a gafodd drwydded deledu?

You need one to watch live TV on any channel or device, and BBC programmes on iPlayer. It’s the law.

darganfyddwch fwy
Nid oes gennyf drwydded deledu

Crynodeb

  1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog
  2. Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar Fil yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael)
  3. Datganiad gan Arweinydd y Tŷ: Diwrnod Rhyngwladol yn erbyn Homoffobia, Deuffobia a Thrawsffobia
  4. Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid: Treth Tir Gwag
  5. Datganiad gan Arweinydd y Tŷ: Y Diweddariad ar Gysylltedd Digidol yng Nghymru
  6. Dadl: Rôl y System Gynllunio wrth Greu Lleoedd

Y diweddaraf yn fyw

Gan Alun Jones a Sarah Down-Roberts

Mae pob amser yn lleol i'r DU

  1. Hwyl fawr

    A dyna ni o'r Siambr am heddiw.

    Bore fory bydd Senedd Fyw yn dilyn y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg.

    Senedd
  2. Cymeradwyo Cydsyniad Deddfwriaethol ar Fesur yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael)

    ACau yn cymeradwyo y Cydsyniad Deddfwriaethol ar Fesur yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael).

    Roedd 46 AC o blaid a 9 yn erbyn.

    y bleidlais
  3. 'Angen ystyried yr effaith ar y Gymraeg'

    Sian Gwenllian, ar ran Plaid Cymru, yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddiwygio nodyn cyngor technegol 20 ar fyrder er mwyn ei gwneud yn glir bod angen cynnal asesiadau o effaith ceisiadau unigol ar y Gymraeg mewn amgylchiadau penodol.

    Mae hefyd yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod y Fframwaith Datblygu Cenedlaethol yn cynnwys datganiad clir ynghylch pwysigrwydd a pherthnasedd y Gymraeg wrth gynllunio sut i ddefnyddio tir.

    Ychwanega bod angen i Lywodraeth Cymru greu arolygiaeth gynllunio ar wahân i Gymru, er mwyn i’r arolygiaeth feithrin arbenigedd mewn system gynllunio Cymru’n unig.

    Sian Gwenllian
  4. 'Angen penderfyniadau mwy holistig'

    Mae'r Ceidwadawr David Melding yn dweud bod angen addasu'r system gynllunio gwlad a thref i wneud penderfyniadau mwy holistig ar yr amgylchedd adeiledig sy'n gwneud y gorau o nodau llesiant ac yn cynyddu'r cyflenwad o dir ar gyfer tai.

    Mae e'n galw am fframwaith genedlaethol gadarn ar greu lleoedd i roi canllawiau i awdurdodau cynllunio ac eraill i greu lleoedd a sicrhau eu bod yn rhai da.

  5. Rôl y System Gynllunio wrth Greu Lleoedd

    Yr eitem olaf heddiw yw dadl ar "Rôl y System Gynllunio wrth Greu Lleoedd".

    Mae Llywodraeth Cymru yn cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

    1. Yn cydnabod bod datblygiadau a lleoedd o ansawdd a gynlluniwyd yn dda yn hanfodol i sicrhau iechyd a llesiant hirdymor pobl Cymru.

    2. Yn credu bod y system cynllunio gwlad a thref mewn lle da i wneud penderfyniadau holistig ar yr amgylchedd adeiledig sy’n sicrhau bod y nodau llesiant yn cael yr effaith orau bosibl.

    3. Yn cydnabod bod cael polisïau cenedlaethol cadarn ar gyfer creu lleoedd ym Mholisi Cynllunio Cymru a’r Fframwaith Datblygu Cenedlaethol yn dangos i awdurdodau cynllunio ac eraill sut y mae arwain y gwaith o greu lleoedd a sicrhau eu bod yn rhai da.

    4. Yn cydnabod y rôl y mae gweithwyr proffesiynol ym maes yr amgylchedd adeiledig yn ei chwarae yn y gwaith o greu lleoedd ac yn galw ar awdurdodau lleol i sicrhau bod adrannau cynllunio yn cael yr adnoddau i’w galluogi i fod yn effeithiol.

    View more on twitter
  6. 'Datblygiadau digidol yn well na'r disgwyl'

    Arweinydd y Tŷ Julie James yn dweud wrth ACau "bod 42.5 y cant wedi elwa hyd yma ar raglen Superfast Cymru a'n bod yn debygol o gwrdd â'r targed o 50 y cant yn gynt na'r disgwyl."

    Mae'n dweud ei fod "yn galonogol ond hefyd yn rhwystredig.

    "Mae'n galonogol gan fod cyfradd y twf yn fwy na'r hyn a ddisgwylir ond mae'n rhwystredig gan bod, yn amlwg, lle i wella."

  7. Cysylltedd Digidol

    Datganiad gan Arweinydd y Tŷ Julie James sydd nesaf: Y Diweddariad ar Gysylltedd Digidol yng Nghymru

    Digidol
  8. 'Cynlluniau ar y gweill'

    Mark Drakeford yn dweud wrth ACau y bydd "erbyn yr hydref yn gallu cyflwyno cais swyddogol i Ysgrifennydd Cyllid y Trysorlys, ac erbyn gwanwyn y flwyddyn nesaf bydd deddfwriaeth yn cael ei chyflwyno ger bron y cynulliad a llywodraeth y DU i gael cytundeb ar drosglwyddo'r pwerau."

  9. Treth Tir Gwag

    Mae'r datganiad nesaf gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid Mark Drakeford ar Dreth Tir Gwag

    Bydd tirfeddianwyr sydd â safleoedd gwag yn gorfod talu treth ar dir gwag dan gynlluniau gan Lywodraeth Cymru.

    Yn ôl gweinidogion, bydd yn annog cwmnïau i adeiladu ac yn atal tir rhag bod yn segur.

    Dim ond tir lle mae yna eisoes ganiatâd cynllunio i adeiladu, neu dir sy'n rhan o gynllun datblygu lleol fyddai'n cael ei drethu.

    Mae rhai beirniaid wedi cyhuddo busnesau o 'fancio' tir - ei gadw tan fod ei werth yn cynyddu, yn hytrach nag adeiladu arno.

    Ond mae adeiladwyr tai wedi codi pryderon am y dreth, oedd yn un o bedair oedd yn cael eu hystyried gan Lywodraeth Cymru wrth ddefnyddio pwerau newydd sydd wedi eu datganoli.

    Mae oddeutu 7,000 o gartrefi newydd yn cael eu hadeiladu yng Nghymru bob blwyddyn ond mae angen 12,000 yn fwy o dai i gwrdd â'r gofyn.

    ty gwag
  10. Diweddaru 'Parchu eraill'

    Julie James yn dweud wrth ACau bod Llywodraeth Cymru yn diweddaru eu canllaw 'Parchu eraill' a gafodd ei gyhoeddi yn 2011.

    Dywedodd: "Mi fydd y canllaw newydd yn cael ei gyhoeddi ar gyfer ymgynghori yn ddiweddarach yn y flwyddyn ac mi fydd yn cynnwys canllaw ar achosion o fwlio cysylltiedig â materion LGBT.

    "Ry'n yn gweithio'n agos gyda swyddogion addysg, partneriaid eraill a phobl ifanc a phlant er mwyn sicrhau bod y canllaw newydd yn cael yr effaith fwyaf posib."

    Julie James
  11. Diwrnod Rhyngwladol yn erbyn Homoffobia, Deuffobia a Thrawsffobia

    Mae datganiad cyntaf y dydd gan Arweinydd y Tŷ Julie James: Diwrnod Rhyngwladol yn erbyn Homoffobia, Deuffobia a Thrawsffobia.

    Mae degau o filoedd o ddefnyddwyr y cyfrwng cymdeithasol Twitter yn nodi 17 Mai drwy ddefnyddio'r hashnod #IDAHOT (International Day against Homophobia, Biphobia and Transphobia) er mwyn rhannu negeseuon o gadernid a chefnogaeth.

    Ers 2004 mae'r Diwrnod Rhyngwladol wedi ei nodi er mwyn tynnu sylw arweinwyr, mudiadau cymdeithasol, y cyhoedd a'r cyfryngau at y trais a'r gwahaniaethu mae Pobl Lesbiaidd, Hoyw, Ddeurywiol a Thrawsrywiol yn eu dioddef yn rhyngwladol.

    lgbt
  12. Gohiriwyd y bleidlais

    Gohiriwyd y bleidlais ar gydsyniad yr Aelodau i Fesur yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) tan y Cyfnod Pleidleisio heddiw, tua 19.15

  13. 'Taflu bant eich arf cryfaf'

    Simon Thomas o Blaid Cymru yn dweud "ry'ch wedi taflu eich arf cryfaf wrth herio yr hyn a oedd yn digwydd yn San Steffan.

    "Eich arf cryfaf oedd amser.

    "Mae Llywodraeth San Steffan yn wynebu brwydr. Maent yn ei chael hi'n anodd i ddod allan o gwdyn papur ar hyn o bryd."

  14. 'Wedi ymuno â chlwb dethol'

    Adam Price o Blaid Cymru yn dweud: "Ry'n wedi ymuno â chlwb dethol o lywodraethau cenedlaethol sydd wedi gwirfoddoli i ildio eu hawdurdod eu hunain.

    Mae'n dweud: "Dyma baratoi llwybr cyfreithiol, mecanwaith lle gall eithriad ddod yn rheol os yw gwleidyddiaeth San Steffan yn gorchymyn hynny."

    Adam Price
  15. UKIP: 'Dyfnhau holl broses datganoli'

    Neil Hamilton arweinydd UKIP yn dweud "Rwy'n credu bod Llywodraeth Cymru wedi bod â rhan flaenllaw yn y trafodaethau.

    "Ac mae'r cyfan wedi dyfnhau holl broses datganoli."

  16. 'Ymunwch â ni i amddiffyn Cymru'

    Arweinydd Plaid Cymru Leanne Wood yn dweud "heno byddwn yn gweld Llywodraeth Lafur yn pleidleisio gyda'r Ceidwadwyr ac UKIP i gefnogi Mesur Ymadael San Steffan.

    "Mesur sydd wedi'i gynllunio i roi pwerau yn yn ôl i San Steffan - mae mor syml â hynny."

    Mae'n galw ar bob aelod i "Ymuno â ni i amddiffyn Cymru. Ymunwch â ni i sefyll lan dros ddatganoli."

    Bathodynnau
  17. 'Y cytundeb yn parchu datganoli'

    Y Ceidwadwr David Melding yn dweud "mae'r holl broses o drafod anodd yn glod" i lywodraethau y DU a Chymru.

    "Dyna a ddisgwyliwn mewn meysydd cyfansoddiadol anodd - yr hyn nad oedd llawer ohonom am i ddigwydd."

    Mae'n dweud bod y cytundeb yn parchu datganoli ac mae'n beirniadu "cenedlaetholdeb gul" Plaid Cymru a'r SNP.

    Mae'n dweud: "Mae'n eglur i mi bod Llywodraeth Cymru wedi sicrhau consesiwn pwysig a chyfansoddiadol gan lywodraeth y DU - consesiwn sy'n golygu bod cyfraith yr UE yn cael ei chadw nes bod cytundeb ehangach yn cael ei ffurfio ar gyfer y DU."

    David Melding
  18. 'Cynnydd sylweddol mewn rhai meysydd'

    Cadeirydd y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol David Rees yn dweud "Mae'n deg dweud bod cynnydd sylweddol wedi'i wneud mewn rhai meysydd.

    "Ond mae yr un mor deg dweud nad yw pob un o'n hamcanion wedi'u cyflawni'n llawn mewn rhai meysydd."

    David Rees
  19. 'Wedi sicrhau cytundeb llwyddiannus'

    Mark Drakeford yn dweud: "Dwi wedi clywed llawer o feirniadaeth na sy'n seiliedig ar wybodaeth gadarn am y fformwleiddiad 'annormal' yn y cytundeb.

    "Ond mae'r ymrwymiad "'annormal' i ddeddfu heb gydsyniad yn Neddf Llywodraeth Cymru - deddf y mae'r Cynulliad wedi cydsynio iddi."

    Mr Drakeford yn gorffen drwy ddweud : "...Ry'n wedi amddiffyn ein setliad datganoli.

    "Ry'n wedi darparu cytundeb llwyddiannus i'r Cynulliad ac i Gymru.

    "Rwy'n falch o gael gofyn i'r Cynulliad i gefnogi y Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol."

  20. Ydi Plaid Cymru yn deall datganoli?

    Mark Drakeford yn tynnu sylw at lythyr a anfonwyd gan Nicola Sturgeon at y Prif Weinidog Theresa May sy'n nodi "yr ydym wedi gwneud cam sylweddol ymlaen".

    Adam Price o Blaid Cymru yn dweud bod Llafur Yr Alban a Jeremy Corbyn yn credu bod yna drafferth gyda chytundeb Mesur Ymadael y DU. "Pam eich bod chi'n iawn a nhw'n anghywir?" mae'n gofyn.

    Mark Drakeford yn ymateb, "Beth yw e am ddatganoli nad yw Plaid Cymru yn ei ddeall?"

    Carwyn Jones a Nicola Sturgeon yn cynnal trafodaethau yn Downing Street
    Image caption: Carwyn Jones a Nicola Sturgeon yn cynnal trafodaethau yn Downing Street