a gafodd drwydded deledu?

You need one to watch live TV on any channel or device, and BBC programmes on iPlayer. It’s the law.

darganfyddwch fwy
Nid oes gennyf drwydded deledu

Crynodeb

  1. Pwyllgor o'r Cynulliad Cyfan
  2. Cwestiynau i'r Prif Weinidog
  3. Rheoliadau Safonau’r Gymraeg (Rhif 7) 2018
  4. Rheoliadau Awdurdod Cyllid Cymru (Pwerau i Ymchwilio i Droseddau) 2018
  5. Datganiad gan Weinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes: Y Cynllun Cyflogadwyedd
  6. Datganiad gan y Cwnsler Cyffredinol: Ymgynghoriad ar y Mesur Deddfwriaeth (Cymru) drafft

Y diweddaraf yn fyw

Gan Alun Jones a Sarah Down-Roberts

Mae pob amser yn lleol i'r DU

  1. Hwyl fawr

    A dyna ddiwedd y trafodaethau yn y Siambr am heddiw.

    Bydd Senedd Fyw yn dychwelyd fory am y tro olaf cyn gwyliau'r Pasg.

    Senedd
  2. Mesur Deddfwriaeth Cymru (Drafft)

    Ac yn olaf mae Cwnsler Cyffredinol Cymru, Jeremy Miles AC, yn lansio ymgynghoriad cyhoeddus ar Fesur Deddfwriaeth Cymru (Drafft), a fydd yn para am 12 wythnos.

    Bydd y ddeddfwriaeth arfaethedig yn rhoi dyletswydd ar Weinidogion Cymru a’r Cwnsler Cyffredinol i wneud cyfreithiau yn fwy hygyrch ac mae hefyd yn gwneud darpariaeth bwrpasol ynglŷn â dehongli deddfwriaeth Gymreig.

    Jeremy Miles
  3. Y Cynllun Cyflogadwyedd

    Datganiad gan Weinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes: Y Cynllun Cyflogadwyedd.

    Tra bo'r cyfraddau diweithdra yng Nghymru yn gymharol isel ar 5.0 y cant ac yn debyg iawn i'r cyfraddau yn y Deyrnas Unedig, mae bron i chwarter nifer yr oedolion yng Nghymru sydd mewn oedran i weithio (24.3 y cant) yn economaidd anweithgar - heb fod yn ddi-waith nac ar gael i weithio - o'u cymharu â 22.0 ar gyfer y Deyrnas Unedig gyfan.

    Nod y cynllun yw mynd i'r afael â hyn yn ogystal â gosod gweledigaeth hirdymor i sicrhau y bydd gan weithwyr y dyfodol y sgiliau sydd eu hangen ar fusnesau.

  4. ACau yn cymeradwyo y Rheoliadau

    ACau yn cymeradwyo Rheoliadau Safonau'r Gymraeg 2018 (Rhif 7) o 43 i 8.

    Y bleidlais
  5. Cymeradwyo rheoliadau'r Awdurdod Cyllid

    ACau yn cymeradwyo rheoliadau Awdurdod Cyllid Cymru.

  6. Awdurdod Cyllid Cymru

    Llywodraeth Cymru yn cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o'r Rheoliadau Awdurdod Cyllid Cymru (Pwerau i Ymchwilio i Droseddau) 2018 yn cael ei llunio yn unol â'r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 21 Chwefror 2018.

    Mae’r Rheoliadau hyn yn darparu bod darpariaethau amrywiol yn Neddf yr Heddlu a Thystiolaeth Droseddol 1984 a Deddf Cyfiawnder Troseddol a’r Heddlu 2001 i’w cymhwyso i ymchwiliadau i droseddau a gynhelir gan Awdurdod Cyllid Cymru (“ACC”).

    Maent yn cynnwys cael mynediad i fangre o dan amgylchiadau penodedig ac i ymafael mewn eitemau perthnasol.

    Arian
  7. 'Y safonau yn annigonol' medd Plaid Cymru

    "Y nod yn y pen draw yw i gleifion gael gwasanaeth yn yr iaith o'u dewis" medd Eluned Morgan.

    Mewn rhai achosion bydd swyddogion yn gweithio gyda busnesau a gyda byrddau iechyd.

    Mae Bethan Sayed AC, cadeirydd y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu yn nodi mai dim ond 21 diwrnod sydd wedi’i ganiatáu y tro hwn o’r dyddiad y caiff y Rheoliadau eu gosod gerbron y Cynulliad tan iddynt gael eu trafod yn y Cyfarfod Llawn.

    Mae'r pwyllgor yn cytuno ei bod wedi cymryd llawer rhy hir i wneud y Rheoliadau hyn a bod angen dybryd i roi safonau Cymraeg cadarn ar waith ar gyfer y gwasanaeth iechyd.

    Mae Suzy Davies ar ran y Ceidwadwyr yn dweud ei bod yn bwysig bwrw ymlaen â'r safonau nawr ond yn pwysleisio mai cam yw'r safonau yma.

    Meddai: "Dylai'r cam nesaf ystyried gwasanaethau dementia, awtistiaeth ac iechyd plant."

    Mae Sian Gwenllian ar ran Plaid Cymru yn creu bod y safonau yn annigonol ac yn wan ac felly yn dweud bod Plaid Cymru yn eu gwrthwynebu.

    "Dylai'r safonau osod hawliau am wasanaeth wyneb yn wyneb yn y Gymraeg", meddai.

    "Mae modd ychwanegu at y safonau yma."

    Mae Neil Hamilton ar ran UKIP yn cefnogi'r rheoliadau gan ddweud bod "hanner torth yn well na dim bara o gwbl".

    Eluned Morgan yn diolch i'r pwyllgor ac yn cydnabod bod yr amser wedi bod yn fyr.

    "Yr hyn dwi'n gobeithio fydd yn digwydd nesaf yw bydd y comisiynydd yn bwrw ymlaen â'r gwaith ... ac mae plismona hefyd yn bwysig.

    "Mae'n bwysig cael y neges yn iawn - dy'n ni ddim am ddweud wrth pobl ddi-Gymraeg nad oes croeso iddynt."

    eluned
    Image caption: Eluned Morgan, Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes
  8. Rheoliadau Safonau’r Gymraeg

    Llywodraeth Cymru yn cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau Safonau'r Gymraeg (Rhif 7) 2018 yn cael ei llunio yn unol â'r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 27 Chwefror 2018.

    Cynhaliodd Comisiynydd y Gymraeg ‘ymchwiliad safonau’ rhwng mis Tachwedd 2014 a Chwefror 2015. Cafodd casgliadau’r ymchwiliad hwnnw eu cyflwyno i Lywodraeth Cymru, a wnaeth, yn dilyn hynny, gynnal ymgynghoriad cyhoeddus ar Reoliadau drafft (y Rheoliadau drafft) rhwng mis Gorffennaf a Hydref 2016.

    Yn dilyn hynny, cafodd ‘Rheoliadau Safonau’r Gymraeg (Rhif 7) 2018‘ (y Rheoliadau) eu gosod gerbron y Cynulliad ar 27 Chwefror 2018 gan Weinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes.

    Mae’r Rheoliadau yn pennu safonau ymddygiad mewn perthynas â’r Gymraeg ar gyfer Byrddau Iechyd Lleol, Ymddiriedolaethau Gwasanaeth Iechyd Gwladol yng Nghymru, Cynghorau Iechyd Cymuned a Bwrdd Cynghorau Iechyd Cymuned Cymru.

    Cymraeg
  9. 'Ti'n well cymydog!'

    "Mi fyddai'n well gen i fyw drws nesaf i ti na gyda ti," meddai Nick Ramsay AC Mynwy wrth Alun Davies AC Blaenau Gwent.

    Nick Ramsay
  10. 'Angen sicrwydd'

    Mae Gareth Bennett o UKIP yn dweud "mai'r hyn y mae arweinwyr cynghorau ei angen yw sicrwydd".

    Gan adleisio sylw Janet Finch-Saunders mae'n mynegi pryder ynglyn ag ad-drefnu er budd gwleidyddol.

    Gareth Bennett
  11. 'Ffars ac mewn limbo'

    Sian Gwenllian o Blaid Cymru yn dweud bod polisïau amrywiol y tri gweinidog llywodraeth leol - Leighton Andrews, Mark Drakeford a nawr Alun Davies - yn "ffars".

    Mae'n dweud bod y "saga neu'r ffars yma yn cwestiynu gallu y llywodraeth hon i lywodraethu'n effeithiol ac yn gofyn cwestiynau sylfaenol am yr arweinyddiaeth bresennol".

    Dywedodd bod awdurdodau lleol "mewn limbo unwaith eto".

    Sian Gwenllian
  12. 'Ailstrwythuro er budd gwleidyddol?'

    Janet Finch-Saunders ar ran y Ceidwadwyr yn dweud mai dyma'r drydedd ymgais i ad-drefnu neu ailstrwythuro llywodraeth leol "er budd gwleidyddol" yn ystod y blynyddoedd diwethaf ac mae'n awgrymu nad yw'r ansicrwydd yn gwneud dim i helpu y prif wasnaethau.

    janet
  13. Addewid o bwerau ychwanegol

    Vaughan Roderick

    Golygydd Materion Cymreig y BBC

    Quote Message: Nid hwn yw'r tro cyntaf i Lywodraeth Cymru ystyried lleihau nifer y cynghorau yng Nghymru. Ond mae'r Ysgrifennydd Llywodraeth Leol, Alun Davies yn gobeithio y bydd addewid o bwerau ychwanegol i'r cynghorau newydd yn ddigon i fynd a'r maen i'r mur y tro hwn. Mae'r ddogfen yn awgrymu y bydda 'na dair sir newydd yn y gogledd ac y byddai hen siroedd Dyfed a Gorllewin Morgannwg yn ail ymddangos yn y Gorllewin. Fe fyddai na' dair sir yn y de ddwyrain gyda dim ond Powys yn goroesi o'r cynghorau presennol."
  14. Llywodraeth Leol

    Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus, Alun Davies ar lywodraeth leol.

    Gallai nifer y cynghorau yng Nghymru gael eu torri i gyn lleied â deg awdurdod.

    Meddai Alun Davies AC: "Mae cynghorau wedi ei gwneud hi'n glir bod eu gwasanaethau wedi bod dan gymaint o bwysau nes eu bod bron a methu".

    Dywedodd ei fod yn derbyn na all pethau barhau fel y maent, gan ddweud "fod yn rhaid i'r cam nesaf newid y gêm".

    Mae uno gwirfoddol neu uno fesul cam ymhlith yr opsiynau sy'n cael eu hystyried.

    Video content

    Video caption: Y Gweinidog sy'n gyfrifol am lywodraeth leol am ddechrau'r drafodaeth i ail-strwythuro.
  15. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

    Nesaf y datganiad a chyhoeddiad busnes.

    Mae Arweinydd y Tŷ Julie James yn amlinellu busnes y Cynulliad yn y dyfodol ac yn ymateb i geisiadau gan ACau.

  16. Lobïwyr

    Yn ystod ei ymddangosiad cyntaf wedi iddo gael ei ddiarddel o Blaid Cymru, Neil McEvoy yn dweud mai gan Gymru y mae'r ddeddfwriaeth lobïo waethaf yn y DU.

    Mae'n dweud: "A wnewch chi dderbyn fod problem gydag lobïwyr yma" gan fynnu cael deddfwriaeth i'w cofrestru. Mae'n rhestru honiadau yn erbyn lobïwyr yng Nghymru.

    Does yna ddim sail i'r un honiad, medd y prif weinidog.

    Mae'n cynghori Mr McEvoy i beidio ag ailadrodd yr honiadau y tu allan i'r siambr.

    Mae'n ychwanegu mai lle'r cynulliad yw ystyried deddfwriaeth.

    Neil McEvoy
  17. Llais i blant

    "Ry'n wedi bod yn trafod yn y siambr sut i roi llais i blant," meddai'r prif weinidog, gan gyhuddo Neil Hamilton o awgrymu mai bodau "i'w gweld ac nid i'w clywed yw plant".

    carwyn jones
  18. Lefel aeddfedrwydd y Cynulliad?

    Arweinydd UKIP Neil Hamilton yn cyfeirio at gynlluniau'r Llywodraeth "i sicrhau fod plant rhwng saith ac 11 oed yn cael dweud eu barn am broses Brexit".

    "Efallai mai dyma lefel aeddfedrwydd Llywodraeth Cymru", meddai.

    Mae hefyd yn cyhuddo Llywodraeth Cymro o geisio gwneud plant yn wleidyddol.

  19. Ariannu'r ffordd liniaru a'r Metro?

    Arweinydd y Ceidwadwyr Andrew RT Davies yn gofyn a yw Llywodraeth Cymru yn "ystyried" tollau ar gyfer ffordd liniaru'r M4.

    Y prif weinidog yn ateb: "Na".

    Andrew RT Davies yn ychwanegu nad yw cael cynlluniau ar gyfer ffordd liniaru yr M4 a Metro De Cymru ar yr un pryd yn ddoeth gan nad oes arian ar gyfer y ddau gynllun.

    Y prif weinidog yn dweud nad ydynt yn cystadlu am yr un adnoddau.

    Andrew RT Davies
  20. Hyfforddi meddygol

    Arweinydd Plaid Cymru Leanne Wood yn dweud nad yw Llywodraeth Cymru o hyd wedi cynyddu y nifer o leoedd sydd 'na i feddygon astudio.

    Y prif weinidog yn dweud ei bod yn bwysig fod cymaint o leoedd hyfforddi â phosib ar gael.

    Mae pump ysgol feddygol wedi'u cyhoeddi yn Lloegr, meddai Leanne Wood ar gyfer "ardaleodd sy'n brin o feddygon".

    Mae'n gofyn: "A ydych yn derbyn eich bod wedi bod yn boenus o araf yn datblygu addysg feddygol yng ngogledd Cymru."

    Y prif weinidog yn ateb drwy ddweud: "Ry'n yn awyddus i sicrhau bod cymaint o lefydd â phosib ar gael o gwmpas Cymru."

    Leanne Wood