a gafodd drwydded deledu?

You need one to watch live TV on any channel or device, and BBC programmes on iPlayer. It’s the law.

darganfyddwch fwy
Nid oes gennyf drwydded deledu

Crynodeb

  1. Cyfarfod Llawn yn dechrau am 1.30pm gyda chwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus
  2. Cwestiynau i Arweinydd y Tŷ
  3. Cwestiynau i Gomisiwn y Cynulliad
  4. Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol: Llywodraethu'r DU ar ôl Brexit
  5. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Ad-drefnu gweinidogol: adroddiad yr Ysgrifennydd Parhaol
  6. Dadl Plaid Cymru - Darlledu
  7. Dadl Plaid Cymru - Parhau ag aelodaeth o’r Undeb Tollau

Y diweddaraf yn fyw

Gan Alun Jones a Nia Harri

Mae pob amser yn lleol i'r DU

  1. Hwyl

    Dyna ni o'r Siambr am yr wythnos ar ddiwrnod olaf mis Chwefror.

    Fe fydd Senedd Fyw yn ôl ddydd Mawrth nesaf Mawrth 6ed.

    View more on twitter
  2. Llywodraeth Cymru wedi ei threchu mewn pleidlais

    Mae ACau Llafur yn ymatal yn y bleidlais ar yr adroddiad am yr ymchwiliad i ollwng gwybodaeth. Mae nifer o ACau Llafur yn absennol o'r Cynulliad heddiw sy'n golygu y bydden nhw wedi bod mewn peryg o golli'r bleidlais petai nhw'n gwrthwynebu'r cynnig.

    Ond dyw'r bleidlais ddim yn un gorfodol sy'n rhwymo'r llywodraeth.

    Felly mae'r Cynulliad Cenedlaethol yn datgan yr awydd i:

    "Ysgrifennydd Parhaol Llywodraeth Cymru i gyhoeddi, gyda'r golygiadau priodol er mwyn sicrhau bod y tystion yn parhau i fod yn anhysbys, yr adroddiad i'w hymchwiliad ynghylch a oes unrhyw dystiolaeth y cafodd gwybodaeth ei rhannu o flaen llaw heb ganiatâd - hynny yw, y datgelwyd gwybodaeth heb ganiatâd - gan Lywodraeth Cymru ynghylch yr ad-drefnu gweinidogol diweddar".

    Pleidlais
  3. 'Integreiddio gydag economïau ein cymdogion agosaf gymaint ag sy’n bosib'

    Mae Ysgrifennydd yr Economi Ken Skates yn ailddatgan cefnogaeth "i weld Cymru a’r Deyrnas Unedig yn parhau i gymryd rhan yn y Farchnad Sengl ac mewn Undeb Tollau gyda’r UE, er mwyn integreiddio gydag economïau ein cymdogion agosaf gymaint ag sy’n bosib wrth beidio â bod yn aelod-wladwriaeth o’r UE".

    Ken Skates
  4. 'Gofynion tollau sydd mor llyfn â phosibl'

    Ar ran y Ceidwadwyr mae Mark Isherwood yn galw ar ACau i "gefnogi cytundeb Cymru a'r Deyrnas Unedig ar drefniant tollau newydd rhwng y DU a'r UE, gyda gofynion tollau sydd mor llyfn â phosibl; gan adeiladu perthynas newydd o ran yr economi a diogelwch gyda'r UE tra'n galluogi'r DU i wneud cytundebau masnach rhyngwladol newydd".

  5. Dadl: Parhau ag aelodaeth o'r Undeb Tollau

    At ail ddadl Plaid Cymru nawr a hynny ar barhau ag aelodaeth o'r Undeb Tollau, yn cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

    "Yn cefnogi parhad aelodaeth Cymru a'r Deyrnas Unedig o undeb tollau presennol yr UE, yn hytrach na undeb tollau newydd".

    Leanne Wood
  6. 'Cwbl atebol i holl seneddau cenedlaethol'

    Mae'r Gweindog dros Ddiwylliant, Twristiaeth a Chwaraeon, yr Arglwydd Elis-Thomas yn dweud mai ei farn bersonol e o hyd, a'i farn fel gweinidog, yw nad nawr yw'r amser i geisio datganoli unrhyw bwerau dros ddarlledu.

    Mae'n cyflwyno gwelliannau'r llywodraeth, sef dileu pwyntiau 5 a 6 a rhoi yn eu lle:

    • Yn nodi y parheir i ddisgwyl i’r Adran Ddigidol, Diwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon gyhoeddi’r adolygiad annibynnol o S4C sy’n cael ei gynnal gan Euryn Ogwen Williams.
    • Yn galw ar Lywodraeth y DU a darlledwyr i sicrhau bod darlledu yn y Gymraeg a’r Saesneg yng Nghymru’n cael ei gyllido’n ddigonol.
    • Yn cydnabod y dylai darlledwyr gwasanaeth cyhoeddus fod yn gwbl atebol i holl seneddau cenedlaethol y Deyrnas Unedig, fel ag sy’n briodol i’w cylch gwaith.

    Wrth ymateb i'r gweinidog mae Sian Gwenllian yn gofyn "Ble mae'r Dafydd El yr ydyn ni'n ei gofio, ble mae e wedi mynd?"

    "Rydw i'n eistedd fan hyn!" mae'n ateb, oddiar y meic.

    Arglwydd Elis-Thomas
  7. 'Ddim yn datrys unrhyw dan-wario ymddangosiadol'

    Mae'r aelod Ceidwadol Suzy Davies yn dweud na fyddai trosglwyddo cyfrifoldeb statudol ar gyfer S4C o'r Adran Ddigidol, Diwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon yn San Steffan (DCMS) i Lywodraeth Cymru yn datrys unrhyw dan-wario ymddangosiadol, ond yn hytrach yn arwain at lywodraeth arall yn dweud bod eu cynnig i S4C yn annigonol.

  8. 'Ddim yn gofyn am dalecs dwyieithog'

    Mae Dai Lloyd yn dweud ei fod "yn falch bod Dr Who yn cael ei gynhyrchu yma yng Nghymru. Ond mewn gwirionedd, o edrych ar y cynnwys, fe allai'r gyfres fod yn cael ei chynhyrchu yn unrhyw le. Dydw i ddim yn gofyn am Dalecs dwyieithog, ond byddai cyfeiriad at Gymru yn ddechrau".

    Daleks
  9. 'Cyfyngu dadleuon gwleidyddol a democratiaeth'

    Mae Sian Gwenllian yn dweud bod diffyg lluosogrwydd a thoriadau mewn oriau darlledu yn "cyfyngu dadleuon gwleidyddol ac o'r herwydd yn cyfyngu democratiaeth".

    Mae'n dweud wrth ACau ei bod hi eisiau iddyn nhw gytuno ar gonsensws heddiw o blaid o leiaf ymchwilio i ymarferoldeb datganoli darlledu dros y flwyddyn nesaf.

  10. Dadl ar ddarlledu

    Nawer y cyntaf o ddwy ddadl gan Blaid Cymru.

    Darlledu yw'r pwnc.

    Mae'r blaid yn cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

    1. Yn cydnabod pwysigrwydd darlledu i gynaliadwyedd democratiaeth hyfyw yng Nghymru.

    2. Yn pryderu am y cwymp sylweddol yn nifer oriau darlledu ITV Cymru a'r toriadau sylweddol i S4C a'i sefyllfa ariannol ansicr bresennol.

    3. Yn pryderu ymhellach am sefyllfa darlledu Cymraeg a Chymreig ar radio masnachol a theledu lleol ynghyd ag effaith cynigion Llywodraeth y DU i ddad-reoleiddio'r farchnad radio ymhellach.

    4. Yn nodi bod angen i Gymru fod ar flaen y gad yn natblygiadau technolegau cyfryngol ac i ddarlledu Cymraeg a Chymreig fod ar nifer helaethach o blatfformau a dulliau o gynhyrchu, cyhoeddi a dosbarthu cynnwys.

    5. Yn cytuno y dylai fod ystyriaeth lawn o ddatganoli cyfrifoldebau dros ddarlledu i Gymru.

    6. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ymchwilio ymarferoldeb datganoli pwerau dros ddarlledu i Gymru ac adrodd yn ôl i'r Cynulliad o fewn blwyddyn.

  11. 'Gallai cyhoeddi niweidio ymchwiliadau o ryddhau gwybodaeth yn y dyfodol'

    Wrth ymateb i'r ddadl mae Arweinydd y Tŷ Julie James yn dweudy gallai cyhoeddi'r adroddiad niweidio ymchwiliadau o ryddhau gwybodaeth yn y dyfodol.

    Mae'n dweud gyda'r "elfennau ychwanegol o ymchwiliadau sy'n mynd ymlaen, mae yna risgiau posib pellach i gywirdeb y broses".

    Mae'n ychwanegu y bydd yr adroddiad ar ollwng gwybodaeth ar gael i'r QC sy'n edrych ar amgylchiadau diswyddo Carl Sargeant.

    Bydd pleidlais ar y cynnig yn cael ei chynnal ar ddiwedd y cyfarfod llawn.

  12. 'Anghwrteisi anhygoel i'r cynulliad'

    Mae'r Ceidwadwr Darren Millar yn dweud y byddai'n "anghwrteisi anhygoel i'r cynulliad i beidio gweld yr adroddiad wedi ei olygu".

    Mae'n dweud mai cyhoeddi yw'r unig ffordd y gellir cael hyder llawn yn y broses.

    Darren Millar
  13. Neges destun yn dweud bod Carl Sargeant i gael y sac yn 'glecs'

    Mae'r aelod Llafur Lee Waters yn dechrau trwy ddweud "Doeddwn ni erioed eisiau bod â rôl yn y stori hon".

    Mae'n dweud ei fod yn bendant bod neges destun y gwnaeth e dderbyn yn dweud bod Carl Sargeant yn mynd i gael y sac, cyn i Mr Sargeant ei hun gael gwybod yn "glecs".

    Mae'n ychwanegu, "mae yna alwadau wedi bod i mi ddweud pwy anfonodd y neges destun i mi.

    "A dydw i heb wneud hynny, a fyddai ddim yn gwneud hynny, oherwydd dydw i ddim eisiau cyfrannu i'r llwybr o friwsion sy'n gallu arwain at adnabod unrhyw un o'r bobl a ddaeth ymlaen".

    Lee Waters
  14. 'Cyfrinachedd yw tarian anghyfiawnder'

    "Dydw i ddim yn gwybod sut y gallai unrhyw un mewn ymwybod da wrthwynebu y cynnig hwn," medd arweinydd UKIP Neil Hamilton.

    "Cyfrinachedd yw tarian anghyfiawnder," meddai.

    Neil Hamilton
  15. 'Canfyddiadau'r ymchwiliad i ollwng gwybodaeth yn fater o ddiddordeb cyhoeddus'

    Dywed AC Plaid Cymru Llyr Gruffydd fod y cynnig yn gosod cynsail pwysig fod canfyddiadau'r ymchwiliad i ollwng gwybodaeth am ad-drefnu yn fater o ddiddordeb cyhoeddus, ac y dylen nhw o'r herwydd gael eu rhyddhau gydag olygiadau addas.

    Ychwanega fod Plaid Cymru wedi dadlau yn gyson fod angen cymaint o dryloywder ac atebolrwydd â phosib wrth ddelio â honiadau yn erbyn aelodau'r Cynulliad neu'r Llywodraeth.

    Llyr Gruffydd
  16. 'Cais digon rhesymol' i gael gweld yr adroddiad

    Mae arweinydd y Ceidwadwyr Andrew RT Davies yn dweud ei bod hi'n ddyletswydd ar y cynulliad i graffu ar y llywodraeth, a'i fod e'n "gais digon rhesymol" i gael gweld yr adroddiad hwn.

    Mae'n derbyn yr angen am "olygiadau addas" i amddiffyn unigolion sydd wedi gofyn am gyfrinachedd.

    Mae'n ychwanegu ei fod yn gobeithio y bydd aelodau ar draws y sbectrwm gwleidyddol yn cefnogi'r cynnig.

    Andrew RT Davies
  17. Eisiau rhagor o wybodaeth am sut cafodd yr ymchwiliad ei gynnal

    Mae'r ddadl yn cael ei chynnal i geisio gorfodi'r llywodraeth i gyhoeddi'r adroddiad, oedd yn edrych ar yr amgylchiadau wnaeth arwain at ddiswyddo Carl Sargeant.

    Fe gollodd AC Alun a Glannau Dyfrdwy ei swydd fel yr Ysgrifennydd Cymunedau ym mis Tachwedd y llynedd, bedwar diwrnod yn ddiweddarach fe gafodd ei ganfod yn farw.

    Dywedodd rhai, gan gynnwys y cyn-weinidog Leighton Andrews, eu bod yn credu fod eraill yn gwybod am y bwriad i sacio Mr Sargeant cyn iddo ddigwydd.

    Ond fe ddaeth ymchwiliad i'r casgliad "nad oedd gwybodaeth wedi ei rannu'n answyddogol o flaen llaw" am yr ad-drefnu cabinet ym mis Tachwedd.

    Mae'r bleidlais ddiweddaraf yma wedi cael ei galw gan y Ceidwadwyr a Phlaid Cymru am eu bod nhw eisiau rhagor o wybodaeth am sut cafodd yr ymchwiliad ei gynnal.

    Carl Sargeant
    Image caption: Carl Sargeant
  18. Dadl: Ad-drefnu gweinidogol: adroddiad yr Ysgrifennydd Parhaol

    Am yr awr nesaf dadl gan y Ceidwadwyr Cymreig ar Ad-drefnu gweinidogol: adroddiad yr Ysgrifennydd Parhaol.

    Mae'r Ceidwadwyr yn cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

    Yn galw ar Ysgrifennydd Parhaol Llywodraeth Cymru i gyhoeddi, gyda'r golygiadau priodol er mwyn sicrhau bod y tystion yn parhau i fod yn anhysbys, yr adroddiad i'w hymchwiliad ynghylch a oes unrhyw dystiolaeth y cafodd gwybodaeth ei rhannu o flaen llaw heb ganiatâd - hynny yw, y datgelwyd gwybodaeth heb ganiatâd - gan Lywodraeth Cymru ynghylch yr ad-drefnu gweinidogol diweddar.

  19. Llywodraeth Cymru yn derbyn yr argymhellion

    Mae'r Cwnsler Cyffredinol Jeremy Miles yn dweud bod Llywodraeth Cymru yn derbyn holl argymhellion y pwyllgor.

    Jeremy Miles
  20. 'Tra-arglwyddiaeth Lloegr'

    Mae'r aelod Ceidwadol David Melding yn dweud os na wneir dim byd, mae yna beryg y gallai tra-arglwyddiaeth Lloegr yn llywodraethiant y DU gau rhai opsiynau am ddatblygiad polisi yng Nghymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon.

    David Melding