a gafodd drwydded deledu?

You need one to watch live TV on any channel or device, and BBC programmes on iPlayer. It’s the law.

darganfyddwch fwy
Nid oes gennyf drwydded deledu

Crynodeb

  1. Sgôr terfynol: Gleision Caerdydd 31-30 Caerloyw
  2. Ceisiau Tomos Williams, Garyn Smith a Blaine Scully, gôl gosb i Anscombe a 13 pwynt i Jarrod Evans i'r Gleision
  3. Ceisiau i Trinder, Atkinson a Hanson a 15 pwynt o droed Twelvetrees i Gaerloyw
  4. Ffeinal Cwpan Her Ewrop yn Stadiwm San Mames, Bilbao
  5. Y Gleision yn ennill y gystadleuaeth am yr ail waith

Y diweddaraf yn fyw

Mae pob amser yn lleol i'r DU

Cyfrannu

  1. Llongyfarchiadau i'r Gleision!

    Am gêm, am ail hanner, am ddiweddglo, a'r canlyniad perffaith i ddod â chyfnod Danny Wilson wrth y llyw i ben.

    Os oeddech chi ddim yn gallu ei dilyn gyda ni heno, mae'r adroddiad i'w gweld yma.

    Diolch am ymuno â ni ar ein llif byw, a llongyfarchiadau enfawr i'r Gleision -pencampwyr Cwpan Her Ewrop!

    Gleision
  2. A dyma'r gic oedd yn gyfrifol!

    Gwych gan Gareth Anscombe i roi'r gic flaenorol allan o'i feddwl a chanolbwyntio ar fod yn gywir gyda'i ail ymdrech!

    Anscombe
  3. 'Diweddglo perffaith i Wilson'

    Cyflwynydd Clwb Rygbi ar Twitter

    Twitter

    Mae'n rhaid bod y geiriau hanner amser gan Danny Wilson wedi creu argraff ar y chwaraewyr!

    25 pwynt yn yr ail hanner i'r Gleision, ac yn ei gêm olaf gyda'r rhanbarth mae'n cipio Cwpan Her Ewrop!

    View more on twitter
  4. Y chwiban olaf! Y Gleision wedi ennill!

    Diweddglo anhygoel, ac mae'r Gleision wedi ennill!

    O fod yn colli o 14 pwynt ar hanner amser, roedd hi'n ail hanner gwych gan y Cymry i ennill o bwynt yn unig!

    Llongyfarchiadau i'r Gleision!

    Gleision
  5. Gôl gosb i'r Gleision! Gleision 31-30 Caerloyw

    Caerloyw yn troseddu ac mae cyfle arall i Anscombe!

    Mae'n gywir y tro yma, ac mae'r Gleision ar y blaen gyda munud yn unig yn weddill!

  6. Cais i'r Gleision! Gleision 28-30 Caerloyw

    Blaine Scully sy'n croesi yn y gornel, er gwaethaf yr amddiffynwyr yn rhuthro draw ato.

    Ond mae hi'n gic anodd, a gyda Jarrod Evans wedi mynd oddi ar y cae, Gareth Anscombe sy'n cicio, ac nid yw'n llwyddo gyda'r gic allweddol.

    Tair munud sy'n weddill...

    Cais
  7. Cerdyn melyn i Gaerloyw: Gleision 23-30 Caerloyw

    Y Gleision sy'n pwyso wrth iddyn nhw chwilio am y cais allai ei gwneud hi'n gyfartal gydag ychydig funudau'n weddill, ond mae amddiffyn Caerloyw yn aros yn gadarn.

    Ond bydd y tîm o Loegr yn gorffen y gêm gyda 14 dyn, wedi i Lewis Ludlow weld cerdyn melyn.

    All y Gleision gymryd mantais?

    Caerloyw
  8. Gôl gosb i Gaerloyw: Gleision 23-30 Caerloyw

    Sgrym Caerloyw yn arwain at drosedd gan y Gleision, a Billy Twelvetrees yn ychwanegu tri phwynt arall i ymestyn eu mantais yn ôl i saith pwynt.

  9. Cais i Gaerloyw! Gleision 23-27 Caerloyw

    Caerloyw yn taro 'nôl yn syth, gyda sgarmes symudol bwerus yn gwthio'r blaenwyr dros y llinell gais, a James Hanson sy'n sgorio.

    Twelvetrees yn parhau'n berffaith gyda'i gicio hyd yn hyn.

    Hanson
  10. Cais i'r Gleision! Gleision 23-20 Caerloyw

    Mae'r Gleision ar y blaen!

    Gwaith da gan yr olwyr a chic dda gan Jarrod Evans yn creu lle i Garyn Smith groesi am gais yn y gornel!

    Evans yn gywir unwaith eto gyda'r gic, ac mae'r Cymry ar y blaen am y tro cyntaf ers y 10 munud cyntaf.

    Smith
  11. Gôl gosb i'r Gleision! Gleision 16-20 Caerloyw

    Y Gleision yn parhau gyda'u dechreuad da i'r ail hanner, ac amddiffyn Caerloyw yn ildio dwy gic gosb yn olynol.

    Jarrod Evans sy'n cymryd mantais, gan ddod â'r Cymry yn ôl o fewn pedwar pwynt.

    Gleision
  12. Cais i'r Gleision! Gleision 13-20 Caerloyw

    Am ddechrau i'r ail hanner i'r Gleision - cais o fewn munud!

    Dwy gic glyfar gan Gareth Anscombe, a'r mewnwr Tomos Williams yn dangos ei sgiliau pêl-droed i sgorio ger y pyst!

    Jarrod Evans yn ei throsi hefyd i ddod â'r Gleision 'nôl o fewn saith pwynt.

    Williams
  13. Dechrau'r ail hanner: Gleision 6-20 Caerloyw

    Y Gleision allan ar y cae ychydig funudau cyn eu gwrthwynebwyr ar gyfer yr ail hanner.

    Byddan nhw'n awyddus i fod ar eu gorau yn yr ail hanner, sy'n dechrau gyda chic o droed Billy Burns.

  14. Siomedig hyd yma i'r Gleision

    Gêm olaf y dyn yma fel prif hyfforddwr y Gleision heno - mae hi wedi bod yn siomedig hyd yma, ond gall hi fod yn ddiddorol pe bai'r rhanbarth o Gymru yn cael cais cyntaf yr ail hanner.

    Wilson
  15. Hanner amser: Gleision 6-20 Caerloyw

    A dyna gyffyrddiad olaf yr hanner cyntaf.

    Mae gan y Gleision lawer i'w wneud i ddod yn ôl i'r gêm - felly angen i Danny Wilson eu hysbrydoli yn ystod hanner amser!

    Caerloyw
  16. Gôl gosb i Gaerloyw. Gleision 6-20 Caerloyw

    Mae'r clwb o Loegr yn ymestyn eu mantais ymhellach, gyda Twelvetrees yn sgorio ei 10fed pwynt o'r hanner cyntaf.

  17. Cais i Gaerloyw! Gleision 6-17 Caerloyw

    Gwaith gwych gan olwyr Caerloyw wrth iddyn nhw dorri o'u hanner eu hunain, gyda Callum Braley yn creu lle i Mark Atkinson sgorio o dan y pyst.

    Twelvetrees yn llwyddiannus gyda'r trosiad hefyd.

    Atkinson