a gafodd drwydded deledu?

You need one to watch live TV on any channel or device, and BBC programmes on iPlayer. It’s the law.

darganfyddwch fwy
Nid oes gennyf drwydded deledu

Crynodeb

  1. Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg
  2. Cyfarfod Llawn yn dechrau am 1.30pm gyda chwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth
  3. Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol
  4. Datganiad gan Gadeirydd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus: Caffael cyhoeddus
  5. Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Safonau Ymddygiad: Michelle Brown AC
  6. Dadl Aelodau: Tlodi misglwyf a stigma
  7. Dadl Plaid Cymru – Mesur yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) a datganoli
  8. Dadl Fer: Gwlad y gân: datblygu strategaeth addysg cerdd i Gymru

Y diweddaraf yn fyw

Gan Alun Jones a Nia Harri

Mae pob amser yn lleol i'r DU

  1. Hwyl

    Dyna ni o'r Siambr am yr wythnos.

    Gallwch weld holl ganlyniadau'r pleidleisiau yma.

    Fe fydd Senedd Fyw yn ôl ddydd Mawrth Mai'r wythfed.

    View more on twitter
  2. 'Lle cerddoriaeth yn ddiogel'

    Mae'r Ysgrifennydd Addysg Kirsty Williams yn dweud bod "lle cerddoriaeth yn ddiogel o fewn datblygiad ein cwricwlwm newydd".

    Mae'n atgoffa ACau ei bod hi wedi cyhoeddi cyllid gwerth £1 miliwn i sefydlu'r Gwaddol Cenedlaethol ar gyfer Cerddoriaeth, "a fydd yn galluogi mwy o bobl ifanc i fanteisio ar gyfleoedd cerddorol".

    Kirsty Williams
  3. 'Mynediad bratiog i addysg a chyllid cerdd'

    Mae Rhianon Passmore yn dweud "os yw Cymru i gadw ei henw da byd-eang fel gwlad y gân, yna mae angen i Lywodraeth Cymru ddatblygu strategaeth gerddoriaeth genedlaethol".

    Mae'n dweud y dewis arall yw parhau gyda "mynediad bratiog i addysg a chyllid cerdd".

    Rhianon Passmore
  4. Dadl Fer: Datblygu strategaeth addysg cerdd i Gymru

    Ac yn olaf yn y Siambr heddiw Dadl Fer gan Rhianon Passmore.

    A'r pwnc dan sylw: Gwlad y gân - datblygu strategaeth addysg cerdd i Gymru.

    Gwersi Cerdd
  5. 'Diogelu pwerau'r Cynulliad dros bolisïau datganoledig'

    Ar ran Llywodraeth Cymru mae'r Prif Weinidog Carwyn Jones yn dweud "bod y canlyniad cadarnhaol hwn i'r negodiadau â Llywodraeth y DU yn diogelu pwerau'r Cynulliad Cenedlaethol dros bolisïau datganoledig yn yr amgylchiadau sy'n newid sydd wedi'u creu gan Brexit ac yn cyfnerthu Confensiwn Sewel, ar sail y sefyllfa ddiofyn bod angen cydsyniad y Cynulliad ar gyfer newidiadau i gymwyseddau'r Cynulliad".

    Mae'n ychwanegu y caiff "unrhyw fframweithiau gan y DU gyfan i ddisodli fframweithiau presennol yr UE eu negodi'n rhydd rhwng y llywodraethau ac y byddant yn ddarostyngedig i Gonfensiwn Sewel; a thra bo'r fframweithiau hyn yn cael eu negodi, na fydd unrhyw Lywodraeth, gan gynnwys Llywodraeth y DU mewn perthynas â Lloegr, yn gallu cyflwyno deddfwriaeth sy'n gwyro oddi ar y sefyllfa bresennol".

    Carwyn Jones
  6. 'Pobl Cymru fydd yn talu'r pris'

    Dywed Llyr Gruffydd Plaid Cymru: "Chi'n gwbod pan bod UKIP a'r Ceidwadwyr yn ciwio fyny i'ch llongyfarch chi ar wneud rhywbeth, chi naill ai wedi cael eich twyllo neu chi wedi gwneud camgymeriad, a'r tristwch fan hyn yw mai pobl Cymru fydd yn talu'r pris."

  7. 'Wedi eu dal mewn siaced gaeth ideolegol'

    Ar ran y Ceidwadwyr mae Mark Isherwood yn cyhuddo Plaid Cymru o fod "wedi'u dal mewn siaced gaeth ideolegol o amgyffred ffug a rhagfarn gynhennus".

    Mae'n dweud y bydd cytundeb llywodraethau Cymru a'r DU ar Fesur yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) yn "amddiffyn marchnad fewnol y DU ac yn sicrhau na fydd rhwystrau newydd yn cael eu creu o fewn y DU ar gyfer defnyddwyr a busnesau".

    Mark Isherwood
  8. 'Dim baner wen o ildio'

    Mae arweinydd Plaid Cymru Leanne Wood yn dweud bod rhai pobl "wedi cyhuddo Plaid Cymru o fod yn genedlaetholwyr sy'n chwifio'n baner - o leia dyw'n baner ni ddim yn un wen o ildio".

    Mae'n dweud bod y "cytundeb amheus" yn rhoi feto dros feysydd deddfwriaeth ddatganoledig i Senedd y DU.

    "Fe gethoch chi bryd seren Michelin, ac fe wnaethoch chi ei droi yn swper ci," meddai wrth Lywodraeth Cymru.

  9. Dadl ar Fesur yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) a datganoli

    Yr etiem nesaf yn y Siambr yw dadl gan Blaid Cymru ar Fesur yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) a datganoli.

    Mae'r blaid yn cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

    1. Yn nodi'r cytundeb rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU ar Fesur yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael).

    2. Yn nodi ymhellach fod y cytundeb yn gwneud y Mesur Cyfraith sy'n Deillio o'r Undeb Ewropeaidd (Cymru) a basiwyd gan fwyafrif yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru yn afraid.

    3. Yn gresynu at y ffaith bod y cytundeb yn rhoi feto dros feysydd deddfwriaeth ddatganoledig i Senedd y DU.

    4. Yn gresynu ymhellach at y ffaith bod y cytundeb yn tanseilio Papur Gwyn Llywodraeth Cymru-Plaid Cymru sy'n datgan "na ddylai ymadawiad y DU o'r UE arwain at Lywodraeth y DU yn crafangu pwerau datganoledig yn ôl. Bydd unrhyw ymgais o'r fath yn cael ei gwrthwynebu'n gadarn gennym".

    5. Yn galw am bleidlais ystyrlon ar y cytundeb yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru.

    Bathodynnau Cymru a'r UE
  10. Y cynnig ar dlodi misglwyf a stigma yn cael ei basio

    Mae ACau yn pasio cynnig yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

    a) ystyried ymchwil presennol a newydd ar effaith bosibl tlodi misglwyf a stigma ar ddysgu;

    b) ystyried galwadau i wella addysg ar y pwnc a chynnig cynhyrchion misglwyf am ddim mewn sefydliadau addysg; ac

    c) nodi ffyrdd i sicrhau bod cynhyrchion misglwyf ar gael i fanciau bwyd Cymru.

  11. Cronfa gwerth £1m i daclo tlodi mislif

    Mae Arweinydd y Tŷ a'r Prif Chwip, Julie James, yn dweud y gwnaeth Llywodraeth Cymru gyhoeddi ym mis Mawrth gronfa gwerth £1m i daclo tlodi mislif ar draws Cymru.

    Bydd nwyddau hylendid yn cael eu dosbarthu am ddim drwy grwpiau cymunedol, ysgolion a banciau bwyd.

    Julie James
  12. 'Creu gwlad sy'n gyfartal'

    Mae arweinydd Plaid Cymru Leanne Wood yn dweud "fe ddylen ni fod yr un mor gyfforddus yn siarad am gynhyrchion misglwyf â phapur tŷ bach".

    Mae'n dweud "mae gofal iechyd yn hawl ddynol" ac y byddai darparu mynediad rhydd i gynhyrchion misglwyf mewn sefydliadau addysg yn helpu i "greu gwlad sy'n gyfartal".

  13. Dadl Aelodau: Tlodi Misglwyf a Stigma

    Am yr awr nesa mae ganddon ni ddadl Aelodau ar Dlodi Misglwyf a Stigma.

    Mae Jane Hutt a Jenny Rathbone yn cynnig bod y Cynulliad:

    1. Yn nodi gwaith ymchwil gan Plan International UK ar dlodi misglwyf a stigma, sy'n amcangyfrif bod un ym mhob 10 o ferched yn y DU wedi methu â fforddio cynhyrchion misglwyf.

    2. Yn croesawu'r camau y mae sefydliadau yng Nghymru yn eu cymryd, gan gynnwys Periods in Poverty, Wings Cymru, The Red Box Project, Ymddiriedolaeth Trussell ac eraill, i fynd i'r afael â mater hwn.

    3. Yn nodi'r adroddiad terfynol gan weithgor craffu cyngor Rhondda Cynon Taf a sefydlwyd i ddelio â darparu cynhyrchion misglwyf am ddim mewn ysgolion.

    4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

    a) ystyried ymchwil presennol a newydd ar effaith bosibl tlodi misglwyf a stigma ar ddysgu;

    b) ystyried galwadau i wella addysg ar y pwnc a chynnig cynhyrchion misglwyf am ddim mewn sefydliadau addysg; ac

    c) nodi ffyrdd i sicrhau bod cynhyrchion misglwyf ar gael i fanciau bwyd Cymru.

    Cynnyrch misglwyf
  14. Michelle Brown wedi ei gwahardd o drafodion y Cynulliad am wythnos

    Mae ACau yn cefnogi cynnig y Pwyllgor Safonau i wahardd Ms Brown o drafodion y Cynulliad am wythnos yn ddi-dâl. Fydd hi ddim felly yn cael bod yn rhan o weithgareddau'r Senedd tan ddydd Iau yr wythnos nesaf.

    Roedd 38 o blaid, un yn ymatal, a thri yn erbyn.

    Roedd disgrifiad Ms Brown o Chuka Umunna yn enghraifft o 'gam-drin hiliol' ac yn 'gwbl annerbyniol' ym marn aelodau'r pwyllgor safonau
    Image caption: Roedd disgrifiad Ms Brown o Chuka Umunna yn enghraifft o 'gam-drin hiliol' ac yn 'gwbl annerbyniol' ym marn aelodau'r pwyllgor safonau
  15. 'Deliwch gyda'r mater yn y blwch pleidleisio'

    Mae Neil McEvoy - a gafodd ei ddiarddel o Blaid Cymru am 18 mis yn dilyn ymchwiliad gan y blaid i'w ymddygiad - yn dweud mai'r ffordd i ddelio gyda Michelle Brown yw yn y blwch pleidleisio, nid yn Siambr y Cynulliad.

  16. 'Ymyrraeth ddifrifol' yn hawliau'r etholwyr

    Mae arweinydd UKIP Neil Hamilton yn honni y byddai eithrio AC yn "ymyrraeth ddifrifol" yn hawliau'r etholwyr.

    Mae'n dweud ei fod yn ddatblygiad sinistr bod y cynulliad yn ceisio'r hawl i blismona bywydau preifat ACau.

    Mae'n pwysleisio i sylwadau'r AC ar gyfer Gogledd Cymru ynghylch Chuka Umunna gael eu gwneud mewn sgwrs ffôn breifat.

    Neil Hamilton
  17. AC UKIP Michelle Brown yn wynebu gwaharddiad am sylw hiliol

    Nesaf yn y Siambr dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Safonau Ymddygiad 01-18.

    Mae disgwyl i'r Aelod Cynulliad UKIP Michelle Brown gael ei gwahardd o'r Cynulliad am wythnos yn ddi-dâl ar ôl iddi wneud sylw hiliol am AS Llafur.

    Daeth aelodau pwyllgor safonau'r Cynulliad i'r casgliad fod Michelle Brown wedi torri'r côd ymddygiad yn "ddifrifol" gan ddwyn anfri ar y sefydliad.

    Mae Ms Brown wedi ymddiheuro am unrhyw niwed a gafodd ei achosi, ond mae'n dadlau nad oedd y sylw yn hiliol.

    Dyma fyddai'r tro cyntaf i'r Cynulliad gosbi AC yn y modd yma.

    Fe gafodd Ms Brown, un o aelodau rhanbarthol y gogledd, ei chyhuddo o ddisgrifio'r AS dros Streatham, Chuka Umunna, fel "cnau coco" - term sy'n cael ei ystyried yn ddilornus a hiliol - mewn galwad ffôn ym mis Mai 2016.

    Methu wnaeth apêl Michelle Brown fis diwethaf yn erbyn dyfarniad y pwyllgor safonau i'w gwahardd dros dro
    Image caption: Methu wnaeth apêl Michelle Brown fis diwethaf yn erbyn dyfarniad y pwyllgor safonau i'w gwahardd dros dro
  18. Datganiad ar gaffael cyhoeddus

    Symudwn ni ymlaen nawr at ddatganiad gan Gadeirydd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus, Nick Ramsay ar gaffael cyhoeddus.

    Mae'n dweud bod y pwyllgor yn credu "bod llawer i'w ennill drwy wneud y mwyaf o botensial gwariant caffael blynyddol y sector cyhoeddus, sy'n werth £6 biliwn, a thrwy drawsnewid caffael cyhoeddus yng nghyd-destun Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015.

    "Mae'n amlwg i'r Pwyllgor fod y potensial hwn ymhell o gael ei wireddu'n llawn am nifer o resymau a bod angen gwneud gwaith datblygu sylweddol a gwella consensws i symud ymlaen mewn ffordd gydweithredol ac ymateb i rai o'r pryderon a godwyd ynghylch ymagwedd y Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol hyd yn hyn".

    Nick Ramsay
  19. Dim Cwestiynau Amserol

    Ni dderbynniwyd unrhyw Gwestiynau Amserol.

    Mae'n rhaid i gwestiynau amserol ymwneud â mater o arwyddocâd cenedlaethol, rhanbarthol neu leol y byddai'n ddymunol cael ymateb cyflym iddo gan Weinidog.

    Y Llywydd sy'n penderfynu sawl cwestiwn amserol i'w ddethol ar gyfer y cyfnod o 20 munud a neilltuwyd, a sut i rannu'r amser sydd ar gael rhwng y cwestiynau hynny.

    Cwestiynau