr yn canu ei enw ac yn erfyn arno i aros gyda'r Elyrch y tymor nesaf.

    Fabianski
  8. 'Taith anhygoel'

    BBC Cymru Fyw

    Wrth siarad ar ddiwedd y gêm dywedodd Leon Britton fod ei yrfa 15 mlynedd gydag Abertawe wedi bod yn "daith anhygoel"

    "Mae'n anhygoel gweld ble mae'r clwb wedi cyrraedd ers i mi ymuno.

    "Mae'r cyfleusterau yma;n anhygoel i gymharu â'r dyddiau ar y Fetch" meddai.

    Leon Britton
  9. 'Tymor mwyaf rhwystredig'

    BBC Cymru Fyw

    Yn dilyn eu cwymp o Uwch gynghrair Lloegr mae Angel Rangel, oedd yn chwarae ei gêm olaf i'r clwb wedi disgrifio'r tymor fel yr "un mwyaf rhwystredig" ers iddo ymuno gyda'r clwb yn 2007.

    Angel Rangel
  10. Digon o sŵn yng Nghaerdydd

    BBC Cymru Fyw

    Bydd digon o sŵn ar strydoedd Caerdydd y prynhawn 'ma wrth i'r cefnogwyr edrych ymlaen at groesawu eu harwyr.

    Video content

    Video caption: Cefnogwyr ifanc yn mynd i hwyl yr ŵyl yng Nghaerdydd
  11. Mae'r Elyrch wedi suddo

    BBC Cymru Fyw

    Mae taith saith mlynedd Abertawe yn Uwch Gyngharir Lloegr ar ben!

    Carvalhal
  12. Mae hi'n lliwgar yng Nghaerdydd

    BBC Cymru Fyw

    Mae digon o liw tu allan i'r castell wrth i'r dorf gyfarch y chwaraewyr.

    Video content

    Video caption: Digon o liw tu allan i'r castell wrth i'r dorf gyfarch y chwaraewyr
  13. 10 munud i sgorio 10 gôl

    Pêl-droed, BBC Cymru

    Mae gan Abertawe 10 munud i sgorio 10 gôl!!

    Dydi'r rheolwr ddim yn edrych yn ffyddiog iawn!!

    Carvalhal
    Image caption: Carlos Carvalhal yn ffigwr unig ar yr ystlys yn Abertawe
  14. Brenhinoedd y castell

    BBC Cymru Fyw

    Mae Caerdydd a Neil Warnock wedi cyrraedd Castell Caerdydd ble fydd y dathliadau yn parhau.

    Video content

    Video caption: Neil Warnock a thîm Caerdydd yn cyrraedd y Castell
  15. 'Anodd credu hyn'

    BBC Cymru Fyw

    Mae Jac o Ben-y-bont ar Ogwr yn un o'r miloedd sydd wedi teithio i Gaerdydd heddiw i ddathlu dyrchafiad yr Adar Gleision.

    Dywedodd: "Mae hi'n anodd credu eu bod wedi mynd i fyny, doeddwn byth yn meddwl bysa hyn yn digwydd."

    Jac
  16. Clucas yn lle Dyer

    Eilyddio

    Abertawe 1-2 Stoke

    Nathan Dyer i ffwrdd a Sam Clucas ymlaen i'r Elyrch ar ôl 65 munud.