a gafodd drwydded deledu?

You need one to watch live TV on any channel or device, and BBC programmes on iPlayer. It’s the law.

darganfyddwch fwy
Nid oes gennyf drwydded deledu

Crynodeb

  1. Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg
  2. Cyfarfod Llawn yn dechrau am 1.30pm gyda chwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid
  3. Cwestiynau i Arweinydd y Tŷ
  4. Cwestiynau i Gomisiwn y Cynulliad
  5. Dadl ar bolisi Urddas a Pharch y Cynulliad
  6. Dadl ar Gynnig Deddfwriaethol gan Aelod – Mesur cynllunio gwefru cerbydau trydan
  7. Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv) – Canser y coluddyn
  8. Dadl Plaid Cymru – Tlodi plant
  9. Dadl Fer: Rhent sefydlog - pam mae angen mesurau rheoli rhent i sicrhau bod rhentwyr preifat yn cael bargen deg

Y diweddaraf yn fyw

Gan Alun Jones a Nia Harri

Mae pob amser yn lleol i'r DU

  1. 'Sicrhau bod bod y sector rhenti preifat wedi ei reoli a'i reoleiddio'n dda'

    Mae'r Gweinidog Tai ac Adfywio, Rebecca Evans, yn dweud bod Llywodraeth Cymru "wedi rhoi pwyslais mawr ar sicrhau bod y sector rhenti preifat wedi ei reoli a'i reoleiddio'n dda".

    Rebecca Evans
  2. Mesurau rheoli rhent yn 'helpu i ddod â sefydlogrwydd a chyfiawnder'

    Mae Jenny Rathbone yn dweud bod mesurau rheoli rhent yn helpu i ddod â sefydlogrwydd a chyfiawnder i Genhedlaeth Rhent mewn prifddinasoedd ar draws y byd.

    Mae'n dweud mai "mesurau rheoli rhent yw dim ond y dechrau o'r hyn yr ydyn ni ei angen yng Nghymru. Rydyn ni angen marchnad dai sy'n gweithio i bobl go iawn a landlordiaid onest".

  3. Dadl Fer: Bargen deg i rentwyr preifat

    Ac yn olaf yn y Siambr heddiw Dadl Fer gan Jenny Rathbone.

    A'r pwnc: Rhent sefydlog - pam mae angen mesurau rheoli rhent i sicrhau bod rhentwyr preifat yn cael bargen deg.

    Jenny Rathbone
  4. Cymeradwyo polisi Urddas a Pharch y Cynulliad

    Mae ACau yn cymeradwyo polisi Urddas a Pharch Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

    Roedd 52 o blaid a dau yn ymatal, neb yn erbyn.

    pleidlais
  5. 'Cyflogaeth y ffordd orau allan o dlodi'

    Mae'r Gweinidog Plant, Pobl Hŷn a Gofal Cymdeithasol, Huw Irranca-Davies, yn dweud bod angen "nodi gyda phryder bod dadansoddiad diweddaraf y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yn dangos y bydd diwygiadau treth a lles Llywodraeth y DU yn gwthio 50,000 o blant ychwanegol i dlodi erbyn 2021/22."

    Mae'n cyfeirio at ffocws Llywodraeth Cymru ar gyflogaeth fel "y llwybr gorau allan o dlodi a’r camau gweithredu uchelgeisiol a nodwyd yn y Cynllun Gweithredu ar yr Economi a’r Cynllun Cyflogadwyedd".

    Mae e hefyd yn pwysleisio’r "buddsoddiad parhaus yn Dechrau’n Deg, Teuluoedd yn Gyntaf, y Grant Datblygu Disgyblion a Rhaglen Plant Iach Cymru er mwyn sicrhau bod pob plentyn yn cael y dechrau gorau posibl yn eu bywydau".

    Huw Irranca-Davies
  6. Dim bellach yn darged i ddileu tlodi plant erbyn 2020

    Mae David Rowlands UKIP yn atgoffa ACau bod Llywodraeth Lafur Cymru wedi addo dileu tlodi plant erbyn 2020 cyn cyfaddef na ellir cyflawni'r targed.

    David Rowlands
  7. 'Lefelau tlodi plant yng Nghymru yn uwch na lefel y DU'

    Mae'r Ceidwadwr Mark Isherwood yn dweud bod "lefelau tlodi plant yng Nghymru yn uwch na lefel y DU gyda chyfraddau'n codi cyn y dirwasgiad diwethaf".

    Mark Isherwood
  8. 'Sgandal tlodi'

    Mae Bethan Sayed Plaid Cymru yn dweud bod "tlodi plant yn bla ar ein gwlad.

    "Dydw i ddim yn mynd i fod yn anonest am hyn. Nac ychwaith yn mynd i geisio camarwain unrhyw un ynghylch ei achos neu ei effeithiau.

    "Dydw i ddim yn cael llawenydd i agor y ddadl hon sy'n trafod yr un sgandal o dlodi sy'n bodoli yng Nghymru ac sydd wedi gwaethygu yn y degawd diwethaf".

    Bethan Sayed
  9. Llywodraeth y DU yn 'niweidio' gwaith taclo tlodi plant

    Mae ymdrechion i daclo tlodi plant ac incymau isel yng Nghymru'n cael eu "niweidio" gan newidiadau Llywodraeth y DU i fudd-daliadau a threthi, yn ôl adroddiad.

    Yn ôl amcangyfrifon yn yr adroddiad, gallai 50,000 yn fwy o blant yng Nghymru fod yn byw mewn tlodi ymhen tair blynedd.

    Fe wnaeth y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (EHRC) edrych ar effaith bosib y newidiadau ers 2010.

  10. Dadl ar dlodi plant

    Nesaf yn y Siambr dadl gan Blaid Cymru ar dlodi plant.

    Mae'r blaid yn cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

    1. Yn nodi'r cynnydd diweddar mewn tlodi plant.

    2. Yn nodi gwaith ymchwil ar gyfer Achub y Plant Cymru a ganfu, erbyn iddynt droi’n bump oed, fod “tua thraean o’r plant sy’n byw mewn tlodi (30-35 y cant) eisoes yn colli tir mewn amrywiaeth o ddeilliannau gwybyddol (h.y. geirfa, datrys problemau, deheurwydd a chydsymud) o’i gymharu ag un o bob pump o’r rhai sy’n dod o deuluoedd mwy cyfoethog (20-21 y cant).

    3. Yn credu bod y cyfrifoldeb dros y cynnydd mewn tlodi plant a dros fynd i'r afael â thlodi plant, yn nwylo Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru.

    4. Yn gresynu at y ffaith bod Llywodraeth Cymru wedi dirwyn y rhaglen Cymunedau yn Gyntaf i ben heb werthuso ei heffeithiolrwydd na darparu cynllun i gymryd ei lle.

    5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau mynediad cyfartal at addysg plentyndod cynnar o ansawdd uchel a gofal i bob plentyn yng Nghymru, gyda ffocws penodol ar ddarparu cymorth ychwanegol i'r holl blant sy'n byw mewn tlodi, fel yr argymhellwyd gan Achub y Plant Cymru.

    6. Yn galw ymhellach ar Lywodraeth Cymru i gymryd yr holl gamau o fewn ei phwerau i fynd i'r afael â thlodi plant fel rhan o'r cynllun newydd ar gyfer dileu tlodi plant, sy'n cynnwys targedau SMART yn hytrach na datganiadau amwys.

    7. Yn credu na all cynllun o'r fath lwyddo heb reolaeth weinyddol dros nawdd cymdeithasol ac y dylai sicrhau'r pwerau hyn fod un o brif amcanion strategol y cynllun newydd.

    Tlodi Plant
  11. Pasio cynnig ar ganser y coluddyn

    Mae ACau yn unfrydol yn pasio cynnig ar ganser y coluddyn.

  12. 'Wedi ymrwymo'n llwyr i wella canlyniadau canser'

    Mae'r Ysgrifennydd Iechyd Vaughan Gething yn dweud bod Llywodraeth Cymru yn cefnogi'r cynnig heddiw.

    Mae'n dweud bod y llywodraeth "wedi'i hymrwymo'n llwyr i wella canlyniadau canser".

    Vaughan Gething
  13. Cleifion 'ddim yn cael eu profi' am ennyn canser y coluddyn

    Mae Mandy Jones UKIP yn ddagreuol wrth dalu teyrnged emosiynol i Sam Gould, y mae ei deulu yn yr oriel gyhoeddus yn y Siambr heddiw.

    Mae'n cyfeirio at feirniadaeth gan elusen nad yw cleifion canser y coluddyn yng Nghymru yn cael eu profi am gyflwr geneteg wrth gael diagnosis sydd i'r gwrthwyneb i ganllawiau swyddogol.

    Mae gan ddioddefwyr syndrom Lynch hyd at 80% o beryg o ddatblygu canser y coluddyn yn ogystal â mathau eraill o ganser.

    Mae Bowel Cancer UK wedi dweud eu bod yn gallu newid opsiynau triniaeth i bobl sydd wedi eu heffeithio os ydyn nhw'n gwybod, a rhoi gwybod i aelodau agos o'r teulu allai hefyd fod wedi eu heffeithio.

    Mandy Jones
  14. 900 yn marw o'r afiechyd yng Nghymru bob blwyddyn

    Mae Dr Dai Lloyd - AC Plaid Cymru a Meddyg Teulu - yn rhestru rhai symptomau yn cynnwys gwaedu rhefrol, blinder eithafol, colli pwysau anesboniadwy, a phoen neu anesmwythder yn y bol.

    Bob blwyddyn mae 2,200 o bobl yng Nghymru yn cael diagnosis o ganser y coluddyn ac mae 900 yn marw o'r afiechyd.

    Mae mwy na 4,000 o gleifion yng Nghymru ar y rhestr aros am golonosgopïau bob mis
    Image caption: Mae mwy na 4,000 o gleifion yng Nghymru ar y rhestr aros am golonosgopïau bob mis
  15. Pwysigrwydd cael diagnosis cynnar

    Mae Hefin David yn tanlinellu achos Sam Gould, ymgyrchydd UKIP fu farw haf y llynedd yn 33 oed ond a oedd wedi gwneud fideo ynghylch pwysigrwydd cael diagnosis cynnar.

    Fe ddywedodd Sam Gould ar y pryd: "Rydyn ni i gyd yn teimlo cywilydd i siarad am gachu a mynd i'r tŷ bach ond dyw eich meddyg teulu ddim yn teimlo'n chwithig am y peth ac yn delio gyda hyn bob dydd".

    Mae Hefin David hefyd yn talu terynged i AC Plaid Cymru Steffan Lewis, sydd ar hyn o bryd yn cael triniaeth am ganser, ac ei daid e ei hun, fu farw pan yr oedd e'n ddeg oed.

    Bu Sam Gould yn ymgeisydd ar ran UKIP yng Nghaerffili
    Image caption: Bu Sam Gould yn ymgeisydd ar ran UKIP yng Nghaerffili
  16. Dadl ar ganser y coluddyn

    Symudwn ni ymlaen nawr at ddadl Aelodau.

    A'r pwnc: Canser y coluddyn.

    Mae Hefin David (Caerffili)

    Angela Burns (Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro)

    Mark Isherwood (Gogledd Cymru)

    Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)

    Dawn Bowden (Merthyr Tudful a Rhymni)

    Mandy Jones (Gogledd Cymru) yn cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

    1. Yn croesawu adroddiad diweddar gan Bowel Cancer UK a Beating Bowel Cancer sy'n tynnu sylw at ddiagnosis cynnar a'i uchelgais o wella cyfraddau goroesi pobl y mae canser y coluddyn yn effeithio arnynt.

    2. Yn cydnabod cyfraniad dewr cleifion canser y coluddyn yng Nghymru o ran codi ymwybyddiaeth o'r clefyd a gweithwyr gofal iechyd proffesiynol o ran gwella canlyniadau yn sgil galw cynyddol am ddiagnosis, o fewn cyfyngiadau'r gwasanaeth presennol.

    3. Yn cydnabod mai canser y coluddyn yw'r canser sy'n lladd yr ail nifer fwyaf o bobl yng Nghymru ac yn cydnabod yr effaith a gaiff diagnosis cynnar ar gyfraddau goroesi a phwysigrwydd annog y cyhoedd i fanteisio ar gyfleoedd i sgrinio eu coluddion gan bod y niferoedd sy'n cael eu sgrinio wedi gostwng 1 y cant yn y 12 mis diwethaf.

    4. Yn croesawu cyflwyno prawf imiwnogemegol ysgarthion (FIT) symlach a mwy cywir fel rhan o'r rhaglen profi'r coluddyn a'r potensial i wella cyfraddau goroesi canser y coluddyn.

    5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddarparu rhaglen sgrinio canser y coluddyn y gall gyrraedd ei photensial llawn ymdrin â materion o amgylch:

    a) y trothwy arfaethedig ar gyfer prawf imiwnogemegol ysgarthion i'w gyflwyno yn 2019;

    b) heriau sy'n bodoli o fewn gwasanaethau endosgopi a phatholeg i sicrhau y gellir cyflwyno prawf imiwnogemegol ysgarthion yn y ffordd orau bosibl:

    c) yr angen i ostwng yr oedran sgrinio cymwys o 60 i 50.

    Canser y coluddyn
  17. 'Ddim wedi'i darbwyllo mai'r ddeddfwriaeth yw'r ffordd fwya addas ymlaen'

    Mae'r Ysgrifennydd Ynni, Lesley Griffiths, yn dweud nad yw hi "wedi'i darbwyllo" mai'r Cynnig Deddfwriaethol gan Aelod yw'r "ffordd fwya addas ymlaen".

    Mae'n dweud bod dadgarboneiddio "eisioes wedi ei osod yn y cynllun gweithredu economaidd".

    Mae'n amlinellu ffyrdd y mae hi'n credu y mae Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod y system gynlunio yn "alluogwr yn hytrach na rhwystr o ran cyflwyno cerbydau trydan".

    Lesley Griffiths
  18. 'Cymru mor bell ar ôl gweddill y DG'

    Mae Rhun ap Iorwerth yn dweud y byddai’r Mesur hwn yn rhoi cyfle "i Gymru ddechrau cystadlu o ran seilwaith i gerbydau trydan.

    "Rydym mor bell ar ôl gweddill y DG achos diffyg ymrwymiad Llywodraeth Cymru i weld y dechnoleg yn cael ei mabwysiadau yn gyflymach".

    Rhun ap Iorwerth
  19. Pwyntiau gwefru i geir trydan yn 'allweddol' i'r economi

    Mae gosod pwyntiau gwefru cyflym i geir trydan yn "allweddol" i'r economi, gan fod rhwydwaith Cymru "ar ei hôl hi" o'i gymharu â gweddill y DU.

    Dyna ddywedodd sefydliad sy'n hyrwyddo'r defnydd o geir trydan, gan ychwanegu bod buddsoddiad o £2m gan Lywodraeth Cymru am ragor o bwyntiau gwefru yn "ddechrau da" ond bod angen mwy.

    Mae'r twf mewn gwerthiant o geir trydan a hybrid yn uwch yng Nghymru na gweddill y DU.