Pan ofynnwyd i'r AC Llafur Ken Skates a fyddai Jack Sargeant yn ddraenen yn ochr Carwyn Jones, dywedodd Mr Skates y byddai Mr Sargeant yn canolbwyntio ar bobl sy'n "sefyll yn y ffordd i'r hyn sydd orau i Alun a Glannau Dyfrdwy".
"Dyna mae Jack yn canolbwyntio arno, a dyna fydd o'n ei sicrhau."
60.7% o'r bleidlais i Jack Sargeant
BBC Cymru Fyw
Cafodd Jack Sargeant 60.7% o'r bleidlais gyda mwyafrif o dros 6,500 o bleidleisiau.
Roedd tipyn o floedd wrth i enw Jack Sargeant gael ei gyhoeddi yng Nghei Connah, ac fe ddywedodd: "Rydw i wrth fy modd fod pobl Alun a Glannau Dyfrdwy am roi eu ffydd yn y blaid Lafur eto."
'Etholiad na ddylwn ni fod yn sefyll ynddo'
BBC Cymru Fyw
Dywedodd ei fod yn dal i ddod i dermau gyda marwolaeth ei dad, ond ei fod yn gwybod bod llawer o bobl yn caru ei dad.
"Dyma etholiad na ddylwn ni fod yn sefyll ynddo.
"Mae cwestiynau i'w hateb am pam ein bod yn sefyll ac ymchwiliadau'n digwydd.
"Ond mae heno am ddathlu buddugoliaeth ar ran pobl Alun a Glannau Dyfrdwy."
BBCCopyright: BBC
'Y gwaith caled yn dechrau'
BBC Cymru Fyw
Jack Sargeant: "Dydy'r fuddugoliaeth yma ddim amdana i, mae o am y gymuned yma.
"Mae'r gwaith caled yn dechrau rwan"
'Sefyll i fyny dros Alun a Glannau Dyfrdwy'
BBC Cymru Fyw
Wedi'r fuddugoliaeth, diolchodd Jack Sargeant i'w fam a'i chwaer a'i deulu i gyd.
Dywedodd ei fod yn "golygu gymaint" iddo, a'i fod yn "edrych ymlaen at fynd i lawr i Fae Caerdydd a sefyll i fyny dros bobl Alun a Glannau Dyfrdwy".
BBCCopyright: BBC
Y canlyniad llawn
BBC Cymru Fyw
Jack Sargeant - Llafur - 11,267
Sarah Atherton - Ceidwadwyr - 4,722
Carrie Harper - Plaid Cymru - 1,059
Donna Lalek - Democratiaid Rhyddfrydol - 1,176
Duncan Rees - Y Blaid Werdd - 353
Newydd dorriJack Sargeant yn ennill
BBC Cymru Fyw
Jack Sargeant sydd wedi ennill isetholiad Cynulliad Alun a Glannau Dyfrdwy.
BBCCopyright: BBC
Canlyniad ar ei ffordd
BBC Cymru Fyw
Mae'r ymgeiswyr wedi ymgynnull gyda'r swyddog etholiadol.
Wrth i'r cyfri' barhau yng Nghei Connah, dywedodd AC Llafur, Ken Skates y gallai'r blaid "fod yn falch o'r ymdrech aruthrol gan deulu Llafur Cymru" beth bynnag fydd y canlyniad.
BBCCopyright: BBC
Canlyniad yn fuan?
Twitter
Mae'n bosib y cawn ni ganlyniad yn gymharol fuan...
Mae ein gohebydd yng Nghei Connah, Iolo Cheung yn dweud: "Dim llawer o amheuaeth yn y neuadd ar hyn o bryd fod Llafur tipyn ar y blaen, ac yn bur debygol o ennill yn saff.
"Mae sawl un o'r ymgyrchwyr yma, gan gynnwys ymgeisydd Plaid Cymru, Carrie Harper, yn dweud eu bod nhw wedi synhwyro ar y stepen ddrws y byddai llai yn pleidleisio eleni."
BBCCopyright: BBC
Buddugoliaeth gyfforddus i Lafur?
Yr Athro Roger Awan-Scully
Cyfarwyddwr Canolfan Llywodraethiant Cymru
Yr Athro Roger Awan-Scully yn dweud ei fod yn ymddangos bod Llafur wedi cadw'r sedd yn gyfforddus.
Y diweddaraf yn fyw
Mae pob amser yn lleol i'r DU
Cyfrannu
Diolch am ddilyn
BBC Cymru Fyw
Noson emosiynol i Jack Sargeant a'i deulu yn dilyn y fuddugoliaeth yng Nghei Connah heno.
Darllenwch yr hanes i gyd yma.
Diolch am ddilyn ein llif byw, nos da.
'Canolbwyntio ar Alun a Dyfrdwy'
BBC Cymru Fyw
Pan ofynnwyd i'r AC Llafur Ken Skates a fyddai Jack Sargeant yn ddraenen yn ochr Carwyn Jones, dywedodd Mr Skates y byddai Mr Sargeant yn canolbwyntio ar bobl sy'n "sefyll yn y ffordd i'r hyn sydd orau i Alun a Glannau Dyfrdwy".
"Dyna mae Jack yn canolbwyntio arno, a dyna fydd o'n ei sicrhau."
60.7% o'r bleidlais i Jack Sargeant
BBC Cymru Fyw
Cafodd Jack Sargeant 60.7% o'r bleidlais gyda mwyafrif o dros 6,500 o bleidleisiau.
Bloedd gan y dorf
BBC Cymru Fyw
Roedd tipyn o floedd wrth i enw Jack Sargeant gael ei gyhoeddi yng Nghei Connah, ac fe ddywedodd: "Rydw i wrth fy modd fod pobl Alun a Glannau Dyfrdwy am roi eu ffydd yn y blaid Lafur eto."
'Etholiad na ddylwn ni fod yn sefyll ynddo'
BBC Cymru Fyw
Dywedodd ei fod yn dal i ddod i dermau gyda marwolaeth ei dad, ond ei fod yn gwybod bod llawer o bobl yn caru ei dad.
"Dyma etholiad na ddylwn ni fod yn sefyll ynddo.
"Mae cwestiynau i'w hateb am pam ein bod yn sefyll ac ymchwiliadau'n digwydd.
"Ond mae heno am ddathlu buddugoliaeth ar ran pobl Alun a Glannau Dyfrdwy."
'Y gwaith caled yn dechrau'
BBC Cymru Fyw
Jack Sargeant: "Dydy'r fuddugoliaeth yma ddim amdana i, mae o am y gymuned yma.
"Mae'r gwaith caled yn dechrau rwan"
'Sefyll i fyny dros Alun a Glannau Dyfrdwy'
BBC Cymru Fyw
Wedi'r fuddugoliaeth, diolchodd Jack Sargeant i'w fam a'i chwaer a'i deulu i gyd.
Dywedodd ei fod yn "golygu gymaint" iddo, a'i fod yn "edrych ymlaen at fynd i lawr i Fae Caerdydd a sefyll i fyny dros bobl Alun a Glannau Dyfrdwy".
Y canlyniad llawn
BBC Cymru Fyw
Jack Sargeant - Llafur - 11,267
Sarah Atherton - Ceidwadwyr - 4,722
Carrie Harper - Plaid Cymru - 1,059
Donna Lalek - Democratiaid Rhyddfrydol - 1,176
Duncan Rees - Y Blaid Werdd - 353
Newydd dorriJack Sargeant yn ennill
BBC Cymru Fyw
Jack Sargeant sydd wedi ennill isetholiad Cynulliad Alun a Glannau Dyfrdwy.
Canlyniad ar ei ffordd
BBC Cymru Fyw
Mae'r ymgeiswyr wedi ymgynnull gyda'r swyddog etholiadol.
Mae'n edrych fel bod canlyniad ar ei ffordd...
Canlyniad erbyn 00:15 yn bosib
Daniel Davies
Gohebydd Gwleidyddol BBC Cymru
Skates yn 'falch' o ymdrech Llafur
BBC Cymru Fyw
Wrth i'r cyfri' barhau yng Nghei Connah, dywedodd AC Llafur, Ken Skates y gallai'r blaid "fod yn falch o'r ymdrech aruthrol gan deulu Llafur Cymru" beth bynnag fydd y canlyniad.
Canlyniad yn fuan?
Twitter
Mae'n bosib y cawn ni ganlyniad yn gymharol fuan...
Y cyfri'n parhau
Iolo Cheung
Gohebydd BBC Cymru Fyw
Cadarnhad mai 29.08% o'r etholwyr sydd wedi pleidleisio yn yr isetholiad heddiw - sef 18,618 allan o 64,029 etholwr posib.
Mae'r ymgeiswyr wedi ymgasglu i gael gwybod am y pleidleisau na chafodd eu cyfri'.
29.08% wedi pleidleisio
BBC Cymru Fyw
Mae gohebydd y BBC, Sarah Easedale, yn trydar bod 29.08% o etholwyr wedi pleidleisio.
Ffigwr "eitha' da" yn ôl Golygydd Materion Cymreig y BBC, Vaughan Roderick.
'Synhwyro byddai llai yn pleidleisio'
Iolo Cheung
Gohebydd BBC Cymru Fyw
Mae ein gohebydd yng Nghei Connah, Iolo Cheung yn dweud: "Dim llawer o amheuaeth yn y neuadd ar hyn o bryd fod Llafur tipyn ar y blaen, ac yn bur debygol o ennill yn saff.
"Mae sawl un o'r ymgyrchwyr yma, gan gynnwys ymgeisydd Plaid Cymru, Carrie Harper, yn dweud eu bod nhw wedi synhwyro ar y stepen ddrws y byddai llai yn pleidleisio eleni."
Buddugoliaeth gyfforddus i Lafur?
Yr Athro Roger Awan-Scully
Cyfarwyddwr Canolfan Llywodraethiant Cymru
Yr Athro Roger Awan-Scully yn dweud ei fod yn ymddangos bod Llafur wedi cadw'r sedd yn gyfforddus.
'Llai na 30% wedi pleidleisio'
Twitter
Mae gohebydd y Leader yn trydar bod llai na 30% o etholwyr wedi pleidleisio.
Diolch am ymgyrch 'urddasol'
Twitter
Dadansoddiad ein gohebydd gwleidyddol
Daniel Davies
Gohebydd Gwleidyddol BBC Cymru
Ein gohebydd gwleidyddol, Daniel Davies sy'n dadansoddi'r sefyllfa o Gei Connah.
Video content